Archif | Ionawr, 2020

Llenwi Cadair

31 Ion

Darllen y bore ’ma fod Prifysgol Rhydychen wedi penodi Athro i’w Chadair Gelteg, a fu, fel ‘cadair Rhŷs’ gynt yn ‘wag … ers amser, a simsan iawn megis.’

Mae Coleg Iesu, fe adroddir, ‘yn falch o ddiogelu datblygiad ysgolheictod Celtaidd am genedlaethau i ddod.’ H.y. tan yr hwrdd nesaf o grintachrwydd ar ran y Coleg a’r Brifysgol.

Ac meddai Prifathro’r Coleg: ‘Mae brwdfrydedd a haelioni rhoddwyr i adfer y Gadair yn  dangos bod ysgolheictod Celtaidd yn parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ddiwylliannol a’n bywyd deallusol.’  Yr hyn a fuasai’n help fyddai tipyn o frwdfrydedd a haelioni flynyddoedd yn ôl gan y Coleg ei hun a’r Brifysgol o bwll diwaelod eu cyfoeth.

Yn lle hynny, dyma Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi mynd i’w pocedi hyd at hanner miliwn o bunnau i wneud y datblygiad yn bosibl.  Faint ddaeth o’r naill boced ac o’r llall, ni wyddom, na chwaith pryd a sut yr awdurdodwyd hynny gan gynghorau’r ddwy brifysgol hael. Mae’n debyg fod yr ateb rywle yn eu cofnodion, ond pe baem ni (er enghraifft, graddedigion a thrwy hynny aelodau Prifysgol Cymru) yn gofyn am gael gweld y rheini, peryg mai’r hyn a fyddai’n ein hwynebu unwaith eto fyddai haenau o flac-led.

Cofiwch ddarllen y llyfr Wele Wlad.

clawr blaen

Drych o dristwch ofnadwy

19 Ion

Newydd fod yn edrych ar … hyd y gallaf gofio … y rhaglen deledu dristaf a welais erioed, rhifyn o’r gyfres ‘Waliau’n Siarad’ yn dangos Coleg Harlech yn ei gyflwr dirywiedig a lled-adfeiliedig. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf fe ddigwyddodd yma drychineb a thrasiedi, a rhaid ei fod wedi digwydd trwy ofer esgeulustod rhywun neu rywrai. A’r cwestiwn yw PWY? A pham nad yw hynny sy gennym yn weddill o wasg a chyfryngau yn mynd ar ôl pethau fel hyn gan hoelio’r cyfrifoldeb ar sefydliadau ac unigolion a’u gorfodi i ateb? Un o arwyddion dirywiad enbyd bywyd a thrafodaeth gyhoeddus yng Nghymru yw fod hyn wedi cael digwydd, bron dan drwynau pawb.

Un o freintiau a phleserau bywyd fu cael cyfranogi o dro i dro yn ysgolion haf Coleg Harlech, a bydd eraill fel finnau ag atgofion cynnes am y gwmnïaeth, y trafodaethau a’r hwyl. Lle ardderchog ydoedd, a phrofiad dyrchafol oedd bod yno.

Ydyw, mae’r gwsmeriaeth wedi peidio â bod, sef y math o fyfyrwyr a oedd yn llenwi Coleg Harlech yn nyddiau ei nerth. Digwyddodd hyn oherwydd newid cymdeithasol, llawer ohono er gwell, gan beri nad oes y fath angen am yr ‘ail gynnig’ heddiw. Eithr onid oedd rhywun yn rhywle, neu ryw gorff neu gymdeithas, a allai weld defnydd i le mor ogoneddus mewn amgylchiadau newydd? Gwasgaru’r llyfrgell, gadael i’r adeilad fraenu, a Theatr Ardudwy gydag ef, – sgandal yn ein dyddiau, gyfochrog a chynddrwg â sgandal dinistrio Prifysgol Cymru. Methiant affwysol y Gymru ddatganoledig hon.

Gwyddom nad oes gan y cwango diffaith Addysg Uwch Cymru (HEFCW gynt) unrhyw ddiddordeb mewn dim byd Cymreig, ac eithrio lle gwêl gyfle i’w niweidio. Ond ble yn y byd mawr yr oedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru na welodd yma gyfrifoldeb? Onid oes gan lywodraeth Cymru ei Hadran Addysg? Ac Adran Diwylliant?

Gallwn feddwl am o leiaf ddau gorff a ddylai gamu i mewn. Cyngor Gwynedd yw un ohonynt, a’r llall yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dylai’r ddau hyn roi eu pennau ynghyd rhag blaen, i atal y dirywiad ac adfer y pwrpas a’r gogoniant.

Mae’r Coleg Cymraeg y dyddiau hyn yn hysbysebu am Gadeirydd newydd. Pwy bynnag a benodir, dyma dasg iddo ef neu hi, sef symud pencadlys y Coleg o Gaerfyrddin i Harlech, gan adnewyddu Coleg Harlech i fod yn ganolfan cyrsiau dyddiol a phreswyl ar gyfer aelodau’r CCC o bob man.

A thra byddir wrthi hefyd, newid enw’r CCC yn ‘Coleg William Salesbury’, sef yr hyn y bu’r ymgyrchwyr drosto yn ei ffafrio dros dair blynedd ar ddeg o ymgyrchu.