Yn ystod y blynyddoedd mae’r hen G.A. wedi newid ei feddwl ar sawl peth. A newid wedyn. A newid yn ôl wedyn.
Yr UN peth gwleidyddol y gallaf ymffrostio na newidiais fy meddwl arno o gwbl dros gyfnod o drigain mlynedd yw’r angen am ddiarfogi niwclear. Yr oeddwn yn gefnogwr CND cyn erioed uniaethu ag unrhyw blaid, ac mae unrhyw adfywiad gan y mudiad hwn yn sicr o gynhesu fy nghalon.
Da iawn derbyn yr adroddiadau felly am yr ardystiad mawr yn Llundain echdoe, lle siaradodd arweinwyr pedair plaid. Y tro hwn mae dau ffactor yn cyd-daro, sy’n ei wneud yn wahanol i bob tro o’r blaen pan fu’r pwnc yn destun ymgyrchu a dadlau.
Fe gofiwn ddwy bennod o ymwneud y Blaid Lafur â’r mater hwn. Bu pleidlais gref wrth-arfau-niwclear yng nghynhadledd flynyddol Llafur, 1961, ond Gaitskell yr arweinydd seneddol yn datgan yn ddigyfaddawd na dderbyniai ef byth mo’r penderfyniad, yn wir yr ymladdai, ac yr ymladdai, ac yr ymladdai eto, i’w wrthdroi. Aeth y wasg Dorïaidd, a hefyd y Daily Mirror honedig sosialaidd (prif bapur tabloid y dyddiau cyn-Sun hynny), i lesmair dros ei araith, a chanoneiddiwyd ef yn y fan yn brif arwr adain-dde Prydain yr ugeinfed ganrif. (Gallwn adrodd pregeth hir ar y testun hwn: ADAIN DDE PLAID Y CHWITH sydd wedi’n bradychu AR BOB ACHLYSUR oddi ar sefydlu democratiaeth seneddol ym Mhrydain; ac mae’r un peth yn wir i gryn raddau am yr Unol Daleithiau.) Erbyn dechrau’r 1980au yr oedd Michael Foot yn arweinydd Llafur a diarfogi niwclear ar raglen y blaid. Fe wyddom sut y bu y tro hwnnw.
Y ddau ffactor heddiw:
(1) Diarfogwr unwaith eto’n arweinydd seneddol Llafur. Profwyd yn anghywir y broffwydoliaeth ‘na byddai yno tan y Nadolig’. Y gobaith yn awr yw y gall Corbyn ddal ei dir tan fis Medi, a chael pleidlais glir yn y gynhadledd. Yna dylai ddiswyddo pob aelod o’i ddarpar gabinet na fydd yn cyd-fynd â’r polisi. Ni byddai hyn ynddo’i hun yn gwarantu unrhyw fath o lwyddiant, oherwydd mae Lloegr Dorïaidd gyda ni bob amser, ac ofn y Dde yn parlysu meddwl y Chwith fel erioed. Ond heddiw mae ffactor (2).
(2) Er anghysur i rai o fewn ei blaid, cytunodd Corbyn i rannu llwyfan ag arweinwyr pleidiau eraill, gan gynnwys y gelynion mawr, cenedlaetholwyr yr Alban a Chymru. Cofiaf yn dda geisio hyrwyddo tipyn ar achos CND yn y coleg flynyddoedd lawer yn ôl, ond rhai o Saeson y mudiad yn bur drwynsur ynghylch cydweithio â chenedlaetholwyr o gwbl, neu hyd yn oed â myfyrwyr o Gymry. Rhaid derbyn mai cangen o Chwigiaeth Seisnig yw CND, yn union fel y Blaid Werdd, a bod yno bobl wrth-Gymreig iawn yn y rhengoedd. Bid hynny fel y bo, rhaid edrych heibio iddo gan gadw golwg ar y nod terfynol. Dangoswyd drosodd a throsodd na all y Chwith Brydeinig byth gyflawni’r genhadaeth hon ar ei phen ei hun. Gwaith un neu ragor o’r ‘gwledydd Celtaidd’ (fel y gelwir hwy, yn gam neu’n gymwys) fydd dwyn y maen i’r wal. Heddiw mae gennym lywodraeth Albanaidd a chanddi’r ewyllys i wneud yr hyn sydd ei angen. Er clod i Corbyn, mae’n gweld hyn.
Yma yng Nghymru bu bob amser garfan fechan o genedlaetholwyr adain-dde yn anhapus ynghylch y cysylltiad â mudiadau diarfogi Prydeinig. Yr ateb i’w pryder hwy – a chredaf y byddai mwyafrif helaeth o genedlaetholwyr yn cytuno â hyn – yw nad mater o heddychaeth yn unig sydd yma, ond mater hefyd o dorri crib y bendefigaeth a fu mewn grym oddi ar y diwrnod hwnnw yn 1066. Mae’n fater o ailgyflunio Prydain, o roi Lloegr yn ei lle. A phan wêl y Cymry Loegr wedi ei sodro yn ei lle, efallai, efallai fod gobaith y cânt olwg newydd arnynt eu hunain, golwg heb ynddi’r ymdeimlad oesol o israddoldeb, – sef yr union ymdeimlad sydd wedi dod â’r Gymraeg i’w chyflwr presennol.
Y tro cyntaf y clywais Gwynfor Evans yn siarad, roedd yn rhannu llwyfan â’r Parchedig Michael Scott, arweinydd CND ac wedyn ‘Pwyllgor y Cant’, mewn cyfarfod Saesneg oddi ar y maes yn ystod wythnos Eisteddfod Glynebwy, 1958. Priodol fod Leanne yn parhau’r traddodiad. Efallai na chaiff hi fawr o ddiolch gan y Chwith Seisnig, nac yn wir gan etholwyr Morgannwg a Mynwy, nad ymddengys fod ganddynt fawr o amgyffred o fater fel hwn. Ond gwnaeth yn iawn drwy gymryd rhan.
PETAI’n digwydd fis Mai fod raid wrth ryw fath o glymblaid yn y Cynulliad er mwyn ffurfio llywodraeth o gwbl, does ond gobeithio nad ystyria Plaid Cymru AM FUNUD unrhyw bosibilrwydd o gefnogi Llafur dan ei harweinyddiaeth Gymreig bresennol. Oherwydd fe wyddom ble saif Carwyn. Gyda’i alwad am ‘Trident i Gymru’ (‘mwy na chroeso’) gwnaeth beth eithafol ffôl, a dylai barn ddisgyn arno.
(Mater arall yw cyflwr tra rhyfedd Plaid Cymru’n gyffredinol. Rhoddaf orffwys iddo heddiw. Ond hwyrach yr hoffai’r darllenwyr droi at flog ardderchog diweddar Jac o’ the North.)