Archif | Uncategorized RSS feed for this section

Chwalu’r argae

7 Meh

Pwy biau’r ‘Glorious Dambusters’ y tro hwn? ‘Nhw, nid ni,’ meddai Rwsia ac Wcrain fel ei gilydd. ‘Hoff ffilm ryfel’ pa genedl fydd hi, pan wneir y ffilm?

Hwyrach yr hoffech ddarllen fy hen stori ‘Dyddiau Olaf Derlwyn’ yn fy hen lyfr Camu’n Ôl a Storïau Eraill.

Helbul dwy blaid

3 Meh

Wn i ddim a ydych yn cofio, ond ar y chweched o Fai eleni fe goronwyd Siarl III. Posib fod mwy o bobl yn cofio’r achlysur o’r blaen, ddeng mlynedd a thrigain i ddoe, pan goronwyd ei fam. Ar fore’r dydd hanesyddol hwnnw fe gafwyd bonws, rhywbeth ychwanegol i godi calonnau’r holl ddeiliaid triw – ‘EVEREST CLIMBED’. A chan dîm Prydeinig wrth gwrs.

Beth petawn i’n awgrymu rhywbeth fel hyn? Mai’r gobaith mawr mewn rhyw gylchoedd oedd cael newydd yr un mor wefreiddiol ar gyfer bore’r ddefod eleni, hwnnw hefyd yn ganlyniad ymgyrch gan dîm Prydeinig am rai wythnosau ymlaen llaw. A’r pennawd? ‘NICOLA NICKED’. Ers dyddiau buasai’r papurau tabloid yn ymarfer rhyw eiriau fel ‘NIC NICKED NEXT?’

Caniataer fod rhyw swm wedi mynd i’r golofn anghywir yng nghyfrifon yr SNP. Neu rywbeth felly. Nid oedd a wnelo ddim ag arian cyhoeddus, ac ni phrofwyd fod dimai wedi mynd i boced bersonol. Ond dyma gyfle iddyn ‘Nhw’, y Sefydliad. Sioe deledu ohoni, heidiau o blismyn yn ymosod ar swyddfeydd y blaid a gwarchae ar dŷ’r arweinydd fel petai o leiaf yn dŷ Fred West. Arestio pobl, rhyddhau heb gyhuddiadau. Ond fe lwyddodd y coup, fe ansefydlogwyd llywodraeth Albanaidd lwyddiannus ac fe ddisodlwyd arweinydd poblogaidd iawn. Wrth ddweud hyn, addefaf nad oeddwn yn hollol gywir ym mlog 27 Mawrth. Ymgyrch fawr wedyn, corws cytûn o bapurau’r Alban i gyd ond un, a’r BBC hefyd, i ddweud bod yr arweinydd newydd yn OFNADWY o amhoblogaidd. Am y tro gall ymddangos fod y peth mawr wedi ei sicrhau, sef dyfodol Trident, ac felly safle Lloegr yn y byd. Cawn weld beth ddaw, a chofiwch beth ddywedais i o’r blaen, ‘os cyfyd angen de Gaulle …’.

Yn ystod yr un wythnosau clywsom am helbul plaid genedlaethol arall. Helbul o natur hollol wahanol. Nid ymosodiad mawr o’r tu allan, ond rhyw bethau o’r tu mewn … medden nhw. Am y ‘diwylliant o fwlio’, ‘misogynistiaeth’ – y pechodau mewnol honedig – ni ŵyr y blogiwr hwn ddim o gwbl. Yn hytrach yr hyn sy’n ei anesmwytho ers misoedd a blynyddoedd yw’r pechodau cyhoeddus, ‘diwylliant’ o anwadalwch, o ddiffyg cyfeiriad, o fynd yn groes i’w pholisi ei hun, sef yn benodol ar fater mawr y niwclear; a’r un pryd hefyd ‘diwylliant’ o fod yn biwsig-biwsig, o wrthod ystyried dadl, o wrthod ateb llythyr na hyd yn oed ei gydnabod.

