Gwers ?

3 Mai

Droeon yn ddiweddar rwyf wedi mynegi gofid nad yw’r wasg Gymraeg heddiw’n codi llais. Ond ddoe, a diolch amdano, dyma lith golygyddol cryf yn GOLWG ynghylch y cynllun codi tai ym Mhorth-y-rhyd, Sir Gaerfyrddin.

Beth yn y byd byd mawr sydd ym mwriad cynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr? Pa Alluoedd Eraill sydd ar waith

Nid â’n angof wrthsafiad effeithiol a llwyddiannus Cwm Gwendraeth i’r bygythiad i’w foddi ganol y 1960au. Ceir yr hanes yn Cloi’r Clwydi (Robert Rhys) a Sefyll yn y Bwlch (W.M. a H.G. Rees). Siŵr bod yma wers.

§

Seren i GOLWG yr wythnos yma felly. O’r ochr arall, newydd wylio eitem Newyddion S4C ar ‘siom’ Trawsfynydd. Dyma newyddiaduraeth affwysol.

Wel ar fy ngwir !

29 Ebr

Dyna bethau’n symud dipyn yn gyflymach nag yr oedd yr hen G.A.’n meddwl neithiwr.

Na hidiwch, mae yna bethau sy’n sefyll yn y blogiad diwethaf yna, yn cynnwys ei brif neges.

Ffactor mawr

28 Ebr

Does wybod beth fydd wedi digwydd yng ngwleidyddiaeth yr Alban erbyn y darllenwch chi hwn. Ond dyma ychydig feddyliau am sut y saif pethau y funud hon.

Ymddengys fod Humza, drwy wrthod telerau Ash Regan, yn herio unig A.S. plaid Alba i bleidleisio dros gynnig un o’r pleidiau unoliaethol ac yn erbyn llywodraeth yr SNP. Gŵyr na all cynnig Llafur na chynnig y Torïaid lwyddo heb ei phleidlais hi.

Gŵyr beth arall hefyd, a gŵyr pawb. Os digwydd rhywbeth arall a pheri i’r SNP golli, ni all unrhyw blaid arall, nac unrhyw glymblaid arall, ffurfio llywodraeth yn yr Alban. Y glymblaid naturiol y dyddiau hyn fyddai Tori-Llafur, gyda Llafur Syr Keir dipyn i’r Dde o’r Torïaid. Ond cyfanswm honno (T. 31 + Llaf. 22) fyddai 53 yn erbyn 64 y Blaid Genedlaethol. Y D.Rh. (4) yn ymuno, a dyna inni 57. A ellir mewn unrhyw amgylchiad ddychmygu’r Gwyrddion yn ychwanegu’r 7 i wneud y 64 yna?

Deallwn mai cynnig o ddiffyg ymddiriediaeth yn Humza Yousaf yn bersonol a fydd gan y Ceidwadwyr, a hyd yn oed petai hwnnw’n llwyddo ni byddai raid iddo ef fynd. Ond cynnig o ddiffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth a fydd gan Lafur, ac fe ddywed yr arbenigwyr y byddai hynny’n fater ymddiswyddo. Yn dechnegol, gallai ef hyd yn oed wedyn aros yn arweinydd ei blaid a’i harwain mewn etholiad. Ond ni byddai hynny’n hawdd iddo, a gwyddys y byddai nifer o’r cenedlaetholwyr yn ffansïo’u siawns yn well o dan Kate Forbes.

Beth yw problem sylfaenol Humza? ATEB: nid Sturgeon yw ei enw. Yr oedd RHYWRAI wedi penderfynu fod yn rhaid cael gwared â Sturgeon rywsut neu’i gilydd oherwydd ei phoblogrwydd a’i llwyddiant, a hyd yma mae’n ymddangos fod y cynllwyn wedi gweithio. Y ffactor mawr, fel mae’r blog hwn wedi crybwyll droeon, dyfodol Trident. Ond heddiw ar wefan The National dyma dynnu sylw at ffactor mawr iawn arall.

