Archif | Mehefin, 2019

Rhybudd Ruth

28 Meh

Dyna ni, mae gan Frigâd y Gwalltiau Gleision a llymeitwyr y clybiau Ceidwadol ryw dair wythnos eto i wneud eu dewis. ‘Etholaeth gyfyng’, fe glywyd dweud, ond fel yr wyf wedi sôn o’r blaen dyma’r etholaeth helaethaf o ddigon, hyd yma, ar gyfer dewis prif weinidog Torïaidd. Does dim llawer er pan wneid y dewis gan etholaeth o un, sef y brenin neu’r frenhines ar gyngor yr arweinydd a fyddai’n ymadael, ynghyd efallai â chymeradwyaeth rhyw gylch bychan bach na wyddai neb yn iawn pwy oedd yn cael perthyn iddo – ‘the magic circle’ fel y’i gelwid. Gan y rhain y dewiswyd Syr Alec Douglas Home i olynu MacMillan yn 1963 pan nad oedd ef hyd yn oed yn Aelod Seneddol; bu raid i’r Arglwydd Home, fel Arglwydd Hailsham tua’r un adeg, benderfynu’n sydyn mai fel aelod o Dŷ’r Cyffredin y gallai orau wasanaethu’r wlad!

Y dewis bellach gerbron y ffyddloniaid Ceidwadol? Un ai grinc annifyr neu lembo gwirion. Ond heddiw ar dudalen flaen y papur newydd i, dyma rybudd difrif iddynt gan arweinydd Torïaid yr Alban. ‘Davidson: UK could break up under Johnson’. A dyfynnir Ruth: ‘I want to see him make assurances that it’s not Brexit do or die, it’s the Union do or die.’

A fydd y pleidleiswyr yn gwrando? Na fyddant, os cywir arolwg gan YouGov o blith aelodau’r blaid Geidwadol ar 18 Mehefin.

Yn gofidio os na ddaw Brexit: 68.5%.

Yn gofidio os bydd yr Alban yn ymadael: 31.5%.

Ac yn ôl yr un arolwg, 59% o’r un bobl a fyddai’n poeni pe bai Gogledd Iwerddon yn mynd, dim ond i ni gael y Brexit.

Beth sydd y tu ôl i hyn? Awydd i weld Inglandanwêls mewn perthynas newydd ddedwydd ag Alban annibynnol ac Iwerddon unedig? ‘Go brin’, dywed yr hen sinig yn fy nghlust. Yn hytrach, methu ag amgyffred eto, methu cael eu pennau rownd y syniad, nad ‘Britain’ fydd ‘England’ o’r dydd y bydd yr Alban yn mynd i’w ffordd ei hun.

A dod yn ôl at rybudd Ruth, Bojo amdani felly! Ond hyd yn oed os mai hynny a fydd, hyd yn oed wedyn, a fydd yr Albanwyr yn cydio yn eu cyfle? Gwyddom am eu tuedd i nogio wrth y glwyd … ond tebyg mai gwell i ni Gymry, pobl na welsant mo’r glwyd erioed, yw peidio ag edliw hynny.

Os bydd llanast y dyddiau hyn yn gorfodi etholiad cyffredinol, a’r SNP yn gwneud yn dda iawn, fe ddylai fynd amdani. Nid ‘Indyref 2′ ond Datganiad Annibyniaeth. Mae llawer o ymatebwyr y blogiau Albanaidd yn annog hyn. Ac fel yr wyf wedi dweud droeon o’r blaen, gadewch i’r ochr arall weiddi am refferendwm.