Archif | Rhagfyr, 2020

Yn ôl i Nantoer

26 Rhag

GOLWG 360 yn mynd i’r archif ac ailgyhoeddi eitem ar y stori aruthrol boblogaidd yn ei dydd, Teulu Bach Nantoer. Pan gyhoeddwyd yr eitem gyntaf (2013, ar ganmlwyddiant cyhoeddi’r stori) ymatebodd yr hen G.A. â blogiad. Er bod hwnnw i’w gael bellach yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda, dyma fo eto, gan mai da bob amser yw cofio’n clasuron. Da hefyd yw cofio cyfraniad arbennig yr awdures Moelona. Ac yn sgil hynny, cofio pwy oedd prif gynheiliaid ffuglen Gymraeg yn ystod deugain mlynedd cyntaf yr ugeinfed ganrif – Gwyneth Vaughan, Moelona, Kate Roberts, Winnie Parry, Awen Mona, Elena Puw Morgan, Dilys Cadwaladr, Jane Ann Jones …


Wel, Deulu Bach …

Dau deulu Cymreig sydd wedi mynd yn rhan o lafar gwlad. ‘Teulu Abram Wd’ yw’r cyntaf, a aeth yn ymadrodd am deulu mawr, canghennog, – yn enwedig pan fyddai criw ohonynt yn glanio gyda’i gilydd yn rhywle. ‘Ew, dyma deulu Abram Wd wedi cyrraedd!’ ‘Teulu Bach Nantoer’ yw’r ail, yn enwedig mewn cyfarchiadau: ‘Wel Deulu Bach Nantoer, sut mae pawb yma heno?’ ‘Wel, Deulu Bach Nantoer, thâl hi ddim fel hyn welwch chi.’

A dyma’r hen G.A., drwy fenthyca’r teclyn gan ei fab, wedi darllen ei e-lyfr cyntaf. Ie, Teulu Bach Nantoer, wedi ei olygu ar ei ganmlwyddiant gan Siwan M. Rosser gyda rhagymadrodd priodol dros ben, a’i ryddhau drwy’r ddyfais newydd gan Cromen. Da iawn wir.

‘Pam na wnaeth Dalen Newydd hyn, yng nghyfres Cyfrolau Cenedl?’ Ateb, canolbwyntio gormod ar Beddau’r Proffwydi, hithau’n gant oed eleni [2013], hithau’n llawn o’r themâu mythaidd a oedd, mae’n amlwg, yn bethau byw i Gymry 1913, yn arbennig Dychweliad y Plentyn Coll i’r Hen Aelwyd Gymreig.

Aeth trigain mlynedd a mwy heibio oddi ar imi ddarllen Teulu Bach Nantoer o’r blaen. Rwy’n meddwl imi ei fwynhau gryn dipyn yn fwy heddiw na’r pryd hynny, – er gwaetha’r ffaith imi ei gael yn rhodd gan gyd-ardalwr caredig. Tipyn yn ddiniwed oedd hanes y Teulu Bach i hogyn a oedd erbyn hynny wedi treulio oriau difyr lawer, – ie oriau mawr hefyd – uwchben Luned Bengoch a’r Dryslwyn, Capten, Nic a Nic Oedd, Nic Fydd, Nedw a Hunangofiant Tomi, Dai y Dderwen a Siencyn Tanrallt, Madam Wen, Dirgelwch Gallt y Ffrwd a rhai o nofelau Meuryn. Peth arall hefyd. Bu T. H. Parry-Williams, meddai ef, ‘unwaith yn fachgen deg, / Yn gallu llwyr-gredu mewn Tylwyth Teg’. Ond rhaid fy mod i erbyn yr oedran hwnnw – ie, ‘bachgen deg’ oeddwn hefyd – wedi rhoi’r gred honno o’r naill du. Daeth yn ei hôl, rwy’n falch o ddweud, ers llawer blwyddyn, neu o leiaf fe ddaeth llwyr barodrwydd i dderbyn y Stori Dylwyth Teg fel math neu ddosbarth o stori.

Rheswm arall am y mwynhad mawr y tro hwn oedd darllenadwyedd y testun, wedi ei ddiweddaru y mymryn angenrheidiol o ran orgraff ond heb ymyrryd dim oll â’r geiriad (egwyddor Cyfrolau Cenedl hefyd). Wedi gweld paragraff gwyddom y gallwn ddarllen ymlaen yn ddiogel hyderus ddiddamwain, heb berygl camu i bwll o ddiffyg ystyr a chamgystrawen, – fel a all ddigwydd inni ysywaeth mewn peth o’r sgrwtsh anllythrennog a ganmolir ac a wobrwyir heddiw.

Fe ddywedir fod y Teulu Bach wedi gwerthu 30,000 ar ei ymddangosiad cyntaf. Bydd yn ddiddorol gweld sut y gwna ar ei newydd, newydd wedd.

§

Gyda chyhoeddi’r e-lyfr bu tipyn o drafod ar fywyd a gwaith ei awdures, L. M. Owen (Jones wedyn), Moelona. Da iawn o beth yw hyn hefyd. Mi ddywedaf air yma am ddau o blith ei llyfrau niferus.

