Archif | Mawrth, 2023

Cawn weld …

27 Maw

Nefoedd fawr, dychmygwch y disgwyl a’r dyfalu a’r diddordeb byd-eang a fyddai petai heddiw’n ddiwrnod dewis Prif Weinidog Cymru !!

Ond pnawn yr Albanwyr oedd hi’r pnawn yma. Rywsut, canlyniad annisgwyl, gyda’r polau bron o’r cychwyn yn rhoi Kate Forbes yn ffefryn y blaid, a mwy fyth yn ffefryn y cyhoedd, gyda’i golygwedd fwy traddodiadol ar bethau fel priodas a theulu. Gwn y bydd ambell un o’r blogwyr Albanaidd yr wyf yn eu dilyn yn grac iawn ac yn darogan gwaeau o bob math. Ac yn wir, os yw aelodau’r SNP wedi gwneud y dewis anghywir dyna hi ar ben arnom ninnau Gymry.

Bydd rhai yn hapus o ddeall y gall Plaid Werdd yr Alban yn awr aros yn ei chlymblaid â’r Blaid Genedlaethol, gan sefydlogi’r mwyafrif dros annibyniaeth – mewn egwyddor o leiaf – yn Senedd Holyrood. Ond rhaid yw gofyn, i ble arall y gallasai’r Gwyrddion fynd, hyd yn oed pe na baent yn hapus ag arweiniad yr SNP?

Pa lwybr a ddewisa Humza Yousaf tuag at annibyniaeth, a bwrw ei fod am ddilyn llwybr felly o gwbl, disgwyliwn gael clywed yn o fuan. Mi drafodais o’r blaen sut y gallai’r sefyllfa gyfansoddiadol effeithio ar hyn, yn wir sut y gallai bennu’r canlyniad. Oherwydd cofiwn: yn yr Ail Ryfel Byd yr oedd pob milwr Prydeinig dan lw ac adduned i Siôr, ond dan orchymyn Churchill. Fe ddylai bellach fod sefyllfa lle byddai’r holl gatrodau Albanaidd, a chyda hwy hefyd holl blismyn yr Alban, dan adduned i Siarl III fel brenin yr Alban, ond dan orchymyn prif weinidog yr Alban. Hyn ar gyfer diwrnod cau Faslane, sef yr hyn a fyddai’n graidd y cyfan. Hynny yw, fe ddylid ei gwneud hi’n amhosib defnyddio’r Gordon Highlanders a’r Black Watch yn erbyn llywodraeth yr Alban. Oes rhywun o blith y cenedlaetholwyr wedi meddwl am hyn, gydag ond ychydig dros fis tan y Coroni yna y mae pawb mor dawel ac mor ymddangosiadol ddifater yn ei gylch?

§

Do bu ymddiswyddiad Nicola braidd yn annisgwyl. Ond tueddaf at feddwl iddi ddewis yn ddoeth, penderfynu na allai hi wneud dim mwy ar hyn o bryd, ac ymadael heb fod dan unrhyw bwysau. Os cyfyd angen De Gaulle ryw ddiwrnod, mae’n debyg y bydd hi’n dal o gwmpas.

Feirdd, sefwch yn y bwlch !

17 Maw

Streiciau a sôn am streiciau, a hynny am resymau hollol ddealladwy hefyd y dyddiau hyn.

Streic arall? Beth amdani, feirdd a phrydyddion Cymru?

Newydd glywed am benderfyniad awdurdodau Eisteddfod Llangollen i ‘gydweithio â bardd’ er mwyn cael arwyddair newydd yn lle cwpled T. Gwynn Jones. Feirdd, sefwch yn y bwlch. Peidiwch â gwneud dim i hyrwyddo’r ffwlbri ofnadwy yma sy’n tarddu o benglogau pobl ddigywilydd a di-ddallt.