Dyddiau diflas. A welwn ni’r Albanwyr yn nogio wrth y glwyd unwaith eto? Ac ai dal i ogor-droi yn eu hunfan a wna’r Cymry, yn gwbl ddi-glem a heb arweiniad o unrhyw fath?

Pedwar Hen Lyfr Bach newydd

24 Mai

Yr hen Ddalen Newydd sy’n eich cyfarch heddiw, a dyma ichi bedwar Hen Lyfr Bach newydd, yn dwyn y nifer i ugain. 

Carolau Haf Huw Morys a’i Gyfoeswyr

GOLYGYDD : Eurig Salisbury

Emynau Morgan Rhys

GOLYGYDD : Dawi Griffiths

Cerddi Talhaiarn

GOLYGYDD : Dafydd Glyn Jones

Tri Hen Brydydd

GOLYGYDD : Dafydd Glyn Jones

£5 yr un, neu £15 am becyn o bedwar.

Gan eich llyfrwerthwr neu o dalennewydd.cymru.

Rhagor o wybodaeth dan ‘Newyddion’ ar y safle.  Galwch i mewn.

Do …

6 Mai

Do cofiwch, mi edrychais, bob yn ail â pheidio, ar y rhan fwyaf o’r sioe. Digri? Oedd, dynwarediad y Brenin o Harry Enfield yn dda iawn. Gwirion? Fel rydw i wedi dweud o’r blaen, peth i bobl wirion ydyw, ac yn hynny, yn rhannol, mae ei werth.

Ag un llygad ar y sgrîn, â’r llygad arall roeddwn yn edrych drwy fy nghopi o Lleu, a ddaeth i law heddiw. Ar y dudalen gefn, llun disgyblion o fy hen ysgol, ac oddi tano’r capsiwn: ‘Roedd disgyblion Bl 9 a 10 wedi mwynhau eu diwrnod ym Mhrifysgol Manceinion yn fawr iawn.’ Beth oedd diben yr ymweliad meddech chi? Syniad pwy oedd hwn?

Fel rwyf wedi dweud a dweud a dweud, un o broblemau mwyaf Cymru heddiw, onid y fwyaf oll, yw ymadawiad y fath niferoedd o’n disgyblion mwyaf galluog bob mis Medi. Rhan ydyw o beth mwy, ymddiswyddiad y dosbarth proffesiynol Cymraeg. Os na chawn ni ateb i hyn, rhowch ddeng mlynedd i hen genedl y Cymry eto cyn iddi gerdded yn derfynol oddi ar lwyfan hanes.

Nid yw’r frenhiniaeth a’r hyn sydd ynglŷn â hi yn fygythiad nac yn broblem o unrhyw fath i ni’r Cymry. Beth am gofio geiriau J.R. Jones? ‘O fewn i’r Cymry y mae eu gelyn.’

Y floedd

2 Mai

Er gwaetha’r hyn a ddywedodd y blog hwn dro neu ddau o’r blaen o blaid y breniniaethau Protestannaidd, dyma’ch sicrhau na bydd yr hen G.A. yn ymuno yn Y FLOEDD y gofynnir inni i gyd ei rhoi ddydd Sadwrn nesaf fel rhan o’r ddefodaeth. Addewid o deyrngarwch bythol i’r pen coronog, addewid i’r wladwriaeth ydyw, ac yn ymarferol mae’n golygu cefnogi holl bolisïau a gweithredoedd y wladwriaeth honno. Yn awr, fe lunnir ac fe weithredir y polisïau, mewn enw ar ran y goron, gan ddau gorff: (a) yn wyneb haul, gan Senedd Westminster, ac i fesur llawer llai gan y seneddau datganoledig, a (b) yn y cysgodion, gan y Wladwriaeth Ddofn. Pwy yn union yw aelodau honno, ni allwn ond bras-ddyfalu, a byddaf yn amau na ŵyr yr aelodau eu hunain yn iawn. Ond fel y Tylwyth Teg yn stori T.H. Parry-Williams, ‘mae hi’n bod’.

