Archif | Awst, 2022

Rybish

26 Awst

Meddyliwch am ddau ddyn. (a) Y Dirpwy Gydlynydd Monitro Deilliannau Amgylcheddol sy’n eistedd yn swyddfa’r cyngor. (b) Y casglwr sbwriel sy’n gweithio i’r un awdurdod. Pa un, ddywedech chi, sy’n haeddu clamp o gyflog? Dyna gwestiwn gwirion – yr ail siŵr iawn! Y prawf ar wareiddiad, sut mae’n trin hogiau’r lori ludw.

Pob cydymdeimlad felly â streicwyr lori ludw’r Alban, a gobeithio y gwneir cyfiawnder yn fuan. Ond mae rhyw gwestiynau’n troi. Pam yn yr Alban? Y tro diwethaf, roeddwn yn trafod ysgrif Arglwydd Frost, galwad i’r gad yn erbyn yr SNP ond heb unrhyw fath o strategaeth heblaw dweud ‘na’. Yn wahanol i’r hen Baldrick druan, doedd ganddo ddim ‘cunning and devilish plan’. Ond tybed nad oes RHYWUN YN RHYWLE wedi taro ar gynllun felly drwy gychwyn y streic yng Nghaeredin ar adeg yr Ŵyl? A bydd yn ddiddorol gweld beth fydd lliwiau gwleidyddol y 13 awdurdod a fydd yn cael eu targedu fel yr ymleda’r streic. Awdurdodau SNP, i beri mwy o drafferth i honno? Ynteu awdurdodau unoliaethol, gan dybio na bydd y rheini’n ildio i alwad y streicwyr, ac y bydd hynny yn ei dro yn creu mwy o broblem i Holyrood?

Hyd yma, does dim arwydd o newid yn y polau piniwn.

Neges Arglwydd Barrug

22 Awst

Ar ddamwain ddydd Gwener fe drawyd fy llygad gan bennawd papur nad oeddwn wedi ei brynu na’i ddarllen ers blynyddoedd, dim llai na’r Daily Telegraph. Y neges oedd: ‘End the constant surrender to the SNP. David Frost: Britishness is under siege – let’s take the fight to Sturgeon and co’. Ar ryw hwrdd ac o ran hwyl, dyma brynu’r papur, £2.80 am ‘Britain’s best quality newspaper’ i gael astudio’r dadansoddiad treiddgar tu mewn. ‘The SNP has to be defeated, not appeased’ medd y pennawd. Dylid esbonio mai Arglwydd Frost, dyn a fu’n weithgar iawn ynglŷn â’r Brexit, yw’r David Frost hwn; canodd Eifion Wyn am Syr Barrug, a dyma inni Arglwydd Barrug.

Dyma’r union fath o stwff, fel y Brexit ei hun, i ennyn ymateb llesol yn yr Alban. Fel y gallesid disgwyl, fe daniodd rhai o’r gwefannau Albanaidd yn syth. A chware teg, fe gafwyd colbio go fywiog ar Nation Cymru hefyd.

A dyma’r pwynt cyntaf yr wyf am ei wneud. Rwy’n amau’n fawr a all awdur yr erthygl, na fawr neb o lefarwyr y Sefydliad Prydeinig, ddeall yn awr na byth resymeg y math o wrthatebion a gafwyd yn gryno ar Nation Cymru. Hollol ddiarth ac annirnad iddynt yw’r dadansoddiad a’r diffiniad o Brydeindod a gymer rhai ohonom ni yr ochr yma yn weddol ganiataol, yn bennaf oherwydd trafodaeth J.R. Jones. Mae yma, nid dwy blaned, ond dau fydysawd a’u deddfau’n hollol wahanol.

Darllener yr ysgrif yn ofalus, astudier a chribinier mewn ymchwil am yr ateb i’r argyfwng a wêl yr awdur, ac fe welwn nad yw yna. Nid oes ganddo unrhyw fath o strategaeth i’w chynnig, dim ond dweud ‘na’. Rishi neu Liz, pa un bynnag a ddewisir, gall ef neu hi ddehongli hyn fel dweud ‘na’ wrth refferendwm. Digon posib mai dyna fyddai’r ateb gorau o safbwynt yr Alban: gyrrid yr SNP at ‘Gynllun B’, sy’n well cynllun.

Gan fod cymaint o ymateb da wedi bod, codaf ddau ddyfyniad yn unig o neges yr Arglwydd, inni gael meddwl amdanynt.

