Heddiw a’r Santes Theresa wedi mynd i selio’r Cyfamod Newydd â’r Trympyn ar ein rhan ni oll, a oes diben ceisio dweud unrhyw beth o bwys ? Mae’r byd wedi mynd tu hwnt i ddychan …
Felly, am y tro, dim ond ambell beth bach yn codi o’r cyfryngau.
1. Mae Carwyn yn cofio’r Holocost a hefyd yn lansio cyfrol yn coffáu brwydrau enbyd y flwyddyn 1917. Priodol fod rhywun yn gwneud. Ond ai y dyn sydd am gael Trident i Gymru? Beth yr ydym wedi ei wneud i haeddu’r asyn hwn a’i lywodraeth law farw? Meddech chwithau: fotio iddyn nhw.
I bwy arall y gallwn fotio ? Mae’r dewis yn affwysol
2. Yn Y Cymro darllenwn am Blaid Cymru’n dal i ymladd y frwydr i “gadw Cymru’n rhydd o beilonau”. Twnnel dan y Fenai yw’r ateb sy’n cael ei ffafrio. Ond mae ateb symlach, a hwnnw yw’r unig ateb boddhaol: dim Wylfa B, dim peilonau. Mae twyll ac anonestrwydd y Blaid ar y mater hwn yn troi stumog dyn.
3. Troi’r dudalen, a dyma Lyn Ebenezer, yn fywiog a diddorol fel bob wythnos, yn cofio 1957 fel “y flwyddyn hapusaf yn hanes Prydain”. Fel union gyfoed â Lyn, caf innau’r un teimlad yn aml, a chaf ef am ail hanner y 1950au yn gyffredinol. Yr oedd fel petai pethau’n goleuo i’r rhan fwyaf ohonom er bod digon o helbulon cyhoeddus a phersonol yn aros, a ninnau’n symud tuag at ddatganiad gwir yr hen rôg Macmillan, “You’ve never had it so good”. Un ffactor y mae Lyn yn ei grybwyll yw ffrwydrad y miwsig pop newydd. Peidiwch â meddwl fod yr hen G.A. yn rociwr o unrhyw fath, ond hyd yn oed i greadur bach mor “sgwâr” (gair y genhedlaeth) â’r llanc chwithig hwnnw, yr oedd rhywbeth cynhyrfus, rhyddhaol yn y sain.
Rhyw deimlad hefyd, am fwy nag un rheswm, y gallai rhywbeth fod yn digwydd yng Nghymru. Ie, teimlad o obaith, ac wn i ddim a gytunai Lyn â mi i’r teimlad hwnnw gyrraedd rhyw fath o anterth yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llangefni, ie 1957. Yr oedd ton o gefnogaeth i’w theimlo’n codi i bobl Capel Celyn. Pam na wnaeth y rheini y peth amlwg, neu o leiaf y peth oedd yn gwbl amlwg i bobl Gwendraeth Fach wyth mlynedd yn ddiweddarach, sef CAU’R GIATIAU ? Collwyd y cyfle, treiodd yr ysbryd, ac yn y methiant hwn y tardda llawer o’n methiannau hyd y dydd heddiw.
4. A sôn am gynnwrf, bobol bach. Dyma’r Cymro, yn briodol dros ben, â llith coffa i’r actor Wyn Thomas. Ie, Alec, ein pennaf arwr ni blant o Gymry canol yr hen ganrif. Awr y Plant ar nos Fawrth, ac yr oedd cyffro yn ystod y deng munud i chwarter awr cyntaf, gyda Wil Cwac Cwac a’i ffrindiau yn eu hafiaith anfarwol. Yna, gyda nodau miwsig gwallgof Tsiaicofsci, trôi yn gyffro o fath gwahanol, ac wrth geisio cyfleu i’r to iau heddiw rwy’n methu esbonio’n ddigonol, hyd yn oed i mi fy hun, sut a pham yr oeddem yn mynd mor “uchel” (term cenhedlaeth ddiweddarach, efallai mai “brwysg” yw’r hen air Cymraeg) ar anturiaethau Gari Tryfan ac Alec. Sgriptiau a chynhyrchu o’r safon uchaf bosibl, mae’n rhaid. Yr oeddem ni blant yn gwerthfawrogi galluoedd Gari, oherwydd ef yn y diwedd a fyddai’n dod o hyd i’r atebion a chau pen y mwdwl ar ôl 5-6 wythnos o gynnwrf ac antur a pherygl di-ball. Ond gwyddem hefyd na byddai Gari’n ddim heb Alec. Gan Alec yr oedd y dwrn a hefyd yr hiwmor, ac ef oedd gyrrwr y car drwy bob enbydrwydd. A’r bonws aruthrol o gael LLUNIAU Gari ac Alec yn rhifyn Mai 1949 o Gymru’r Plant ! Yn y misoedd cyntaf ar ôl dyfod radio i’n tŷ ni, tua 1948-9, cofiaf Wyn Thomas hefyd fel Gronw Pebr yn y cynhyrchiad radio cyntaf o Blodeuwedd ac fel Edgar yng nghyfieithiad W.J. Gruffydd, Y Brenin Llŷr ; ac i un gwrandawr bach o leiaf dyna ddechrau diddordeb mewn math gwahanol o ddrama. Wrth ddarllen ysgrif Y Cymro heddiw mae’n fy nharo hefyd mor ifanc oedd yr actor hwn pan glywem ef mor gryf ei bresenoldeb yng nghyfresi gwefreiddiol-frawychus Y Parlys Gwyn, Trysorau Hafod Aur a Dirgelwch y Gama. Un o sêr disgleiriaf darlledu Cymraeg.
5. Oddi wrth yr aruchel at … rywbeth. “Ansawdd yr addysgu yw’r prif ddylanwad ar ba mor dda mae dysgwyr yn dysgu,” yw gosodiad agoriadol syfrdanol Y Cymro wrth grynhoi adroddiad diweddaraf y corff arolygu, Estyn. Gelwir am fwy o ARFARNU ac am FFOCWS CRYF, ymhlith pethau eraill. Yn ostyngedig, rwyf am ddal ar y cyfle unwaith eto i hysbysebu fy llyfryn diweddar Iawn Bob Tro, y credaf y bydd o fudd ac o gymorth mawr gyda’r gwaith o arfarnu (ac efallai gyda gwerthuso a monitro hefyd). Ond yr wyf am ganmol un ai Estyn neu’r Cymro y tro hwn am ddweud “medrau” yn lle’r “sgiliau” sy’n fwrn ar lygad, clust ac enaid.
6. “Syfrdanol” eto, os cymerwn hi’n ddihalen, yw brawddeg gyntaf colofn grefyddol Y Cymro heddiw. “Mae gwybodaeth yn beryglus.” Pe baem yn bwrw ati i seiadu am y peth, siawns gennyf na byddai’r colofnydd cyn y diwedd yn dod fel finnau i gytuno ag Elfed :
Trwy bob gwybodaeth newydd
Gwna ni’n fwy doeth i fyw.
Medd yr ysgrif; “Mae ychydig benodau cyntaf y Beibl yn adrodd hanes Duw yn gosod terfynau i wybodaeth, ac felly i allu pobl.” Am y gwaharddiad ar fwyta o’r pren gwybodaeth da a drwg, bûm yn darllen yn ddiweddar farn rhai o’r athrawon Gnostigaidd mai gwyrdroad yw hwn, fel sy’n digwydd mor aml ym myd chwedl, o’r stori wreiddiol, sef fod Adda ac Efa i fod i fwyta o’r pren, ac mai cyfrwng daioni yw’r sarff, symbol doethineb. Syniad, damcaniaeth; ond yn gwneud mwy o synnwyr na stori wirion Genesis fel y daeth inni.
7. Yn ddiweddar hefyd bu tipyn o drafod yn Y Cymro ar sut le yw’r Nefoedd. Cytunwyd fod yno “wledda”, ac ysbrydolodd hynny y gerdd hon:
Pa fath le sydd yn y Nefoedd?
A oes yno fara brith,
Bara ceirch a bara cyrains,
Bara brown a bery byth?
Oes mae bara,
Oes mae bara,
Ac mae hefyd deisen jam.
Pa fath le sydd ym Mharadwys?
A oes yno bwdin reis,
Pwdin eirin, pwdin afal,
Pwdin Dolig a mins peis?
Oes mae digon,
Oes mae digon,
I dragwyddol lenwi’r bol.
Pwy sy’n cwcio yn y Gwynfyd
I arlwyo’r byrddau llawn?
Mair a Martha, fwy na thebyg,
Wrthi fore a phrynhawn.
Gweinidogion,
Gweinidogion
Sydd yn sgramio fel y boi.
Pwy sy’n golchi llestri wedyn?
Paid â gofyn cwestiwn ffôl.
Fel ag yng nghapeli Cymru
Y chwiorydd fydd ar ôl.
Wedi’r sglaffio,
Wedi’r sglaffio,
Y chwiorydd ddaw i’r fei.