Yr oeddwn wedi darllen Storïau o Hanes Cymru rai blynyddoedd cyn darllen Teulu Bach Nantoer, a hefyd wedi ei astudio (wedi ei ‘wneud’, fel y dywedem) yn Ysgol Penfforddelen erbyn bod yn rhyw ddeg oed. Teimlaf ddyled iddo o hyd, fel i’w gydymaith, eto o wasg Hughes a’i Fab, ond mor wahanol ei deimlad, Ein Hen, Hen Hanes gan W. Ambrose Bebb. Caf fy hun yn meddwl cryn dipyn amdano y dyddiau hyn, wrth edrych ymlaen at ddiwrnod ‘Ar Wib trwy Hanes Cymru’, sydd i’w gynnal yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, ddydd Sadwrn 19 Hydref [2013]. Sut mae adrodd dwy fil o flynyddoedd o hanes pobl – ie, fe ddywedwn ni ‘hanes cenedl’ am y tro, heb wynebu’r her o ddiffinio ‘cenedl’ – lle mae un chwaraewraig amlwg yn absennol? Y chwaraewraig honno yw’r wladwriaeth. Pa stori sydd i’w hadrodd lle nad oes gwladwriaeth o gwbl am ran helaethaf y cyfnod, na phrin gysgod o’r un, na fawr obaith sefydlu un? Gallaf ddychmygu rhai o haneswyr Lloegr, er enghraifft, yn dweud fod y peth yn amhosibl. Ond fe waeth haneswyr y Cymry rywbeth ohoni, rywsut neu’i gilydd. Fe ellir sôn am gyflwr y bobl. Fe ellir sôn am sefydliadau, eu twf a’u gwaith. Ac fe ellir sôn am ymdrech unigolion i gadw pethau i fynd. Dyna, yn bennaf, a wnaeth Moelona, o gwymp y Llyw Olaf ymlaen: ymdrechion Owain Glyndŵr, John Penry, Yr Esgob Morgan, Griffith Jones … a rhes o rai eraill hyd at ei hoes ei hun. Gallai pawb ohonom amrywio’r rhestr o unigolion, ond mae’r patrwm yn gwneud synnwyr. Mwy na hynny, mi gredaf ei fod yn gwneud synnwyr hefyd i ni blant, drigain mlynedd yn ôl. Mwy na hynny eto, mae gen i hefyd ryw syniad iddo helpu i’n cadw ar y trywydd iawn.

Heddiw ddiwethaf dyma’r adroddiad ar ‘Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru’, gwaith grŵp wedi ei sefydlu gan y Llywodraeth. Dyma ni, ‘bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant mewn swydd ar gyfer pob athro/athrawes’. Digido deunyddiau, mewnosod, arfer da cyfredol, cydlynydd pwnc, ail-strwythuro, mynediad rhwydd &c &c … a holl rwtshi-ratsh arferol jargon byd addysg ein dydd. Ar fy ngwir, petai pob plentyn Cymraeg ei iaith, i ddechrau, yn cael darllen neu ‘wneud’ Storïau o Hanes Cymru Moelona erbyn bod yn un ar ddeg oed, byddai’n gychwyn da iawn. Ac fe ddysgai’r athrawon andros o lot hefyd.

§

Ffynnonloyw, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 1939, yw’r fwyaf uchelgeisiol o nofelau Moelona. ‘Stori Tair Cenhedlaeth’ y gelwir hi, a daw i’r cof mai dyna a ofynnid yng nghystadleuaeth y nofel, Eisteddfod Castell Nedd, 1934. Gosodwyd Traed Mewn Cyffion (Kate Roberts) a Creigiau Milgwyn (G. Wynne Griffith) yn gydradd fuddugol gan y beirniad, Dr. Tom Richards, mewn dyfarniad dadleuol. Hyd y gwelaf, ni chynigiodd Moelona mo’i nofel hi. Petai wedi gwneud, buasai’n rhaid ei hystyried yn ymgeisydd teilwng. Mae Ffynnonloyw yn stori o gryn graffter, ar y thema ddiosgoi o Chwalfa, yn gofyn yn bryderus ‘beth a ddaw o’r hen deulu, ac o’r hen le?’, ac yn hynny o beth ar briffordd rhyddiaith storïol Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Hanes teulu go helaeth o gefndir Moelona ei hun sydd yma, pawb yn ymadael, yn mynd ar wasgar, y rhan fwyaf yn golledig i Gymru, ond un neu ddau’n cael eu hachub fel pentewynion tân. Gyda mwy o drwch (can tudalen arall?), a mwy o fanylder ar rai pethau, gallasai fod yn nofel dda dros ben.

§

A dychwelyd at Deulu Bach Nantoer, oes, mae ambell beth bach od yn y stori. Beth yn union, o ran y stori, yw diben sgwrs yr offeiriad i blant yr ysgol ym Mhennod VI ? Neges O.M. Edwards sydd ynddi, fel y sylwyd yn ystod y drafodaeth y dyddiau hyn. Y mae’n unol â chywair y gwaith, yn wir â rhan mewn creu’r cywair. Ond beth yw ei pherthynas â’r digwyddiadau? A oes perthynas?

Ar ymddangosiad cyntaf ‘y gŵr a’r wraig ddieithr’ (Pennod IV), fe sylwa Ieuan ac Alun ‘fod y dyn yn gwisgo modrwy, un lydan a thlws iawn, ar ei fys bach’. Beth mae Moelona yn ei ensynio?

Y Cymro a’r PETH (7)

6 Rhag

Heddiw, i gloi, cymysgedd fach o ymatebion i ambell beth yn Cyrchu Annibyniaeth Cymru.

● Arfogaeth Cymru Fydd. Faint? Pa fath? Y flaenoriaeth heddiw, un cwch digon arfog i beri bod cwch cario mwd dros Fôr Hafren yn troi yn ei ôl.

