Archif | Hydref, 2019

Tyrcwn call

31 Hyd

Echdoe fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn erbyn cael etholiad cyn y Nadolig.

Am unwaith dyma dyrcwn call. Ond y ffordd arall yr aeth y mwyafrif y tro hwn.

Ni ddoed â’r dyddiad ymlaen ddigon i blesio’r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn poeni y byddai myfyrwyr y colegau … mewn etholaethau arbennig … yn dechrau treiglo adref erbyn Rhagfyr 12ed. Ond na phoenwch, bydd digon o fyfyrwyr ar ôl, mewn tair o drefi Cymru yn arbennig, i achosi problem go fawr.

Deugain mlynedd yn ôl y dylasid rhagweld y broblem hon, gan Blaid Cymru a hefyd gan yr ychydig Gymry yr oedd ganddynt – neu a gredai fod ganddynt – ryw ychydig o ddylanwad o fewn y colegau.

Mae’n bur debyg fod y Sun â’i dudalen flaen yn barod ar gyfer bore’r 13eg: ‘BONKING BORIS’S BUMPER BREXMAS BONANZA’. Ond peidiwn â bod yn rhy sicr. Does wybod beth ddaw allan o’r blychau yna, ac mae’r hen G.A. bellach yn ddigon o Hen Lwynog (fel y cymeriad hwnnw yn O Law i Law) i broffwydo dau beth, a dau beth yn unig, am etholiad cyffredinol, sef (a) y bydd ynddo rywbeth hollol annisgwyl, a (b) y bydd ynddo rywbeth hollol wirion.

Ar y naw ?

27 Hyd

Rydym wedi cael un gynghrair anfad yn ddiweddar, sef honno rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed. A heddiw dyma sôn am un arall. Y Democratiaid a’r SNP y tro hwn yn uno i alw am ddwyn etholiad cyffredinol arfaethedig Boris ymlaen o’r deuddegfed o Ragfyr i’r nawfed.

Pam y tridiau o wahaniaeth? Rheswm a roes Sarah Wollaston, un o’r ‘D.Rh. Newydd’, ar y radio y bore ’ma yw y bydd y prifysgolion yn cau ac y bydd ‘llai o fyfyrwyr o gwmpas’ erbyn y deuddegfed. O gwmpas ble? Etholaethau fel Caergrawnt, Canol Caerdydd … a Cheredigion efallai?

Allwn ni ddim beio’r SNP o gwbl am ymuno yn yr alwad hon. A’r arolygon yn addo’n dda iddi, gorau po gyntaf mae’n siŵr. Ac iddi hi nid yw’n broblem y naill ffordd na’r llall a fydd y colegau ar agor ai peidio, gan mai Albanwyr yw mwyafrif myfyrwyr yr Alban.

Ond bydd problem Plaid Cymru yn para tan ar ôl 14 Rhagfyr (dyddiad cau y Brifysgol ger y Lli) ac yn wir 16 Rhagfyr (dyddiad cau y Brifysgol ar y Bryn).

Petai Rhagluniaeth am drugarhau wrth BC mewn dwy o’i seddau, byddai’n gosod yr etholiad rhwng 28 Mawrth a 18 Ebrill, sef gwyliau Pasg yr ysgolheigion ifainc. Ond rhyfedd yw Rhagluniaeth Fawr y Nef, fel y gwyddom.

Digon o waith

18 Hyd

Ar rywbeth arall yr oeddwn wedi meddwl sgrifennu heddiw, ond trawyd fy llygad gan hysbyseb tudalen lawn yn GOLWG gan Brifysgol Aberystwyth, ‘sefydlwyd … yn 1872’ (cywiriad bach i ddechrau, 2007).

Yn y gyfrol WELE WLAD, a hysbysebais y tro diwethaf, fe welir cyfweliad a wnaed â’r Athro W.J. Gruffydd yn 2013 ac a ymddangosodd yn BARN.  A’i ddiddordeb mor fyw ag erioed yn hynt colegau Cymru, caed ef yn holi ‘Deudwch i mi, sut mae pethau tua Bangor?’ a  ‘Pwy sy wrthi tua’r Aberystwyth ’na?’  Gwyddem ystyr yr ail  gwestiwn, a rhaid oedd esbonio iddo mai cadair wag fu cadair Gwynn, a chadair Parry Bach hefyd, ers amser, a simsan iawn megis, gyda’r awdurdodau un ai yn methu neu yn gwrthod eu llenwi.  ‘Dim pres’ oedd y rheswm a roddid ar y pryd, ac ni chlywais fod unrhyw newid oddi ar hynny.

Ond yn GOLWG heddiw wele hysbysebu wyth o swyddi y mae’r Brifysgol ger y Lli yn awyddus i’w llenwi:

Pennaeth Marchnata, Dylunio a Rheoli Brand– £52,560-£59,135

Pennaeth Recriwtio a Datblygu Rhyngwladol– £41,526-£49,553

Rheolwr Rhanbarthol  – £34,804-£40,322

Swyddog Rhanbarthol  – £23,067-£25,941

Rheolwr Dadansoddi Data Myfyrwyr  – £28,331-£33,797

Swyddog Denu Myfyrwyr  – £28,331-£33,797

Swyddog Uwch Digwyddiadau  – £23,067-£25,941

Rheolwr Datblygu’r Ysgol Haf a Rhaglenni Byrion  – £28,31-£33,797

Trueni rywsut na allem gyfweld yr Athro Gruffydd eto, a gofyn sut yn y byd mawr y llwyddodd ef a Griffith John Williams yng Nghaerdydd, ac o ran hynny Henry Lewis a Stephen J. Williams yn Abertawe, Edward Anwyl, Gwynn Jones a Parry-Williams yn Aberystwyth, John Morris-Jones, Ifor Williams ac R.T. Jenkins ym Mangor i ymdopi o ddydd i ddydd heb gymorth Swyddog Rheoli Data Myfyrwyr, heb sôn am Bennaeth Marchnata, Dylunio a Rheoli Brand.

