Archif | Mai, 2014

C’mon Midlothian !

30 Mai

Cyfeirio’n ôl at eitem 19 Mai, “Hwb bach i achos mawr”. Dyma’r “syniad bach neu ddau”, gan nad oes dim byd cyfrinachol yn eu cylch. Croeso ichi eu rhannu ag unrhyw rai.

1. Cyn y refferendwm

“Pobl Cymru yn erbyn annibyniaeth i’r Alban,” meddai pennawd GOLWG 360, gan roi ffigurau digalon. Bu cryn dipyn o ymateb ar y wefan, rhai yn amau dadansoddiad GOLWG o’r ffigurau. Er na wna hynny fawr ddim gwahaniaeth i’r Alban, byddai’n dda pe gellid newid hyn DIPYN BACH, a hynny am DDAU reswm:

(a) Os oes argoelion bellach o fuddugoliaeth IE, byddai’n hwb bach i’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru, wedi cyfnod diddigwydd a diysbryd, fod ar yr un ochr â RHYWBETH SY’N LLWYDDO, a gallu teimlo felly a chael ei weld felly.

(b) Byddai’n RHYW FATH O HER i lywodraeth farwol, affwysol Llafur yng Nghaerdydd, ac yn galondid, efallai, i’w herio mewn pethau eraill.

Ymgyrch SEML, gyda DWY ELFEN:

(i) Sticeri ceir. TY’D ’LAEN SGOTLAND ! (i’r Gogledd), DERE ’MLÂN SGOTLAND ! (i’r De); neu POB HWYL SGOTLAND ! (i bawb). Rhaid fyddai cael TIPYN GO LEW (ychydig gannoedd) i’w cymryd a’u dangos. Does dim byd mwy digalon na dreifio o gwmpas efo sticer a DIM UN ARALL yn dod i’r golwg yn unman (hunllef refferendwm ’79) !

(ii) Ychydig gyngherddau am-ddim, awyr-agored, band pibau a drymiau a chaneuon Albanaidd cyfarwydd – Scotland the Brave, Bluebell Polka, The Road to the Isles, The Road to Dundee, My love is like a red, red rose, Scots wha hae, A Man’s a Man for a’ that, The Flower of Scotland, Auld Lang Syne. Gwahodd band o’r Alban? (Clywaf hefyd fod yna “fand Albanaidd” o Gymry yn ardal Wrecsam.) Gallai Cymry ganu’r caneuon. (? Y fersiwn Gymraeg gyfatebol o ambell gân: “Cenwch imi gân am y llanc nad yw mwy” = The Skye Boat Song. ) DIM areithiau, DIM “gwleidyddiaeth”, dim ond CODI HWYL. Tywydd braf: Maes Caernarfon, Prom Aberystwyth, o flaen Senedd Machynlleth, Sgwâr Caerfyrddin, Stryd Fawr y Bala. Efallai, efallai: Maes yr Eisteddfod, ond gofalu bod popeth yn Gymraeg.

2. Wedi’r refferendwm

Petai hi’n IE, pwy fyddai’n tanlinellu ystyr hynny wrth y Cymry? Nid dim un o’r cyfryngau sy gennym, mae hynny’n sicr. Beth am bapur newydd bach, rhyw 8 ochr, lluniau ac eitemau byrion, yn esbonio beth fydd wedi digwydd? Ei rannu efo’r papurau bro, gyda’u cydsyniad. Cyrraedd y darllenwyr Cymraeg o leiaf.

Dyna ni, dim ond syniadau. Ni allaf i wneud dim pellach ynglŷn ag (1). Gallwn, o bosib, wneud rhywbeth ynglŷn â (2) petai diddordeb. Grŵp bach ad hoc i feddwl yn sydyn am y peth? Ei enw: “Celyddon “ ? Neu, wrth gwrs, “C’mon Midlothian !”