● ‘Penadur’ y wladwriaeth Gymreig, chwedl yr adroddiad. Yn ystod fy oes i bu brenhiniaeth, drwy wahaniaethau’n ffurfiol rhwng gwladwriaeth a llywodraeth, yn gymorth tuag at wneud yn bosibl ddemocratiaeth seneddol, a thrwy hynny radd o ryddid personol, mewn chwech o wledydd gogledd Ewrop (Norwy, Denmarc, Sweden, yr Iseldiroedd, Belg a Phrydain). Yn ystod yr un cyfnod – nid drwyddo, ond yn ei ystod – bu gweriniaethau Ewrop yn unbenaethau i gyd ac eithrio tair, sef Iwerddon, y Swistir a Ffindir. Ond pa frenhiniaeth ystyrlon i Gymru? Gan i’r peth fod y fath ffars dros wyth canrif, a oes unrhyw bwrpas neu ddefnydd i’r sefydliad o ‘Dywysogaeth Cymru’, neu’n wir i’r fath gymeriad â ‘Thywysog Cymru’? Mae brenhiniaeth yr Alban yn sefydliad hanesyddol ystyrlon, ond – gan ddal i osgoi darogan – dywed rhyw gosfa ym mawd fy nhroed chwith mai fel gweriniaeth y bydd dyfodol Cymru yn y pen draw OS cychwyn rhywbeth y blynyddoedd nesaf hyn.

● Problem y Gwasanaeth Sifil. Rhydd yr adroddiad bwys mawr ar y ffaith fod y Gwasanaeth Sifil o hyd yn sefydliad Llundeinig, Prydeinig, er bod canghennau ohono’n gwasanaethau llywodraethau datganoledig yr Alban a Chymru. Ydyw, mae’n siŵr ei bod yn ‘Yes Minister’ yn ddigon aml, gyda gweinyddwyr anetholedig yn goruwchreoli’r gweinidogion sydd i fod yn atebol i ni’r etholwyr. Pwy wêl fai ar Priti am roi ambell ram-dam? Ond rhaid imi ddweud mai’r enghraifft waethaf o beth fel hyn i mi sylwi arni yw, nid dim byd yn Senedd Cymru, ond un o swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd (P.C.) mewn ymchwiliad cyhoeddus, Awst 2016, yn datgan yn iach a heb ymgynghori â neb, y gellid newid polisi iaith y sir er mwyn gwneud pethau’n haws i gwmni niwclear Horizon. A glywyd rhywun o arweinwyr y Cyngor (P.C.) yn dweud ‘hei hei’?

● Adran 13 o’r ‘Crynodeb Gweithredol’: ‘Dylai llywodraeth newydd adolygu sector addysg uwch Cymru o’r bôn i’r brig …’. Gwaith angenrheidiol yn wir, yn cynnwys y dasg o greu Cyngor Cyllido newydd a’i aelodau’n deall rhywbeth am Gymru. ‘Adolygu’ gyda golwg ar ba bethau yn arbennig, gallwn ofyn. A fydd yn bosibl o gwbl newid cyfeiriad colegau a ddaeth i fodolaeth dan gysgod y Llyfrau Gleision ac a lesteiriwyd gan Y PETH o ddydd eu sefydlu hyd heddiw? Dan ba fath drefn a thrwy ba fath fframwaith y gellir adfer rhai o’r cryfderau a gollwyd drwy chwalu’r Brifysgol ffederal? A chwestiwn bach cas: ble roedd gwleidyddion P.C. tra roedd llanast yr ugain mlynedd diwethaf yn y ‘sector uwch’ yn digwydd? Gwleidyddion pa blaid, meddech chi, oedd yn sefyll â’u bysedd yn eu cegau, heb yngan na bw na be, pan oedd cynhebrwng Prifysgol Cymru’n mynd heibio gan wireddu hen freuddwyd y gwrth-Gymreigwyr yn y colegau?

● Yr un adran, 13, sy’n sôn am ‘roi ar waith fesurau i annog rhagor o efrydwyr Cymru i aros yng Nghymru i dderbyn eu cymwysterau …’. Amserol ac angenrheidiol iawn, oherwydd yr amlygiad difrifolaf o’r PETH ym mywyd Cymru heddiw yw awydd y dosbarth proffesiynol Cymraeg i’w ddinistrio’i hun drwy anfon ei blant dros y Clawdd i brynu dysg. Ac yn awr. Fe ildiodd llywodraeth Lafur gyntaf Caerdydd i bwysau gan y tair plaid arall i ddechrau rhoi mymryn o fantais ariannol i fyfyrwyr a arhosai yng Nghymru, ac fe ddechreuodd yr effeithiau ddangos dipyn bach. Ond wedyn i chi, pa blaid, o fewn cynghrair ‘Cymru’n Un’, a gydsyniodd i ddadwneud y gwelliant bach hwn?

‘Mesurau i annog’ – os bydd gwir edifeirwch ac wynebu’r broblem? Pres, pres, pres: dyna mae Cymro’n ei ddallt.

● ‘Cynghrair yr Ynysoedd’, sef cyd-ffederasiwn (Undeb yr Annibynwyr), yn hytrach na ffederasiwn (Yr Hen Gorff), rhwng Cymru a’i chymdogion. Perffaith synhwyrol, a drychfeddwl y bu Gwynfor Evans yn ei gyflwyno dros lawer blwyddyn. Rhan yr Ynys Werdd yw’r broblem. Os galwn Chwe Sir Gogledd Iwerddon yn ‘genedl’ (fel y golyga Boris, mae’n debyg, gyda’i ‘Awesome Foursome’), yr ydym yn camarfer y gair ‘cenedl’. Sonnir am ‘bedair sedd yng Nghymanfa Gyffredinol y Cenhedloedd Unedig’. Ond nid sedd i Ogledd Iwerddon, does bosib. Yr un pryd, anodd yw dychmygu Iwerddon gyfan, os unir Iwerddon byth, yn ymuno â chonffederasiwn dan ‘Benadur Prydain’. Am hyn, yn wir ni wn …

● Da gweld adran ar lywodraeth ranbarthol/leol. Yn sicr fe ddylai fod rôl weithredol iawn i daleithiau neu wledydd hanesyddol Cymru, a dylai cantref a chwmwd barhau’n bethau byw. Ni allaf ychwanegu dim at fy hen erthygl ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’, sydd i’w gweld bellach yn fy nghyfrol Wele Wlad.