Gwaith y Wladwriaeth Ddofn yw gwarchod buddiannau Lloegr, sy’n mynd hefyd dan yr enw ‘Prydain’, fel y gwelir hwy gan ryw bobl. Ac yn hynny oll y prif beth yw dal gafael ar Trident. Os cyfyd unrhyw fath o fygythiad, rhaid ei daclo, ac fe wneir hynny drwy dargedu unigolion. Anaml iawn y daw’r perygl o gyfeiriad y Chwith Brydeinig, ond pan fu bron i Corbyn ennill etholiad cyffredinol roedd raid gwneud rhywbeth. Ac fe wnaed. Y perygl mwy real a pharhaol bellach yw mudiad annibyniaeth yr Alban. Petai hwnnw’n llwyddo, dyna’i diwedd hi, diwedd gêm naw canrif.

§

Echnos, fel paratoad at y diwrnod, mi wyliais ddwy raglen frenhinol, ‘The Windsors’ gyda Harry Enfield ac yna rhaglen Frankie Boyle. Rhaid canmol y gyntaf yn fawr am safon ei dynwarediadau a’i chartwnau, a’r brif wobr yn mynd i’r Cymro Bach oedd yn chwifio’i iwnion jac yn orffwyll ac yn gweiddi ‘We want a prober coronation!’ Ai dyma’r ‘Prydeiniwr Olaf’ y soniai Gwyn Alf Williams amdano? Gan ddethol dyrnaid o frenhinoedd a breninesau’r canrifoedd, fe ddywedodd Frankie bethau hallt yn ei ddull cwrs ei hun; gallai fod wedi dweud gwaeth am y rhan fwyaf ohonynt.

Beth bynnag, at hyn rwy’n dod. Y ffaith bod rhaglenni fel hyn yn cael eu llunio a’u darlledu o gwbl. Nefoedd fawr, cofio’r gân ‘Carlo’ – yr wfftio, y gwaredu, y digio, y bygwth, ‘y cywilydd o fod yn Gymry’! Mae rhyw dro ar fyd. Be sy wedi digwydd? Caf ryw argraff yn ddiweddar, rhyw deimlad, fod y Wladriaeth Ddofn am ryw reswm wedi gollwng y teulu brenhinol fel arf yn y wir frwydr, y frwydr i ddiogelu’r gwir fuddiannau. Bydd ganddi arfau eraill, mwy na thebyg. Cadwn olwg ar yr Alban yna.

Dominô, disgwyliedig, dirgelwch

22 Ebr

Rhyw loffion bach gwleidyddol heddiw.

  1. A dyma hi’n ddominô ar yr hen Ddominic – am iddo ddominyddu gormod medd yr adroddiad. Ond clywaf dipyn o gefnogaeth iddo heddiw, a hynny’n iawn hefyd. Onid ydym wedi dysgu dim gan rifynnau lawer o ‘Yes Minister’ a ‘Yes Prime Minister’? Hen bryd i rywun sodro Syr Humphrey yn ei le, a chyfrifoldeb pwy yw hynny os nad y gwleidyddion – sef ein cynrychiolwyr etholedig ni?
  2. Arolwg barn ddoe yn rhagweld enillion mawr i Lafur yng Nghymru ar draul y Ceidwadwyr. Syndod? Ddim o gwbl. Syr Anysbrydoledig, y feri dyn i apelio at Lafur Cymru, pleidleiswyr swrth, digychwyn a thra-cheidwadol nad ydynt yn disgwyl cael eu hysbrydoli byth, ac yn wir sy’n mynd dipyn yn anesmwyth pan geisia rhywun wneud hynny. A waw! Plaid Cymru i fyny o ddeg i ddeuddeg y cant! Corwynt y Chwyldro’n sgubo drwy’r Cymoedd …
  1. Dirgelwch llwyr. Be goblyn ulw sy’n digwydd tua’r Alban yna? ‘Feds make rap stick’ medd yr hen ffilmiau gangster ers talwm, ond hyd yma nid yw wedi digwydd. Arestio … PENAWDAU MAWR … dim cyhuddiad … distawrwydd byddarol; arestio … PENAWDAU MAWR … dim cyhuddiad … distawrwydd byddarol … Am ba hyd mae’n rhaid goddef y ffars yma eto? Rwyf wedi ei ddweud fwy nag unwaith o’r blaen, ond hwyrach y dylwn fod wedi ei ddweud wrth rywun yn yr Alban: dylai’r SNP fod wedi ymorol ers tro na all y Wladwriaeth Ddofn Brydeinig ddim defnyddio heddlu’r Alban yn erbyn llywodraeth etholedig yr Alban, o ba liw bynnag. Mae’r un peth yn wir am y catrodau Albanaidd enwog, rhag ofn iddi ddod yn ddydd o brysurach bwyso.