Camp a rhemp bardd mawr Môn

28 Mai

Os nad yw’r gyfrol gan eich llyfrwerthwr, na phetruswch archebu gan dalennewydd@yahoo.com. Ni chodir arnoch am y post.

taflen go 1 taflen go 2

Ac i’ch atgoffa …

 

taflen go 3

Cael a chael

26 Mai

Roeddwn i wedi meddwl dweud rhywbeth arall heddiw, ond cystal ymuno â’r pynditiaid, amatur a phroffesiynol, am y tro.

Ie, cael a chael fu i’r hen G.A. bleisleisio, fel yr wyf wedi cyffesu eisoes. A chael a chael fu i Blaid Cymru ddal ei gafael. Mae blogwyr eraill heddiw wedi bod yn dadansoddi yr hyn sy’n amlwg yn argyfwng ar y Blaid, gyda’i chefnogaeth i lawr, i lawr ac i lawr bob tro er pan ddechreuodd ymladd etholiadau Ewrop, a phrin arwydd o unrhyw ad-daliad mewn unrhyw gylch etholiadol arall.

Yn gwbl ystrydebol, nodaf eto ddau reswm fel y maent yn fy nharo i.

(a) Mae’r “Broses” ar stop ar hyn o bryd, heb unrhyw awydd clir yn yr etholaeth am symud ymlaen at radd arall o ymreolaeth. Fe ddylai “Ie” yn yr Alban, os daw, wneud gwahaniaeth. Ond hyn yn oed os daw, a oes gennym y cyfryngau yng Nghymru i beri bod y Cymry’n deall beth fydd wedi digwydd?

(b) Nid yn unig fe fu’r Blaid yn ddiarweiniad, yn rhoi argraff o fod yn wan, anghyson ac annibynadwy. Bu hefyd fel petai’n mynd o’i ffordd i siomi ei chefnogwyr ei hun. Dywedaf eto, y polisi ysgolion yng Ngwynedd fu’r enghraifft amlwg o hyn; cafodd rybudd clir yn llwyddiant Llais Gwynedd, ond nid yw wedi dysgu eto. Caf deimlad, – heb unrhyw ystadegau i’w brofi – mai pleidlais dros yr hyn ddylai hi fod sydd wedi achub ei phen hi y tro yma eto. Ond am ba faint mwy y pery hyn? Beth ddaw i ben gyntaf, amynedd y Cymry Cymraeg, ynteu’r Cymry Cymraeg eu hunain?

Yna llwyddiant ysgubol UKIP. Gan y gwirion y ceir ambell wirionedd weithiau. Cododd y blaid hon i rybuddio rhag troi’r hyn yr arferem gynt ei alw “Y Farchnad Gyffredin” yn wladwriaeth neu ymerodraeth lethol fiwrocrataidd a dienaid, ac i fynegi anfodlonrwydd ar reoliadau gwallgo Brwsel. Pwyntiau dilys, ac nid oedd yr un blaid arall yn barod i’w gwneud. Ond nid dyna’r prif themâu o bell ffordd yn ei hymgyrch ddiweddar, a gafodd y fath helaethrwydd o sylw ar y cyfryngau Prydeinig. “Y Rwmaniaid” oedd y peth. “Dod yma”, “byw drws nesa”, “mynd â swyddi”, “ddim yn siarad Saesneg” &c &c. Plaid genedlaethol Seisnig-Brydeinig ydyw, fwy Torïaidd na’r Torïaid, a chanddi neges gryno, simplistig. Apeliodd, yng Nghymru fel ym mhobman (gan gynnwys yr Alban) at Brydeinwyr a Phrydeindod; ac yng Nghymru golygodd hynny apelio at “y Gymru fwy Prydeingar na’r gweddill”, sef y Gymru Saesneg, – y Cymoedd a’r Mers fel ei gilydd.