Hyn. Ar sail gwybodaeth a ddaeth drwy asiantaeth o’r enw Transparency International, mae’r National heddiw’n adrodd am lobïo mawr a di-baid gyda llywodraeth Prydain gan y prif gwmnïau arfau. Fe enwir Lockheed Martin, Raytheon, Thales, Leonardo, a’r prif un ohonynt, BAE Systems. Datgelir fod y rhain wedi cael mynediad arbennig a chyfrinachol at lefelau uchaf llywodraeth San Steffan, a bod gan BAE gyswllt personol agos â’r dyn bach o wlad Gandhi. Oes syndod eu bod wedi landio £3.95 biliwn tuag at fflyd o longau tanfor niwclear newydd?

Gallai llywodraeth annibynnol yn yr Alban effeithio ar y rhain, sy’n cyflogi miloedd yno. Ond nid dyna’r prif beth. Y prif beth yw y byddai rhwysg Lloegr ar lwyfan y byd yn dod i ben ar y diwrnod pan na allai hi bellach ymrithio fel ‘Prydain’, ac na allai hi wedyn gyfiawnhau na fforddio’r haelioni mawr hwn tuag at fasnachwyr angau.

Dywed Transparency International nad oes ganddynt ystadegau am y lobïo oddi ar ddechrau gwrthdaro Gaza. Ond fod gweithgarwch prysur eithriadol hyd at 2023.

Ac fe wyddom beth ddigwyddodd yn yr Alban yn 2023.

Plaid pob gwir Sais ?

22 Ebr

Un dda gan Syr Anysbrydoledig heddiw. Beryg ei fod wedi cael tipyn bach o ysbrydoliaeth o rywle? Meddai yn y Daily Telegraph (ble arall?), Llafur yw ‘the true party of English patriotism’. A does ganddo ddim amynedd â neb sy’n petruso chwifio baner San Siôr, ‘a symbol of pride, belonging and inclusion’. Am y Torïaid, dim hawl bellach i’w galw’u hunain yn blaid wladgarol. Maent wedi ‘esgeuluso’n lluoedd [arfog wrth gwrs] … ac wedi bychanu rhai o’n sefydliadau cenhedlig balchaf – o’r BBC i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a thîm pêl-droed Lloegr.’

Dyna ichi gatalog o gamweddau! A dyma ichi rai meddyliau cymysg.

● Onid baner annibyniaeth Lloegr yw croes San Siôr, ac onid yw ei chwifio yn rhagdybio annibyniaeth yr Alban? Chwifiwch hi, Syr Keir.

● Ond yn y cyfamser, hwyrach na byddai plastro’r neges hon hyd yr Alban yn ddrwg yn y byd. Yng Nghymru, ni wnâi unrhyw wahaniaeth.

● Hanner munud, onid sefydliadau PRYDEINIG yw’r BBC a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol? Ond efallai fy mod i’n anghywir, canys dyma hwy ar yr un tir â thîm pêl-droed Lloegr. Beryg mai sefydliadau Lloegr ydyn nhw, deudwch?

● Cofiwch bob amser yr hyn a ddywedais ryw dro o’r blaen. ‘Gwladgarwch’ (patriotism) yw’r un neis; arferir gan Loegr a chan ba bwerau bynnag sydd ar ochr Lloegr yr wythnos yma. ‘Cenedlaetholdeb’ (nationalism, ac yn aml narrow nationalism) yw’r un ddim-yn-neis; arferir gan ‘lesser breeds’ chwedl Kipling.

Peidio dweud, peidio gofyn …

18 Ebr

Robat Gruffudd, Gobaith Mawr y Ganrif (Y Lolfa, 2024), £9.99.

