Dyma’r hen Glyn Adda’n sgrifennu heddiw ar fater nad oes ganddo unrhyw brofiad ohono, nac unrhyw gysylltiad ag ef ac eithrio fel trethdalwr. Llywodraeth Leol.
‘Lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch,’ medd Llyfr y Diarhebion. Nid yw pawb i’w weld yn cytuno. Mae tipyn o fwmian ers tro fod 22 awdurdod unedol yn ormod yng Nghymru, ac y byddai nifer llai, cynghorau mwy, yn rhoi gwell gwasanaeth. Dyma Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd, yn awgrymu dychwelyd at un cyngor i’r Gogledd Orllewin, sef yn ymarferol yr hen Wynedd, neu ‘Gwynedd Uwch Conwy’, neu ‘Gwynedd go iawn’. Golygai hyn ddychwelyd at ‘Wynedd a Chlwyd’ fel dan drefniant 1974, gyda ‘Clwyd’ yn enw hwylus ar ‘Gwynedd Is Conwy’. Yr un diwrnod dyma Aled Roberts AC, cyn-arweinydd Cyngor Sir Wrecsam, yn pleidio un awdurdod i’r cyfan o’r Gogledd.
Nid ar chwarae bach y mae mynd i’r afael ag ad-drefniad arall, ac o fethu â’i chael hi’n iawn y tro hwn gellir dychmygu llanast dychrynllyd. Byddai raid sicrhau i ddechrau ddwy amod: (1) bod y trefniant newydd yn un ystyrlon; (2) ei fod y trefniant gorau posibl o safbwynt y Gymraeg.
Wrth ddweud ‘ystyrlon’, golygwn hynny nid yn unig ar gyfer anghenion heddiw, ond yn hanesyddol hefyd. Gofyn hyn:
(1) (a) Adfer ffiniau ac enwau siroedd hanesyddol, gwirioneddol Cymru. ‘Creadigaethau Normanaidd’ medd rhywun am rai ohonynt efallai. Gwir, ond rhannau o wead bywyd Cymru ers cenedlaethau lawer. Os daw cenhedlaeth eto i oed heb wybod dim am y tair sir ar ddeg, sut y gellir dysgu na deall hanes Cymru? Ai un o Sir Conwy oedd yr Esgob William Morgan? Morynion glân ble? Iolo ble oedd yr Edward Williams hwnnw? FELLY: cadw Sir Fôn; adfer Sir Gaernarfon, o Enlli hyd Ben y Gogarth; adfer Sir Drefaldwyn, Sir Frycheiniog, a Sir Faesyfed. Adfer ffiniau siroedd Dinbych a Fflint, ond gydag un newid bach sydd wedi ei sefydlu eisoes, sef ‘Wrecsam-Maelor’ yn uned.
(b) Eu galw’n ‘siroedd’ ond gyda chyfrifoldebau nid annhebyg i’r hen gynghorau dosbarth – petaent yn ddim ond brwsio’r lôn a chasglu sbwriel.
(2) Adfer hefyd batrwm o daleithiau, neu yn wir wledydd hanesyddol, sef yr hyn a gafwyd yn ad-drefniad 1974, ac a wnaed heb groesi ffiniau yr un o’r hen siroedd. Rhaid cael y wir Wynedd yn ôl, nid fel sir y tro hwn, ond fel un o wledydd Cymru.
(3) Creu perthynas ffederal rhwng awdurdodau sir a thalaith, gyda chynrychiolaeth o’r naill ar y llall, fel na byddai gormodedd o gynghorwyr. Dylai’r ‘taleithiau’ neu’r ‘gwledydd’ fod yn gyfrifol am addysg, iaith a macro-gynllunio, a’r ‘siroedd’ fod â rhyw gyfrifoldebau llai. Hyn-a-hyn o aelodau Cyngor Sir Fôn (dyweder) yn gwasanaethu hefyd ar Gyngor Talaith Gwynedd; a hyn-a-hyn o aelodau Cyngor Talaith Gwynedd, o Fôn, yn gwasanaethu hefyd ar Gyngor Sir Fôn.