Wedyn y patrwm clir drwy Brydain, UKIP i fyny, y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr. Mae a wnelo hyn, mi gredaf i, â natur y D.Rh. Mae gan y blaid honno, fel y Rhyddfrydwyr o’i blaen, bolisïau ddigon, a rhai polisïau da.   Ond nid yw polisi’n golygu affliw o ddim ar wyneb y ddaear i drwch ei phleidleiswyr.   Ei rôl hi yw – neu oedd – bod yn drydedd blaid, hwylus mewn rhai sefyllfaoedd; hwylus yng Ngheredigion, er enghraifft, i fewnfudwyr ac i filoedd Saeson colegau Aberystwyth a Llanbed; y blaid Brydeinig nesaf at law. Ond y tro hwn cafwyd trydedd blaid arall, dra-Phrydeinig, ac yn addo bod yn dipyn bach mwy o hwyl gyda’i neges glir, seml. Mae’n ymddangos fod y pleidleiswyr wrth eu cannoedd o filoedd wedi symud yn uniongyrchol oddi wrth y blaid fwyaf Ewropeaidd at y leiaf felly. Oherwydd, beth bynnag y polisïau, pobl dwlali, dechnegol ddi-egwyddor, yw trwch y “Lib-Dems”.

Yn ôl at gwestiwn yr Alban y down. Petai hi’n IE, byddai raid cael enw ar yr hyn fyddai ar ôl. Bu’n “Deyrnas Unedig” – UK – oherwydd bod teyrnasoedd yr Alban a Lloegr ers tair canrif yn un wladwriaeth. Wedi i hynny beidio â bod, gadewid “Teyrnas Lloegr a Gogledd Iwerddon”; a sylwer: (a) na fyddai raid cynnwys enw Cymru, gan fod Tywysogaeth Cymru yn rhan o Deyrnas Loegr; (b) nad “Teyrnas Unedig Lloegr a Gogledd Iwerddon”, gan na bu erioed “Deyrnas Gogledd Iwerddon” i’w huno â’r un arall. Ie, “KENI” (The Kingdom of England and Northern Ireland) fyddai raid iddi fod, ac fe drôi plaid Farage yn “Keniïp”. Enw bachog yntê?

Isio job ?

23 Mai

Mae’n debyg bod rhai o’m darllenwyr, fel finnau, yn derbyn o bryd i’w gilydd e-negeseuon gan Hysbysfwrdd Swyddi Cymru.

Ni chododd awydd ar yr hen G.A. i ymgeisio am yr un o’r swyddi hyn, ac wrth edrych ar ambell swydd-disgrifiad mae’n ei daro mor sobor o annigonol yw ei gymwysterau a pha mor wan fyddai ei siawns petai’n penderfynu’n sydyn ryw ddiwrnod ymddeol o’i ymddeoliad neu “wneud cym-bac”, fel y dywedir, i fyd gwaith. Nid yw’n berson ifanc brwdfrydig; nid yw na blaengar na threfnus, nac effeithlon na sensitif; nid yw’n ymrwymedig i ddatblygu ethos cadarnhaol nac i gydlynu, ysgogi na bywiogi tîm; nid oes ganddo arddull gwaith rhyngweithiol ac effeithlon, na lefel uchel o hunan-gymhelliant, na phrofiad o ymchwil meintiol ac ansoddol; nid oes ganddo sgiliau rhyngbersonol, sgiliau rhifedd, sgiliau TG na sgiliau fawr o ddim byd, erbyn meddwl (nid yw hyd yn oed yn defnyddio’r gair “sgil” ac eithrio yn ei ystyron llafar gwlad, sef un ai tric, dichell, neu ynteu medr mewn pêl-droed); am grwpiau ffocws, cynhwysiant cymdeithasol, datblygiad personol a phroffesiynol, strategaethau ymyriad cynnar, – ni ŵyr mo’r peth lleiaf. Beth petai gofyn iddo fonitro prosiect, asesu cynaladwyedd, dadansoddi perfformiad, sicrhau deilliannau, cefnogi potensial, blaenoriaethu tasgau, gwerthuso methodoleg ymchwil, creu bas-data a phrotocol? Byddai wedi tata arno bob tro. Nefoedd fawr, beth petai raid iddo fod yn Gynghorwr Her (£52,000 – £55,000) i Gonsortiwm Canolbarth y De? Ble byddai’n dechrau “brocera a chydlynu cymorth”?

