Archif | Awst, 2018

Saith Cam Adam a Phum Pwynt Adda

29 Awst

‘Adam Price yn addo “saith cam at annibyniaeth”,’ meddai pennawd GOLWG 360.
Codaf y ‘cynllun 7 cam’ rhag ichi orfod edrych ôl a blaen:

1. Ethol llywodraeth Plaid Cymru yn 2021.
2. Refferendwm ar annibyniaeth yn 2030.
3. Sefydlu Comisiwn Cenedlaethol i baratoi at y refferendwm, comisiwn a fydd yn ‘rhoi llais i ddinasyddion Cymru am sut wlad fydd y Gymru annibynnol.’
4. Ailethol llywodraeth Plaid Cymru arall yn 2026.
5. Lleihau’r bwlch rhwng incwm a gwariant Cymru. ‘Erbyn 2030, bydd ein bwlch ffisgal yn gynaliadwy a byddwn wedi profi nad yw Cymru’n rhy fach i sefyll ar ei thraed ei hunan,’ meddai.
6. Tyfu economi Cymru.
7. Adeiladu cyfryngau Cymreig newydd.

Ai ‘cynllun’ yw hyn? Ynteu rhestr o bethau yr hoffai Adam eu gweld yn digwydd? E.e. amcanion 5 a 6. Onid pethau AR ÔL annibyniaeth yw’r rhain? A oes gan wlad economi os nad yw’n wladwriaeth? A fyddwn ni ‘wedi profi …’?

Does gan yr hen G.A. ddim cynllun chwaith, ond dyma restru ychydig bethau y mae’n RHAID iddynt ddigwydd cyn y gallwn WNEUD DIM BYD OHONI YNG NGHYMRU.

1. Rhaid i’r PETH MAWR ddigwydd yn yr Alban. Byddai’n dda iawn gallu meddwl na raid i Gymru ddibynnu ar yr Alban, a bu adegau pan allem feddwl hynny. Ond nid felly heddiw. Yn dilyn Datganoli fe aeth yr Albanwyr i gêr uwch, ond am ryw reswm fe aeth y Cymry i gêr is, neu hyd yn oed i’r gêr ôl. Bellach daeth yn llachar o amlwg fod yr Alban yn genedl mewn ystyr nad yw Cymru ddim.

2. Rhan o’r esboniad, a rhan bwysig hefyd, yw fod yr Alban yn llwyddo i gadw’i phobl ifainc alluocaf gartref, ac yn enwedig yn ei cholegau. Gwna hyn drwy eu gwobrwyo’n ariannol. RHAID i Gymru wneud yr un peth. Rhaid i lywodraethau Cymru, yn benodol, atal hunan-ddinistr y dosbarth proffesiynol Cymraeg-ddibynnol y mae ei blant bob mis Medi yn sgrialu dros Glawdd Offa fel rhyw genhedlaeth o Blant y Mans yn cicio yn erbyn eu magwraeth ac yn ffoi am eu bywydau rhag rhywbeth. Yr wyf wedi pregethu digon ar hyn dros y blynyddoedd, problem fwyaf Cymru heddiw ond odid. Nid apelio at gydwybod a theyrngarwch yw’r ateb: ffenomen gymdeithasegol sydd yma, ac ateb amhersonol, cyffredinol sydd iddi. Am gyfnod byr iawn oddeutu 2005 gweithredodd y llywodraeth Lafur ar yr egwyddor hon, dan bwysau oddi wrth y tair plaid arall; ond cefnwyd arni gan lywodraeth ‘Cymru’n Un’, gyda Phlaid Cymru wirion wirion yn fodlon gweld rhawio tunelli o arian yn flynyddol allan o Gymru i ganlyn ei phlant gwasgaredig. Os na thaclwn hyn waeth inni heb â siarad. Nid mater o ‘ddenu’r Cymry’n ôl’ ydyw, ond mater o’u cadw yn ddeunaw oed i lenwi’r lleoedd sydd yng ngholegau Cymru.

