Archif | Mawrth, 2024

Gwyliwch y welingtons !

30 Maw

Ysgrif ar NATION CYMRU heddiw, gyda phwt bach o ymateb, ar y cwestiwn ‘beth mae Plaid Cymru wedi ei ennill drwy ei chytundeb â Llafur?’

Diolchgarwch y bobl? Beth am y cinio plant ysgol? Pwy fydd yn cofio fod a wnelo P.C. unrhyw beth ag o? Mae’n swnio’n beth Llafuraidd, a gall Llafur hawlio’r clod i gyd.

Senedd fwy? 96 o aelodau yn lle 60? Mesur poblogaidd ar adeg o wasgfa mewn sawl maes arall? System o gynrychiolaeth gyfrannol lle bydd pob pleidlais yn mynd i restrau pleidiol a dim un i’r cynrychiolydd unigol dros yr etholaeth? Clywn amheuon ymhlith rhai sy’n deall, ond ychydig yw’r rheini, Ni bydd y mwyafrif yn malio un ffordd na’r llall.

Mae Plaid Cymru’n pwysleisio nad oes dim coalisiwn. Yn hynny o beth mae hi’n gywir; nid oes Pleidiwr yn ddirprwy brif weinidog fel y bu unwaith o’r blaen, nac unrhyw Bleidiwr yn y cabinet. Ond dal i ddweud ‘coalisiwn’ a wna’r Ceidwadwyr, a bydd pobl yn coelio hynny.

Prif weinidog tawel a didramgwydd fu Mark Drakeford – tan yr wythnosau olaf, pan giciodd ddau nyth cacwn. Yn gyntaf, yr ugain milltir yr awr, mesur amhoblogaidd iawn a rhodd ar blât i’r Torïaid. Nid oedd hyn yn rhan o’r cytundeb, ond ni bydd pobl yn deall hynny. Am y mater mawr arall, sef y polisi amaethyddol, yr oedd yn y cytundeb, a faint sy’n mynd i goelio’r Blaid pan ddywed yn awr ei bod hi ‘ar ochr y ffermwyr’?

Y gwir am wleidyddiaeth Cymru heddiw, fel y bu am gan mlynedd, yw hyn. Ar draws etholaethau’r De o Flaenau Gwent i Lanelli, nid yw polisi na maniffesto, cynllun nac egwyddor, yn cyfrif dim. Yr unig beth a welir yw ruban coch. Nid yw’r ddau fesur amhoblogaidd uchod yn debyg o amharu dim ar gefnogaeth Llafur yn ei chadarnleoedd. Tua’r Gogledd a’r Gorllewin, gall pethau fod yn wahanol, ond nid Llafur fydd yn talu’r pris. Welsoch chi’r welingtons yna ar risiau’r Senedd? Os bydd y rhain yn mathru Plaid Cymru i’r mwd, pwy fydd yn chwerthin? Llafur siŵr iawn.

Fwy nag unwaith o’r blaen mae’r hen flog hwn wedi cynnig rhestr siopa fach o fesurau gwir angenrheidiol er mwyn diogelu safon bywyd yng Nghymru a’n parhad fel pobl, pethau y byddai’n rhaid eu mynnu gan Lafur, Tori neu bwy bynnag, cyn gallu derbyn cydweithrediad Plaid Cymru. Nid oes dim o’r rhain yn y cytundeb cloff a diffaith presennol.

§

Yn adroddiad NATION CYMRU hefyd darllenwn mai Mabon ap Gwynfor yw llefarydd y Blaid ar Iechyd a Gofal. Perthnasol iawn i faes Iechyd a Gofal yw’r llyfr y mae Mabon newydd ei gyhoeddi ar beryglon ac anfanteision y niwclear. A yw Rhun, Liz a Llinos Medi wedi darllen y llyfr?

Udishido ?

20 Maw

Mr. Isiomoto – dyn o Japan yn mynd i brynu car.
Mr. Onahito – dyn o Japan wedi cael digon.
Mr. Udishido – dyn o Japan yn gwybod yn well na chi.

Wrth inni nesu at flwyddyn ers y diwrnod, eitem gan bapur Albanaidd The National heddiw am ‘Operation Branchform’ neu ‘Ddiwrnod Fred West’. Yr ymatebion sy’n ddiddorol. Mae’n ymddangos fod pawb yn yr Alban bellach yn dweud yr hyn yr oedd yr hen flog hwn yn ei ddweud o’r diwrnod cyntaf.

Udishido ?

