Archif | Chwefror, 2024

Holi dau ymgeisydd

25 Chw

GOLWG wedi gosod rhes o gwestiynau i Vaughan Gething a Jeremy Miles. Dim drwg yn hynny. Ond y cwestiwn mawr yw faint o sylw a gymerir o’r cwestiynau a’r atebion gan y rhai fydd â phleidlais yn yr etholiad hwn, sef pobl nad ydynt fel arfer yn gweld fawr ddim ond ruban coch.

Beth am i ninnau osod ambell gwestiwn pellach i’r ddau ymgeisydd?

Cwestiynau hawdd

  1. A ydych chi o blaid (a) gwell addysg, ynteu (b) salach addysg?
  2. A ydych chi o blaid (a) gwell ysbytai, ynteu (b) salach ysbytai?
  3. Beth fyddai orau gennych chi, ai (a) llai o restrau aros, ynteu (b) mwy o restrau aros?
  4. A fyddwch chi’n cefnogi (a) gwell cyfleon i bobl ifainc Cymru, ynteu (b) llai o gyfleon i bobl ifainc Cymru?
  5. A fyddech chi’n croesawu (a) mwy o adnoddau i Gymru, ynteu (b) llai o adnoddau i Gymru?
  6. A ydych chi o blaid (a) strwythuro yn gyntaf a ffocysu wedyn, ynteu (b) ffocysu yn gyntaf a strwythuro wedyn?

Cwestiynau llai hawdd

  1. Beth fydd eich camau pendant chi tuag at arafu ac yna atal y Mewnlifiad?
  2. Anghofiwch y filiwn yna. Beth yw eich cynllun pendant chi tuag at ddiogelu ac amlhau cymunedau â thros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg?
  3. Wnewch chi addo gohirio codi mwy o dai nes bydd Cymry wedi meddiannu’r stoc o dai sydd ar gael?
  4. A ddywedwch chi ar ei ben, dim un rhawiaid o fwd Hinkley?
  5. A ddywedwch chi yr un mor bendant, dim un atomfa eto yng Nghymru?
  6. Y diwethaf a glywsom, bydd ‘mwy na chroeso’ gan lywodraeth Lafur i longau Trident yng Nghymru. Wnewch chi newid y polisi hwn?

Byddai’n ddiddorol iawn cael yr atebion!

Unrhyw wahaniaeth ?

18 Chw

Marwolaeth Alecsei Nafalni. Enbyd o fyd. Ein Hysgrifennydd Tramor, Arglwydd Cameron, yn gwaredu at y Pwtyn a’i gamlywodraeth. Iawn. Hollol iawn. Cyn belled ag y mae’n mynd …

OND. ’Rhoswch chi … onid oes yna rywun tua’r carchar Belmarsh yna, wedi dihoeni blynyddoedd heb gyhuddiad pendant yn ei erbyn, heb brawf rheolaidd, heb air o dystiolaeth? Ei drosedd, darganfod a datgelu pethau y mae’n iawn ac yn angenrheidiol inni i gyd eu gwybod. Y Starmer yn rhoi sicrwydd fod hyn i barhau. A sicr fod rhai pobl ddylanwadol yn gobeithio na ddaw byth allan yn fyw.

Yn yr Amerig wedyn ‘sleepy old Uncle Joe’, chwedl ei brif wrthwynebydd, wedi cael rhyw ail wynt o rywle ac yn weddol huawdl ar gamweddau ‘Pres’n Pood’n’.

Ac wrth gwrs, nid yw gwasanaethau cudd America erioed, ERIOED, gartref na thramor, wedi mwrdro neb a ystyrid yn elyn i fuddiannau’r Pentagon a’r glymblaid filwrol-ddiwydiannol.

Nid yw’r CIA, mwy nag MI5 ac MI6, BYTH yn targedu unigolion. Ddigwyddodd ‘Diwrnod Fred West’ ddim.

‘Achub Prydain’

16 Chw

Tori Coch, Tori Glas, Tori Glasach – dyna’r tri a wnaeth dipyn o sôn amdanynt neithiwr. Fawr o ddiddordeb yn y lleill.

Pobol ‘isio newid’. Beth am drio’r Gwyrdd? Ond na, dim byd. Apwyntiad doctor? Ambiwlans? Dyddiad ysbyty? Troi at Lafur? Ond at bwy trown ni yng Nghymru?

Rhyw bethau fel’na. Ond at y ffigurau. Yn Wellingborough cafodd Llafur 107 o bleidleisiau’n fwy na’r tro o’r blaen (Etholiad Cytffredinol 2019). Yn Kingswood cafodd 5,316 yn llai na’r tro o’r blaen. Dim arwydd o ryw ddylifo mawr at y Tori Coch. Yn hytrach, trai ar y Tori Glas, ac yn Wellingborough y Glasach yn mynd â thamaid oddi ar y Glas hefyd.

‘Reform UK’. Ei chenhadaeth, meddai hi, ‘achub Prydain’. Ac fel cyfraniad at hynny, joch o hen ffisig Enoch Powell ers talwm, llai o bobol dduon.