Na, nid eiddo hen begor fel G.A. bellach mo’r un o’r CYFLEON CYFFROUS hyn. Eiddo yn hytrach i rai o genhedlaeth lawer yn iau sydd un ai (a) yn deall ac yn gwerthfawrogi gofynion heriol ac aruchel fel y rhain, neu (b) heb o anghenrheidrwydd eu deall, yn fodlon cymryd yr agwedd “job ydi job, a phres ydi pres hogia bach”.

Trawodd fy llygad ar enwau rhai o’r cyflogwyr sy’n cynnig y cyfleon y dyddiau hyn. Soniaf am ddau yn unig, y cyntaf yn achosi “cilwg yn ôl”, a’r ail yn peri ychydig o grafu pen.

(1) Ar fy ngwir, dyma enw o’r gorffennol. ARAD. Ai yr un yw “Ymchwil Arad Research” â’r “Arad Consulting” a sicrhaodd iddo’i hun le parhaol yng nghroniclau gwarth drwy ei gyfraniad yn 2006 tuag at yr ymgais i rwystro Coleg Ffederal Cymraeg? Yn fuan wedi’r débâcle hwnnw clywais fod Arad am newid ei enw, a dyma’r englyn a ddaeth i feddwl yr hen G.A.:

                                        Dan ei glew enw newydd – hen natur
                                                 Hon eto sy’n dramgwydd;
                                             Holl hanes ei lles a’i llwydd
                                             Yw ’redig mewn gwARADwydd.

Ond efallai mai Arad hollol wahanol sydd yma bellach.

(2) Dyma Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), Prifysgol Bangor a’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am “Swyddog Ymchwil Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru”. Ei waith ef neu hi fydd “datblygu’r fethodoleg a’r weledigaeth o’r Eisteddfod fel adnodd unigryw i Gymru gyfan”. Gan fod y dyddiad cau wedi mynd heibio, nid oes diben i mi ddyfynnu dim mwy, nac yn wir dyfalu dim mwy chwaith. Do, fe groesodd y cwestiwn fy meddwl, beryg mai rhyw nonsens yn tarddu o adroddiad y Dwsin Doeth yw hyn? Ond pell y bo’r fath feddyliau duon! Sylwaf hefyd ar un o’r gofynion: “Gallu cadw cyfrinachedd llwyr ym mhob agwedd o’r gwaith bob amser”. Cyfrinachedd rhag pwy, yn eno’r dyn? Nid rhag aelodau Llys yr Eisteddfod, ni a obeithiwn!

A beth yw’r diddordeb sydyn hwn ar ran Prifysgol Bangor yn lles yr Eisteddfod?

Llyncu’n galed …

22 Mai

Wel, dyna’r hen G.A. wedi llyncu’n galed, meddwl am Gymru Fydd, a mynd i fotio. A wir, ar y papur pleidleisio roedd enw gan y blaid y tybiais nad oedd iddi enw. Lwcus ’te …

49 : 51

21 Mai

Erbyn y gwêl y rhan fwyaf o’r darllenwyr hwn, bydd yr hen G.A. un ai wedi fotio neu heb fotio.

Pa un tybed … ?

Ar ambell gwestiwn gwleidyddol, fel ar ambell gwestiwn moesol neu ymarferol arall mewn bywyd, nid 100 y cant yn erbyn 0 y cant yw hi, ond 51 yn erbyn 49. Neu fel arall.

Rhesymaf fel hyn.

O’r naill ochr. Os bwriaf bleidlais o gwbl fory, bydd y blaid yr wyf wedi arfer pleidleisio iddi yn cymryd mai hi gafodd fy mhleidlais. Os am ddangos anfodlonrwydd, aros gartref yw un ffordd.