êcs !

11 Ebr

Beth yn union yw tarddiad yr ebychiad ‘êcs!’ gyda’r ystyr ‘dyna ti wedi cael ail’, wn i ddim.

Ond beth bynnag, y tro pedol. Llongyfarchiadau i holl bleidwyr synnwyr. Da iawn bellach Llangollen am weld y pwynt. Ac êcs i ‘rai pobl yng Nghymru’ chwedl W.J. Gruffydd ers talwm.

Diddorol

8 Ebr

O’r Pedwar Gwynt i law bore ’ma, a go dda fo am gynnwys ‘llythyr y byd gwyn’ yn gyfan, ynghyd ag enwau’r cefnogwyr.

Ambell absenoldeb yn peri codi ael ryw fymryn. A’r gynrychiolaeth braidd yn denau o ambell adran brifysgol … Pawb â’i farn.

Beth bynnag, llongyfarchiadau a diolch i’r Athro Gruffydd Aled Williams am gymryd y mater mewn llaw a threfnu mor effeithiol.

Ambell beth

7 Ebr
  1. Tipyn o le tua’r Alban yna echdoe. Y dydd y gwelwn ni warchae fel hyn ar dŷ gwleidydd yng Ngymru, byddwn ninnau wedi cyrraedd!
  2. Deall fod Maen Scone eisoes wedi mynd ar fenthyg i Abaty Westminster ac wedi cael sgrwbiad ar gyfer yr eisteddiad brenhinol. Iawn, os yw hyn yn golygu fod Siarl yn cael ei goroni’n frenin yr Alban ar wahân i fod yn frenin Lloegr. Yn gyfansoddiadol a chyda golwg ar y dyfodol, dyna sy’n bwysig, fel rwyf wedi trio dweud o’r blaen, 11 Medi 2022.
  3. Arestio Trump a’i gyhuddo o res o droseddau, tipyn o hwb i’w obeithion yn ôl pob sôn. A fydd arestio Murrell, a’i ryddhau wedyn heb gyhuddiad, yn cael yr un effaith ar yr SNP, ni wyddom eto; go brin efallai. Ond daw arolwg Survation – yn union cyn yr helynt mae’n wir – â newydd nid rhy ddrwg i’r cenedlaetholwyr (canrannau ym mhob achos):

Etholiad San Steffan : SNP 40, Llafur 32, Ceidwadwyr 17.

Etholiad Holyrood (etholaethau): SNP 42, Llafur 30, Ceidwadwyr 18.

Etholiad Holyrood (rhestrau): SNP 35, Llafur 25, Ceidwadwyr 18.