Pobl Caerdydd yw’r rhai y down i’w hadnabod yn y nofel hon, rhai ohonynt yn ‘hufen y ddinas’. Y byd yr oedd Gron y Dyn Dŵad yn chwe chyfrol Dafydd Huws yn ei weld oddi isod gan daro i mewn iddo weithiau, dyma’n gwahodd yn syth i’w ganol. 2008 yw’r flwyddyn. Fe sonnir am ambell swm go fawr o arian, gan ein procio ninnau i feddwl faint yn fwy fyddai’r symiau erbyn heddiw. Mae’r prif gymeriad, Menna Beynon, yn Brif Weithredwr (-wr, cofier) ‘Corff yr Iaith Gymraeg’; cawn ddehongli’r enw fel y mynnom, fel gyda ‘Phwyllgor Gorffen yr Iaith Gymraeg’ a grybwyllir unwaith neu ddwy yng nghwrs yr hanes. Diolch byth am hynny, mae gan Menna ei phwll nofio preifat lle gall ymlacio yng nghanol gofalon pwysfawr ei swydd. Yn yr hanner tudalen cyntaf, meddyliwch, darllenwn fel y bu raid iddi gyfarfod yn y bore â dau gynrychiolydd o Wlad y Basg ac yna mynd â hwy i ginio mewn bwyty Eidalaidd, a heno mae wedi addo mynd i seremoni’r BAFTAS yn Neuadd Dewi Sant i gefnogi Haf, ei ffrind o actores sydd wedi ennill un o’r prif wobrau. A thros y dyddiau nesaf, cyfrifoldeb aruthrol arall fydd dewis logo newydd fel rhan o ailfrandio’r Corff.

Teimlaf am y nofel hon, fel am nofel dditectif, na ddylai adolygiad ddatgelu gormod o’r plot. Cawn syndod newydd o hyd nes ein gyrru i ofyn beth yw cymhellion y cymeriadau, a thrwy hynny ein cadw i droi tudalennau, – sef y peth mawr. Ond gan ei fod yn y broliant ar gefn y llyfr, cawn ddweud beth yw’r taranfollt sy’n taro Menna cyn diwedd noson y BAFTAS. Daw llais o’r gorffennol, llais hen gariad coleg iddi, gan ei blacmelio am swm o arian. ‘Roedd Menna wedi tynnu allan o brotest a laniodd Trystan yng ngharchar, a thra bu ef yn straffaglu byw, cododd Menna i res o swyddi bras yn y brifddinas …’ Defnydd y nofel yw ymateb Menna i’r bygythiad hwn, a hefyd ymateb y ddau ddyn agosaf ati: Richie ei gŵr, sy’n ‘un o gyfarwyddwyr cwmni arwerthu Mansel Allen ar Churchill Way’; a Hywel, y bu iddi berthynas ag ef rai blynyddoedd yn ôl, ac nid perthynas ddibwys chwaith, ‘pennaeth cwmni cyfreithiol Cymraeg amlycaf Caerdydd’ – yntau bellach yn briod â Haf wedi dwy briodas arall dra gwahanol i’w gilydd. O gwmpas Menna try amrywiaeth bellach o gydnabod personol a phroffesiynol, mewn bywyd sy’n gofyn llawer o wledda allan ac mewn byd lle llifa aberoedd o wahanol ddiodydd gan achosi ambell dro anffodus.

Gwahanol yw byd Trystan. Ond a oes ganddo achos o gwbl? Achos cyfreithlon, nac oes wrth gwrs. Ond achos moesol? Gallwn ddeall pam mae ef yn cnoi wrth feddwl am yr yrfa a gafodd ei gyn-gariad, gyrfa o bowlio’n ddidrafferth drwy’r drysau troi-rownd o un cwango i’r nesaf. Ond gofynnwn a yw ef wedi ei gosbi gymaint ag y mae’n ei feddwl am iddo unwaith ‘weithredu’ dros yr iaith. A oedd raid iddo fynd i Loegr yn syth ar ôl ei ryddhau o’r carchar? ‘Falle nad oedd raid, ond fan’na oedd y swyddi.’ Cafodd waith yng Nghymru drwy’r blynyddoedd wedyn, a hwnnw’n waith i’r llywodraeth, ‘Dydi perthyn i Gymdeithas yr Iaith erioed wedi bod yn rhwystr i ddyrchafiad,’ meddai Wyn Ellis-Evans, Cadeirydd ‘Y Corff’. Ie, dyn bydol-ddoeth a diddyfnder sy’n ei ddweud, ond mae’n debyg ei fod yn wir. A beth yn union sydd gan Trystan i’w ddatgelu am Menna? Amryw bethau bach sydd â’r effaith o’i hanesmwytho. Ond a all mewn unrhyw fodd fod yn gwybod y peth mawr, am ei pherthynas hi â Hywel? Pam yr ymatebodd Hywel fel y gwnaeth? Mae peidio â dweud gormod yn allweddol yn y nofel hon, ac yn rhan o’i llwyddiant.

