Gwyliwch y welingtons !

30 Maw

Ysgrif ar NATION CYMRU heddiw, gyda phwt bach o ymateb, ar y cwestiwn ‘beth mae Plaid Cymru wedi ei ennill drwy ei chytundeb â Llafur?’

Diolchgarwch y bobl? Beth am y cinio plant ysgol? Pwy fydd yn cofio fod a wnelo P.C. unrhyw beth ag o? Mae’n swnio’n beth Llafuraidd, a gall Llafur hawlio’r clod i gyd.

Senedd fwy? 96 o aelodau yn lle 60? Mesur poblogaidd ar adeg o wasgfa mewn sawl maes arall? System o gynrychiolaeth gyfrannol lle bydd pob pleidlais yn mynd i restrau pleidiol a dim un i’r cynrychiolydd unigol dros yr etholaeth? Clywn amheuon ymhlith rhai sy’n deall, ond ychydig yw’r rheini, Ni bydd y mwyafrif yn malio un ffordd na’r llall.

Mae Plaid Cymru’n pwysleisio nad oes dim coalisiwn. Yn hynny o beth mae hi’n gywir; nid oes Pleidiwr yn ddirprwy brif weinidog fel y bu unwaith o’r blaen, nac unrhyw Bleidiwr yn y cabinet. Ond dal i ddweud ‘coalisiwn’ a wna’r Ceidwadwyr, a bydd pobl yn coelio hynny.

Prif weinidog tawel a didramgwydd fu Mark Drakeford – tan yr wythnosau olaf, pan giciodd ddau nyth cacwn. Yn gyntaf, yr ugain milltir yr awr, mesur amhoblogaidd iawn a rhodd ar blât i’r Torïaid. Nid oedd hyn yn rhan o’r cytundeb, ond ni bydd pobl yn deall hynny. Am y mater mawr arall, sef y polisi amaethyddol, yr oedd yn y cytundeb, a faint sy’n mynd i goelio’r Blaid pan ddywed yn awr ei bod hi ‘ar ochr y ffermwyr’?

Y gwir am wleidyddiaeth Cymru heddiw, fel y bu am gan mlynedd, yw hyn. Ar draws etholaethau’r De o Flaenau Gwent i Lanelli, nid yw polisi na maniffesto, cynllun nac egwyddor, yn cyfrif dim. Yr unig beth a welir yw ruban coch. Nid yw’r ddau fesur amhoblogaidd uchod yn debyg o amharu dim ar gefnogaeth Llafur yn ei chadarnleoedd. Tua’r Gogledd a’r Gorllewin, gall pethau fod yn wahanol, ond nid Llafur fydd yn talu’r pris. Welsoch chi’r welingtons yna ar risiau’r Senedd? Os bydd y rhain yn mathru Plaid Cymru i’r mwd, pwy fydd yn chwerthin? Llafur siŵr iawn.

Fwy nag unwaith o’r blaen mae’r hen flog hwn wedi cynnig rhestr siopa fach o fesurau gwir angenrheidiol er mwyn diogelu safon bywyd yng Nghymru a’n parhad fel pobl, pethau y byddai’n rhaid eu mynnu gan Lafur, Tori neu bwy bynnag, cyn gallu derbyn cydweithrediad Plaid Cymru. Nid oes dim o’r rhain yn y cytundeb cloff a diffaith presennol.

§

Yn adroddiad NATION CYMRU hefyd darllenwn mai Mabon ap Gwynfor yw llefarydd y Blaid ar Iechyd a Gofal. Perthnasol iawn i faes Iechyd a Gofal yw’r llyfr y mae Mabon newydd ei gyhoeddi ar beryglon ac anfanteision y niwclear. A yw Rhun, Liz a Llinos Medi wedi darllen y llyfr?

Gadael sylw