● Ambell beth bach digrif. ‘Bydd Cymru annibynnol … yn annog pobl Cymru i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.’ Yn wir mae dwy ystyr i ‘gymryd rhan mewn hamdden’, sef (i) gwneud dim byd o gwbl, a (ii) ymroi i rywbeth ar wahân i waith. Hyd yma bu’n well gen i (ii) nag (i), ond yr hyn nad oes arnaf ei eisiau yw llywodraeth Cymru Rydd yn fy mhwnio yn f’asennau gan ddweud ‘Hei, dos i gaiacio / cynganeddu / tyfu rhosod / canu trombôn …’. Mae pethau nad ydynt yn fusnes llywodraeth; nac anghofiwn hynny ar boen ein bywyd wrth inni ymdeithio wysg ein cefnau tuag at annibyniaeth !

DIWEDD

Y Cymro a’r Peth (6)

5 Rhag

Yn awr, wrth nesu at y diwedd, yn ôl at rybudd difrifol S.L. A fyddai – a fydd – annibyniaeth yn goblyn o gamgymeriad, ac edrych arni o safbwynt yr iaith? ‘Yes Cymru, no Cymraeg’?

Yn fwgan ym meddwl pawb sy’n meddwl o gwbl am y pethau hyn, mae tynged yr Wyddeleg. Ond o gymharu Iwerddon a Chymru, mentraf feddwl fod yr holl hynt, yr holl stori dros bum canrif, yn wahanol. Ni chafodd Iwerddon ei Salesbury na’i Morgan, ac nid atgyfnerthwyd yr Wyddeleg gan ddeffroadau diwylliannol a chrefyddol o’r math a brofodd Cymru yn y ddeunawfed ganrif.

I ateb pryder S.L., wele ddamcaniaeth. Pwysleisiaf mai damcaniaeth ydyw. (a) Yr amlygiadau gwaethaf o’r PETH yng Nghymru yw agweddau negyddol tuag at y Gymraeg, yn amrywio o ddifaterwch, sef peidio â thraddodi’r iaith ymlaen, hyd at atgasedd eithafol, patholegol. (b) Yn ei gychwyniad, mae’r PETH yn annatod glwm wrth y syniad o golli tiriogaeth, colli rheolaeth, tyst o’r 25 pennod hynny o ‘Lyfr Gildas’, serch nad yw’r rheini’n sôn am iaith o gwbl. Fel yr oedd y Gymraeg yn dechrau ymffurfio, yr oedd syniad, delwedd, wedi ei sefydlu o ryw bobl dan yr enw Britanni fel collwyr. Credodd y Cymry mai hwy oedd disgynyddion y Britanni, etifeddion eu gwarth. Am mai’r Gymraeg oedd yn diffinio’r Cymry, daeth hi yn fathodyn eu cywilydd. Derbyniodd y Cymry ymosodiad Harri VIII arni, a chyda chanlyniadau ehangach a mwy trychinebus wedyn, ymosodiad y Llyfrau Gleision. (c) Pe gorfodid y Cymry gan amgylchiadau i ‘gerdded wysg eu cefnau’ tuag at gymryd cyfrifoldeb a rheoli tiriogaeth, gallai hynny fod yn ymwared rhag Y PETH.

Dyna hi, damcaniaeth. Dim mwy.

Gorffen fory.

Y Cymro a’r PETH (5)

4 Rhag

Meic Stephens yn ei hunangofiant, Cofnodion, sy’n dyfynnu:

● ‘Fel gwetws Harri Webb, mae Cymru’n cerdded wysg ei chefen tuag at annibyniaeth a phawb yn ei alw’n rhywpeth arall.’

Dyma’n hadnod heddiw. Methaf â rhoi llaw ar yr union ffynhonnell y funud hon, ond mae gennyf gof mai ‘marching backwards towards independence’ oedd geiriau Harri Webb.

Sut, pam, ym mha fath sefyllfa y gallwn ddychmygu Cymru’n ‘cerdded wysg ei chefen’ fel hyn tuag at yr hyn y mae wedi arswydo rhagddo cyhyd? Mewn sefyllfa lle bydd amgylchiadau allanol, datblygiadau eraill yn rhywle, penderfyniadau pobl eraill, yn ei gwthio a’i gorfodi i gymryd y cyfrifoldeb hwnnw y byddai’n dda ganddi, o achos y PETH, gael ei osgoi.

Dychwelwn felly at J.R. Jones a diweddglo Prydeindod:

.● ‘Sonia Tillich [sef y diwinydd Paul Tillich] am sefyllfaoedd a fedr weithredu’n seicdreiddiol i ddatgelu neu ddinoethi ideolegau – “ideology unveiling situations”. A oes sefyllfa a dynn y gorchudd oddi ar ideoleg Prydeindod? … Ni welaf argoel y bydd i ddim arall ryddhau ynom yr ewyllys i wrthod dilead ein gwahanrwydd a chychwyn ymchweliad y genedl yn ôl i sicrwydd amdani ei hun. Nid yw’n amhosibl y digwydd rhyw ‘shift’ sylfaenol ym mherthynas Cymru a Lloegr. Gallai Lloegr, er enghraifft, o orfod ohoni gyfaddef o’r diwedd i’w haul fachludo, golli ei gallu oesol i fesmereiddio’r Cymry. Ac fe allasai hynny greu sefyllfa a fyddai’n llafn i drywanu’n ddinoethol at is-ymwybyddiaeth y Cymry.’

