Howard Huws, Henry Morton Stanley: Y Cyfandir Tywyll. Y dyn a ddarganfu Livingstone ac a’i collodd ei hun (Gwasg Gomer, 2020), ix, 629 tt., £19.99.
Yng nghanol y chwalu a’r dadfeilio sydd yng Nghymru heddiw fe erys ambell lecyn glas. Er enghraifft, mae’n oes aur ar y cofiant Cymraeg. Bob, Kate, Goronwy, Hedd Wyn, Gwenallt, Waldo, Gwynn, Bebb, Saunders, Gruffydd, Islwyn Ffowc Elis, Morrisiaid Môn, Parry-Williams, Iolo, Doc Tom, Thomas Parry, Elis o’r Nant, Huw Jones o Langwm, Gwynfor, Huw T., Lewis Edwards, Pennar, Niclas, John Morris-Jones – oll wedi eu cwmpasu a’u cloriannu yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn cyfrolau difyr a safonol. Eleni dyma’r campwaith O.M. yn ymuno â’r cwmni, a phan fedraf fynd ar gyfyl siop lyfrau siawns na fydd Cynan yno’n fy nisgwyl. A gwnawn le ar y silff drymlwythog i fywgraffiad meistraidd arall, i ddyn a alwyd yr un pryd yn ‘a great Englishman’ a ‘the greatest of Welshmen’.
Yn sgil y gydwybod ynghylch Bywydau Duon bu cryn hunanholi a fu’r Cymry hwythau’n euog o ormesu ac ecsbloetio hiliol. Do wrth reswm yw’r ateb, ond yn arbennig i’r graddau eu bod hefyd yn Brydeinwyr. Pe buasai’r Cymry rhwng Oes Elizabeth ac Oes Victoria yn genedl annibynnol, neu’n rheoli Ynys Brydain yn lle’r Saeson, a allwn gymryd y buasai eu hymddygiad yn well? Go brin, mae’n debyg. Y cyfan y gallwn ei ddweud yw fod rheolaeth Lloegr ar diroedd pell, ac yn gyfoes â hynny ymgiprys hanner dwsin o bwerau Ewropeaidd am arglwyddiaeth a chyfoeth ledled y byd, oll wedi bod yn gyfle i unigolion uchelgeisiol, o Gymru fel o fannau eraill, ac yn aml rhai â rhywbeth yn eu gyrru. Nid oes enghraifft fwy llachar o hynny na Henry Morton Stanley – neu John Rowlands y bachgen o Ddinbych ac o dloty Llanelwy.
Pe bai’r mudiad Bywydau Duon wedi cychwyn ychydig flynyddoedd ynghynt, tybed a fyddai wedi atal pobl Dinbych a Llanelwy rhag … a rhoi’r peth yn garedig … camgymeriad? Rwy’n amau y byddai. Ond un canlyniad i hynny fyddai na byddem wedi cael y llyfr hwn. Oherwydd dywed Howard Huws yn blaen yn ei Ragair mai yn sgil helynt codi’r ddwy gofgolofn iddo yn 2011 y dechreuodd ef ymchwilio i fywyd a buchedd Stanley. Bu iddo ei holi ei hun: ‘Sut y gallai hyn ddigwydd? Wedi’r oll a ddatgelwyd ynghylch natur a chanlyniadau imperialaeth y ddwy ganrif flaenorol …, sut allai pobl yng Nghymru, ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, fod eisiau dathlu dyn a fraenarodd dir Affrica ar gyfer gormeswyr, Cymro a gefnodd ar ei gynefin, ac a wadodd ei Gymreictod?’
O 17 pennod y gyfrol, mae bron y cyfan yn dwyn enw lle – Dyffryn Clwyd, New Orleans, Ethiopia, Ujiji ac yn y blaen. Ym mhennod 16, ‘Stanleyville’, symudwn o Kinshasa yn Zaire, lle tynnwyd cofeb Stanley i lawr, i’n Stanleyville ni Gymry, sef Dinbych, a chofnodir gam wrth gam, gan ymylu ar ddigrifwch ond gan gan gyfleu hefyd ffrwyno dicter, y dadleuon yn 2011 ynghylch comisiynu a gosod cerflun i fab enwog y dref. Yna yn y bennod olaf, ‘Ymlaen tua’r Gorffennol’, gosodir y ddadl a’r stori oll yng nghyd-destun rhyw fath o hiraeth am orffennol ymerodrol coll.
