Rhyw loffion bach gwleidyddol heddiw.
- A dyma hi’n ddominô ar yr hen Ddominic – am iddo ddominyddu gormod medd yr adroddiad. Ond clywaf dipyn o gefnogaeth iddo heddiw, a hynny’n iawn hefyd. Onid ydym wedi dysgu dim gan rifynnau lawer o ‘Yes Minister’ a ‘Yes Prime Minister’? Hen bryd i rywun sodro Syr Humphrey yn ei le, a chyfrifoldeb pwy yw hynny os nad y gwleidyddion – sef ein cynrychiolwyr etholedig ni?
- Arolwg barn ddoe yn rhagweld enillion mawr i Lafur yng Nghymru ar draul y Ceidwadwyr. Syndod? Ddim o gwbl. Syr Anysbrydoledig, y feri dyn i apelio at Lafur Cymru, pleidleiswyr swrth, digychwyn a thra-cheidwadol nad ydynt yn disgwyl cael eu hysbrydoli byth, ac yn wir sy’n mynd dipyn yn anesmwyth pan geisia rhywun wneud hynny. A waw! Plaid Cymru i fyny o ddeg i ddeuddeg y cant! Corwynt y Chwyldro’n sgubo drwy’r Cymoedd …
- Dirgelwch llwyr. Be goblyn ulw sy’n digwydd tua’r Alban yna? ‘Feds make rap stick’ medd yr hen ffilmiau gangster ers talwm, ond hyd yma nid yw wedi digwydd. Arestio … PENAWDAU MAWR … dim cyhuddiad … distawrwydd byddarol; arestio … PENAWDAU MAWR … dim cyhuddiad … distawrwydd byddarol … Am ba hyd mae’n rhaid goddef y ffars yma eto? Rwyf wedi ei ddweud fwy nag unwaith o’r blaen, ond hwyrach y dylwn fod wedi ei ddweud wrth rywun yn yr Alban: dylai’r SNP fod wedi ymorol ers tro na all y Wladwriaeth Ddofn Brydeinig ddim defnyddio heddlu’r Alban yn erbyn llywodraeth etholedig yr Alban, o ba liw bynnag. Mae’r un peth yn wir am y catrodau Albanaidd enwog, rhag ofn iddi ddod yn ddydd o brysurach bwyso.