3. Bwriwch fod yr Alban yn ei gwneud-hi. Sut i gael i bennau’r Cymry beth fyddai wedi digwydd, ac ystyr hynny? Yma down at seithfed pwynt Adam Price. Anferth o dasg fyddai adeiladu yng Nghymru ‘gyfryngau newydd’ i gwrdd â gofynion yr oes. Golygai, ymhlith pethau eraill, sefydlu papurau dyddiol Cymraeg a Saesneg a thrwy’r rheini gael pobl i feddwl a thrafod a deall beth sy’n digwydd. Rydym wedi mynd i ryw gyflwr, nid yw’r Cymry bondigrybwyll bellach yn cadw sŵn, ac nid yw’r ‘dosbarth clebran’ Cymraeg yn fodlon clebran ond am bethau hollol ddibwys, fel y gwelsom wythnos yr Eisteddfod. Ddarllenwyr, os nad ydych yn gyfarwydd â blogiau Albanaidd y dydd, bwriwch olwg ar Craig Murray, Wings over Scotland, Wee Ginger Dug a Munguin’s New Republic a sylwch ar nifer yr ymatebion, heb sôn am ansawdd y blogiadau eu hunain. Ni allaf ond eich cyfeirio eto at fy hen flogiad ‘Gwasg mewn Gwasgfa’ (30 Mawrth 2017), lle rwy’n dweud ychydig am ymgais fach ein cwmni ni, Dalen Newydd, i symud peth tuag at y nod, ac am ddiffyg cefnogaeth rhai o’n cynrychiolwyr etholedig. Un peth y gall llywodraeth Gymreig ei wneud: sefydlu ASIANTAETH NEWYDDION genedlaethol, gyda’r nod iddi ddod yn gorff siartredig, gyda’r gwahanol gyfryngau newyddion yn tanysgrifio iddi am dâl rhesymol. Ei gwaith fyddai casglu’r FFEITHIAU, ymhell ac agos. Rhwng y cyfryngau unigol a mynegi barn wedyn.

4. Un peth y GALL llywodraeth Cymru ei wneud: ailsefydlu trefn synhwyrol a hanesyddol ystyrlon o lywodraeth leol. Gweler ‘Siroedd, gwledydd a gwlad’ (8 Mehefin). A oes gan Blaid Cymru bolisi O GWBL ar hyn?

5. Wel ie. ‘Ethol llywodraeth Plaid Cymru yn 2021′, ac ‘Ailethol llywodraeth Plaid Cymru arall yn 2026.’ Ie. Wel. Un perygl yw y daw etholiad San Steffan rhyngom a 2021. Fel yr edrych pethau ar hyn o bryd, gall hwnnw fod yn un anodd. Beth petai prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ar agor ar y diwrnod? Ni wna affliw o wahaniaeth pwy fydd yn arwain P.C., bydd Saeson y colegau yn fotio i’r ymgeiswyr tebycaf o’i disodli yn Arfon a Cheredigion.

Peth arall, byddai gofyn i’r etholwyr lyncu’n galed iawn a meddwl am Gymru Fydd. Byddai gofyn i ni yng Ngwynedd, am y tro, edrych heibio i:

(a) Cau’r ysgolion.
(b) Cau’r llyfrgelloedd.
(c) Cau’r clybiau ieuenctid.
(ch) Caniatáu tai diangen.
(d) Gwagio’r biniau bob tair wythnos (arbed arian).
(dd) Hanner miliwn o bunnau tuag at yr Ysgol Ddrôns.
(e) Armed Forces Day.
(f) Yr helynt hollol ddialw-amdano ynghylch ysgolion y Bala.
(ff) Hyd yn oed MEDDWL am newid y polisi iaith i siwtio cwmni niwclear Horizon.

Naw o bethau a fyddai, petawn i’n ddyn cas, yn awgrymu i’m meddwl nad yw’r hen blaid a gefnogais cyhyd YN MEDRU LLYWODRAETHU O GWBL pan gaiff hi gyfle.

§

Wedi dweud hynna oll, clod arbennig i Adam Price am ei arweiniad pendant ar y mater niwclear. Rhybuddiodd na allai Cymru annibynnol, os byth y dôi hi i fod, ddim FFORDDIO mwy o atomfeydd; oherwydd wedi i oes y rheini ddod i ben byddai raid eu diogelu a’u gwarchod hyd dragwyddoldeb, ac ni byddai arian ar ôl ar gyfer DIM BYD ARALL.