  1. ‘But the UK is a unitary state, not a federation or a confederation. Both the 1707 and 1802 Acts of Union fused the participants into one state in which all were equal, first “Great Britain”, then the “United Kingdom”, with one sovereign legal personality and one Parliament and government.’ ‘Hanner munud,’ medd y Cymro a ŵyr rywbeth bach am hanes, ‘Oni fuo ’na ryw gyfuno tua 1536 hefyd dwedwch?’ Dadlennol yw’r bwlch hwn yn y stori. Ac wedyn, am Ddeddf 1802, oni fu rhyw ddad-bowltio mawr ar honno yn 1920? Twll go fawr arall yn y crynodeb hanesyddol.
  2. ‘Meanwhile, I urge people in England not to give in to the “let them go” argument. Partly because the break-up of the country would be a massive national humiliation. In Europe and beyond, it would be seen as a comeuppance which they would exploit to the full.’ A dyma graidd yr holl fater. Torri crib y ‘genedl’ yw’r trychineb a wêl yr Arglwydd. Gwyddom ninnau mai torri crib y Sefydliad Prydeinig yw’r hyn a ddigwydd, os bydd iddo ddigwydd.

Ac yn ôl â ninnau yn ddiosgoi at broblem y Cymry. Pan ac os digwydd, a fydd trwch y Cymry, neu o leiaf ddigon o’r Cymry, yn deall ei fod wedi digwydd a beth y bydd yn ei olygu? Pa gyfryngau sy’n mynd i ymorol eu bod yn deall?

Gweledigaeth Angela

13 Awst

Dyma ni yng Ngwlad y Sychder Mawr. Y tanau gwyllt. Streiciau. Darogan chwyddiant a diweithdra. Argyfwng costau byw yn mynd i’n taro i gyd, medden nhw. Covid heb fynd i ffwrdd. Rhyfel yn Ewrop. Prydain Fawr heb lywodraeth, ond dadl Rishi a Liz yn rhygnu ymlaen. Yng nghanol hyn i gyd, dowch inni’n hatgoffa’n hunain o sylwadau tra arwyddocaol na chawsant, efallai, ddigon o sylw ar y pryd. Fe’u gwnaed gan Angela Rayner, Dirprwy Arweinydd Llafur, mewn cyfweliad yn ystod Gŵyl Caeredin. Dyfynnaf fel yr adroddir:

“Making the case for the United Kingdom, Ms Rayner warned the rest of the UK would be left with inevitable endless Conservative rule without the help of Scottish voters and constituencies.

A rhoir ei geiriau: “I don’t think the people of Scotland should leave behind the people of Ashton-under-Lyne, either. … Leaving us to perpetual Conservatism at Westminster is not very nice. But actually having a Labour Government would make all the difference.”

Ond wedyn: “Ruling out the possibility of a coalition with the SNP after the next election, Ms Rayner said both her and Sir Keir Starmer wanted to see Labour fully in power.”

Dyna’r datganiad, ac fe welwch yn syth y croes-ddywediad canolog a sylfaenol: (a) rhaid cael llywodraeth Lafur, a (b) nid yw byth yn mynd i ddigwydd. Yr unig atalfa ar y “Dorïaeth dragwyddol” yn San Steffan yw fod yr Aelodau Albanaidd yn aros yno; ond cenedlaetholwyr yw mwyafrif mawr y rheini bellach, ac ni thâl unrhyw gydweithio â nhw! Beth sydd i’w wneud felly? Yn ôl rhesymeg Angela, a’i dilyn i’r pen, does ond un peth amdani, “rhoid gif-yp”. Chwithau, holl bleidleiswyr Llafur Cymru, sylwch mewn difri ar neges eich Dirprwy Arweinydd: welwn ni ddim llywodraeth Lafur, nac unrhyw lywodraeth ond un Dorïaidd, dros Loegr a Chymru byth eto.

A wir, yn ei ffordd drwstan ei hun, mae Angela wedi taro ar bosibilrwydd hollol real, ac ar gwestiynau mawr yn ei sgil. Gall, os pery helbulon y Ceidwadwyr dan eu harweinydd newydd, ac am nad Corbyn yw ei enw yntau, fe all Syr Keir ennill yn ôl dipyn, a thipyn go lew efallai, o seddau’r “mur coch”. Ond heb yr Albanwyr, a fydd hynny’n ei alluogi i ffurfio llywodraeth? Na fydd, yn ôl syms Ms Rayner, a sicr ei bod yn iawn.