A ydym ar drothwy sefyllfa felly? A bwyswyd y botwm ‘anghywir’, h.y. cywir, ar 23 Mehefin 2016? A yw’r Alban bellach, yn rhannol oherwydd pwyso’r botwm hwnnw, â’r moddion i yrru’r llafn adref?

Am y dyfodol, ni wyddom, ac efallai bod darogan wedi’n harwain i’r gors yn y gorffennol – credai Wade-Evans hynny’n gryf. Gwyddom am allu’r Sgotyn i nogio wrth y glwyd, ond rhown gyfle iddo y tro hwn, a gwyliwn rhag ei chawlio-hi drwy gamamseru. Refferendwm dan ‘lywodraeth Plaid Cymru wedi Mai 2021′ (dyfynodau trwm), ynteu refferendwm – os rhaid cael y peth peryglus hwnnw – ar gefn llwyddiant yn yr Alban … os bydd llwyddiant? Beth yw barn arweinwyr Yes Cymru?

Wedi i’r Alban fynd yn annibynnol, neu pan fyddwn yn sicr fod hynny’n mynd i ddigwydd, bydd NATUR Y CWESTIWN yn wahanol. Bydd Deddf Uno 1707 wedi ei diddymu, neu o leiaf ei dirymu; ni bydd ‘Teyrnas Unedig’ yn yr ystyr o wladwriaeth unedol, ond yn unig yn yr ystyr y bydd y Frenhines yn dal i wisgo ei dwy goron etifeddol, coron yr Alban a Choron Lloegr. Byddwn yn dychwelyd felly at ‘Ddeddfau Uno’ 1536 a 1542. Y dewis ar bapur pleidleisio’r Cymro wedyn fydd, nid ‘A ydych am i Gymru fod yn wladwriaeth annibynnol ynteu aros o fewn y Deyrnas Unedig?’ ond ‘A ydych am i Gymru fod yn wladwriaeth annibynnol ynteu aros yn rhan o Loegr?’ Ac i helpu’r pleidleisiwr i ddeall a phenderfynu, gosoder y Ddraig Goch uwchben un golofn, ac uwchben y llall nid Jac yr Undeb ond Croes Sant Siôr. Byddai o hyd gefnogaeth go gref i’r ail ddewis, cefnogaeth ysgubol mewn rhai ardaloedd (Bangor – ‘English me, ay?’), ond gyda’r help hwn i’r deall a’r llygad, efallai, efallai y gwelem y dewis cyntaf yn mynd â hi.

I sicrhau canlyniad felly byddai angen ANDROS o ymgyrch, i oresgyn arafwch dealltwriaeth y Cymro a’i waseidd-dra, sef Y PETH sydd ym mêr ei esgyrn, i ‘dynnu’r gorchudd oddi ar ideoleg Prydeindod’ chwedl J.R.Jones, i rwbio’i drwyn yn y gwirionedd fod cerbyd Ymerodraeth Loegr – yr Ymerodraeth yr aberthodd ef ei iaith wedi 1847 er mwyn cael bod yn aelod bach teilwng ohoni – bellach ar ei ochr yn y ffos.

Beth fyddai’r arwydd a’r prawf amlwg o hyn? Beth a fyddai’n cyhoeddi gliriaf, i Gymro ac i bawb arall, fod yr ‘haul’ y sonia J.R.J. amdano wedi machlud? Ateb: ymadawiad llongau Trident o’r Alban.

Yn ddiweddar bu tipyn o drafod ynghylch hyn ar y gwefannau Albanaidd. Tipyn o fwmian am ‘fod yn ymarferol’ a gadael iddynt aros rhyw hyn-a-hyn; rhyw sibrydion fod arian mawr iawn i’w gael o rywle am eu cadw, neu eu symud o Faslane i Holy Loch lle bu Polaris ers talwm. Byddai raid i’r Blaid Genedlaethol a llywodraeth Alban annibynnol sefyll yn ei rhych, a dim lol. Ynghlwm wrth yr un mater byddai rheolaeth amddiffyn yr Alban; gwna rhai fôr a mynydd o’r peth, ond ni welaf anhawster: mae’r milwr yn ymladd dros y goron (a fyddai’n goron yr Alban erbyn hynny) ond dan orchymyn y llywodraeth. Dylai Nicola, neu bwy bynnag fydd yno, gael gair bach â chyrnoliaid y catrodau Albanaidd ar y diwrnod cyntaf a gofyn yn garedig i bob un, ‘Wyt ti isio cadw dy job?’

Mae hyn yn allweddol.

Y Cymro a’r PETH (4)

3 Rhag

Yn ôl ambell arolwg diweddar, mae cyfartaledd uwch o bobl yn Lloegr nag yng Nghymru o blaid annibyniaeth i Gymru. Ni ddylai hynny fod yn syndod, a dyma eiriau ein proffwyd heddiw, yr Athro Gwyn A. Williams (Gwyn Alf), yn ei ddarlith radio When Was Wales? (1979) :

● ‘We Welsh look like being the Last of the British. There is some logic in this. We were, after all, the First.’

Ie, tebyg mai’r Brythoniaid, Celtiaid Brythoneg eu hiaith, oedd y bobl gyntaf y gallwn eu henwi i drigiannu yn Ynys Brydain neu’r rhan helaethaf ohoni. Yr oeddynt yma cyn bod yma Rufeinwyr, Gwyddyl na Saeson. (Erys y cwestiwn heb ei ateb, beth oedd iaith y Pictiaid, pobl gogledd yr Alban, ai rhyw fath o Frythoneg ai rhywbeth hollol wahanol.) Ai colli’r tir a wnaeth y Brythoniaid, i beri ein bod ni’r Cymry’n weddill ohonynt? Nage, meddai Wade-Evans. Ie, medd lleisiau’r traddodiad.

