Cystal dweud rhywbeth bach am argymhellion Comisiwn y Ffiniau, cyn i bawb anghofio amdanyn nhw unwaith eto. Rhai yn darogan na ddaw dim byd o’r peth pa un bynnag.
Gwnes ryw ychydig o sylwadau ar 9 Medi y llynedd, pan oedd rhyw fwmian am hyn o’r blaen. Heddiw mi ailadroddaf bwynt neu ddau am yr effeithiau posibl yng Nghymru.
1. Nid yw o unrhyw wahaniaeth ble tynnir y ffin rhwng dwy etholaeth Lafur solet, ac felly ni bydd fawr o effaith i’r newidiadau ym Morgannwg a Mynwy. Yr unig eithriad o bwys i hyn fyddai creu sedd newydd ‘Gŵyr a Gorllewin Abertawe’; dyma rodd fach i’r Ceidwadwyr, ond galluogi gweddill Cwm Tawe i ddychwelyd at Lafur.
2. Gall y newid adael Plaid Cymru gyda dim ond un sedd, sef Caerfyrddin. Ar y llaw arall gall fod yma gyfle iddi estyn ei therfynau a’i dylanwad, os gwêl hi ei chyfle a pharatoi’n ddeallus ar ei gyfer. OS go fawr, fel y cawn sôn eto.
3. ‘Môn a Bangor’. Os daw’r etholaeth hon i fodolaeth gall y Blaid ddweud ta-ta wrthi fel sedd San Steffan tan un ai (a) Dydd y Farn neu (b) dydd rhyw ddeffroad neu gyfnewidiad mawr iawn yng Nghymru. Fel sedd Cynulliad, efallai na byddai’r rhagolygon mor ddrwg.
4. ‘Gwynedd’. Drwy golli’r Bangoriaid a’r myfyrwyr byddai cyfle i’r Blaid ymgadarnhau drwy’r Wynedd newydd a gynigir. Ond beth am y darn helaeth o Ddyffryn Conwy a gynhwysir yn awr yng ‘Ngwynedd’? Bu rhan o’r diriogaeth yn sedd ‘Meirion-Nantconwy’ o’r blaen; dylai hyn helpu PC, ond ni all hi gymryd dim yn ganiataol.
5. ‘De Clwyd a Gogledd Maldwyn’ Dyma ardaloedd mwy Cymreig (neu lai Seisnigedig) Sir Ddinbych wedi eu gwahanu oddi wrth y ‘Costa Geriatrica’, glan môr y gogledd. Cyfle o’r diwedd i BC wneud rhywbeth ohoni – lle dylai fod wedi gwneud rhywbeth ohoni ers blynyddoedd – yn Hiraethog, Dyffryn Clwyd ac Uwchaled. A dyma wahanu ardaloedd Cymraeg Maldwyn – sydd ymhlith yr ardaloedd mwyaf bywiog yn ddiwylliannol yng Nghymru’r dwthwn hwn – oddi wrth y ‘Severn-Siders’ sarrug, diffaith. Rhodd i BC eto, os gwêl hi ei chyfle, cyfle i ymestyn at y ffin. Os na all hi ennill mewn rhanbarth fel hyn nid oes fawr ddiben iddi fynd ymlaen.
6. ‘Ceredigion a Gogledd Sir Benfro’. Gwell gobaith am ddal gafael. Ond dalier i weddïo am etholiad pan fydd y colegau ar gau.
7 ‘Caerfyrddin’ yn ôl o fewn terfynau hen etholaeth Gwynfor, a chyfle i BC greu sedd saff.
8. Ond down yn ôl at yr OS. Mae gan BC dasg enfawr o’i blaen, adennill ffydd ei chefnogwyr naturiol, ar ôl blynyddoedd o’u dirmygu a’u sarhau. Mae’r cau ysgolion yng Ngwynedd yn dal yn friw llidiog, ac wedi’r penderfyniad ynghylch tai a chynllunio, a chyn hynny helynt yr addysg enwadol ym Mhenllyn, rhaid gofyn a ellir byth eto ymddiried ynddi mewn unrhyw fater. Rhaid gofyn a yw hi’n unrhyw beth, bellach, ond cyfrwng i ethol ffyliaid i gyngor a chabinet, er mwyn i’r rheini wedyn benodi gweinyddwyr sydd yr un mor dwp â hwy eu hunain.
9. Fel cam tuag at ei hadferiad – os yw hynny’n bosibl o gwbl – dylai fod ganddi gyfundrefn o GYNADLEDDAU rheolaidd, SIROL a/neu ETHOLAETHOL. Byddai hyn yn fodd i’r cynrychiolwyr etholedig, a’r cynghorwyr yn arbennig, gael eu hatgoffa o farn a theimlad y rhai sy’n eu cefnogi. Nid dadlau yr ydym yma y dylai’r AC neu’r AS neu’r cynghorydd fod yn DDIRPRWYWR, caeth ym mhopeth i benderfyniad ei blaid; CYNRYCHIOLYDD ydyw o hyd, a dyna ddylai fod, ac i’w gydwybod y mae’n atebol yn y pen draw. Ond eto mae eisiau cau’r gagendor anferth sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng barn a dyhead cefnogwyr naturiol PC ar y naill law, ac ar y llaw arall y polisïau a weithredir gan y rhai y maent wedi eu hethol.
10. Cymaint â hynna heddiw am yr agwedd bleidiol-wleidyddol. Mae rhai eisoes wedi cyfeirio at y camenwi sydd yn y cynllun newydd – ‘Aberafon’ am ‘Aberafan’. A chymysgu ‘Brycheiniog’ ac ‘Aberhonddu’ wrth geisio cyfieithu ‘Brecon’. Ond y drwg mwyaf – a hwn yn mynd yn ôl i ganol y 1990au, yw dal i arfer yr enw ‘Gwynedd’ ar beth nad yw ond rhan o Wynedd. Môn, Arfon, Meirion – dyna yw Gwynedd, ac mae nam sylfaenol ar unrhyw gynllun nad yw’n deall hyn. Mae hyn yn berthnasol hefyd – yn wir yn fwy perthnasol – i lywodraeth leol. Ni allaf eto ei roi yn well nag yn fy hen ysgrif ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’. Darllenwch hi eto (14 Mehefin 2015).
11. Cyfleon a pheryglon i Blaid Cymru felly. Ond i’w chodi o’r twll y mae hi ynddo mae angen rhywbeth llawer mwy na hap a damwain ffiniau etholaethol. Mwy am hyn y tro nesaf.