Cymheiriaid yn aml yw camp a rhemp, ac nid yw Howard Huws yn unman am wadu’r gamp. ‘Roedd yn ddyn deallus iawn a sychedai am wybodaeth, ac roedd yn weithgar tu hwnt. … Yn newyddiadurwr, gallai synhwyro stori dda ac ysgrifennu’n rhugl ac yn argyhoeddiadol. Roedd yn drefnydd ac yn weinyddwr penigamp, yn dactegydd milwrol, yn ddyfeisiwr byrfyfyr, ac yn gwbl benderfynol. … Roedd yn arweinydd rhagorol; ni allasai unrhyw un arall fod wedi mynd â’i luoedd ar y fath deithiau, na’u darbwyllo i’w ddilyn i uffern, na dod â’r goroeswyr adref o’r fath sefyllfaoedd anobeithiol. Ar ei orau roedd yn gadarn, yn ysbrydolwr ac yn oroeswr heb ei ail.’ O’r tu arall yr oedd yn feistr didrugaredd, gyda digonedd o dystiolaeth amdano’n fflangellu, cadwyno, crogi a saethu ei wasanaethyddion, yn cipio gwystlon, yn llosgi pentrefi, yn ei amgylchu ei hun â chiwed o ddihirod ac yn ymroi’n eiddgar i wasanaeth yr anfad frenin Leopold II o Wlad Belg. Cyhoeddai bob amser mai ei amcanion yn yr Affrig oedd agor y ffordd i’r Efengyl a dileu’r gaethfasnach. Ond ar ei fforiad olaf cynghreiriodd â’r arch-gaethgludwr, Tipu Tip. Yn ystod ei dymor byr ac anogoneddus fel Aelod Seneddol ymagweddai fel Prydeiniwr adweithiol i’r carn. Aeth ei wrth-Gymreigrwydd yn ddihareb. Gwerth ei dyfynnu yw ei gyffelybiaeth (t. 161) rhwng stad brodorion Affrica â ‘[ch]yflwr y Brython cyn i Awstin Sant ymweld â’r wlad hon’.
Oddi ar pan ddaeth gyntaf yn enwog, bu Stanley’n ffigur tra dadleuol. Dymchwelai am ei ben wobrau, anrhydeddau a chlod, yn cynnwys moliant rhai o feirdd Cymru, ‘O’i flaen gwasgarai, fel us, / Y brodorion bradwrus,’ canodd Eifion Wyn ifanc mewn awdl fuddugol. Ond bu digon o gondemnio ar ei anfadwaith a’i drahauster hefyd. Yr un flwyddyn ag y gwahoddodd Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ef i fod yn llywydd y dydd, gwrthododd Corfforaeth Caernarfon estyn rhyddfraint iddo, ar dir ei ymwadiad â Chymru a’r Gymraeg. Am yr un rheswm fe ymosododd y wasg leol arno mewn dau le mor wahanol â Chaernarfon a’r Rhyl. Yn fwy diweddar bu’r Dr. Emyr Wyn Jones yn rhoi llinyn mesur arno mewn nifer o ysgrifau ac mewn cyfrol gan geisio olrhain gwreiddiau’r rhemp yn ei gymeriad; gwelai ef fel achos o’r ‘cymhlethdod Phaetonaidd’, cyflwr seicolegol a enghreifftir gan un o hen chwedlau Groeg, gyda bachgen â rhyw ansicrwydd neu gywilydd ynghylch ei darddiad yn ymgysegru, doed a ddelo, i flaenori ac i guro pawb.
Yn sicr fe gafodd Stanley blentyndod caled, creulon. Calonrwygol yw pennod gyntaf y cofiant hwn, yn benodol yr hanes am ei wrthod gan deulu ei fam a’i dwyllo gan y teulu a oedd i fod i ofalu amdano am hanner coron yr wythnos. Dic, mab ei lety, yn mynd â John bach, chwech oed, i Lanelwy ryw fore gan ddweud eu bod yn mynd i weld Modryb Mary. Ei ollwng yn ddirybudd i ofal wyrcws Llanelwy, lle treuliodd weddill ei blentyndod. Mae’n siŵr bod gwahaniaeth rhwng ‘esbonio’ ac ‘esgusodi’, ond am funud, wrth ddarllen yr hanes gwarthus hwn, yr ydym mewn llwyr gydymdeimlad â’r plentyn. Y pethau garw a chwerw a ddywedodd ef am ‘bobl Gogledd Cymru’ ymhen blynyddoedd, yn sicr yr oeddynt yn wir am rai o’r bobl a adnabu ef. Rywsut i ymryddhau oddi wrth boen a gwaradwydd ei gefndir cynnar, ymrodd i greu hunaniaeth newydd iddo’i hun, a golygodd hynny raffu celwyddau – a’u coelio mae’n debyg.
Yn eglur, yn awdurdodol, yn ddisglair yn wir, olrheinir yn y cofiant hwn holl symudiadau John Rowlands neu Henry Morton Stanley ar draws y gwledydd, yn cael ei yrru gan y peth hwnnw oedd yn ei yrru i geisio llwyddiant a bri. Dilynwn y fforiadau Affricanaidd drwy’r peryglon oll yn fanwl iawn heb byth golli golwg ar y cefndir sef ymyrraeth a chydymgais y gwladwriaethau Ewropeaidd, heb anghofio ychwaith bresenoldeb diosgoi y caethgludwyr Arabaidd a weithredai o Zanzibar. I’n helpu mae yma gyfoeth o ddarluniau, ac mae’r mapiau, yr achau, y llyfryddiaeth a’r ‘Dramatis Personae’ yn gymorth gwirioneddol.
Oni chlywn yn wahanol, rhaid derbyn bod y cofiant ardderchog hwn yn un o gyhoeddiadau olaf Gwasg Gomer. Mae ystyried hynny yn ein dwyn yn ôl at y dadfeilio y soniais amdano yn y frawddeg gyntaf, ac mae’n achos gofid mawr.