A dyma Loegr gam yn nes at gael ail-fyw blwyddyn fawr Alf Garnett. ‘Who won i’ mate? Who won i’? You tell me tha’, you long-’aired Scouse git! Who won i’? Eh? Eh?’
I Gymru hefyd bu ’66 yn flwyddyn gofiadwy. Mis Awst, awdl ‘Cynhaeaf’. A phythefnos cyn hynny, daeargryn Caerfyrddin.
Am yr ail, bu amryw ffactorau’n gyfrifol. Yn Gwilym Prys Davies, dewisodd Llafur ymgeisydd rhy ddeallus ac anrhydeddus i blesio’i thwpsod o gefnogwyr yn Sir Gâr, ac arhosodd carfan ohonynt gartref. Yr un pryd cododd ton o gefnogaeth i ddyfalbarhad a didwylledd Gwynfor.
Ble mae ffrwyth hynny i’w weld heddiw? Ateb: yn yr Alban. Llanw a thrai fu hynt cenedlaetholwyr yr Alban dros y blynyddoedd, – trai torcalonnus weithiau, megis yn etholiad cyffredinol 1979. Ond am fod yr Albanwyr yn genedl mewn ffordd nad yw’r Cymry ddim, caed llwyddiannau eto, gydag uchafbwynt ysgubol yn etholiad 2015. Ychydig golli tir yn etholiad y llynedd, ond arwyddion gobaith da iawn eto, gyda Lloegr dan lywodraeth yr iâr ffrwcslyd wedi ei gosod ei hun mewn twll na bu ei fath.
A Chymru? Oddi ar Ddatganoli: dadrith, rhwystredigaeth, methu cynhyrchu arweiniad. Y ffrwt fel petai wedi mynd allan, yr hwyl wedi darfod. Un ffactor difrifol iawn: DIFFYG GWASG. Ffactor arall: penderfyniad y dosbarth proffesiynol Cymraeg i’w ddinistrio’i hun drwy anfon ei blant o Gymru.
Pedair plaid yng Nghymru yn wynebu dewis arweinydd.. I UKIP ni wna unrhyw wahaniaeth, oherwydd mae’n mynd i ddiflannu. I Lafur ni wna wahaniaeth, oherwydd dan ba arweinydd bynnag fe geidw Llafur Cymru at ei hegwyddor ganolog, sef peidio â gwneud llawer o ddim byd neilltuol. A fydd yr arweinydd newydd am gael Trident i Gymru yr un fath â Carwyn? Dyna’r unig gwestiwn o unrhyw ddiddordeb y gallaf feddwl amdano. Ni allaf ond eiddigeddu at y Torïaid. Petai ond Paul Davies a Suzy Davies yn sefyll, bydd ganddynt ddewis da iawn. Mae’r Torïaid yn credu yn eu pethau ac yn dal atynt. Yn wahanol i bob plaid arall nid oes raid iddynt ofni’r Torïaid. Oherwydd hwy yw’r Torïaid.
A Phlaid Cymru? Rwyf wedi dweud sawl gwaith ar y blog hwn beth sydd angen i Leanne ei wneud. Rhoi ei throed i lawr. Rhoi rhybudd o ddiarddeliad i unrhyw ymgeisydd sy’n mynd yn groes i bolisi gwrth-niwclear y Blaid, a cherydd hallt i gynghorwyr gwallgo Gwynedd am eu hantics anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf. Ond na feiwn yr arweinydd am bopeth. Caf yr argraff fod gweinyddiaeth y Blaid bellach yn eithafol wan; ni chaed llaw gadarn yn y swyddfa ganolog ers blynyddoedd lawer, ac nid ymddengys fod gan y Blaid beirianwaith ar wastad cenedlaethol na gwastad etholaeth i ddatblygu polisi a chadw ato.
Wedi dweud hynny oll, Leanne yw’r un. Heb unrhyw amheuaeth o gwbl.