***

Beth petawn i’n dweud mai swyddi cwbl ddiangen, dialw-amdanynt, di-bwynt, dibwrpas a di-fudd yw’r wyth a hysbysebir uchod, ynghyd â channoedd yr un fath â hwy drwy holl anialwch byd y prifysgolion, cynnyrch dychymyg gwallgo pobl wedi hen golli golwg ar yr hanfodion?  Wel, dyna fi cystal â bod wedi ei ddweud, ac o’r foment hon mae llwyfan y blog yn gwbl agored i unrhyw gynrychiolydd o Brifysgol Aberystwyth sgrifennu i mewn a’m profi’n anghywir. Gadewch inni glywed …

A chofiwch ddarllen y cyfweliad, t. 41 yn y llyfr.

clawr blaen

Holl Hwyl y Ffair

14 Hyd

clawr blaen

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Dalen Newydd Llythyr Gildas a Dinistr Prydain. Oedd, roedd hi’n flêr ym Mhrydain y chweched ganrif.

Bellach, dyma inni Wele Wlad: Ysgrifau ar Bethau yng Nghymru. Ydi mae hi’n flêr yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain.  Ond yng nghanol y llanast – ac yn wir o’i herwydd – mae tipyn o hwyl weithiau hefyd.

Fe lansiwyd y gyfrol newydd hon – os ‘lansio’ yw ei rhoi ar werth am y tro cyntaf – yn Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen ym Mhorthaethwy ddydd Sadwrn.

Lle rhyfedd yw’r Ffair Lyfrau. Mae’n llawn o bobl oedrannus sy’n cwyno fod ganddynt eisoes lawer iawn gormod o lyfrau, nad oes ganddynt le i’w cadw, ac na fyddant o unrhyw ddefnydd na diddordeb i’w plant. Cymeriad cyfarwydd yn y Ffair yw’r gŵr sy’n adrodd bod ei wraig yn cwyno am y llyfrau (byth fel arall) ac eisiau iddo gael eu gwared.  Oni fyddai’n well petaem yn mynd i gyd i sêl feheryn ryw flwyddyn, rhyw newid bach oddi wrth duchan a heneiddio gyda’n gilydd ym myd llên?

Onid oes waed newydd yn y Ffair? Myfyrwyr? Academwyr ifainc, neu hyd yn oed ganol oed? Anaml iawn. A beth am athrawon ein hysgolion cynradd ac uwchradd? Dim ffiars o beryg.

Ond cyn inni anghofio.  Mae Wele Wlad yn gydymaith i’r gyfrol Meddyliau Glyn Adda (2017) a gellir cael y ddwy gyda’i gilydd fel ‘Pecyn yr Oes’ am y pris manteisiol o £20 yn lle £25.   Gan eich llyfrwerthwr neu o dalennewydd.cymru.

Pedwar cwestiwn

3 Hyd

Mae’n debyg y dylid dweud rhywbeth am ferw San Steffan, cynllun diweddaraf Boris, y ‘garreg sa’ draw’ (sef y Northern Ireland Backstop) a phethau felly. Ond heddiw, peth sy’n nes atom ac yn arswydus o bwysig. Dyfynnaf grynodeb GOLWG:

‘Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am unigolyn neu sefydliad i gynnal asesiad o beth fyddai effeithiau amgylcheddol codi gorsaf niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.

‘Mae’r hysbyseb, ar wefan Gwerthwch i Gymru, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain ddoe eu bod yn bwriadu buddsoddi dros £200 miliwn ar ddatblygu technoleg ymasiad niwclear.

‘Mae’r dechnoleg hon, sy’n cael ei defnyddio ar gyfer y bom hydrogen, yn gwasgu atomau hydrogen i wneud heliwm, gan greu llawer iawn o ynni yn y broses.’

Cyn dod at yr ‘effeithiau amgylcheddol’, tybed a allwn ni gael gwybod mwy am ffiseg y math o beth sydd mewn golwg? A all rhywun esbonio’n eglur i ni’r lleygwyr neu’r twpsod? A yw’r dechnoleg hon o’r un tylwyth â’r peiriant ZETA a adeiladwyd yn 1958, y dywedid ei fod yn cynhyrchu rhyw egni aruthrol y tu mewn i ryw focs, ond nad oedd modd cael yr egni allan o’r bocs ar gyfer unrhyw ddefnydd pellach? Yr hyn a ddywedid ar y pryd oedd fod hon – ymasiad (fusion) – yn dechnoleg gwbl groes i holltiad (fission) a’i bod yn gwbl rydd o beryglon yr ail. Mewn llwyr anwybodaeth, dim ond gofyn:

(1) Hyd yn oed a bod y dechnoleg yn berffaith ddiogel, a yw £200 miliwn ar ei chyfer yn fuddsoddiad da, ac ystyried bod technegau ynni amgen yn dod yn fwy economaidd bob dydd?

(2) Beth yw hyn am ‘y bom hydrogen’? A oes llwyr ddargyfeirio ar y dechnoleg, ynteu a oes cysylltiad o hyd ag arf niwclear Prydain Fawr, ar adeg pan yw Jo Swinson, arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol a ffrind newydd Plaid Cymru, mor barod ar ei gair ei hun i bwyso’r botwm?

A dau gwestiwn pellach, nid mewn cymaint o anwybodaeth:

(1) Pa blaid sy’n wrth-niwclear?

(2) Pa blaid sy’n rheoli Cyngor Gwynedd?