Mae Jill Evans wedi pechu yn f’erbyn. Yn 2005-6 yr oedd gan Ddalen Newydd Cyf. , cwmni yr wyf yn aelod ohono, gynllun gweddol uchelgeisiol a fyddai, o lwyddo, wedi bod yn rhyw gyfraniad at adnewyddu’r wasg Gymraeg. Gan feddwl y gallai’r cynllun, o bosib, dderbyn nawdd gan rywbeth fel Cronfa Ieithoedd Lleiafrif Ewrop, mi sgrifennais at Jill ym Mai a Mehefin 2005 gan anfon copïau yr ail dro i bum cyfeiriad: Caerdydd, Brwsel, Strasbourg, a’i swyddfeydd yn Ne a Gogledd Cymru. Rwy’n dal i ddisgwyl ateb.

Dewisodd cynrychiolydd arall beidio ag ateb na chydnabod llythyr ar yr un pwnc. Rhybuddiais ef mewn ysgrif yn Barn drwy ddyfynnu cwpled Dic Jones:

Dy bôl pe deuai balot
A fyddai fwy o ddwy fôt.

Ni chymerodd unrhyw sylw, ac mae gen i syniad iddo golli tair fôt o’r tŷ hwn pan ddaeth y diwrnod.

O’r ochr arall. Ni allaf feddwl am unrhyw ymgeisydd arall yn etholiad yfory y dymunwn roi unrhyw galondid iddo. Mae’r rhan fwyaf yn ennyn ynof ddiflastod, ac ambell un yn ennyn arswyd.

O’r naill ochr. Mae Jill Evans yn cynrychioli rhai o’r elfennau callaf yn ei phlaid, ac yn cynrychioli barn ystyriol y blaid honno, barn eglur y gynhadledd, ar un cwestiwn o’r pwys mwyaf inni oll, sef y cwestiwn niwclear. Os â hi i lawr, bydd yn cryfhau llaw gwallgofiaid ymbelydrol Môn.

O’r ochr arall. Pam y cafodd y rheini y fath benrhyddid eisoes, i ymladd ac ennill yr isetholiad y llynedd ar bolisi cwbl groes i eiddo’u plaid? Pryd mae Leanne yn mynd i roi ei throed i lawr? Sut y gall unrhyw blaid yn ei hiawn bwyll fod yn erbyn claddu gwastraff niwclear a’r un pryd o blaid cynhyrchu mwy ohono?

O’r naill ochr. A phethau fel y maent yn yr Alban, ac o feddwl am y posibilrwydd gwir aruthrol sydd yno eleni, fe ddadleuir efallai nad yw’n adeg dda i daro unrhyw nodyn negyddol, yma yng Nghymru chwaith.

O’r ochr arall. Os mai NA fydd hi yn yr Alban, ymlaen yn yr un hen rigol yr awn ni yng Nghymru, heb fawr o ddim byd yn digwydd. Os bydd hi’n IE, bydd angen arweiniad eithriadol gryf ar genedlaetholdeb Cymreig er mwyn addasu i’r sefyllfa newydd a gwneud y gorau ohoni. A allwn ni ddisgwyl hwnnw o gwbl gan blaid a fu, dros y blynyddoedd diwethaf, yn eithafol wan a gwirion ar sawl mater? Mwy na hynny, plaid a fu’n euog o’r pechod eithaf, cymryd ei chefnogwyr yn ganiataol? Ar fater yr ysgolion yng Ngwynedd cafodd gurfa galed gan golli agos i hanner ei chefnogaeth yn y sir; ond nid yw’n ymddangos ei bod wedi dysgu’r wers eto. Mae ei pholisi ar godi tai yn achos anniddigrwydd mawr. Ac fel rwyf wedi sôn droeon o’r blaen, mae’r llaw yn nogio pleidleisio i blaid heb fod ganddi enw.

Felly weithiau ffordd yma, weithiau ffordd draw … Peidiwch â’m cynghori, ddarllenwyr. Rhaid i’r hen G.A. weithio allan ei iachawdwriaeth wleidyddol ei hun. Ond dyfalaf fod rhai ohonoch chwithau yn yr un cyfyng-gyngor.

 

Cwestiwn cwis i chi

20 Mai

Dyna Abu Hamza wedi ei gael yn euog yn America o annog gwŷr ifainc i fynd allan a lladd pobl fel dwn-i-ddim-be.

A dyma’r cwestiwn: O ba glerigwr arall mae hyn yn eich atgoffa?

Cliwiau:

(1) M.C. (nid ‘Military Cross’).
(2) Sir Fôn
(3) Can mlynedd yn ôl.

Nid bod angen llawer o annog cofiwch. Dyma dystiolaeth Lloyd George o’i argraffiadau ddechrau Awst 1914, wedi ei chyfieithu o’i War Memoirs (1934) :

‘Ond nid y Fyddin oedd yr unig elfen a oedd yn awyddus am ryfel. Yr oedd y bobl wedi dal y dwymyn ryfelgar. Rhyfel yr oedd eu cri ym mhob prifddinas. Am y ddamcaniaeth sy’n cael ei rhoi ar led heddiw gan areithwyr pasiffistaidd o’r math mwyaf cecrus a llai argyhoeddiadol, fod y Rhyfel Mawr wedi ei gynllwynio gan wleidyddion hŷn a chanol-oed a anfonodd ddynion iau i wynebu ei erchyllter, – dychymyg yw hon. Fe wnaeth y gwladweinwyr hŷn eu gorau di-glem i rwystro rhyfel, tra roedd ieuenctid y gwledydd ymrysongar yn udo’n ddiamynedd wrth eu drysau am ryfel yn syth. Fe’i gwelais fy hun yn ystod pedwar diwrnod cyntaf Awst 1914. Nid anghofiaf byth y tyrfaoedd rhyfelgar a oedd yn dygyfor yn Whitehall ac yn tywallt i Stryd Downing, tra oedd y Cabinet yn ymgynghori ar y dewis, ai heddwch ai rhyfel. Roedd tyrfa anferth ar y dydd Sul. Roedd dydd Llun yn Ŵyl y Banc, gyda heidiau o bobl ifainc yn crynhoi yn Westminster i alw am ryfel yn erbyn yr Almaen. O ystafell y Cabinet gallem ni glywed su ymchwydd y torfeydd. Ar y pnawn Llun cerddais gyda Mr. Asquith i Dŷ’r Cyffredin i wrando araith enwog Grey. Yr oedd y dyrfa mor drwchus fel na allai car yrru drwyddi, ac onibai am gymorth yr heddlu ni fyddem wedi gallu cerdded llathen ar ein taith. Yn gwbl eglur, ardystiad dros ryfel oedd hwn. Rwy’n cofio crybwyll ar y pryd, “Mae’r bobl yma’n awyddus iawn i yrru’n milwyr druain i wynebu angau; faint ohonyn nhw aiff byth i frwydr eu hunain?” Amheuaeth annheilwng oedd hon o ddewrder a gwladgarwch yr ardystwyr. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach fe osodwyd stondinau recriwtio yn Horse Guards Parade, a gwelodd y maes mawr agored hwnnw dorf o ddynion ifainc yn dylifo o gwmpas y stondinau ac yn ymwthio drwodd i roi eu henwau i ymrestru ym Myddinoedd Kitchener. Am ddyddiau fe glywn, o ffenestri Stryd Downing a’r Trysorlys, gerdded y traed dirifedi at y stondinau, a’r rhingyllod recriwtio yn gweiddi enwau’r gwirfoddolwyr eiddgar. Rhwng dydd Sadwrn a dydd Llun roedd y rhyfel wedi llamu i boblogrwydd. Ar y Sadwrn fe alwodd Rheolwr Banc Lloegr arnaf, fel Canghellor y Trysorlys, i roi gwybod imi fod y buddiannau cyllidol a masnachol yn Ninas Llundain yn gwbl yn erbyn inni ymyrryd yn y Rhyfel. Erbyn dydd Llun yr oedd newid llwyr. Yr oedd y bygythiad i oresgyn Gwlad Belg wedi rhoi’r genedl ar dân o fôr i fôr. …
‘Cafodd ardystiadau Llundain rai cyfatebol yn St. Petersburg, Berlin, Vienna a Pharis. Roedd y gwaed i fyny, ac roedd yn rhaid i waed lifo. Roedd y boblogaeth a’r byddinoedd o’r diwedd o’r un feddwl. Cipiodd hyn y penderfyniad o ddwylo crynedig a phetrus gwladweinyddiaeth, a oedd yn dymuno heddwch ond heb y penderfyniad na’r hyder i wneud y pethau bychain a allasai yn unig ei sicrhau. …

‘Mae pob rhyfel yn boblogaidd y diwrnod y cyhoeddir ef. … Ond ni bu erioed ryfel a groesawyd mor gyffredinol â hwnnw yr aeth Prydain iddo ar y 4ydd o Awst, 1914.’

Ie, Llundain, St. Petersburg, Berlin, Vienna, Paris … Fe gydiodd y dwymyn mewn ambell dreflan yng Nghymru dawel hefyd. Gweler y stori ‘Wythnos yng Nghymru Fu’ yng nghyfrol G.A., Camu’n Ôl a Storïau Eraill.

Hwb bach i achos mawr

19 Mai

“Awn i’r Alban i gefnogi annibyniaeth” yw anogaeth Llio Silyn ar Golwg360.  Wel ie, da iawn bod rhywun yn trio codi tipyn o hwyl gadarhaol ynghylch y mater tyngedfennol hwn.

Fel y cofia rhai o’m darllenwyr efallai, mae’r hen G.A. (dan enw arall) yn ystod y blynyddoedd wedi trafod cryn dipyn ar bosibiliadau ymreolaeth ffederal a’u cefndir hanesyddol a llenyddol.  Gobeithio nad yw’r cyfan a ddywedais wedi dyddio’n anobeithiol, ond rhaid derbyn fod y sefyllfa wedi newid yn sylfaenol oddi ar i’r Alban symud i gêr uwch. Os nad oes gan yr Albanwyr ddiddordeb yn y dewis ffederal, ni waeth i ni yng Nghymru heb â meddwl mwy amdano, ac ni all cenedlaetholwyr ond dymuno’n dda i ymgyrch IE tua’r Hen Ogledd yna.

Am y rheswm hwn nid ymunodd G.A. â Chomandos Carwyn, sydd (os oes rhai hefyd) yn ffonio’u ffrindiau Albanaidd bob dydd i annog pleidleisio NA.

Tu hwnt i ewyllysio’n dda, beth a allwn ni ei wneud er mwyn dwyn yn nes y glec fwyaf erioed mewn hanes i’r Sefydliad Prydeinig ?

Mae gen i syniad bach neu ddau, ac rwy’n fodlon eu rhannu ag unrhyw un a hoffai e-bostio dglyn@talk21.com

Gwell hwyr …

18 Mai

Mae’r hen G.A. dipyn yn hwyr gyda’r stori hon, ond nid mor hwyr â’r rhan fwyaf o’r cyfryngau yng Nghymru.

Un o bwyllgorau dethol San Steffan yw’r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Public Administration Committee), ac mae ei bwrpas yn hunan-amlwg, ceisio gwarantu fod gweinyddiaeth ym mhob adran o lywodraeth yn cael ei dwyn ymlaen yn gywir.

Ymhlith aelodau’r pwyllgor mae’r cenedlaetholwr gorau sy’n cynrychioli Cymru heddiw mewn unrhyw dŷ senedd, a’r dyn a fyddai, mewn byd wedi ei drefnu’n well, yn Brif Weinidog Cymru, sef Paul Flynn A.S. (Gorllewin Casnewydd).

Y pwnc gerbron y pwyllgor ar 6 Mai oedd gwrthrychedd y Gwasanaeth Sifil ar adeg refferendwm. Anelodd Paul Flynn gwestiynau at Syr Bob Kerslake, pennaeth y Gwasanaeth Sifil, am fod argymhellion gan y Trysorlys, yn erbyn undeb ariannol rhwng Lloegr ac Alban annibynnol, wedi eu gwneud yn gyhoeddus.