‘Google Translate’ wir ! Fe ganodd bardd mawr o Gymro o’i galon gan roi arwyddair cynnes ac addas sydd wedi gwasanaethu ac wedi ysbrydoli hyd y dydd hwn. Oes unrhyw brydydd heddiw’n meddwl y gall wella arno?

A beth am ddatganiad cryf gan Gymdeithas Barddas?

Camgymeriad William Morgan

14 Maw

Clywed fod awdurdodau Eisteddfod Llangollen yn mynd i ystyried cwestiwn aruthrol o bwysig fory, sef a ddylid newid geiriau T. Gwynn (wps!) Jones o fewn arwyddair yr ŵyl, ‘Byd gwyn fydd byd a gano …’.

Yr hen William Morgan wedi ei methu hi welwch-chi, ac mae’n hen bryd diwygio’r bumed bennod yna o Fathew:

Neis iawn eu byd y tlodion yn yr ysbryd …

Cŵl eu byd y rhai addfwyn …

Smashing eu byd y tangnefeddwyr …

Gwylied awduron eraill hefyd. ‘Pam fod eira yn ddymunol dros ben?’ (D.I.) Gwleidyddol Gywir Tomos (Daniel Owen), Mentra Aml-ddiwylliannol (Ceiriog), Madam Ryng-ethnig (W.D. Owen).

  • * *

Ond gwamalrwydd o’r naill du. O ddifri calon ac yn enw pob synnwyr a rheswm, pwy sy’n mynd i roi stop ar y nonsens ofnadwy yma?

Datgan Teyrngarwch

9 Maw

Darllen fod yna gyfarfod pwysig ofnadwy’n cael ei gynnal heddiw yn neuadd ddawns Palas Buckingham. Mae’r brenin wedi gwahodd saith ar hugain o sefydliadau a chyrff cyhoeddus, ‘cyrff breintiedig’ (privileged bodies) yn ôl y disgrifiad swyddogol, i gyflwyno ‘anerchiad teyrngar’ i ben y wladwriaeth yn bersonol (loyal address to the sovereign in person), ac i dderbyn diolch ganddo yntau mewn geiriau dethol wedyn. Mae’r 27 i fod yn sefydliadau ‘diwylliannol arwyddocaol sy’n adlewyrchu cymdeithas amrywiol y D.U.’

Pwy sy wedi eu gwysio felly? Yn eu plith mae Corfforaeth Llundain, Banc Lloegr, Y Gymdeithas Frenhinol, Eglwys Loegr ac Eglwys Rufain ym Mhrydain. Rhyfedd yw’r olaf: onid i’r Pab y mae teyrngarwch pob Pabydd? Beth oedd yr helynt hwnnw yn yr unfed ganrif ar bymtheg hefyd? Dim gwahoddiad i Dystion Jehofa nac Undeb yr Annibynwyr? Mae yno rywbeth na chlywais erioed amdano o’r blaen, ‘The Military Knights of Windsor’. (Nhw ydi gwŷr y Gwragedd Llon o’r un lle?) Dim sôn am Feibion Glyndŵr na Gorsedd y Beirdd? Yna byd addysg: prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, a phedair o brifysgolion yr Alban. Beth am yr hen Brifysgol Cymru?

Sy’n dod â ni at gwestiwn o bwys. Ydi ei Fawrhydi y Brenin yn cofio’i fod yn dal yn Ganghellor ar y Brifysgol, hynny sy ar ôl ohoni? Yn sicr doedd o ddim yn cofio yn 2007 pan lwyddodd gelynion y Brifysgol ffederal o’r diwedd yn eu hen fwriad o’i dinistrio. Gwaith canghellor prifysgol yw amddiffyn safle a braint y sefydliad dan ei ofal. Faint o hynny wnaeth Siarl pan oedd ei angen? Affliw o ddim byd. Beth yw gwerth ‘teyrngarwch’, ‘llw’, ‘adduned’ mewn byd fel hyn?