Mae Leanne yn addo ‘adolygu’ polisi’r Blaid ar yr un mater. Yr unig adolygu ystyrlon fydd ategu’r polisi fel y saif, sef DIM MWY O ATOMFEYDD, a mynnu fod pob ymgeisydd – lleol, Cynulliad, San Steffan – yn cadw ato.

Go dda Yes Cymru am Brotest y Mwd. A diolch i Neil McEvoy am ei safiad ar hyn fel ar gynifer o bethau.

Enwi trên

25 Awst

Y North Wales Chronicle trwy’r drws yma ddoe. Tudalen 9, ‘War veterans name train to mark the centenary of RAF’.

‘A Virgin train has been named “Royal Air Force Centenary 1918-2018”  to commemorate the RAF’s 100th birthday and its historic links with the railway in North Wales.’ Dadorchuddiwyd yr enw gan gyn-Asgell-Gomandiwr, a gwraig a fu’n ‘posted to Flying Training Command at Penrhos, Pwllheli.’

Ond beth am yr enw? Pam na fyddai rhywun wedi meddwl am enw Cymraeg bachog, hanesyddol, cyfarwydd a chyfoethog ei gysylltiadau?

‘Yr Ysgol Fomio’ siŵr iawn.

A byddai’n cyd-daro’n briodol â phenderfyniad diweddar cynghorwyr Gwynedd (P.C.) i roi rhodd o hanner miliwn o bunnau tuag at Ysgol Ddrôns Meirionnydd.

Diwygio defod

22 Awst

Yn dilyn yr Eisteddfod bu ychydig o fwmian am ddiwygio defodau’r Orsedd.

Mater i’r Orsedd ydyw, yn llwyr ac yn hollol. Ond fel un o’r tu allan rhaid imi gyfaddef teimlo ers blynyddoedd dipyn bach o’r ‘anesmwythyd’ y sonia bardd y gadair amdano ynghylch rhan y merched. Yn draddodiadol, mewn myth a symbolaeth, gall y Fenyw gynrychioli gwahanol bethau: (a) Doethineb; (b) Awen; (c) Daear, Pridd, Ffrwythlondeb. Awgrym o’r olaf sydd ym ‘Mam y Fro’ a ‘Morwyn y Fro’. A bodau bach wedi dod am dro o’u trigle tanddaearol yw Tylwyth Teg y Ddawns Flodau. Fel yna y daeth hi pan ddiwygiwyd i gynnwys y pethau hyn, a diau bod yna ryw ragdybiaeth mai pethau i ddynion, ac yn fwy felly i hen ddynion, ac yn arbennig i hen weinidogion yr Annibynwyr, oedd geiriau, barddas, meddylwaith, cynghanedd. Gwelwn bethau ychydig yn wahanol bellach, ond wir – pe bai gorfod arnaf – fyddai gen i fawr o syniad sut i ddiwygio. O safbwynt y pasiantri mae mentyll coch y Fam a’r Forwyn yn cyferbynnu’n ddymunol â’r gwyrdd, glas a gwyn, a byddai llawer o neiniau Cymru’n dra siomedig pe na bai rhan i’r merched bach.

Ond wrth ddiwygio – os diwygio a fydd – rhaid cofio un peth, ac rwy’n hyderus y bydd y Gorseddwyr yn ei gofio. Os nad yw’r ddefod yn wir hynafol (ac ychydig iawn o ddefodau seciwlar heddiw sydd felly), rhaid iddi fod yn ffug-hynafol. Dyna’r holl bwynt. Gwyddai Iolo hynny, a gwyddai Cynan pan aeth yntau ati pan aeth ati i geisio cael tipyn o drefn a gwedduster yn lle pantomeim shambolaidd yr ambaréls a’r sashys, yr hetiau caled a’r godreon trywsusau. Does dim diben ‘moderneiddio’ defod. Sut y byddem yn ‘moderneiddio’ defodau beunyddiol, drudfawr a manwl-gywir y wladwriaeth Brydeinig? Hanfodion defod yw: gwisg ffansi, symudiadau annaturiol, iaith ddyrchafedig. ‘GweinIER [gorchmynnol amhersonol] y cledd, ac eisteddED [gorchmynnol trydydd person] y bardd yn hedd yr Eisteddfod.’ ‘Atolwg iti dderbyn …’. ‘Diolwch, fy merch’.

