Archif | Mai, 2022

Dau gam mawr yn ôl

21 Mai

● BUDDUGOLIAETH PWTYN. Pe bai – ac O na bai! – y Pwt yn cael ei symud ymaith yfory, neu gwell fyth heddiw, un ai i garchar neu i uffern, bydd yn gadael ar ei ôl un fuddugoliaeth fawr. Beth yw honno? Bod Sweden a’r Ffindir, gyda’u cais i ymuno â NATO, yn barod i roi heibio’r niwtraliaeth y maent wedi ei chadw a’i chynnal drwy oes pawb ohonom sy’n fyw. Colled fawr i’r byd, ac i Ewrop yn arbennig, yw bod y gwledydd llwyddiannus hyn yn mynd dan fawd America. Ac edrych arni yn y tymor byr, gellir maddau i wledydd y Baltig (Latfia, Lithwania ac Estonia), ac i Wlad Pwyl hefyd, am eu brys i gynghreirio ag unrhyw un heblaw Rwsia; ond a chymryd golwg ehangach, anodd meddwl na buasai band o wledydd niwtral ar draws Dwyrain Ewrop yn fodd i rwystro’r trychineb a’r hunllef sydd yn awr. Diau fod y breuddwyd am ‘Rwsia Fwy’, ac adfer hen ymerodraeth Stalin a’r Tsar, ym meddwl y dihiryn Bondaidd gwallgo Pwtyn drwy’r adeg: ond beth sydd wedi ei gymell i weithredu eleni, wedi rhoi’r esgus iddo? Heb unrhyw amheuaeth, anogaeth NATO ar i’r Wcrain ymuno â hi.

● NEGES NONSENS NICOLA. Anesmwythol braidd yn hanes ymweliad Nicola Sturgeon â’r Capitol a mannau eraill yn America yr wythnos diwethaf. Nancy Pelosi’n canmol Nicola fel ‘a real model for women everywhere,’ – iawn, y math o beth y bydd gwleidyddion yn ei ddweud wrth ei gilydd. Ond beth am sylwadau Nicola mewn ateb? (a) ‘We stand together as nations in defence of those values we hold dear.’ Wir-ionedd, a oedd Nicola’n golygu wrth hyn fod yr Alban, yn union yr un fath ag Unol Daleithiau’r Amerig, yn wladwriaeth wedi ei chreu drwy ladrad a hil-laddiad ar bobloedd frodorol, yn cael ei rheoli gan glymblaid ddiwydiannol-filwrol, yn sefydlu a chynnal unbenaethau adain-dde ble bynnag y mae ganddi ddylanwad, yn ymladd rhyfeloedd ofer a chostus ym mhob cwr o’r byd – a’u colli bob tro? (b) ‘Scotland and the United States are long-standing friends and allies.’ Mae hyn yn fater mwy sylfaenol. Dim ond gwladwriaethau sofran all fod yn ‘gynghreiriaid’; ni all pobl an-sofran fod mewn cynghrair â neb. Daeth America’n wladwriaeth yn 1776, ond roedd yr Alban wedi peidio bod yn wladwriaeth ers 1707. Achos braidd yn wahanol yw Iwerddon, sydd wedi cyfoesi ag America fel gwladwriaeth am gan mlynedd; yma eto nid yw ‘cynghreiriaid’ yn berthnasol, ond gellir sôn yn fwy cyffredinol am ‘gyfeillgarwch’ gan y bu gan y Gwyddel bresenoldeb gwleidyddol yn America, peth na bu gan yr Albanwr erioed, mwy na’r Cymro druan.

Gan ddyfnhau’r amheuaeth, dyma un neu ddau o wleidyddion yr SNP yr un wythnos yn dechrau mwmian am roi ychydig o amser, ‘transition period’ cyn i longau Trident adael yr Alban. Roeddwn yn methu coelio fy nghlustiau ddoe wrth glywed Ian Blackford yn sôn am ddealltwriaeth ar y mater hwn rhwng Alban annibynnol a ‘Phrydain’ ! A oes eisiau atgoffa Arweinydd San Steffan yr SNP mai ystyr ‘Prydain’ yw’r wladwriaeth unedol sy’n bod ers 1707, ac na bydd yn bod o’r foment y bydd yr Alban yn ymadael? (Peth gwahanol yw bod y Freninhes a’i holynydd yn dal i wisgo’r ddwy goron, ond cofio cywiro’r ymadrodd yn ‘Teyrnasoedd Unedig’, ‘United Kingdoms’ pan fydd angen.)

