Edrych neithiwr (4 Chwefror) ar y rhaglen am ddatgladdu yng Nghaerlŷr yr hyn y cred rhai hyd sicrwydd eu bod yn weddillion Rhisiart III, brenin Lloegr, a laddwyd ar Faes Bosworth, 22 Hydref 1485. Mae hwn yn fater dihysbydd ddiddorol a dadleuol, gyda ‘Phlaid y Rhosyn Gwyn’ ers cenedlaethau wedi cynnal achos ei harwr yn wyneb cyhuddiadau’r Tuduriaid a darlun didrugaredd Shakespeare. Nofel Rosemary Hawley Jarman, We Speak No Treason, yn werth ei darllen, ac yn gwbl bleidiol i Risiart. Hefyd nofel Josephine Tey, The Daughter of Time, yn cymryd golwg graff ar ddirgelwch ‘Y Tywysogion yn y Tŵr’ gan ddyfarnu Rhisiart yn ddieuog a phwyntio bys cyhuddol iawn at … ddyn arall.
Rhydd rhai, yn enwedig o blith ei gefnogwyr, bwys mawr ar yr honiad mai Rhisiart oedd ‘y Brenin Olaf o Sais’. Honiad yw hyn, nid ffaith, oherwydd gellir honni’r un peth am resaid o bennau coronog. Harold, oherwydd ei ddisodli gan Norman? Rhisiart, ei ddisodli gan ryw fath o Gymro? Elisabeth I, ei holynu gan Sgotyn? Iago II, ei ddisodli gan Isalmaenwr, ei fab-yng-nghyfraith? Anne, ei dilyn gan Almaenwr, perthynas pell? Daw ‘Sais’ i olygu pethau gwahanol o oes i oes, heb anghofio ei ystyr draddodiadol yn Gymraeg, sef ‘un sy’n medru Saesneg’.
Sonnir hefyd mai Rhisiart oedd yr olaf o frenhinoedd Lloegr i farw mewn brwydr, ac mae hynny’n wir. (Bygythiodd Siôr VI lanio yn Normandi ar ‘D-Day’ os oedd Churchill am fynnu gwneud yr un peth, ond ni ddaeth dim o hynny.)
Yng ngrym ystyriaethau fel hyn mae ffyddloniaid Plaid Iorc yn dal i bererindota’n rheolaidd i Faes Bosworth, i ailchwarae’r frwydr ac i ddwys goffáu. Llwyddasant yn wir i wneud Rhisiart yn arwr y dydd a’r maes – er bod rhai yn dal fod y cofebau a’r amgueddfa ei hun yn y mannau anghywir! Aethom ninnau fel teulu yno ar y pum can mlwyddiant, 1985, ac aros y noson cynt mewn tŷ-fferm-gwyliau nid nepell, lle roedd y bwyd a’r gwasanaeth yn echrydus, chwerthinllyd o wael! Rhaid mai yno yr arhosodd Rhisiart y noson cyn y frwydr, a Harri wedi dewis rhyw Premier Inn ddigon cyfleus, a chychwyn y bore wedyn â brecwast iawn dan ei asennau.
Oes, mae ambell ‘petai a phetasai’ mawr iawn ynglŷn â Maes Bosworth, i ni Gymry fel i’r Saeson. Beth petai Rhisiart wedi ennill? Dim Tuduriaid. Dim Diwygiad Protestannaidd, o leiaf yn y ffurf y cawsom ef. Dim Beibl Cymraeg. Ac efallai o’r herwydd, dim iaith i ni boeni amdani y gaeaf oer hwn. Ac awn ymhellach yn ôl, pe buasai Owain Glyndŵr yn llwyddiannus, ni buasai Bosworth chwaith. Ymhellach eto: pe bai Owain wedi ei ‘euraw’ chwedl yr hen feirdd, wedi ei greu gan Risiart II yn Syr Owain o Lyndyfrdwy, a fuasai Rhyfel Glyndŵr o gwbl? Trawodd hyn fi o’r newydd yn ddiweddar wrth ddarllen darlith yr Athro Gruffydd Aled Williams i’r Academi Brydeinig ar ganu’r beirdd i Owain. Try hanes yn aml ar benderfyniadau munud awr, ac yn arbennig yn yr achos hwn ar frad Arglwydd Stanley ym munudau olaf brwydr Bosworth; brad ydoedd, boed Rhisiart yn ddyn da neu’n ddyn drwg.
Ond yn wir, mae’r hyn a ddaeth i’r golau wrth gloddio dan le parcio yng nghanol Caerlŷr yn bur argyhoeddiadol, digon felly’n wir i danio Iorciaid y dwthwn hwn â rhyw lawenydd newydd. Safle hen Dŷ’r Brodyr, yr union le y myn traddodiad fod y Brenin wedi ei gladdu. Yr anafiadau i’r esgyrn a’r benglog. Yr awgrym o wendid yn asgwrn y cefn. Rhoed taw ar y siniciaid bron i gyd.
Y cwestiwn nesaf, ble bydd gorffwysfa derfynol y gweddillion hyn? Yng Nghaerlŷr eto? Caerefrog, gan mai pen ar dŷ a phlaid Iorc oedd Rhisiart? Abaty Westminster, gan ei fod yn frenin? (Nid ‘Abaty San Steffan’, gyda llaw, fel y clywais ohebydd Cymraeg yn dweud yn ddiweddar. Dros y ffordd y mae ‘San Steffan’. Am amser hir, rhwng y 16eg ganrif a’r 19eg, Capel San Steffan yn hen Balas Westminster oedd man cyfarfod Tŷ’r Cyffredin, ac felly y daeth yr enw. ‘Yr Orllewinawl Fonachlys’ meddai un hen lyfr hanes am yr Abaty! Cywirach nag ‘Abaty San Steffan’ yw ‘Wesbus Barabi’, chwedl rhyw gymeriad o Ben-y-groes ers talwm.)
Wedi dewis y fangre, a fydd angladd teilwng o ddisgwyliadau’r Rhosyn Gwyn? Oes yma ddefnydd achlysur brenhinol arall? Mae teulu Windsor, ar ôl sawl tro ar fyd a sawl newid enw, yn disgyn nid o Risiart ond, ar y naill law o’i frawd, Edward IV, ac ar y llaw arall o’i elyn marwol Harri Tudur. Ond yr hyn a fu, a fu, ac efallai ei bod hi’n bryd cymodi eto. Wedi’r cyfan fe aeth y Frenhines i ysgwyd llaw â Martin McGuinness, ac fe aeth ei phriod i’n cynrychioli oll yn angladd yr Ymerawdwr Hirohito.
Tueddu i gael eu llusgo allan y mae rhaglenni fel hon neithiwr, wrth i’r ymchwilydd alw heibio’r naill arbenigwr ar ôl y llall (ysgwyd llaw, ei gyflwyno’i hun &c, ‘Hi, I’m X’), a’r cyfan yn arwain at y diweddglo anochel o ddatgelu ‘gwir wyneb’ y cymeriad hanesyddol, wedi ei ailgreu drwy wyrthiau technoleg. Rhyfeddod! Anghredinedd! Neu don o emosiwn! (Cofio rhaglen ‘Wyneb Owain Glyndŵr’?) Rhaid cydnabod fod yr wyneb neithiwr yn drawiadol, ac yn debyg o roi calon i’r Iorciaid unwaith eto. Mwy amwys yw’r llun enwog yn Oriel Genedlaethol y Portreadau yn Llundain. Bu syllu arno dros genedlaethau, a phawb yn gallu gweld yr hyn y dymunai ei weld. Wyneb gormeswr a llofrudd? Wyneb dioddefus dyn a gamddeallwyd?
Llai symudliw yw’r llun nesaf ato, llun Harri. Gyda’i ystum iselgraff, gallai hwn fod wedi cerdded o Fart Llangefni ddoe, a gallai eistedd yn gyfforddus yng Nghyngor Môn yng nghwmni fy nghyfeillion y Cynghorydd Lligwy Berlusconi a’r Cynghorydd Gwylfa B. Huws.