Yn ogystal: cadw at y sgript, dim ychwanegiadau personol (ac eithrio mewn anerchiadau oddi ar y Maen Llog), a chadw wyneb. Gwyddai’r rôg Iolo mai tipyn o jôc oedd ei Orsedd, a siawns gen i na wyddai Cynan hefyd yn ddistaw bach. Ond trwy’r gweithrediadau rhaid bod o ddifri. Dyna yn ei dro sy’n gwneud yn bosibl yr is-fath hwnnw ar hiwmor Cymreig, sef yr Orsedd ddoniol neu’r ffug-Orsedd.

Ysgrifenna’r hen G.A. fel un na allai byth wisgo’r un o’r Gwisgoedd, ond sydd wedi gwerthfawrogi cyfraniad yr Orsedd drwy’r blynyddoedd. Mae’r Orsedd yn rhywbeth gwahanol, mae’n hollol groes i’r hyn a ystyria’r gwladwriaethau yn ‘smart’. Mae hefyd yn llwyddo i wylltio’n flynyddol y math o bobl na allant ddioddef gweld (a) Cymry ar eu hymdaith, a (b) Cymry’n ffurfio cylch. Mae hyn yn rhan o gynnal ein bodolaeth.

Diau y bydd y Gorseddogion yn troi meddyliau. Ond fel y soniais y tro diwethaf, mae mater mawr iawn y mae’n rhaid i’r Eisteddfod ymorol yn ei gylch y dyddiau hyn, sef ymryddhau o afael cwmni niwclear Horizon. A dyma beth y gall yr Orsedd chwarae rhan allweddol ynddo.

Stecs a sgandal

16 Awst

Cyfoeth y Gymraeg. Mwd, llaid, llaca, llacs, pwdel, stecs. Beth bynnag y galwn ef, heddiw roedd tunelli lawer ohono i’w dadlwytho ar draethau Morgannwg. Ond darllenwn fod y gwaith wedi ei ohirio tan ‘rywbryd ym Medi’.

Mae gan ein hawdurdodau lleol a chenedlaethol felly ryw fis i ymorol na fydd hyn yn digwydd. Ac i’r gwleidyddion sy’n ymgeiswyr am arweinyddiaeth tair plaid, dyma gyfle eithriadol, cyfle mewn oes, i ddangos faint o sylwedd sydd ynddynt.

Unrhyw ymgeisydd sydd o blaid y niwclear p’run bynnag, mae allan o’r gystadleuaeth wrth gwrs.

§

Down yn ôl at wir sgandal yr Eisteddfod, sef y modd y mae hi’n dal i ymrwbio yng nghwmni niwclear Horizon. Wrth ochr hyn … sylwch ar yr italeiddio, ac fe’i dywedaf eto: wrth ochr hyn doedd jôcs hen-ffasiwn yr Archdderwydd a’r Llywydd yn DDIM BYD. Fe’i dywedaf eto: DIM BYD.

Ailystyried (2)

11 Awst

Dyna ni wedi cael ein cwota o ddwy row Eisteddfodol am y flwyddyn, a rhai bach eithaf diniwed oeddynt.

Mae mater y gallesid codi helynt llawer mwy difrifol yn ei gylch.

Yn wyneb y bwriad i ddympio llwythi o fwd ymbelydrol o Hinkley dros y dŵr ar forlan nid nepell o Faes yr Eisteddfod, onid peth eithafol ddi-chwaeth fu caniatáu noddi’r rhaglen ‘Hwn yw fy Mrawd’ gan – o bawb amhriodol yn y byd – gwmni niwclear Horizon? Yn wir, yn wir, mae taer angen am i awdurdodau’r Eisteddfod, yn lleol ac yn ganolog, edrych at eu safonau a’u cyfrifoldeb mewn materion fel hyn. Fe’m hatgoffir i braidd o eiriau’r Ffŵl yn un o anterliwtiau Twm o’r Nant wrth y Cybydd sy’n newid ei grefydd er mwyn priodi gwraig gyfoethog:

Rwy’n amau y troech chwi cyn y Sul
Yn fastard mul am elw.

