Archif | Awst, 2023

Pwy wnaeth …?

24 Awst

Cwestiwn go wirion yntê. Oes rhywun ohonoch ag unrhyw ddamcaniaeth wahanol, neu amheuon o unrhyw fath?

Mewn unbennaeth fel Rwsia mae’r darlun yn syml. Y Dyn ei Hun yw’r Sefydliad. L’état, c’est moi. Mewn gwlad fel Prydain mae pethau’n fwy cymhleth. Pwy yw’r wir wladwriaeth, neu’r ‘wladwriaeth ddofn’ y soniais amdani dro neu ddau yn ddiweddar? Ac fel yr oeddwn i’n awgrymu, efallai nad yw ei haelodau bob amser yn hollol siŵr pwy ydynt.

Ond, boed yn unbennaeth neu’n fath ar ddemocratiaeth, yn yr un dull y bydd y Sefydliad yn gweithredu pan wêl fygythiad. Sef drwy dargedu unigolion, fel y gwelsom yn y ddau achos amlwg diweddar yn yr Alban. Meddai tudalen flaen y Daily Telegraph heddiw: ‘End of the SNP era is in sight as Labour fortunes turn in Scotland’.

‘Job done’ felly? Cawn weld, cawn weld, ac ‘mae wythnos yn amser hir …’. A gobeithio nad oes neb yn meddwl nad oes a wnelo hyn â ni yng Nghymru. Yes Cymru, rhowch y gorau i sôn am ‘Gymru’n annibynnol ar Brydain’. Ddaw honna ddim. Efallai, efallai, os gwelwn ni ryw ddiwrnod Alban annibynnol, a Lloegr felly heb fedru ymrithio mwy fel ‘Prydain’, y gwelwn ni wedyn y Cymry, ‘y Prydeinwyr olaf’ chwedl Gwyn Alf, yn penderfynu mynd yn annibynnol ar Loegr.

Gan y Gwirion

21 Awst

Dyma ichi osodiad y gall ei ddilynwyr mwyaf brwd a’i wrthwynebwyr mwyaf dicllon gytuno’n llwyr arno: creadur ar y naw ydi’r Trymp. Peth nad yw’n gyfrinach o unrhyw fath yw fod gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn llwgr i’r gwraidd, dan fawd ‘Y Glymblaid Filwrol-Ddiwydiannol’ fel y gelwir hi. Ond bellach dyma Trympyn wedi mynd â hi i ddimensiwn newydd drwy ychwanegu dogn helaeth iawn o beth arall, sef ffars. 

Ond fel y digwydd hi weithiau, o ganol y llwyth mwyaf ofnadwy o lol fe ddaw ambell sylw gwerth meddwl amdano. Alla’ i ddim cofio ai’r Trymp ei hun ai un o’i gefnogwyr ddywedodd y noson o’r blaen sut bydd y Sefydliad yn cwrdd â bygythiad iddo’i hun: ‘ffeindia di’r dyn, mi ffeindiwn ni’r trosedd’. 

Onid oes yma grynodeb perffaith o’r hyn a fu’n digwydd yn yr Alban dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf? Araf yw’r blogwyr Albanaidd i siarad yn blaen am hyn, ac ar ryw olwg gellir deall eu petrustod. Ond ar 9 Awst (‘So what is behind all this?’) dyma Munguin’s New Republic yn ei mentro hi gan ddod yn lled agos at yr hyn a ddywedodd Blog G.A. ar 3 Mehefin a 22 Gorffennaf.

Dau Fab Siop o Fôn

4 Awst

Gerallt Lloyd Evans, Dros y Cowntar (cyhoeddwyd gan yr awdur), £12.00.  Noel Thomas, Sian Thomas ac Aled Gwyn Jôb, Llythyr Noel, Dal y Post. Stori teulu yn trechu anghyfiawnder (Gwasg y Bwthyn), £10.00.

Dyma ddau lyfr sy’n haeddu cylchrediad eang a gwerthfawrogiad arbennig, y ddau awdur yn agos-gyfoedion a chydardalwyr, ac fel mae’n digwydd, yn ddau fab siop.

Fel un a wasanaethodd yn nau broffesiwn yr athro ysgol a’r gweinidog, llwyddodd Y Parchedig Gerallt Lloyd Evans i wneud peth anarferol a bron yn eithriadol yn hanes pobl y proffesiynau, sef byw yn ei gartref, a chartref ei deulu cyn hynny, gydol ei oes.  Camp yn wir. Newidiodd y cartref hwnnw o fod yn ‘Siop Cerrig Ceinwen’ i fod yn ‘Rhosydd’, ac fel rhan o’r broses fe ddatgymalwyd y cownter y bu cymaint o fasnach, o hwyl, o rannu profiad drosto.  Ond fe saif y gyfrol hon yn gofeb i’r bywyd o boptu’r cownter  hwnnw, bywyd y teulu a’r cartref ar un ochr, bywyd bro a chymdeithas ar yr ochr arall. Profwyd colledion mawr, tristwch a chaledi ar y ddwy ochr, ond gwerthfawrogol yw prif gywair y darlun manwl, cynnes a byw a geir yma. 

Y rhan bwysicaf o addysg plentyn yw gwrando ar oedolion yn sgwrsio, ac mae’r fantais hon ar ei gorau mewn lle o fynd a dŵad, megis siop. Yn atgofion Gerallt cyfunir yr iaith lenyddol – ie, â’i thrawiadau Beiblaidd ac emynyddol weithiau – yn y modd mwyaf naturiol a chartrefol ag iaith y byw bob-dydd o boptu’r cownter, nes rhoi inni lyfr sy’n gyfareddol o ran y dull o ddweud, ar wahân i bopeth arall. Ychydig yn ôl wrth graffu ar storïau Tom Parry-Jones, fe hoeliwyd fy sylw o’r newydd gan ei eirfa, a gwnes dipyn o’r ymarfer o ofyn sut y byddem ni yr ochr yma i Fenai yn dweud yn wahanol.  A dyma ni eto: sbiling glas – sbenglas (ng-g), chwelpan  – celpan, siaffar  – sgrapar, jacmor – jacan, regar-ŷd  – rygar-rŷg … ac fel yna ymlaen.  Wrth ddarllen am ‘injan sgrapio rwdins’, cofiaf glywed ‘injan sgrapio falu rwdins’ gan ryw hen ffarmwr, gyda’r treiglo naturiol yn y trydydd gair. Ac wrth ddod at yr ‘het felôr’, ni fedraf anghofio fy nhad yn dyfynnu gair ei fam, fy nain, am honno – ‘het mei lord’.

Trwmgla o annwyd, amgen na da, byth yn ’i th’wllu hi, cetyn isaf y gilbost, dyn gloyw, dim bocha’ bodlon, cysgod cownan, rêl swelan, stejwrs, un cyfa i bawb, daeth yn bwcs arno … a llawer mwy. A bery’r iaith hon yn ystyrlon ar glyw, ai ynteu rhyw Sain Ffagan eiriadurol yw ei lle hi bellach?  Cyfyd y cwestiwn yn ddiosgoi drwy gydol y llyfr, ynghyd â’r cwestiwn ehangach, a ellir cadw, diogelu, unrhyw beth yn y byd ansefydlog sydd inni bellach?   Mor dda y dywedir am bethau sydd ‘… dan glo mewn cyfnod nad oes modd inni mwy ond megis ei orgyffwrdd mewn atgof, tra pery hwnnw.’  Ie, tra pery hwnnw.

Amser sydd ar waith, yr ‘hen sipsi’ hwnnw y dyfynnir gan Gerallt amdano.  Ynghlwm wrtho mae gwe o elfennau, a dyma lyfr sydd wedi gyrru un darllenydd, o leiaf, i feddwl eto am brosesau newid cymdeithasol a’r ffactorau ynddo, ac am y cwestiwn mawr i ba fesur y gellir eu rheoli.  Ar y blog hwn ychydig flynyddoedd yn ôl mi soniais am ‘Y Genedl Goll’ y teimlwn bryd hynny, ac y teimlaf o hyd, iddi ddod i ben gyda throthwy’r 1960au.  (Saif yr hen ysgrif yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda.)  Dyma’r un teimlad, a chadarnhad, gan Gerallt sydd ryw ddarn-genhedlaeth yn iau na mi, ac enwa ef un ffactor a fu o bosib yn bwysicach na’r un arall yn y newid, sef dyfodiad y teledu.

Ond nac anghofiwn, mae yma straeon digrif a chalon-godol hefyd.  Go dda Padi’r ferlen (t. 40)!

Wn i ddim faint o feddwl a roddir i hyn gan gynllunwyr addysg y dyddiau yma, ond mae gan hen a gwir siroedd Cymru a rhai ardaloedd o’u mewn (rhai fwy na’i gilydd mae’n wir) eu llenyddiaeth leol gyfoethog y dylai’r toeau sy’n codi  wybod amdani a mwynhau peth arni cyn dod at ddim arall, neu o leiaf yn gyfochrog â hynny.  Gan Sir Fôn, ac enwi dim ond detholiad, mae Storïau’r Henllys Fawr a Teisennau Berffro, llinellau enwocaf Goronwy, rhai o berlau’r Bardd Cocos, Penillion Omar Khayyâm, Madam Wen, cyfrolau Ifan Gruffydd. Cynhysgaeth ddigymar. A dyma inni lyfr newydd sbon i’w gynnwys gyda hi. Sonia Gerallt am ‘gwr y gawod’: gwelodd yntau gwr byd Ifan Gruffydd, a’i gyflwyno gyda chywirdeb, lliw a theimlad.

*      *     *

Mae yna’r fath beth â mwynhau llyfr, yn yr ystyr o’i werthfawrogi, er i’w stori fod yn boenus ac anesmwythol i’r eithaf.  A rhan o’r gwerthfawrogiad yw diolchgarwch i’r awdur am ddweud yr hyn yr oedd angen ei ddweud ac am ei safiad yn wyneb anghyfiawnder ofnadwy. Felly gyda Llythyr Noel.  Dyma ddychwelyd felly at y mater echrydus a drafodwyd ar y blog hwn droeon o’r blaen (3 Hydref 2020. 19 Ebrill, 31 Mai, 28 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2021, 7 Rhagfyr 2022).

Gŵr o Baradwys yw Mr Noel Thomas yntau o ran tarddiad, wedi ei fagu wedyn yn ardal gyfagos Malltraeth lle roedd ei fam, gwraig fusnes hynod alluog, yn rhedeg dwy siop a thafarn.  Atgofion am fywyd prysur a difyr sydd yn rhannau cyntaf y llyfr, helpu gyda’r busnesion yn hogyn, gweithio wedyn fel postman ac fel postfeistr, dod i adnabod ardaloedd a phobl a sylwi ar fywyd yn ei wahanol agweddau. Yna, ar draws popeth,  daeth y daranfollt a drawodd Noel Thomas ynghyd â saith gant o bobl hollol ddiniwed eraill a’u teuluoedd oll.  A mwyfwy’r sgandal a’r anghyfiawnder gan fod Mr Thomas wedi amau droeon fod rhyw nam ar system gyfrifiadurol y Swyddfa Bost, wedi tynnu sylw’r awdurdodau, ond wedi cael yr ateb celwyddog bob tro nad oedd dim o’i le. Wedi pymtheng mlynedd o frwydro cafwyd rhai camau tuag at gyfiawnder  – ymchwiliad, gwrandawiad Uchel Lys, clirio enwau, rhyw gymaint o iawndal, ond y rhan fwyaf o hwnnw wedyn yn cael ei lyncu gan gostau cyfreithiol. Ond fel y dywed Mr Thomas, nid yw’r helynt ar ben o bell ffordd, ac ni fydd ar ben heb fod ‘rhywun yn rhywle yn atebol am yr hyn a gafodd ei wneud’.

Wrth wraidd y cyfan, beth am atebolrwydd yr uchel-swyddogion?  Eu gwobr hyd yma, taliadau bonws anferth. A gwobr y gyn-brif weithredwraig? Swydd dan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, os gwelwch yn dda.

Bu Mr Thomas yn raslon iawn yn ymatal rhag enwi rhai o’r prif gymeriadau ar yr ochr arall.  Gwyddom enw’r barnwr a ddywedodd ‘take him down’. A yw’r dyn hwn wedi darllen y llyfr eto?  Onid oes rhywbeth prennaidd, dienaid, calongaled ynghylch rhai o bobl y gyfraith yma?  Dyna’r erlynwyr i gyd.  Rhaid eu bod yn gwybod ar ôl ychydig ddyddiau fod rhywbeth o’i le yn ganolog. Ond ymbwyllo yn enw cyfiawnder?  Dim ffiars o beryg, mynd ymlaen, cymryd y pres. Yr amddiffynwyr wedyn.  Rhaid bod enw ar y twrnai a sicrhaodd Mr Thomas, yn hollol anwireddus, mai ef oedd yr unig gyhuddedig, ac ar y bargyfreithiwr anobeithiol â’i gam-gyngor echrydus. Fel y cannoedd cyfreithwyr eraill ledled y wlad, fe elwodd y rhain yn fras ar yr annhegwch, ac mewn byd cyfiawn byddai’n rhaid iddynt dalu, ac yn  helaeth hefyd, tuag at iawndal. Byddwn ninnau ar ein gwyliadwriaeth rhag ofn inni ddigwydd rhoi busnes i ambell un ohonynt  A rhaid bod rhif ac enw hefyd ar bob un o’r plismyn a lusgodd Mr Thomas o’i wely ryw noson i wirio ei fod yn gwisgo’r tag felltith. A’r archwilwyr ariannol a ddechreuodd yr helynt ag ymosodiad haerllug ar gartref Mr Thomas. Pryd mae’r rhain yn mynd i dalu?  Ychwanegwn atynt y swyddogion carchar oedd yn atal llythyrau Cymraeg. Dyma inni res o ymgeiswyr cryf iawn am le yn Oriel y Taclau pan agorir honno.

Dadlennol yw rhestr y bobl gyhoeddus a ddaeth â chefnogaeth bersonol. Ac eithrio Eurig Wyn yr A.S. Ewropeaidd, a’r Cynghorydd Bessie Burns, ni chlywyd fawr ddim o lais y Blaid yr oedd Mr Thomas yn gynghorydd yn ei henw. Hyd y gwn i nid yw hi eto wedi dweud dim fel plaid am y mater, nac am y mesurau y byddai hi’n eu hargymell i iawnhau’r cam. Chware teg i Albert Owen A.S., ac i’r cynghorydd Ceidwadol Goronwy Parry. Fe ddechreuodd  y Daily Mail ymgyrch yn y man.  Annisgwyl efallai?  Ond fe ddigwydd weithiau fod y Dde yn iachach a pharotach na’r Chwith ar rai materion o hawliau sifil.  A beth am hynny sydd gennym o wasg Gymraeg?  Adroddiad neu ddau wrth fynd heibio efallai, ond dyma fater oedd, ac sydd o hyd, yn gofyn ymgyrchu a dyrnu rheolaidd nes dwyn barn i fuddugoliaeth.  A oes rhywbeth ar ôl o’r gydwybod radicalaidd a fu’n gydymaith i’r  wasg Gymraeg dros genedlaethau?  Llyfr sy’n deffro cynddaredd yw hwn, ac mae angen llyfrau felly weithiau. Pawb ohonom sy’n malio rhywbeth am gyfiawnder, rydym dan ddyled fawr i Noel Thomas am adrodd yr hanes, i’w ferch Sian am ei chyfraniadau ac am ei holl waith fel ymchwilydd ac ymgyrchydd di-droi’n-ôl drwy’r blynyddoedd, ac i Aled Gwyn Jôb am roi’r cyfan wrth ei gilydd.  Go dda Sian hefyd am afael yn llabedi côt y bargyfreithiwr a rhoi sgrytiad iawn i’r pwdryn diffaith.