(4) Dyweder bod tair sir ar ddeg + tri bwrdeistref sirol, fel cyn 1973. Yna rhyw 5 talaith neu wlad. Byddai felly 21 awdurdod o hyd, ond byddent yn gorgyffwrdd, gydag un gwastad yn gordoi’r llall. Byddai hyn yn ystyrlon, ac o weithio allan y manylion yn fanwl, gallai fod yn ymarferol hefyd.
Rhai cwestiynau.
(1) Un awdurdod ar draws y Gogledd? Angeuol i genedl y Cymry. Diwedd ar hynny o gryfdwr sydd i bolisïau iaith Gwynedd. Yn hyn o beth mae Dyfed Edwards yn iawn, ac Aled Roberts yn chwarae â thân.
(2) A fyddai cenedlaetholwyr — neu yn fwy manwl, Pleidwyr — am weld adfer Sir Gaernarfon, o Aberdaron i’r Creuddyn, neu yn wir am weld adfer Gwynedd a fyddai’n cynnwys Conwy Seisnigaidd a Môn drafferthus? Onid yw’r ‘Wynedd’ bresennol, sef Arfon-Meirion, yn fwy cysurus i’w gweinyddu? Rhy gysurus efallai, awgrymaf yn garedig. Fe aed i gymryd pethau’n ganiataol, ac fe wnaed camgymeriadau mawr.
Credaf fod fy nghof yn gywir yn hyn o beth. Ar wir Wynedd 1973 yr oedd cynghorwyr gwrth-Gymreig o ochrau Llandudno, oedd; ond roedd y rheini mewn lleiafrif, ac roedd cynghorwyr goleuedig iawn o’r un cwr hefyd. Ac roedd cynrychiolwyr Môn yn eu bihafio’u hunain cystal â neb. Mae’n dibynnu llawer ar y cwmni, ac ar y cywair sy’n cael ei osod o’r dechrau. Gosodwyd cyfeiriad Gwynedd 1973 gan arweinwyr blaengar, gwlatgar, heb fod oll o’r un blaid; daeth i fod yr awdurdod mwyaf llwyddiannus erioed ym mater y Gymraeg. Trobwynt yn wir oedd llefaru un frawddeg, yng nghyfarfod cyntaf yr awdurdod newydd, gan y diweddar Wmffra Roberts: nad oedd yn bwriadu siarad yr un iaith ond Cymraeg yn y cyfarfodydd. A oes yna arweiniad o’r ansawdd hon heddiw?
(3) Ai gormod o gynghorau yw’r wir broblem? Beth petaem yn enwi peth arall: gormod o swyddi di-fudd, diystyr, dialw-amdanynt, a gormod o swyddogion yn eu llenwi? I rai, ni wiw sôn am hyn. Gyda Chyngor Gwynedd, dyweder, yn gyflogwr mor fawr, onid yw’r cyfan er lles i economi cylch Caernarfon, ac yn ffactor mewn cynnal y Gymraeg? A chymryd golwg agos, ydyw y mae. Ond sefyllfa annaturiol yw hon lle mae gweinyddiaeth agos â bod yn brif gyflogwr, a sefyllfa na ellir dibynnu arni yn y tymor hir. Gyda phob un ad-drefniad addewir llai o fiwrocratiaeth, ond creir mwy. Rhaid torri ar y patrwm hwn. Dan y math o drefn a awgrymir uchod, yn cyfuno ‘siroedd’ a ‘thalaith’, byddai cyfle i ofyn pa swyddi a fyddai’n dal yn wir angenrheidiol, a’u llenwi’n unig â rhai cwbl gymwys i weinyddu trwy’r Gymraeg.
Mi garwn pe bai rhywrai mwy gwybodus a phrofiadol na mi yn edrych ar fanylion a chyllid rhyw batrwm fel hyn. Byddai’n ganolog mewn cynllunio ieithyddol.