Ond beth bynnag am yr Eisteddfod, trown yn awr at Blaid Cymru. Darllenwn yn rhifyn cyfredol Heddwch, cylchgrawn da CND Cymru, fod Leanne wedi galw am ‘adolygiad trylwyr o bolisi pŵer niwclear ei phlaid’. Os mai ystyr ‘adolygu’ fydd ‘ategu’, dyna ni, ac yn wir ni allaf feddwl am unrhyw benderfyniad arall a fyddai’n gyson ac anrhydeddus. Ond a oes perygl y cawn ni bolisi o ‘ategu polisi’r Blaid o wrthwynebiad llwyr a diamod i unrhyw ddatblygiadau niwclear pellach yng Nghymru ac eithrio yn y ddwy etholaeth lle mae sôn am godi atomfeydd newydd’?

Ni allaf gael o’m meddwl sylw Rhun ab Iorwerth yn un o’r seiadau holi dro yn ôl. Gobeithio nad wyf yn gwneud cam â’i eiriau, ond fe ddywedodd rywbeth fel hyn: na all ef wrthwynebu cynlluniau Wylfa B a’r un pryd edrych yn llygad cymydog ifanc sy’n gobeithio cael gwaith yno. Dyma rethreg tsiêp o’r math a gysylltwn â gwleidyddion Llafur o’r genhedlaeth o’r blaen. Dyma’r math o beth y byddai Goronwy Roberts yn ei ddweud. Serch ei holl wendid a’i hanwadalwch ar lawer peth yn ystod y blynyddoedd, ni chofiaf i Blaid Cymru erioed o’r blaen ddisgyn i’r lefel hon.

Ailystyried (1)

10 Awst

Ie mi wranta’, rhywrai’n dechrau corddi ynghylch y rheol iaith eto. Efo cyfeillion fel y rhain, pa angen gelynion?

Ystwytho’r rheol er mwyn gallu perfformio mewn ‘ieithoedd lleiafrif’ eraill? Ond beth yw ‘iaith leiafrif’? Ym mha gyd-destun, yn ôl pa safon, y diffiniwn ni ‘iaith leiafrif’? Gochelwn rhag troi’r Eisteddfod yn ‘ŵyl ieithoedd lleiafrif’. Nid iaith leiafrif yw’r Gymraeg ymhlith ei defnyddwyr, ond iaith pob un ohonynt.

Crybwyllwyd yr ieithoedd Celtaidd eraill. Mae’n debyg fod yna ryw gymal neu isgymal rywle yng nghyfansoddiad Gorsedd y Beirdd yn caniatáu i rai o’r cynrychiolwyr Celtaidd, yn ystod un o’r defodau, ein cyfarch yn eu hiaith neu ieithoedd ein hunain. Nid drwg o beth yw ein hatgoffa’n hunain yn flynyddol am fodolaeth y rheini, rydym wedi arfer ag o, ac mae’r cyfan drosodd mewn pum munud. Ond cyfrifoldeb eu siaradwyr yw meithrin yr ‘ieithoedd Celtaidd’ eraill a’u hachub, os oes modd o gwbl, o borth marwolaeth. Bargen wael fyddai cael clywed cwpwl o ganeuon gwerin Llydaweg yn yr Eisteddfod ac ar yr un pryd gynnwys pob Eos y Pentan i ddod a chanu ‘the Italian Song’. (Gweler stori anfarwol yr Henllys Fawr.)

‘Nid ar draul y Gymraeg,’ meddir eto. Ac yn sicr, ‘dim Saesneg’. Ond peth cas fyddai cymal yn gwahardd yr iaith Saesneg dan ei henw, neu o ran hynny yn gwahardd unrhyw iaith, ac ni bu’r fath beth erioed yn rhan o gyfansoddiad yr Eisteddfod. Mae’r rheol yn glir a syml fel y mae: ‘Y Gymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a’r Ŵyl’. Dan y cyfansoddiad, ni ellir newid y cymal hwn. Yr unig ffordd o’i newid fyddai dileu’r cyfansoddiad ac yna mabwysiadu un arall yn ei le ymhen rhyw ysbaid, hir neu fyr.

Cofier hynny, a pheidio â mwydro.

Rhagor yfory ar y testun ‘Ailystyried’.