Fel rwyf wedi rhesymu o’r blaen, mae gan hyn, mater Trident, ymhlygiadau gyda’r pwysicaf i Gymru, ac i’r Gymraeg yn benodol. Mawr yw cyfrifoldeb CND yr Alban i gynnal a chynyddu’r pwysau oddi mewn i’r Blaid Genedlaethol. Mwy yw cyfrifoldeb a chyfle Plaid Werdd yr Alban, i ddymchwel ei chynghreiriau â’r SNP yn Holyrood ac yng Nghyngor Dinas Glasgow os bydd unrhyw wamalu pellach ar y cwestiwn hwn.

Cwricwlwm newydd cyffrous (diweddariad)

13 Mai

Ydi, mae’n argyfwng gwirioneddol ar adrannau Cymraeg ein prifysgolion, gyda’r cwymp erchyll yn niferoedd disgyblion Lefel-A Cymraeg. I arbed nifer o swyddi rhaid gweithredu ar frys gydag ateb ôl-fodernaidd ac ôl-strwythurol gan ffocysu ar seilweithiau rhyng-ddisgyblaethol a heb anghofio’r deilliannau cymhwysedd digidol a’r continwwm dysgu, ac ar yr un pryd datblygu’r capasiti synergedd a metawybyddiaeth ddisgresiynol.

Yr ateb felly? Cwricwlwm newydd cyfoes a CHYFFROUS yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:

● Cymhariaeth estynedig rhwng Un Nos Ola Leuad (Caradog Prichard) a ‘Bob Nos Ola Leuad’ (Eifion Wyn).

● Astudiaeth gymharol o’r testunau hyn:

Rhys Llwyd y Lleuad (E. Tegla Davies)
Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi? (Ceiriog)
I See the Moon (Billy Cotton and his Band)
Hen Leuad Wen uwchben y byd (J. Glyn Davies)
Cân Rwsalca i’r Lleuad (Dvorak)
Carolina Moon (Connie Francis)
The Moon and I (W.S. Gilbert)
On Moonlight Bay (Doris Day)
Moonlight Sonata (Beethoven)
Lleuad Ebrill, lliw dybryd (Gruffudd Gryg)
Overhead the moon is beaming (Mario Lanza)
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc (Eifion Wyn, eto)
Shine on, Harvest Moon
Moonlight in Mayo
Moonlight and Roses
Moonlight Serenade (Glenn Miller)
Moonlight becomes you, it goes with your hair
Moonlight, moonlight, jolly fine moonlight
Give me the moonlight, give me the girl
By the light of the silvery moon
Alleghany Moon
Dark Moon
Moon River
Moonbeams
When the moon comes over the mountain
Blue moon, you saw me standin’ alone
It’s only a paper moon (Ella Fitzgerald)

● Modiwl dwbl-dwbl. Cwblhau’r dyfyniadau hyn:

There ain’t no sense …
Dros ael y bryn …
Who were you with last night …?
Pan siglai’r hwyaid gwylltion …
The stag at eve had drunk his fill …
Meet me, Sean O’Farrell …
Hear my song, Violetta …
Hey diddle diddle, the cat and the fiddle …
The sky is blue, the night is cold …
Mi a i ofyn i fam Huw …

● Cymhariaeth o safbwynt seicoleg ganfyddiadol ac ymddygiadol rhwng cymeriad Em Brawd Mawr Now Bach Go’ a chymeriad Hamlet.

● Dadansoddiad neo-strwythurol o olygfa agoriadol Un Nos Ola Leuad.

● Gwerthusiad metawybyddol o olygfa olaf Un Nos Ola Leuad.

● Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar Ddafydd ap Gwilym.

● Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar Goronwy Owen.

● Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar Syr John Morris-Jones.

● Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar Ganiad Solomon.

● (Opsiynol, i fyfyrwyr PhD yn unig) Cyflwyniad i unrhyw nofel arall, mewn unrhyw iaith, heblaw Un Nos Ola Leuad.

Dyma’r ateb felly. Bydd yn her, ac yn gofyn sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfaRthrebu ardderchog. Ond bydd yn rîli rîli dda.

That’s all folks!