Galwodd cadeirydd y pwyllgor, Bernard Jenkin A.S., ar Alun Cairns A.S. i ofyn y cwestiwn nesaf, ond protestiodd Paul Flynn nad oedd ef wedi gorffen eto, na phrin wedi dechrau. Ond na, yr oedd wedi cael ei gyfle medd y cadeirydd. Yna gadawodd Mr. Flynn y cyfarfod, gan ddweud wrth y cadeirydd, “Rydych chi’n ddefnyddio’r pwyllgor yma fel stynt i geisio creu trafferth i Senedd yr Alban a’r syniad o ddatganoli.”

Yn ddiweddarach dywedodd Mr. Flynn nad oedd yn fwriad ganddo ymddiswyddo o’r pwyllgor, a bod ganddo ragor o gwestiynau i’w gofyn, e.e. am yr oedi cyn cyhoeddi adroddiad Chilcot ar Ryfel Irác.

Annibyniaeth – neu ddim – i’r Alban yw’r cwestiwn pwysicaf, mwyaf sylfaenol i ddod gerbron etholwyr a llywodraethau yn yr ynys hon mewn mil o flynyddoedd. Petai hi’n “ie” byddai hynny y glec fwyaf erioed i’r Sefydliad Prydeinig, a byddai raid i’r Cymry hefyd, o dipyn i beth, ddechrau ceisio deall ystyr y penderfyniad. Pan yw un o A.S.au mwyaf profiadol y Blaid Lafur, mewn pwyllgor seneddol, yn cyhuddo penaethiaid y Gwasanaeth Sifil o gamarfer eu dylanwad mewn mater mor dyngedfennol â hwn, mae’n ddigwyddiad arwyddocaol, ac i’r cyfryngau fe ddylai fod yn stori.

Cyfeiriad gan un o gyfranwyr “Wings over Scotland” a’m harweiniodd i at yr hanes, a chefais bod Newyddion ITV Cymru a WalesOnLine wedi ei adrodd. Rywfodd fe osgôdd sylw’r cyfryngau Cymraeg.

Mae rhywbeth mawr o’i le yn rhywle. Ac mae rhywun yn gofyn cwestiwn: tybed a fyddai lawn mor ddrwg pe bai papur dyddiol Cymraeg wedi dod i fodolaeth?

Ffigurau o’r Alban

1 Mai

Edrych heddiw eto ar safle Wings over Scotland. Dwy set o ffigurau’n dal fy sylw.

(1) “Awyrlin Manhattan”, fel y dywedir yn y cylchoedd hyn, sef y graff sy’n dangos cynulleidfa’r safle dros y misoedd diwethaf. Mae’r ffigurau’n aruthrol, – gwell na Blog Glyn Adda a dweud y gwir ! Yn ystod pedwar mis cyntaf eleni: 628, 699 o ymweliadau, 13.4 miliwn o ddarlleniadau! Ac i rai o’r eitemau, llawer iawn o ymatebion byrion gan ddarllenwyr.

(2) Un o’r gohebwyr wedi anfon i mewn ganlyniad “ffug-refferendwm” a gynhaliwyd ymhlith plant ysgol (ni ddywedir pa oed) Swydd Aberdeen. Dros ddeng mil wedi “pleidleisio”. NA : 8,000 + , IE: 2000 +. Fel rwyf wedi rhybuddio o’r blaen ar y blog hwn, cnafon bach ydym yn blant, ac yn ein harddegau cynnar yn enwedig: bydol-ddoeth, confensiynol, yn uniaethu ag awdurdod ac â’r status quo. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn aros yn cyflwr hwn gydol ein hoes, ond mae rhyw ganran, tua’r 17 oed, yn magu rhyw fath o synnwyr moesol, yn dechrau gweld beth sydd o’i le ar y byd a beth a ddylid ei wneud yn ei gylch. Am hyn rwy’n dal i amau doethineb rhoi pleidlais i rai 16 oed yn y refferendwm. Dim ond gobeithio fod Alex yn sicr o’i bethau. A’r un pryd daw adroddiadau am dimau o bobl ifainc yn gweithio’n galed iawn dros IE.