Hanner ffordd …

7 Awst

Hanner ffordd drwodd ac o’r pellter hwn, mae’n ymddangos fod ‘Steddfod y Stryd’ yn llwyddiant diamheuol. Eisoes mae dyn yn dechrau meddwl pryd y gellir ei wneud eto, ac ym mhle. Y funud hon nid yw’n hawdd meddwl am leoliadau addas, ond efallai y daw rhyw weledigaeth. Yn y cyfamser, siawns na fydd yr eisteddfodwyr yn barod i ddygymod rai troeon eto â’r mwd traddodiadol.

Ond diflas yw’r ensyniad a glywyd braidd yn rhy aml y dyddiau diwethaf, fod yr Eisteddfod cyn hyn yn ‘gaeedig’. Peidiwch â siarad lol, wir. Mae ffens o gwmpas cae sioe a chae rasys ceffylau a chae ymryson cŵn defaid a chae pêl-droed. Os yw’r hyn sy tu mewn yn apelio atom rydym yn talu am fynd i mewn, a dyna ni. Nid ataliwyd neb erioed o unrhyw eisteddfod oherwydd ei iaith na’i liw na’i darddiad; ac fel mae’r blog hwn wedi dweud o’r blaen. yr unig beth a all wneud ambell Eisteddfod Genedlaethol ychydig yn llai hygyrch yw traffig yr ardal o gwmpas.

Trawodd un peth fi eleni, sef cyn lleied a wna’r cyfryngau, Cymreig ac arall, o Eisteddfod Llangollen. Gwneler yn fawr o hon, yn lle cwyno a chynrhoni yn erbyn Cymreictod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Geirda i’r Archdderwydd am un peth a ddywedodd wrth goroni Catrin Dafydd, sef ein hatgoffa am ei gwaith ardderchog fel ymgyrchydd dros y blynyddoedd. Wrth longyfarch Catrin yn wresog heddiw, cofiaf am ei harweiniad ym mlynyddoedd cynta’r ganrif ar fater y Coleg Cymraeg Ffederal, – y rali a drefnodd yn Eisteddfod Meifod 2003, a’r wylnos ar noson oer iawn o’r Gwanwyn dilynol ar risiau’r Cynulliad. Rhoddodd Catrin dân yn yr ymgyrch ar adeg pan oedd cynifer o bobl eraill yn claddu eu neiniau neu’n torri eu gwalltiau neu o blaid ‘cydweithio, nid Coleg Ffederal’ – yn cynnwys rhai sy’n sêr disglair yn ffurfafen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol erbyn heddiw.

Am wahanol resymau ni bûm erioed mewn Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Dyma’r bedwaredd imi ei cholli. Ond cofiaf y sôn wythnos Eisteddfod 1960 fod ‘y brifddinas yn cynhesu at y Gymraeg’ a rhyw bethau felly. Hyd yma nid yw’r ffigurau’n dweud ei fod wedi digwydd. A yw’n mynd i ddigwydd y tro hwn?

Clywn yn ddigon aml am y ‘cynnydd’ a’r ‘bwrlwm’, a chyfeirir at dwf addysg Gymraeg yn y ddinas a thrwy’r de-ddwyrain yn gyffredinol. Addewir agweddau mwy cefnogol eto, a mwy o ddarpariaeth, gan Gyngor Caerdydd. Da iawn os yw’n wir. Ond mae un agwedd ychydig yn rhyfedd ar hyn oll. Ddeugain i hanner can mlynedd yn ôl, ofn mawr y gwleidyddion Llafur a’u gweision oedd y byddai ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog yn magu cenedlaetholwyr. Nid ymddengys fod hynny’n digwydd o gwbl. Mae’n berffaith saff.

Peth arall y clywsom dipyn o sôn amdano yw’r duedd newydd gan deidiau a’r neiniau o’r ardaloedd Cymraeg i brynu ail gartref yn y brifddinas er mwyn ‘carco’r wyrion’. Iawn meddwn innau, ac fel y mae’r blog hwn wedi dweud o’r blaen mae’n iawn i bob Cymro gael hendref a hafod os gall eu fforddio. Ond beth am weithio y ffordd arall hefyd? Gymry proffesiynol, llwyddiannus a chefnog Caerdydd, gofalwch eich bod yn prynu tŷ yn eich hen fro a chadw rhyw droedle yno. Byddai hynny’n rhywbeth.