Gwir hynny hefyd am y dychan sy’n rhedeg drwyddi. Ceir rhai yn ein cynghori y dylai dychan fod yn ‘gynnil’ neu’n ‘ysgafn’ bob amser; dyweder hynny wrth Aristoffanes, Iwfenal, Molière, Ellis Wynne, Twm o’r Nant … Ond weithiau gall y dychanwr yn bwrpasol atal ei law, fel y gwneir yma. Rydym yn deall yn ddigon buan mai dyn llyfn, llwyddiannus yw Hywel ac mai cymeriad sinigaidd, adweithiol yw Richie, ac nid oes raid dyrnu ar y ddealltwriaeth sydd rhyngddynt hwy, a chysylltiadau eraill hefyd, ynghylch y datblygiad tai mawr yng Nghasnewydd. ‘The stench of homely corruption,’ chwedl Harri Webb ers talwm, gwyddom ei fod o gwmpas, a rhaid ei dderbyn, fel y tywydd. Mae ergyd ddychanol fawr y nofel yn yr hyn nas dywedir, yn y cwestiwn nas gofynnir. Digwydd y stori dros gyfnod o ryw dri mis. Erbyn diwedd y cyfnod, a oes unrhyw beth wedi ei wneud i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg a’i rhagolygon? Go brin. Nid oes hyd yn oed sôn fod y logo newydd wedi ei ddewis! Rhyngddynt, mae’n beryg fod Richie a Menna wedi taro ar wirionedd. Meddai ef ‘Chwara’r system ydan ni i gyd yntê, does dim mwy i’r peth na hynny.’ Gofyn hithau ‘Neu ai’r system sy’n ein chware ni?’

‘Gobaith Mawr y Ganrif’, gobaith yr ugeinfed ganrif ydyw wrth gwrs, a darn go fyr ohoni at hynny. Cawn wybod fod Menna, Trystan a rhai o’u cyfoedion yn dal i’w goleddu ar ddechrau’r 1980au, ond i rai ohonom fe dderbyniodd ergyd yn ’79 nad yw wedi dod trosti eto. A oes unrhyw un yn ei fagu bellach? Yn ddiweddar mewn pwt o ddarlith, wrth edrych yn ôl dros y trigain mlynedd diwethaf yn hanes Cymru a hynt yr iaith yn benodol, mi ofynnais y cwestiwn ‘beth a ddylem ni, neu a allem ni, fod wedi ei wneud yn wahanol?’ Teimlaf fy ngyrru gan y nofel hon i’w ofyn eto.

Dyma inni unwaith yn rhagor y cyfuniad a welwn yn holl nofelau Robat Gruffudd, dealltwriaeth o’r sgôr wleidyddol a diwylliannol yng Nghymru ynghyd â stori sy’n cydio’n syth ac yn gyrru ymlaen â sicrwydd. Nid ydym byth yn gwybod beth a wneir nesaf gan yr un o’r pedwar prif gymeriad, ond pan ddaw mae’n argyhoeddi. Mae yma naws y foment, un o brif hanfodion ffuglen, a’r dialog yn fyw mewn sawl tafodiaith.

Cwestiwn mawr arall. Beth sy’n egluro bywiogrwydd ffuglen Gymraeg heddiw, a chymaint o bethau eraill yn mynd i lawr?

Er mwyn yr achos

15 Ebr

Amgueddfa Cymru, ein Llyfrgell Genedlaethol, Comisiynydd yr Iaith, ‘Y Brifysgol’, ein hawdurdodau lleol … yr un yw’r stori ym mhob man, gwasgfa, toriadau …

Ond cymerwn gysur, ac ymwrolwn. Pam yr ydym yn cwyno? Onid ydym yn deall fod yn iawn inni i gyd aberthu dros un achos mawr?

● Beth yw’r achos mawr hwnnw? ATEB: mawredd Lloegr.

● Beth sy’n cynnal y mawredd hwnnw? ATEB: Trident. ‘The Bedrock’ ys dywedodd Syr Anysbrydoledig y diwrnod o’r blaen.

● Pwy sy’n rheoli Trident? ATEB: America.

● Ble mae Trident wedi ei hangori? ATEB: Sgotland.

‘Ddyniadon ynfyd’, chwedl yr hen fardd hwnnw ers talwm, onid ydych yn deall? I ddiogelu’r ‘Bedrock’, ac felly fawredd ein hundeb a’n teyrnas, rhaid rhwystro i’r Albanwyr yna fynd am annibyniaeth. Dyna fyddai ei diwedd-hi. Dyna pam y trefnwyd, ar gost aruthrol ac ar eich rhan chi oll, ‘Ddiwrnod Fred West’ y llynedd.

Mae Rishi bach yn addo gwario mwy ar y Bedrock, ac Anysbrydoledig yn addo gwario mwy eto. Chware teg, mae ’na lot o waith cynnal a chadw i’w wneud, wyddoch chi, efo’r sybmarîns yn rhydu ac yn saethu ffordd rong a ballu …

Rhown heibio ein buddiannau bach plwyfol a hunanol felly. Os yw corff cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod mynd heb ddirprwy gydlynydd rhan-amser gwerthuso mewnbwn, cofiwn fod y cyfan er mwyn pwrpas uwch.

Gwyliwch y welingtons !

30 Maw

Ysgrif ar NATION CYMRU heddiw, gyda phwt bach o ymateb, ar y cwestiwn ‘beth mae Plaid Cymru wedi ei ennill drwy ei chytundeb â Llafur?’

Diolchgarwch y bobl? Beth am y cinio plant ysgol? Pwy fydd yn cofio fod a wnelo P.C. unrhyw beth ag o? Mae’n swnio’n beth Llafuraidd, a gall Llafur hawlio’r clod i gyd.

Senedd fwy? 96 o aelodau yn lle 60? Mesur poblogaidd ar adeg o wasgfa mewn sawl maes arall? System o gynrychiolaeth gyfrannol lle bydd pob pleidlais yn mynd i restrau pleidiol a dim un i’r cynrychiolydd unigol dros yr etholaeth? Clywn amheuon ymhlith rhai sy’n deall, ond ychydig yw’r rheini, Ni bydd y mwyafrif yn malio un ffordd na’r llall.

Mae Plaid Cymru’n pwysleisio nad oes dim coalisiwn. Yn hynny o beth mae hi’n gywir; nid oes Pleidiwr yn ddirprwy brif weinidog fel y bu unwaith o’r blaen, nac unrhyw Bleidiwr yn y cabinet. Ond dal i ddweud ‘coalisiwn’ a wna’r Ceidwadwyr, a bydd pobl yn coelio hynny.

Prif weinidog tawel a didramgwydd fu Mark Drakeford – tan yr wythnosau olaf, pan giciodd ddau nyth cacwn. Yn gyntaf, yr ugain milltir yr awr, mesur amhoblogaidd iawn a rhodd ar blât i’r Torïaid. Nid oedd hyn yn rhan o’r cytundeb, ond ni bydd pobl yn deall hynny. Am y mater mawr arall, sef y polisi amaethyddol, yr oedd yn y cytundeb, a faint sy’n mynd i goelio’r Blaid pan ddywed yn awr ei bod hi ‘ar ochr y ffermwyr’?

Y gwir am wleidyddiaeth Cymru heddiw, fel y bu am gan mlynedd, yw hyn. Ar draws etholaethau’r De o Flaenau Gwent i Lanelli, nid yw polisi na maniffesto, cynllun nac egwyddor, yn cyfrif dim. Yr unig beth a welir yw ruban coch. Nid yw’r ddau fesur amhoblogaidd uchod yn debyg o amharu dim ar gefnogaeth Llafur yn ei chadarnleoedd. Tua’r Gogledd a’r Gorllewin, gall pethau fod yn wahanol, ond nid Llafur fydd yn talu’r pris. Welsoch chi’r welingtons yna ar risiau’r Senedd? Os bydd y rhain yn mathru Plaid Cymru i’r mwd, pwy fydd yn chwerthin? Llafur siŵr iawn.

Fwy nag unwaith o’r blaen mae’r hen flog hwn wedi cynnig rhestr siopa fach o fesurau gwir angenrheidiol er mwyn diogelu safon bywyd yng Nghymru a’n parhad fel pobl, pethau y byddai’n rhaid eu mynnu gan Lafur, Tori neu bwy bynnag, cyn gallu derbyn cydweithrediad Plaid Cymru. Nid oes dim o’r rhain yn y cytundeb cloff a diffaith presennol.

§

Yn adroddiad NATION CYMRU hefyd darllenwn mai Mabon ap Gwynfor yw llefarydd y Blaid ar Iechyd a Gofal. Perthnasol iawn i faes Iechyd a Gofal yw’r llyfr y mae Mabon newydd ei gyhoeddi ar beryglon ac anfanteision y niwclear. A yw Rhun, Liz a Llinos Medi wedi darllen y llyfr?

Udishido ?

20 Maw

Mr. Isiomoto – dyn o Japan yn mynd i brynu car.
Mr. Onahito – dyn o Japan wedi cael digon.
Mr. Udishido – dyn o Japan yn gwybod yn well na chi.

Wrth inni nesu at flwyddyn ers y diwrnod, eitem gan bapur Albanaidd The National heddiw am ‘Operation Branchform’ neu ‘Ddiwrnod Fred West’. Yr ymatebion sy’n ddiddorol. Mae’n ymddangos fod pawb yn yr Alban bellach yn dweud yr hyn yr oedd yr hen flog hwn yn ei ddweud o’r diwrnod cyntaf.

Udishido ?

Eithafwyr, gwyliwch !

15 Maw

Dyma ni’n byw mewn arswyd a chryndod wrth ddisgwyl rhestr gyflawn Mr. Gove o fudiadau sydd am danseilio’n democratiaeth a dymchwel y deyrnas. Gwyliwch am eich bywydau felly, aelodau:

● Adfer
● Cymuned
● Dyfodol i’r Iaith
● Mentrau Iaith Cymru
● Merched y Wawr
● Merched Beca
● Côr Meibion Bro Glyndŵr
● Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
● Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Bydd Cyfeillion Ellis Wynne yn falch o ddeall nad ydynt ar y rhestr, oherwydd roedd Ellis o blaid British Values.

Straeon o’r Alban

5 Maw

Echdoe mi sgrifennais bwt am fuddugoliaeth George Galloway.Yn ystod ei gyfweliad â’r wasg ddoe fe ddatganodd George nad oes a wnelo ef mwyach â gwleidyddiaeth yr Alban. Gwerth ichi ddarllen yr ymatebion ar wefan The National heddiw !

Stori ryfedd arall yn yr un papur bore ’ma. Angus Robertson, cyn-arweinydd yr SNP yn San Steffan, a’i llefarydd ar faterion allanol, yn datgan na byddai Alban annibynnol o angenrheidrwydd yn arwyddo’r cytundeb rhyngwladol ar wahardd arfau niwclear. Dyma fynd yn groes i bolisi ei blaid ers degawdau a’i pholisi presennol hyd y gwyddom. Pwy, beth, sy tu ôl i hyn? A oes gan yr ymatebwr Jim Taylor rywbeth?

Ond gwelwch yr ymatebion, i’r ddwy eitem yma fel i lawer o rai eraill ! Ambell sylw hollol hurt, ond rhydd i bawb ei farn. Mor farw yw Cymru, ei chyhoedd a’i chyfryngau, mewn cymhariaeth.