Fe ddaeth y dydd Llun, ac fe aeth. Cafwyd y ddadl a’r bleidlais.
Gofynnwyd y cwestiwn i’r Santes Theresa: ‘wnei di bwyso’r botwm i ladd can mil ag un ergyd?’ Ateb: ‘gwnaf’. Bonllef o gymeradwyaeth, y Prydeinwyr yn arogli gwaed unwaith eto.
Ac ar y diwedd, mwyafrif mawr i’r Toris Gleision a’r Toris Cochion gyda’i gilydd. Dylai’r SNP yn awr feddiannu sedd flaen yr wrthblaid yn barhaol, nid o amarch at Corbyn ond fel her i fwyafrif yr Aelodau Llafur, taclau diegwyddor fel y dywedais echnos, pwdrod i’r gwraidd.
Ar safle Munguin’s Republic gellir gwrando araith Mhairi Black.
Mewn un peth yn unig y byddwn yn anghytuno â sylwadau Mhairi. Drwy’r blynyddoedd mae cefnogwyr diarfogi niwclear yn rhy aml wedi rhoi bow i gyfeiriad y ‘gwyddonwyr a’r peirianwyr galluog’ sy’n gweithio mewn llefydd fel Faslane, gan awgrymu y dylid troi eu medrau at bwrpasau amgen. Mae’r gwyddonwyr a’r peirianwyr yn rhydd i droi eu medrau unrhyw ddiwrnod o’r wythnos. Nhw sy wedi dewis gwasanaethu’r Cythraul.
Wfft hefyd i’r undebau llafur sy’n dathlu ‘diogelu swyddi’ heddiw: adweithiol ac anadeiladol, fel y bu’r undebau drwy’r rhan fwyaf o’u hanes.
* * *
Cyn ei hawr fawr yn San Steffan, bu’r Santes ar ymweliad â Chaerdydd, a Carwyn yn ei chroesawu ar risiau ein hannwyl Gynulliad. ‘Trafodaeth adeiladol’ medd yr adroddiadau. Beth yn union oedd i’w drafod, wn i ddim … os nad ble i leoli llongau Trident pan anfonir hwy o’r Alban. Ble oedd gan Carwyn mewn golwg pan ddywedodd ‘mwy na chroeso’? Aberdaugleddau sy’n dod i’r meddwl gyntaf efallai; hwylus, agos at y tanciau olew. Ond beth am Borth Amlwch, i fod yn agos at Wylfa B a dod â gwaith i Fôn? Neu Gaergybi, cynefin Albert Owen? Neu aber afon Ogwr, i Carwyn gael taro i mewn am sgwrs?