Nage wrth gwrs, eu gwir offeryn NHW, y Sefydliad, er mwyn ‘achub Prydain’ yw Llafur, a’r ffordd o’i hachub hi, yn ôl eu dealltwriaeth NHW, yw mynd â seddau oddi ar Blaid Genedlaethol yr Alban a rhwystro annibyniaeth y wlad honno. Oherwydd ystyr ‘achub Prydain’ iddyn NHW, yw achub hoff beth Carwyn a Nia Niwcs, sef Trident, ac achub drwy hynny yr unig statws sydd gan Loegr bellach yn y byd, sef bod yn gynrychiolydd America yr ochr hon i’r dŵr.

Y Tori Glas wedi mynd i’r pŵd ac yn ymatal, dyna a welsom ni ddoe, gyda chanrannau difrifol o isel yn pleidleisio (38% a 37.1%). Yn Rutherglen dro yn ôl, y Glas yn rhoi hwb i’r Coch, a’r Cenedlaetholwyr wedi llyncu mul. Rŵan Dorïaid yr Alban, pan ddaw’r pleidleisio mawr yna, byddwch driw i’ch plaid eich hun. A chefnogwyr Annibyniaeth, codwch o’ch gwlâu.

Ac ar drothwy’r etholiad, tybed a welwn ni Heddlu’r Alban yn datgelu faint o gyrff a gafwyd yng ngwaelod gardd Nicola ar Ddiwrnod Fred West? Bellach dyma rai o’r blogwyr Albanaidd a’u hymatebwyr yn sôn yn agored am ran debygol Gwasanaethau Cudd Prydain yn y ffars honno – peth yr oedd yr hen flog hwn wedi ei ddweud sawl tro (7 Ebrill, 22 Ebrill, 3 Mehefin, 3 Gorffennaf, 22 Awst, 24 Awst, 11 Medi, 6 Hydref, 9 Hydref, 20 Hydref, 3 Rhagfyr y llynedd, a 22 Ionawr eleni).

Ugain milltir yr awr

5 Chw

Da yw clywed galwad am Ddeddf Eiddo eto, gyda ralïau i’w cynnal, gyda thipyn o gefnogaeth ryngbleidiol.

Hen gwestiynau’n gwrthod mynd i ffwrdd.

● I atal y drwg sy’n digwydd, bydd gofyn i fesurau Deddf Eiddo fod yn rhai cryfion iawn. Faint o siawns y bydd llywodraeth Lafur Cymru’n cefnogi mesurau o’r fath? Llywodraeth yw hon nad yw byth yn mynd dros ugain milltir yr awr, oherwydd does dim raid iddi. Gyda’i gafael ar etholaethau eithafol geidwadol Morgannwg a Mynwy does dim raid iddi wneud dim byd. Ac am Blaid Lafur Brydeinig Syr Anysbrydoledig, cawn anghofio’r ugain milltir hefyd: plaid y gêr ôl yw hon, gyda’r amcan o fod yn fwy Torïaidd na’r Tori.

● Beth yw cynllun Deddf Eiddo Plaid Cymru bellach? Gawn ni wybod y manylion? Pa fesurau y bydd P.C. yn mynnu eu cael cyn cefnogi Llafur am dymor eto? O ran hynny, sut na byddai P.C. wedi sgriwio Deddf Eiddo allan o Lafur ymhell cyn hyn yn gyfnewid am dipyn bach o help? Tynnu’ch coes chi, siŵr iawn! Oherwydd dyma blaid nad oes ganddi bellach ddim byd i’w ddweud am ddim byd o bwys.

● Meddwl am ddwy slogan.

(1) ‘NID YW CYMRU AR WERTH.’ Nid oedd y slogan hon yn wir pan glywyd hi gyntaf, ddegawdau’n ôl, oherwydd yr oedd Cymru ar werth bryd hynny, a thrwy’r amser wedyn. Heddiw, peryg fod yr hen slogan yn wir, neu yn agos iawn at fod, canys y mae’r cyfan wedi mynd.

(2) ‘HAWL I FYW ADRA.’ Does neb yn gwarafun i bobl ifainc Cymru fyw adra. Nhw sy isio mynd. Sgrialu a sgidadlo am eu bywydau cyn belled ag y medran nhw, sef gwedd ar broblem fwy eto, hunanddinistr y dosbarth proffesiynol Cymraeg. Pwy sy â’r ateb?

● Codi mwy o dai? Mwy o fewnlifiad, felly mwy o bleidleisiau unoliaethol. Mae Llafur yn deall y gêm yn iawn. Ydi Plaid Cymru’n deall, ac yn arbennig y cynghorau sy dan ei rheolaeth?

● Ac am bolisi cynghorwyr Gwynedd o gosbi brodor sydd ag ail eiddo yn ei fro, a thrwy hynny’n gwneud rhywbeth BACH BACH tuag at atal y llanw, ni fedraf ond dweud eto, dim fôt i chi hogia bach.