Hyd y gwyddom, ‘Dogfen Gildas’, neu yn benodol adran ohoni, sy’n adrodd gyntaf stori’r golled. A’i chrynhoi at yr hanfod, fe ddywed fod pobl a elwir Britanni wedi colli eu gwlad i’r Saeson cynnar am fod Duw yn eu cosbi am eu pechodau. Ailadroddwyd hyn yn eiddgar, ac ychwanegu manylion a ddaeth yn elfennau anhepgor yn y traddodiad, gan Beda, hanesydd mawr y Saeson. Ond erbyn tua throad y nawfed ganrif, yn yr hen Historia Brittonum (Hanes y Brythoniaid), ‘Llyfr Nennius’ fel yr ydym wedi arfer dweud, wele fynd dros yr hanes gyda newid arwyddocaol mewn pwyslais. Do fe fu colled: nid yn gymaint oherwydd pechodau ag oherwydd clamp o gamgymeriad gwleidyddol; ac fe fydd diwrnod ar ôl hwn. Gyda chwedl y Ddraig Goch a’r Ddraig Wen yn delweddu’r cyfan, ceir addewid y bydd y Brython ryw ddydd yn ennill yr Ynys yn ôl. O hyn fe dyfodd yr holl draddodiad darogan y bu’r Cymry yn ei goleddu a’i feithrin am ganrifoedd. I gwblhau’r broffwydoliaeth yr oedd angen Mab Darogan, un wedi ei ddethol i wireddu’r dyhead, ac yn y diwedd fe’i cafwyd mewn rhyw chwarter Cymro gyda gwreiddiau ym Môn, a’i cafodd ei hun yn brif hawlwr ar ran un o’r ddwyblaid yn Rhyfeloedd y Rhos. Mae’r cwbl yn arwain at Faes Bosworth, 1485, a’i holl ganlyniadau tra chymysg a chroes, ond canlyniadau i’w croesawu a’u canmol medd yr holl draddodiad hanes o’r pryd hwnnw allan.

Cwyno’r golled, disgwyl gwaredigaeth, canmol y tro ar fyd pan ddaeth, dyna y bu’r Cymry yn ei wneud mewn cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, ac yn lleoliad neu lwyfan i’r cyfan rhyw Ynys Brydain fwy mythaidd na daearyddol. Defnyddiais yr enw ‘Brytaniaeth’ ar swm yr arferion meddwl hyn, ac fe wna eto am wn i. Ie, ‘ideoleg’ unwaith eto, yn ystyr J.R. Jones i’r gair; ideoleg gafael y Cymro ar Ynys Brydain ddychmygol. Do’n wir, bu ei ffrwythau’n gymysg: hi a roes gychwyniad, fel rhan o ddeffroad y ddeunawfed ganrif, i’r symudiadau a greodd yn y man ein holl sefydliadau seciwlar Cymraeg modern. Y Cymmrodorion, sef cyn-frodorion Ynys Brydain; a Gorsedd Beirdd Ynys Brydain – cofiwn yr enw. O’r tu arall, yn sgil Brytaniaeth, neu fel rhyw eiddew yn glynu wrthi, fe dyfodd yr ail ideoleg, sef y Prydeindod y mae J.R. Jones yn ei enwi a’i ddadansoddi. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd gafael honno mor gryf nes peri camgymeriad ynfytaf ac echrysaf holl hanes y Cymry, dechrau ymwadu â’u hiaith ar archiad y Llyfrau Gleision. Hon fu buddugoliaeth fawr y PETH.

Do fe elwodd y Bobl Arall ar Brydeindod, gan ei ddyfnhau a’i atgyfnerthu drwy ddod, am gyfnod o ryw ganrif a hanner, yn flaenoriaid y byd. Ond y Cymry a’i creodd.

A oes ymwared? Ymlaen yfory.

Y Cymro a’r PETH (3)

2 Rhag

Dau broffwyd o ganol y 1960au sydd gennym heddiw.

● ‘Y Cymro, adnebydd dy Brydeindod,’ anogodd Alwyn D. Rees wrth gloi erthygl allweddol yn Barn, Mawrth 1965. Erbyn Ionawr 1966 yr oedd J.R. Jones, mewn ymateb, wedi cyhoeddi ei ddadansoddiad disglair, Prydeindod.

Hyd heddiw nid oes neb wedi gwrthateb llyfryn J.R. Jones, na hyd yn oed wedi mynd i’r afael ag ef gyda’r bwriad hwnnw. Yn wir, o blith prif Brydeinwyr Cymru oddi ar 1966, ni allaf feddwl am yr un a chanddo’r adnoddau i’w ddeall, heb sôn am ei ddadansoddi a’i wrthbrofi. O’r tu arall, ni allaf feddwl ychwaith am yr un cenedlaetholwr neu wladgarwr blaenorol o Gymro a allodd adnabod y ffenomen Prydeindod yn y fath fodd, ei hoelio, rhoi arni enw. Dywed J.R.J. mai ar batrwm ‘Cymreictod’ y mae ef yn cynnig y gair, sef gair am y ‘syniad neu’r goel fod Prydain yn genedl’. Tybed nad yr agosaf cyn J.R.J. at ddwyn y cywilydd cudd i’r golau ac at roi bys ar y peth yw wyf yma’n ei alw ‘Y PETH’ oedd yr seiciatrydd Ernest Jones mewn ysgrif yn y Welsh Outlook ddechrau’r 1920au, ar ymdeimlad y Cymry o israddoldeb?

Dyma ddetholiad o eiriau allweddol J.R.J.