Cwricwlwm newydd cyffrous

12 Mai

Ydi, mae’n argyfwng gwirioneddol ar adrannau Cymraeg ein prifysgolion, gyda’r cwymp erchyll yn niferoedd disgyblion Lefel-A Cymraeg. I arbed nifer o swyddi rhaid gweithredu ar frys gydag ateb ôl-fodernaidd ac ôl-strwythurol gan ffocysu ar seilweithiau rhyng-ddisgyblaethol a heb anghofio’r deilliannau cymhwysedd digidol a’r continwwm dysgu, ac ar yr un pryd datblygu’r capasiti synergedd a metawybyddiaeth ddisgresiynol.

Yr ateb felly? Cwricwlwm newydd cyfoes a CHYFFROUS yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:

● Cymhariaeth estynedig rhwng Un Nos Ola Leuad (Caradog Prichard) a ‘Bob Nos Ola Leuad’ (Eifion Wyn).

● Astudiaeth gymharol o’r testunau hyn:

Rhys Llwyd y Lleuad (E. Tegla Davies)
Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi? (Ceiriog)
I See the Moon (Billy Cotton and his Band)
Hen Leuad Wen uwchben y byd (J. Glyn Davies)
Cân Rwsalca i’r Lleuad (Dvorak)
Carolina Moon (Connie Francis)
The Moon and I (W.S. Gilbert)
On Moonlight Bay (Doris Day)
Moonlight Sonata (Beethoven)
Overhead the moon is beaming (Mario Lanza)
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc (Eifion Wyn, eto)
Shine on, Harvest Moon
Moonlight in Mayo
Moonlight and Roses
Moonlight Serenade
Moonlight becomes you, it goes with your hair
Moonlight, moonlight, jolly fine moonlight
By the light of the silvery moon
Alleghany Moon
Dark Moon
Moon River
Moonbeams
When the moon comes over the mountain

● Modiwl dwbl-dwbl. Cwblhau’r dyfyniadau hyn:

There ain’t no sense …
Dros ael y bryn …
Who were you with last night …?
Pan siglai’r hwyaid gwylltion …
The stag at eve had drunk his fill …
Meet me, Sean O’Farrell …
Hear my song, Violetta …
Hey diddle diddle, the cat and the fiddle …
Mi a i ofyn i fam Huw …

● Cymhariaeth o safbwynt seicoleg ganfyddiadol ac ymddygiadol rhwng cymeriad Em Brawd Mawr Now Bach Go’ a chymeriad Hamlet.

● Dadansoddiad neo-strwythurol o olygfa agoriadol Un Nos Ola Leuad.

● Gwerthusiad metawybyddol o olygfa olaf Un Nos Ola Leuad.

● Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar Ddafydd ap Gwilym.

● Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar Goronwy Owen.

● Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar Syr John Morris-Jones.

● Dylanwad Un Nos Ola Leuad ar Ganiad Solomon.

● (Opsiynol, i fyfyrwyr PhD yn unig) Cyflwyniad i unrhyw nofel arall, mewn unrhyw iaith, heblaw Un Nos Ola Leuad.

Dyma’r ateb felly. Bydd yn gofyn sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfarthrebu ardderchog. Ond bydd yn rîli rîli dda.

That’s all folks!

Dyma ni eto …

5 Mai

Stori gan Newyddion S4C heno, y gostyngiad mawr yn niferoedd y disgyblion sy’n astudio’r Gymraeg ar gyfer Lefel-A ac wedyn yn y colegau. 

Dyma grynhoi’r hyn a drafodais yn llawnach mewn hen hen flogiad, 2 Mawrth 2013. Mae’r ffigurau heddiw’n edrych yn hynod debyg i’r hyn oeddynt pan es i gyntaf yn fyfyriwr i Goleg Bangor, sef yn 1959.  Rhyw ddau ddwsin oedd ohonom, myfyrwyr newydd yn Adran y Gymraeg y flwyddyn honno. Yna, pan ymunais â’r staff yn 1966, roedd y ffigurau’n dal yn wael ac yn destun pryder.  Ond yn ystod y blynyddoedd wedyn, dyma gynnydd mawr, ac yn ystod y 1980au gwelem flwyddyn gyntaf o hanner cant.

Y rheswm – wel, y prif reswm, ddywedwn ni  – blynyddoedd o ymysgwyd yng Nghymru, o ‘wrthdaro creadigol’, a defnyddio un o ymadroddion y cyfnod.  Roedd hi’n dipyn o hwyl bod yn Gymro.

Ers ugain mlynedd bellach aeth pethau mor fflat. 

Beth bynnag, darllenwch yr hen flogiad. Mae hefyd yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda.