Yn Golwg, 15 Tachwedd, mae eitem yn nodi deng mlwydd ar hugain oddi ar yr ymgais i sefydlu papur dydd Sul Cymraeg, Sulyn. Dyfynnir un o’r golygyddion, Eifion Glyn: ‘roedd academwyr mawr yn eu tyrau ifori ym Mangor yn sgrifennu llythyrau yn dweud ein bod yn bastardeiddio a lladd yr iaith’.
Mae’r blynyddoedd yn carlamu heibio mor gyflym, a’m cof innau’n ansicr am rai pethau. Gofynnaf gwestiwn neu ddau felly, er mwyn symud ymlaen. Ai tŵr Coleg y Brifysgol ym Mangor oedd y ‘tyrau ifori’? Pwy oedd yr ‘academwyr mawr’? Ai aelodau o Adran y Gymraeg oedd y rhain, ynteu rhyw adran neu adrannau eraill yn y coleg? Roedd saith ohonom ar staff Adran y Gymraeg yr adeg honno, 1982, ac ni allaf gofio i’r un ohonom ddweud dim byd yn gyhoeddus am iaith Sulyn. Efallai fy mod yn anghywir. Roedd mwy nag un yn llythyru yn ôl yr adroddiad (‘academwyr’, a’r rheini’n rhai ‘mawr’). Pa rai oedd y rhain? Ai llythyru yn y wasg a wnaed, ynteu yn breifat? Does gen i ddim cof gweld llythyrau yn y wasg gan neb ohonom. Ond drachefn efallai fy mod yn methu; ffeiliau papurau’r cyfnod a ddywed.
Wedi addef cymaint â hynna o ansicrwydd, rwy’n cofio un peth yn glir iawn. Nid o blith academwyr, boed y rheini fach neu fawr, y cododd y gwrthwynebiad i iaith Sulyn, ond ar lawr gwlad. Nid oedd yn iaith braf i’w darllen. Yr oedd yn ‘trio bod yn glyfar’, a thrwy hynny’n llwyddo i sarhau’r cwsmeriaid.
Mae lle ac adeg i sgrifennu tafodiaith ac i gofnodi iaith anffurfiol. Mewn dialog dramâu a storïau wrth gwrs, ac mewn naratif storïau hefyd os yw’n bwysig dangos rhyw leoliad neilltuol, neu ddangos cefndir yr adroddwr. Gwnaeth Caradog Prichard hyn â chywirdeb a thrylwyredd arbennig, ac yn llawer nes atom mae Alun Cob yn ei nofel dda dros ben, Pwll Ynfyd, wedi cofnodi gwahanol fathau o iaith iselwael yn argyhoeddiadol iawn. Ond at bwrpas adrodd newyddion, neu drin a thrafod unrhyw beth mewn papur neu gylchgrawn, faint o lafareiddio sy’n briodol mewn gwirionedd, neu’n wir yn bosibl?
Myn Eifion Glyn o hyd (yn ôl Golwg) bod y cyfryngau darlledu gan gynnwys Newyddion Cymraeg y BBC, ‘yn dal yn rhy uchel-ael eu hiaith ac yn rhy gymhleth’. Beth am gymryd unrhyw eitem dri munud o newyddion, unrhyw noson o’r wythnos, a mynd ati i’w hail-sgrifennu yn fwy llafar, yn fwy gwerinol, yn llai ffurfiol neu beth bynnag … ? Rwy’n ei chael hi’n anodd meddwl sut y gellid gwneud, heb fynd i swnio’n wirion yn fuan iawn. Neu beth petawn i’n cymryd paragraff o’r ysgrif hon yn awr i’w ail-wneud mewn cywair is, er mwyn apelio mwy at ‘Gymry gwerinol dosbarth gweithiol’, neu (fel y bydd rhai yn ein hannog weithiau) at ‘yr ifanc’? I ddechrau byddwn yn fuan at fy ngheseiliau mewn sillgollau; ac yna cawn fy hun yn methu meddwl am ddigon o ffurfiau Seisnigaidd ac anghywir i wneud y peth yn wirionach.
Ffaith arall i’w chofio wrth sgrifennu Cymraeg yw fod yr iaith mor ffonetig, hynny yw ei bod yn arfer yr un symbolau yn gyson am yr un seiniau. Y gwahanol ddefnydd o’r symbol ‘y’ yw’r unig eithriad i hyn. Fe ddywed un math o Sais rywbeth fel ‘maneah’, a math arall o Sais rywbeth fel ‘mwnai’ (ffurf a fenthyciodd y Cymry ar un adeg), ond fe’i sgrifennir yr un fath bob amser, ‘money’. Nid yw’r ffurf ysgrifenedig yn dweud sut i ynganu’r gair; arwydd ydyw, i’r darllenydd ei glywed neu ei ddweud yn y ffordd y mae wedi arfer. Ond yn Gymraeg gellir cofnodi popeth bron yn union yn y modd y lleferir ef, a’r broblem wedyn yw ble i dynnu llinell. Mewn dialog, ac mewn ‘darn tafodiaith’, gellir ei wneud yn effeithiol, ond mae angen cof, gofal, cysondeb a chywirdeb. Fy argraff i o iaith Sulyn oedd ei bod yn taflu ffurfiau llafar, anffurfiol a Seisnigedig i mewn rywsut rywsut, fel nad oedd y cynnyrch terfynol yn adlewyrchiad o unrhyw wir iaith yn unman. Nid oedd yno’r cywirdeb clust na’r reddf na’r ddealltwriaeth i wneud y peth yn gyson a chredadwy. Y canlyniad oedd iaith drafferthus, ddiflas i’w darllen, ac argraff o geisio nawddogi’r darllenwyr.
Yn ôl adroddiad Golwg, yr un gair a oedd wedi gwylltio’r ‘academwyr mawr’ oedd ‘harassio’. Beth petawn i’n dweud, ar wahân i’r ddwy s, nad wyf yn gweld fawr ddim byd o’i le ar y gair hwn, a’i fod yn fenthyciad y gellir ei gymathu heb lawer o gam? Mae iddo bellach gyd-destun derbyniedig, a dylem fynd trwy’r dril o ofyn pa air traddodiadol a fyddai’n union gyfateb iddo yn y cyd-destun hwnnw. Blino, poeni, plagio, piwsio, hambygio, anesmwytho, erlid, gormesu? Aflonyddu, tarfu (ar rywun)? Ambell un yn taro weithiau, hwyrach, ond nid yn ddi-ffael. Rwyf bron â meddwl y daw ‘ymlid’ yn agos ati, gan fod iddo gyd-destun rhywiol, – maharen yn ymlid. Ac mae’r llafar ‘cau bod llonydd’ yn lled agos.
Wedi i Sulyn ddod i ben nid atgyfodwyd ‘Sulyneg’ yn ei phurdeb trwstan a bwngleraidd, ond am gyfnod gwelwyd olion ohoni yn Y Cymro a’r Herald. Aeth hynny hefyd heibio, ac nid erys ond cyffyrddiadau bychain a chymharol ddiniwed ar Golwg 360, megis y gorweithio naïf ar ‘bos’ a’r proffwydo fod ‘gwynt mawr am chwythu yr wythnos nesaf’.
Yn ddiweddar bûm yn paratoi argraffiad newydd o Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, Emrys ap Iwan. Dyma ymgais yn 1890 i gynrychioli, yn lled agos at y sain, iaith lafar ffurfiol siaradwr Gogleddol diwylliedig. Fe welir yr egwyddorion mewn seiniau fel: Protestaniath, gwahaniath, gafal, milodd, teunu, gweutha, dilin, rhiwbeth, Ffraingc, pwngc, ddywedisi, neuthoni, ei brofi-o, eu bod-nw. Gwnaeth Emrys ap Iwan hyn yn gyson, yn gywir ac yn driw i’r ynganiad. Ond nid ailadroddodd yr arbraw byth wedyn. Gwyddai, fel y mae mwyafrif mawr y Cymry hyd heddiw yn gwybod ac yn synhwyro, mai yr iaith lenyddol, fwy ffurfiol na pheidio, wedi ei hystwytho’n gynnil yma ac acw, yw’r iaith briodol a chyfforddus i’w darllen. Os oes angen prawf, agorer unrhyw bapur bro. Yr iaith lenyddol, gyffredin i Gymru gyfan, fydd ei gyfrwng, ac mae hynny’n rhan o gyfrinach ei lwyddiant.
Mae’r sôn hwn am ryw ‘academwyr mawr’ ar y naill law, ac am ryw ‘ddosbarth gweithiol’ ar y llaw arall, yn tarddu o ryw ideoleg hanner-pob, hanner-pan, hanner-dallt. Diffiniwyd a sodrwyd yr ideoleg honno yn effeithiol a chwbl gywir gan Rhisiart Hincks yn ei ddarlith ardderchog Yr Iaith Lenyddol fel Bwch Dihangol (2000), darlith y byddai’n dda inni oll ei darllen wrth feddwl am y pethau hyn.
Fel yr wyf wedi dweud lawer gwaith, dylai fod gan y Cymry Cymraeg, hanner miliwn o ran nifer, dri neu bedwar o bapurau printiedig dyddiol. Byddai raid croesawu unrhyw gam i’r cyfeiriad hwn, yn cynnwys papur dydd Sul. Boed yr arddull yr hyn a fo, tabloid neu beth bynnag, byddai raid i’r iaith fod yn gywir a dealladwy. Mae gennyf set gyfan o Sulyn wedi ei chadw rywle yn y tŷ yma. Roeddwn yn hoffi ei gynnwys, ac yn gofidio iddo ddod i ben. Atgyfoder y freuddwyd, ond anghofier y Sulyneg.