Fel y bydd rhai ohonoch yn cofio efallai, nid yw’r hen G.A. yn wrth-frenhinol o ran egwyddor. Mi ddywedais dro yn ôl fod rhaid cael rhywbeth i bobol wirion weithiau. Ond wir-ionedd, mae yna du hwnt i wirion, ac mae rhywun yn dechrau cael amheuon ynghylch rhagolygon y frenhiniaeth hon.

Ys gwn i …?

6 Maw

Wn i fawr o hanes y Gynhadled Wanwyn sy newydd ddod i ben, ond mi glywais am yr alwad am i’n Gweinidog Iechyd gael yr hwi. Dyma enghraifft o ‘fynd trwy’r mosiwns’, galwad a wnaed gan wybod yn iawn na chaiff ei gwrando.

Yr oedd pethau ffitiach, h.y. nes adref, y gallasai’r cynadleddwyr eu gwneud. Ys gwn i a wnaed y tri hyn?

(1) Gyda Virginia Crosbie A.S., am resymau cwbl ddealladwy, yn mwmian am yr Wylfa unwaith eto, a ailddatganwyd yn gryf a diamwys bolisi gwrth-niwclear Plaid Cymru, gyda siars i’w holl wleidyddion lleol a chenedlaethol gadw ato ar boen eu bywydau?

(2) Tai. Yn lle’r obsesiwn â chodi mwy o dai, peth sy’n sicr o ddwysáu’r broblem, a fabwysiadwyd polisi cynhwysfawr fel bod Cymry’n gallu meddiannu’r tai sydd ar gael? Mae ‘Cynllun Prynu Tai Gwynedd’ yn gychwyn i’r cyfeiriad iawn.

(3) Tai eto, a marc du y tro hwn i Gyngor Gwynedd. Drwy osod y premiwm ar ail gartrefi heb eithrio brodorion, fe wnaed camgymeriad mawr a cham mawr. A ddywedodd y Gynhadledd wrth ei chynghorwyr am ailfeddwl a dadwneud y cam hwn ar unwaith?

Eneiniad

4 Maw

Y newyddion drwg yn dymchwel am ein pennau o bob cyfeiriad – rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd, cynhesu byd-eang, ambiwlansys ar streic, tomatos yn mynd yn brin, y Cymry’n mynd yn brinnach … Ond hwrê, diolch byth, dyma rywbeth i godi’n calonnau y Gwanwyn oer hwn! Na phoenwn felly, mae’r olew sanctaidd yn barod ar gyfer coroni Carlo a Camilla, wedi ei gysegru yng Nghaersalem echdoe.

Reit. Y cam nesaf. Oherwydd y berthynas glos a chynnes rhwng y pâr brenhinol a Chymru, mae’n hollbwysig eu bod yn cael eu heneinio ar y diwrnod mawr ag Oel Morys Ifans. Fel y gosododd Iolo Morganwg i lawr mewn deddf, mae’r hylif bendithiol hwn (y peth gorau at gryd cymalau) i gael ei gysegru ym Mlaenau Ffestiniog, dan lafarganu Gweddi’r Orsedd, gan Archdderwydd Cymru, ac yn bresennol hefyd Batriarch Caersalem a chynrychiolaeth o’r holl gyrff Protestannaidd Cymreig. Ac fel y melyswyd yr olew olewydd yn y Tir Sanctaidd â joch o ddwfr rhosyn ac un neu ddau o bethau eraill, felly mae Olew Morys i gael ei bereiddio â llond ecob o ddiod cyrains duon cartref a llond gwniadur o Win Hors Radish Harri Mul. Wedi hynny bydd y sylwedd sancteiddiedig yn cael ei hebrwng i Abaty Westminster gan ddirprwyaeth gref o’r Urdd, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Dyfodol i’r Iaith a Mentrau Iaith Cymru.

Nid oes angen dweud y fath edrych ymlaen eiddgar sydd drwy Gymru at y ddefodaeth hanesyddol ac ystyrlon hon.