● ‘O fewn i’r Cymry y mae eu gelyn.’

● ‘Y mae dau syniad yn bod am berthynas Prydain â’i phobl. Yn ôl y naill, gwladwriaeth yw Prydain, y drefn lywodraethol, gyfreithiol a gweinyddol y gosodwyd holl drigolion yr Ynys hon dan ei hawdurdod. Eithr yn ôl y syniad arall, yn mae Prydain yn genedl.’

● ‘Canys gwers eglur hanes yw mai gwladwriaeth briod y Saeson yw Gwladwriaeth Prydain. … Nid oes, gan hynny, ar dir Prydain (a chofio ein bod yn eithrio’r Alban) namyn un genedl – cenedl y Saeson.’

(Heddiw, a’r Alban wedi dod i chwarae rhan mor allweddol yn y datblygiad posibl, tybed a fyddai J.R.J. yn dal i ‘eithrio’r Alban’? Cwestiwn damcaniaethol, oherwydd â’r ‘Ynys Brydain’ chwedlonol neu yn wir mytholegol, Lloegr a Chymru, y mae a wnelo Prydeindod; honno oedd yn bwysig, a hi sydd yn bwysig o hyd, o ran tueddbennu meddwl y Cymry.)

● ‘[G]ellid dweud nad yw’r Cymry, ar unrhyw gyfrif ffurfiannol, fymryn yn llai o Bobl na’r Saeson. Eto, o ran cyflawnder ffurfiant, er bod iddynt, fel y caf ddangos, ddichonoldeb cenedligrwydd, cenedl erthyledig ydynt.’

● ‘Ond beth yw’r argyhoeddiad styfnig yma sydd ynom ein bod yn genedl? Tybed nad rhyw arbenigrwydd yn natur y cymundod deuglwm … [d]ichonolrwydd anarferol o gryf i dyfu’n drichlwm a chodi i faintioli cenedl gyflawn?’

(A’r ‘trichlwm’ sydd mor ganolog yn ymresymiad J.R.J.: tiriogaeth, iaith, gwladwriaeth.)

● ‘Ac i greu’r ewyllys y mae’n rhaid i’r dichonolrwydd ffurfiannol droi yn ddichonolrwydd ‘gweithrediadol’. Rhaid i’r Bobl ymglywed â’u gwahanrwydd ac â’r gwarth a’r golled a fyddai o ganiatáu ei fwydo allan o fod.’

(Byddwn yn ychwanegu un peth yma, peth pwysig iawn. Ymdeimlo â’r ‘gwarth a’r golled’ o fod wedi methu, ie; ond cyn bwysiced, yn bwysicach ddywedwn i, gallu dychmygu’r HWYL o fod wedi llwyddo. Bu hyn yn absennol o’n plith ni Gymry ers tro byd. A yw’n dechrau ailfrigo? A yw Yes Cymru wedi pwyso rhyw fotwm?)

● ‘Daliaf fi y gellir olrhain y ddeubeth hyn – perswâd treisiol y goel mai Prydain yw ein cenedl, a natur fileinig y gwrthgymreigrwydd – i’r un guddfan ddofn yn isymwybyddiaeth y genedl. Eithr gan ddyfned y guddfan, y mae’n rhaid ‘ceibio’ amdani.’

(Un cwestiwn bach? Onid ‘isymwybyddiaeth y Bobl, er mwyn cysondeb?)

● ‘… [Y]r esboniad ar y Cymry gwrthgiliedig sy’n casáu’r Gymru Gymraeg yw mai bodolaeth ei gwahanrwydd hi a saif rhyngddynt hwy ag ennill hunaniaeth Seisnig. … Fe dry’r seithugiad hefyd yn ymroad diymwybod i gynnal a chwyddo a lledaenu’r goel fod i Brydeindod sylwedd cenedligol y medr Cymro a Sais gyfranogi’n gyfartal ynddo. Ac y mae modd enwi’r math hwn o futholeg – y math diymwybod a goleddir i’w dibenion partïol hwy eu hunain gan ddosbarth arbennig o bobl, eithr nad oes sefyllfa real yn cyfateb iddo. Yr enw a roir arno yw ideoleg.’

Yma, tt. 39-40, y mae’r colyn y try dadl Prydeindod arno. Y mae dylanwad Marxaidd ar y diffiniad o ‘ideoleg’, ac o hyn i’r diwedd cyrcha ymdriniaeth J.R.J. at y cwestiwn ‘A oes obaith torri gafael yr ideoleg ar feddyliau’r Cymry?’

Down yn ôl at J.R. Jones. Gwelaf hi’n amhosibl rhagori ar ei ddadansoddiad ef o wreiddiau seicolegol Prydeindod ac o’i effeithiau fel ideoleg. Yr hyn nad yw ef yn ei drafod yw ei darddiad a’i ffurfiad hanesyddol: nid yw hynny’n annilysu dim ar yr ymresymiad, oherwydd ymresymiad ar y gwastad athronyddol, rhesymegol ydyw. Ond mae’n iawn ac yn bwysig inni fynd ymlaen a gofyn; sut y tarddodd ac yr ymffurfiodd Prydeindod mewn hanes? Pwy a’i creodd? At hynny yfory.

Y Cymro a’r PETH (2)

1 Rhag

Yn ’79 ac yn ’97, ac ar bob achlysur arall pan fuom yn trafod ymreolaeth, a mwy ohono, ni chlywais am NEB yn dweud NA gan gyfeirio at rybudd S.L. Fotio IE wnes innau, er llwyr gytuno fod ‘yr iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth’ pe dôi yn fater clir o ddewis rhyngddynt. A oeddem i gyd yn iawn?

Ein proffwyd heddiw yw’r offeiriad a’r hanesydd A.W. Wade-Evans, a dyma’r adnod:

● ‘Ni ddaw gwir atgyfodiad byth i Gymru nes iddi gael ail afael yn y gwir am ei tharddiad.’

Tipyn o foi oedd Wade-Evans (1875-1964), ac mae ganddo’r gallu o hyd i darfu colomennod gyda’i ddehongliadau o hanes Prydain ôl-Rufeinig ac o darddiad y Cymry. A chrynhoi at yr asgwrn, cenhadaeth Wade-Evans mewn llu o erthyglau a llyfrau dros yrfa hir oedd gwrthateb y gred draddodiadol, dderbyniedig a ‘swyddogol’ mai pobl yw’r Cymry wedi eu geni mewn fföedigaeth fawr i’r Gorllewin o flaen cyrchoedd diatal yr Eingl-Saeson yn y bumed a’r chweched ganrif O.C. Pobl wedi ei gwadnu hi, wedi gollwng gafael, wedi colli cyn cychwyn? Os daliwn i gredu hyn, medd W.-E., byddwn yn dioddef dros byth gan deimlad o israddoldeb, sef Y PETH a fu’n llestair arnom ar sawl achlysur yn ein hanes ac sydd felly o hyd.

Ble, a sut, y dechreuodd y gred hon, a’r stori a’i creodd? Mae Wade-Evans yn gosod y bai yn deg ar un ddogfen, sef ‘Dogfen Gildas’ fel y mae Iestyn Daniel yn dewis ei galw yn ei olygiad a’i gyfieithiad newydd ohoni. Nid ar yr holl ddogfen ychwaith, ond ar ran neilltuol ohoni, sef penodau 2-26, sy’n amcanu crynhoi hanes Ynys Brydain hyd at adeg eu hysgrifennu. Daliai W.-E. ymhellach nad gwaith y gwir Gildas, y proffwyd a’r diwygiwr o ganol y chweched ganrif, mo’r 25 pennod hyn, ond ychwanegiad, gwaith rhyw awdur arall, anhysbys, diweddarach.

Daliwn i ystyried y dadleuon, a daliaf yma i grynhoi’n llym. Yn wrthateb i stori fawr y fföedigaeth, mae W.-E. yn cynnig stori gwbl groes. Gwêl ef nid gweithred o encilio, ond gweithred o ddal gafael, a oedd hefyd yn weithred o ddewis diwylliannol-wleidyddol, sef dal gafael yng ngwaddol Rhufain fel yr oedd llywodraeth Rhufain ym Mhrydain yn dod i ben. ‘Nid oedd pobl Cymru erioed wedi eu hadnabod eu hunain fel pobl cyn i hynny wawrio arnynt mewn amgylchfyd Rhufeinig. Yr oeddynt eisoes yn Rhufeiniaid cyn sylweddoli mai Brythoniaid oeddynt.’

Fel pawb erioed sydd wedi astudio Prydain Rufeinig ac ôl-Rufeinig, y bobloedd a’u perthynas, pwysleisia W.-E. ddaearyddiaeth, gan ein hatgoffa drwy’r amser o’r llinell letraws sy’n gwahanu ‘tir uwch’ Cymru a Lloegr oddi wrth y ‘tir is’, y llinell sy’n rhedeg yn fras o ogledd-ddwyrain i dde-orllewin, o dyweder Caerefrog hyd dyweder Caer Wysg. I’r de a’r dwyrain o’r llinell, buasai llywodraeth a phresenoldeb sifil Rhufain yn sefydlog am dair canrif; yr ochr arall i’r llinell, milwrol yn bennaf oedd y presenoldeb, a’r llaw am hynny’n ysgafnach mewn rhyw ystyr, y sefydliadau a’r bywyd Rhufeinig yn llai trwchus ac am hynny’n llai o faich ar y Brythoniaid. Am y rheswm hwnnw – W.-E. sy’n ymresymu – pan ddaeth diwedd ar Ymerodraeth Rufain, trodd pobloedd y de a’r dwyrain yn gryf yn ei herbyn gan ochri â ‘barbaria’, ond gallodd pobloedd y gogledd a’r gorllewin ddewis yn wahanol gan ochri â ‘Romanitas’.

Mae ystyriaethau o blaid y ddamcaniaeth uchelgeisiol hon, ac yn bennaf ohonynt parhad di-dor Cristnogaeth ar ‘yr ochr hon’ o ddyddiau’r Ymerodraeth, fel na bu raid ail-Gristioneiddio’r Cymry cynnar fel y gwnaed â’r Saeson. Ond digon o dystiolaeth, digon o garn i’r dehongliad mawreddog hwn o’n cychwyniad ni fel pobl? Rywsut, nid wyf erioed wedi gallu credu hynny.

Nid yw hyn yn annilysu ‘dadl y ddau Gildas’ ynghyd â’r modd y mae W.-E. yn dehongli’r 25 pennod ‘hanesyddol’ gan weld ynddynt ddechrau’r drwg, dechrau’r PETH sydd bellach bron wedi’n gorffen.

Pawb sy’n meddwl o ddifrif am hanes y Cymry ac am yr esblygiad sydd wedi arwain at ein sefyllfa heddiw, caiff fudd o fynd at lygad y ffynnon drwy ddarllen y golygiad newydd Llythyr Gildas a Dinistr Prydain. Ac efallai y caiff rhywbeth o’m dwy ysgrif i yn Y Faner Newydd, rhifau 90 a 91.

‘Y gwir am ei tharddiad’? Y Cymry – pobl wedi colli Ynys Brydain? Anwiredd medd Wade-Evans. Ond gwir neu anwir, fe barhaodd y gred, gan wneud yn bosibl BRYDEINDOD.

Ymlaen yfory.