Eithafwyr, gwyliwch !

15 Maw

Dyma ni’n byw mewn arswyd a chryndod wrth ddisgwyl rhestr gyflawn Mr. Gove o fudiadau sydd am danseilio’n democratiaeth a dymchwel y deyrnas. Gwyliwch am eich bywydau felly, aelodau:

● Adfer
● Cymuned
● Dyfodol i’r Iaith
● Mentrau Iaith Cymru
● Merched y Wawr
● Merched Beca
● Côr Meibion Bro Glyndŵr
● Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
● Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Bydd Cyfeillion Ellis Wynne yn falch o ddeall nad ydynt ar y rhestr, oherwydd roedd Ellis o blaid British Values.

Straeon o’r Alban

5 Maw

Echdoe mi sgrifennais bwt am fuddugoliaeth George Galloway.Yn ystod ei gyfweliad â’r wasg ddoe fe ddatganodd George nad oes a wnelo ef mwyach â gwleidyddiaeth yr Alban. Gwerth ichi ddarllen yr ymatebion ar wefan The National heddiw !

Stori ryfedd arall yn yr un papur bore ’ma. Angus Robertson, cyn-arweinydd yr SNP yn San Steffan, a’i llefarydd ar faterion allanol, yn datgan na byddai Alban annibynnol o angenrheidrwydd yn arwyddo’r cytundeb rhyngwladol ar wahardd arfau niwclear. Dyma fynd yn groes i bolisi ei blaid ers degawdau a’i pholisi presennol hyd y gwyddom. Pwy, beth, sy tu ôl i hyn? A oes gan yr ymatebwr Jim Taylor rywbeth?

Ond gwelwch yr ymatebion, i’r ddwy eitem yma fel i lawer o rai eraill ! Ambell sylw hollol hurt, ond rhydd i bawb ei farn. Mor farw yw Cymru, ei chyhoedd a’i chyfryngau, mewn cymhariaeth.

Tocsig !

2 Maw

‘Toxic’, gair mawr y cyfryngau am isetholiad echdoe. Tipyn o hwyl, ddywedwn i, er bod ystyriaethau difrif iawn yn y fantol.

Rhyfedd, digynsail, dialw-amdani oedd araith Rishi o’i bulpud neithiwr. ‘THE SPEECH BRITAIN NEEDED TO HEAR’ meddai pennawd blaen y Daily Mail. Mae’n ymddangos ei bod hi’n ddiwedd y byd os cyfyd unrhyw lais yn erbyn consensws y ddwy blaid fawr ar bob peth o bwys.

Ond os mai George Galloway yw’r prif fygythiad i’r status quo heddiw, does dim raid i’r Sefydliad ofni. Does yna ddim ‘Workers’ Party’, mwy nag oedd ‘Respect’. (Gwyliwn yn hytrach ‘Reform UK’.) Fydd George byth yn aros yn hir, ac os caiff einioes ac iechyd fe’i gwelwn mewn rhyw etholaeth newydd a than label newydd eto cyn bo hir. Yn y cyfamser bydd wedi taro ambell ergyd go dda, fel pan ddywedodd ddoe nad gŵr bonheddig fel Jeremy Corbyn mohono fo. ‘Rhowch chi gelpan i mi ac mi gewch swadan yn ôl.’ Edrych ymlaen at glywed ei bedwaredd ‘araith forwynol’!

Na, y gwir fygythiad i’r Rhai Sy’n Credu Mewn Trefn, yr wythnos yma fel ers blynyddoedd, yw mudiad annibyniaeth yr Alban, ac maent hwythau’n gwybod hynny. Dyna pam rhoi cymaint o bethau ar waith i geisio’i atal. Ac un rhyfedd ar y naw yw George; yn ymarferol mae’n cytuno â’r SNP ar bron bopeth – ac eithrio dyfodol ei wlad ef a hithau. Ar wleidyddiaeth Lloegr mae’n siarad llawer iawn o synnwyr, ac yn ei roi’n dda; ar wleidyddiaeth Sgotland nid yw wedi dechrau deall dim.

Pe bai Llafur wedi ennill nos Iau diwethaf, dyna fyddai’n ‘tocsig’. Oherwydd, fel rwyf wedi dweud a dweud yn ddiweddar, plaid Syr Anysbrydoledig y dyddiau hyn yw eu hofferyn NHW i geisio cadw gafael ar yr Alban, cadw Trident a thrwy hynny gadw’r unig statws sydd gan Loegr ar ôl yn y byd.