Dyma ‘Lyfr y Tri Thic’. (Ac nid ‘Llyfr y Tri Thick’, sylwer.) Mae’r awdur yn amau y prynir ef gan bobl heb fod â’i angen, a’i anwybyddu gan bobl sydd â’i angen. Ond beth bynnag am hynny, gobeithio y bydd o gymorth i rywrai yn rhywle.
Daw’r llyfr i ben ag ymarfer o 120 llinell fer. Os gallwch gwblhau hwn yn llwyddiannus, gallwch ysgrifennu Cymraeg yn iawn.
Yng nghorff y llyfr ymdrinir â rhai materion ieithyddol, gan ganolbwyntio ar wendidau a welir heddiw oherwydd sefyllfa’r Cymro, ond gwendidau y gellir eu cywiro i gyd, dim ond arfer ychydig o synnwyr.
Mae yma hefyd rai RHYBUDDION IECHYD. Gwyliwch felly rhag:
Y CLWY GOFOD !
Y CLWY SGILIAU !
Y CLWY ADDYSGU !
a’r CLWY PERSON !
Oriau o ddiddanwch ! PRIS £ 8.00
Fel awdur rhyddiaith grymus ac arloesol y cofiwn Morgan Llwyd yn bennaf, y cyntaf yn wir i ysgrifennu llyfrau syniadol gwreiddiol Cymraeg. Ond yr oedd hefyd yn dipyn o brydydd, a’i gerddi’n adlewyrchu cynnwrf mawr ei oes a’i genhadaeth bersonol yntau. Dyma ddetholiad ohonynt, y golygiad modern cyntaf, ac o’u darllen efallai y down i feddwl yn uwch amdanynt.
PRIS £ 3.00
Un o gonfensiynau hirhoedlog llenyddiaeth yw canu am fyd y bugail, a thrwy hynny am y bywyd gwledig yn gyffredinol, gan ei ddelfrydu. O ddyddiau cynnar, pobl heblaw bugeiliaid fu’r awduron bron i gyd. Dyma inni waith ugain o fugeilfeirdd Cymraeg. Fe welir fod dau neu dri ohonynt yn gwybod rhywbeth am ddefaid, ac weithiau ceir cip ar fugail go iawn. Ymhlith y cerddi mae clasuron.
PRIS £ 3.00
Stori am gamlywodraeth a thaeogrwydd yng Nghymru’r 19 ganrif yw Cilhaul, gan Samuel Roberts neu ‘S.R.’, y radical mawr o Lanbrynmair, ac ynddi gwelwn gychwyniadau’r nofel Ryddfrydol a ddaeth yn draddodiad pwysig mewn rhyddiaith Gymraeg. Mae llawer wedi newid oddi ar ddyddiau S.R., ond mae rhai pethau’n dal yr un fath …
PRIS £ 3.00
Efallai fod tuedd ynom i feddwl fod ‘Hywel a Blodwen’, ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’, ‘Pistyll y Llan’, ‘Pobl y Drws Nesa’, ‘Yr Hogyn Gyrru’r Wedd’ a ‘Dewch Adref fy Nhad’ i gyd wedi eu sgrifennu eu hunain. Ond gwaith Richard Davies neu Mynyddog ydynt, prif awdur caneuon pop Cymraeg Oes Victoria. Yr oedd yn hen bryd cael casgliad bach newydd o waith awdur ‘Myfanwy’.
PRIS £ 3.00
Y pedwar Hen Lyfr Bach mewn pecyn am y pris manteisiol o £ 10.00
Trowch at : dalennewydd.cymru