Do cofiwch, mi edrychais ar dipyn o’r PETH ac mi wrandewais ar Huw yn gor-dra-Dimblebyeiddio pob Dimbleby a phob Wynford Vaughan Thomas a fu erioed. Fy ymateb? Cymysg iawn, fel bob amser gydag achlysuron gwladwriaeth a choron Lloegr. Waeth cyfaddef y gwir. Edmygedd. Tuag at lwyddiant y trefnu manwl a’r cynllunio perffeithgwbl. A chyda hynny, eiddigedd. Y meddwl yn dychwelyd o hyd at y diwrnod yn 2004, chwe chanmlwyddiant Senedd Machynlleth. Dwy neu dair o gymdeithasau bychain gwirfoddol, ynghyd â chyngor y dref, wedi ceisio trefnu rhywbeth. Cyngor Sir Powys a’r Cynulliad Cenedlaethol yn anwybyddu’r peth yn llwyr. Y gwleidyddion – pob plaid – yn cadw draw. Pobl Machynlleth yn swatio yn eu tai. Prin unrhyw sylw ar y cyfryngau. Mae calon gan Loegr ; gwir, fe gymer ymdrech a thraul aruthrol i gynnal a hybu’r galon honno, ond mae’n gweithio. Does dim calon yng Nghymru bellach. Gofynnodd J. R. Jones y cwestiwn, ‘sawl cenedl sydd yn Ynys Brydain?’ Ac fe’i hatebodd: ‘un: Lloegr’. Cawn arwyddion aml mai dyma’r gwir; ond gadewch inni weld beth ddaw tua’r Alban yna …
Y dyddiau hyn rwy’n darllen astudiaeth ddiddorol o Iolo Morganwg. A phob tro y bydd rhyw ddefodaeth fawr Brydeinig fe gofiwn – neu fe ddylem gofio – am Iolo ac am ein dyled iddo. Â’i athrylith wyrdroedig fe roddodd i ninnau rywbeth i’n hatgoffa ein bod yn wahanol, ein bod yn bod. Does dim rhaid bod yn Orseddwr i werthfawrogi hynny.
Yn ddiweddar hefyd roeddwn yn digwydd darllen yn y Beibl rybudd Samuel rhag creu brenhiniaeth. Pobl Israel eisiau brenin, i fod yr un fath â’r cenhedloedd o’u cwmpas; ond y proffwyd yn eu rhybuddio (I Sam. 8: 11-18):
‘Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau. A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd ac yn bobyddesau. Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i’w weision. Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision. Eich gweision hefyd, a’ch morwynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith. Eich defaid hefyd a ddegyma efe; chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. A’r dydd hwnnw y gwaeddwch rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.’
Ond dal i alw am frenin a wnaeth y bobl, ac wedi gofyn arweiniad Duw fe roddodd Samuel iddynt eu dymuniad. Arllwysodd yr ennaint am ben Saul, y dyn talaf yn eu plith; dyn na fu erioed yn hapus yn y swydd. Yr oedd rhagwelediad y proffwyd o natur a hynt breniniaethau yn gywir iawn, fel y gwelsom drwy’r canrifoedd, er y gallasem roi ‘gwladwriaeth;’ yn hytrach na ‘brenin’ yn rhai o’i frawddegau heb fod yn anghywir.
Ond yna daeth yr ail ganrif ar bymtheg. Yn Lloegr fe sodrwyd y brenin yn ei le, gan ei roi i ‘deyrnasu’ ond nid i lywodraethu; nid ydym yn diolch digon i’r Seneddwyr neu’r Piwritanaid am y gamp gyfansoddiadol hon. Rhoed swyddogaeth newydd i’r pen coronog; a gwaded a wado, bu’r swyddogaeth honno, ac y mae o hyd, yn gyfrwng i wneud yn bosibl ddemocratiaeth gynrychioliadol a’r mesur hwnnw o ryddid a gymerwn yn ganiataol. Rwy’n credu imi ei ofyn o’r blaen ar y blog, a dyma’i ofyn eto: pa rai yn Ewrop a fu’n wladwriaethau democrataidd sefydlog drwy gydol fy oes i? Yr ateb: breniniaethau Protestannaidd gogledd Ewrop. Sawl gweriniaeth Gatholig neu Uniongred a fu’n ddemocratiaeth sefydlog yn ystod yr un cyfnod? Un. Iwerddon. Ewch trwy’r lleill i gyd os nad ydych yn coelio.
Ac ar drywydd ychydig yn wahanol, daw i gof hefyd eiriau Saunders Lewis yn ei golofn yn y Faner ar achlysur priodas taid a nain Prins Harri, Tachwedd 1947. Nid gwrthun ganddo’r cyfle ‘i fwynhau miri lliwus a hwyl’ a ‘holl ffwdan difyr a llawen priodas frenhinol.’ Yna: ‘Priodasau tywysogesau a breninesau – do, fe gafodd Cymru hefyd gynt ei siâr o’u rhwysg a’u cynnwrf.’ Egin drama.
Digon am y tro gan yr hen G.A. fel roial coresbondent.