Y newydd da yw nad yw’r Torïaid yn gwneud yn rhy ddrwg, sy’n golygu nad yw plaid Syr Anysbrydoledig yn gwneud yn rhy dda. Adroddwyd yr wythnos ddiwethaf fod Llafur a’r Torïaid yn yr Alban wedi gwrthod y syniad o ddealltwriaethau fesul etholaeth yn erbyn yr SNP. Ond trwy godi’r posibilrwydd fe blennir syniad ym mhennau eu cefnogwyr ill dwy, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yr un modd. A chyda Llafur yn awr cyn belled i’r Dde â’r Torïaid, neu bellach, gall Torïaid bleidleisio iddi’n dactegol â meddwl cwbl dawel. Dyna’r perygl. Ond ‘mae wythnos yn amser hir …’.

  1. ‘Dros Gymru’n gwlad …’. Na, fydd yr hen Finlandia ddim yr un fath eto rywsut, wedi i’r Ffindirwyr wneud clamp o gamgymeriad. Darllenwch eto flogiad 21 Mai y llynedd.

Cawn weld …

27 Maw

Nefoedd fawr, dychmygwch y disgwyl a’r dyfalu a’r diddordeb byd-eang a fyddai petai heddiw’n ddiwrnod dewis Prif Weinidog Cymru !!

Ond pnawn yr Albanwyr oedd hi’r pnawn yma. Rywsut, canlyniad annisgwyl, gyda’r polau bron o’r cychwyn yn rhoi Kate Forbes yn ffefryn y blaid, a mwy fyth yn ffefryn y cyhoedd, gyda’i golygwedd fwy traddodiadol ar bethau fel priodas a theulu. Gwn y bydd ambell un o’r blogwyr Albanaidd yr wyf yn eu dilyn yn grac iawn ac yn darogan gwaeau o bob math. Ac yn wir, os yw aelodau’r SNP wedi gwneud y dewis anghywir dyna hi ar ben arnom ninnau Gymry.

Bydd rhai yn hapus o ddeall y gall Plaid Werdd yr Alban yn awr aros yn ei chlymblaid â’r Blaid Genedlaethol, gan sefydlogi’r mwyafrif dros annibyniaeth – mewn egwyddor o leiaf – yn Senedd Holyrood. Ond rhaid yw gofyn, i ble arall y gallasai’r Gwyrddion fynd, hyd yn oed pe na baent yn hapus ag arweiniad yr SNP?

Pa lwybr a ddewisa Humza Yousaf tuag at annibyniaeth, a bwrw ei fod am ddilyn llwybr felly o gwbl, disgwyliwn gael clywed yn o fuan. Mi drafodais o’r blaen sut y gallai’r sefyllfa gyfansoddiadol effeithio ar hyn, yn wir sut y gallai bennu’r canlyniad. Oherwydd cofiwn: yn yr Ail Ryfel Byd yr oedd pob milwr Prydeinig dan lw ac adduned i Siôr, ond dan orchymyn Churchill. Fe ddylai bellach fod sefyllfa lle byddai’r holl gatrodau Albanaidd, a chyda hwy hefyd holl blismyn yr Alban, dan adduned i Siarl III fel brenin yr Alban, ond dan orchymyn prif weinidog yr Alban. Hyn ar gyfer diwrnod cau Faslane, sef yr hyn a fyddai’n graidd y cyfan. Hynny yw, fe ddylid ei gwneud hi’n amhosib defnyddio’r Gordon Highlanders a’r Black Watch yn erbyn llywodraeth yr Alban. Oes rhywun o blith y cenedlaetholwyr wedi meddwl am hyn, gydag ond ychydig dros fis tan y Coroni yna y mae pawb mor dawel ac mor ymddangosiadol ddifater yn ei gylch?

§

Do bu ymddiswyddiad Nicola braidd yn annisgwyl. Ond tueddaf at feddwl iddi ddewis yn ddoeth, penderfynu na allai hi wneud dim mwy ar hyn o bryd, ac ymadael heb fod dan unrhyw bwysau. Os cyfyd angen De Gaulle ryw ddiwrnod, mae’n debyg y bydd hi’n dal o gwmpas.