Ac edrychwn ymlaen. Dychmygwn sefyllfa lle bydd yr anghymharol anysbrydoledig Starmer wedi cydnabod ei fethiant ac wedi camu o’r naill du. Pwy bynnag a fydd yn ei ddilyn, a all hwnnw neu honno, byth, mewn unrhyw amgylchiadau, sicrhau mwyafrif yn Lloegr i unrhyw blaid neu glymblaid heblaw’r Ceidwadwyr? Efallai, efallai, petai’r Torïaid wedi ei chawlio hi’n ofnadwy, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael dyrnaid go dda o seddau, nid ar sail unrhyw bolisïau a fyddai ganddynt, ond trwy’r bleidlais brotest y llwyddant i’w denu weithiau.

Fe ddylai’r gwahaniaeth fod yn llachar amlwg bellach rhwng yr hyn sy’n dal i ddigwydd yng Nghymru-a-Lloegr a’r hyn sydd wedi digwydd, drwy rywbeth nid llawer llai na gwyrth, yn yr Alban. Yno, fe enillir mwyafrifoedd mewn dwy senedd gan blaid draws-ddosbarth sydd yn blaid ddemocrataidd-gymdeithasol ond ar yr un pryd – peth sydd ddim yn digwydd yn aml – yn blaid radicalaidd. Problem barhaol yr ochr wrth-Dorïaidd yn Lloegr-Cymru yw ei dibyniaeth ar y dosbarth gweithiol, sy’n ddosbarth ceidwadol ym mêr ei esgyrn. Digwyddodd y trawsnewidiad rhyfeddol yn yr Alban trwy mai cenedlaetholdeb fu’r catalydd. Ond yn draddodiadol, peth adweithiol, imperialaidd a rhyfelgar fu’r cenedlaetholdeb Prydeinig neu Seisnig. Mewn sefyllfa lle byddai’r Alban wedi mynd, ac na allai Lloegr ymrithio fel Prydain mwyach, beth fyddai ymateb Lloegr, ei dosbarth llywodraethol a’i gwerin? Mynd yn wirionach? Ynteu darganfod hunaniaeth newydd a swyddogaeth newydd iddi ei hun yn ysbryd anthem anfarwol William Blake? Cwestiwn mawr iawn.

Yn y cyfamser, ond iddynt gadw’u trwynau ar y maen a pheidio â gogwyddo dim oddi wrth y weledigaeth, fe all cenedlaetholwyr yr Alban gyflawni’r PETH MAWR a’r peth hanfodol y mae’r Chwith Brydeinig ragrithiol, dila wedi osgoi ei wneud trwy’r blynyddoedd. A beth yw hwnnw? Cael gwared â Trident. Am ymhlygiadau hynny i ni’r Cymry, ac i ragolygon y Gymraeg yn benodol, yr wyf wedi sgrifennu o’r blaen.

Trem yn ôl

2 Awst

Yn dilyn ein harolwg bach diniwed diwethaf, dyma ychydig o ystadegau eisteddfodol eto.

(1) Galwedigaethau enillwyr y Gadair a’r Goron yn ystod yr ugeinfed ganrif. Y ffigurau’n seiliedig NID ar niferoedd yr enillwyr ond ar nifer y LLWYDDIANNAU yn y ddwy brif gystadleuaeth – gan fod amryw o’r enillwyr wedi ennill droeon.

                                          

Clerigwyr 34.5 %
Addysgwyr 23.5
Newyddiadurwyr 7.5
Cyfreithwyr 2
Ffermwyr 1. 5
Darlledwyr 1.5
Anhysbys i G.A. 29.5

(2) Awn yn ôl ymhellach ar aden dychymyg. PETAI yna Eisteddfod gyda chadeirio a choroni yn y ddeunawfed ganrif, beth fyddai’r sgôr meddech chi? Rhywbeth fel hyn efallai …?

               

Porthmyn 21 %
Cowperiaid 17
Seiri Coed 13
Seiri Meini 13
Olwynwyr 9
Gofaint 8
Cyfrwywyr 7
Gwragedd Hysbys 3
Smyglwyr 2
Lladron Pen Ffordd 2
Offeiriaid 2
Teilwriaid 1.5
Stiwardiaid 1
Mân Uchelwyr 0.5