‘Any Questions?’ o’r Nant! Syniad rhyfedd ac ofnadwy! Gallwn glywed yr hen Hengist yn siarsio’r hen Wrtheyrn: ‘Reit, fi sy’n dewis y panel a’r gynulleidfa. Gei di ddewis un Cymro i esgus ei gyfiawnhau ei hun yn ffau llewod, ond dim mwy cofia! Fy siou i ydi hon. Dallta di hynny neu mi fydd dy groen di ar y pared!’ ‘Iawn mistar.’ Gan hynny doeddwn i ddim am wrando ar y rhaglen. Ond mi glywais ambell ddarn wrth daro i mewn ac allan. Doedd hi ddim mor ddrwg.
Yn lle’r ‘cwestiwn olaf gwirion’ arferol (y Prins, y Panda, y gêm rygbi a ‘be rowch chi’n bresant pen-blwydd i hwn-a-hwn …?’) cafwyd cwestiwn gan Phil Lovell, yn Gymraeg i ddechrau ac yna’i gyfieithu i’r Saesneg: ‘Pam mae cymaint o bobl ddeallus ym Mhrydain mor anwybodus, a hyd yn oed yn hiliol, yn eu hagwedd at y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg?’
Nid atebwyd y cwestiwn gan NEB o’r panelwyr.
Ond dywedodd Kenneth Clarke AS un peth gwerth ei nodi. Heb ddigwydd siarad â neb gwrth-Gymreig ers blynyddoedd, yr un grŵp o bobl sy’n aros yn ei gof fel gwrth-Gymreigwyr pybyr yw hen wleidyddion Llafur De Cymru. Rhag cael ei baeddu â’r un brwsh, prysurodd Carolyn Harris (AS Dwyrain Abertawe) i ddweud mor falch ydyw fod ei hŵyr yn rhugl yn yr iaith.
Digon teg. Ond beth am y cwestiwn? Sef, a’i grynhoi: ‘Pam mae deallusion Seisnig yn wrth-Gymreig?’ I ddechrau ei ateb, gallwn edrych ar weithiau’r cynharaf ohonynt y gwyddom amdano, sef yr hanesydd Beda, a oedd yn sgrifennu ddechrau’r wythfed ganrif – ‘The Venerable Bede’, neu ‘Beda Ddoeth’ fel y dywedai’r hen Gymry’n faddeugar. Ie, dyn dysgedig, goleuedig hefyd ar y rhan fwyaf o bethau; ond dyn ag yr oedd unrhyw gyfeiriad at y Brythoniaid yn ei yrru’n benwan. Nid y gwahaniaeth iaith oedd yn ei boeni, er bod y Gymraeg wedi ymffurfio ers dros ganrif ac eisoes yn gyfrwng llenyddol pan sgrifennai ef. Pethau o fyd crefydd oedd yn ei gythruddo’n bennaf, sef dull y Brythoniaid o bennu dyddiad y Pasg, a hefyd eu steil gwallt mynaich. Dyma ddau arwydd nad oedd y Brythoniaid fel pobl eraill; doedden nhw yn normal; roedden nhw’n gwneud y lle’n flêr. Dan y cyfan mae rhyw islais o anesmwythyd fod y bobl wahanol hyn yn bresennol yn Ynys Brydain o gwbl.
Y tu ôl i waith Beda, ac yn ysgogiad iddo mae’n bur bosibl, mae gwaith arall. Dyma ‘Ddogfen Gildas’ fel y gwelwch ei galw mewn cyfrol sydd i’w chyhoeddi eleni yng nghyfres ‘Cyfrolau Cenedl’. Llythyr Gildas a Dinistr Prydain fydd teitl cyfieithiad a golygiad newydd Iestyn Daniel, hyn yn ein gwahodd i ystyried yn fanwl iawn ai gwaith un awdur ynteu dau sydd yma. Byddwch yn barod i ddilyn yn ofalus, linell am linell a gair am air, y dadleuon ynghylch y cwestiwn hwn. Fe welwch y bydd gan y golygydd ei gasgliadau ei hun. (A rhag bod unrhyw amheuaeth ynghylch unrhyw ddehongliad, fe gewch y testun Lladin hefyd wyneb yn wyneb â’r cyfieithiad Cymraeg bob cam.)
Mewn rhan o ‘Ddogfen Gildas’ – ie, wrth ystyried popeth, diogelach dweud ‘rhan’ – fe gawn ddarlun o bobl a elwir ‘Britanni’, fel rhyw bobl anfoddhaol, annheilwng, collwrs ac yn haeddu colli, pobl heb fawr o ddyfodol iddynt hyd y gellir gweld. Pwy yn union a greodd y darlun hwn, beth oedd ei gefndir a beth yn union oedd yn ei gymell, y mae’n anodd iawn dweud: darllenwch ac ystyriwch y drafodaeth. Ond rywsut, a thrwy’r canrifoedd, fe gredodd ac fe dderbyniodd y Cymry mai hwy yw disgynyddion y ‘Britanni’, gan etifeddu’r teimlad o israddoldeb. Yng ngolwg awdur gwreiddiol y darlun, ddim mwy nag yng ngolwg Beda, nid mater o iaith oedd hyn: ond yn y man fe ddaeth y Gymraeg yn arwyddnod, yn fathodyn aelodaeth o’r grŵp israddol, fel bod gwybodaeth ohoni yn diddymu pob cymhwyster arall a all fod gennych. Fel yna y mae’n gweithio, hyd y gwêl yr hen G.A.; ond ni ddaeth neb o banelwyr y Nant yn agos at ei weld.
Cymhlethdod israddoleb y Cymry: mae’n ddyfnach na gwrth-Gymreigrwydd etifeddion Beda, ac yn fwy difäol.
Beth yw’r ateb iddo? Testun at eto.