Archif | Mawrth, 2015

Tro bach i’r banc

31 Maw

Wedi bod am dro bach i’r banc p’nawn ’ma, yn diddymu fy ngorchymyn banc i’r Sefydliad Materion Cymreig.  Cyfraniadau diweddar Phil Parry ac Elizabeth Haywood a drodd y fantol.  Mae croesawu myfyrwyr tramor (testun y naill) a dysgu ieithoedd (testun yn llall) yn bethau cwbl gymeradwy, ond – unwaith eto – dyma wneud y ddau yn eu tro yn esgusion i ladd ar y Cymry.  Rhydd i bawb ei farn, yn cynnwys barn adweithiol ac anneallus, ond rhydd i minnau beidio â chyfrannu tuag at roi llwyfan iddi.

Pan Flodeua’r Rhosyn Gwyn

22 Maw

Dywedwch, bwriwch fod ymchwilwyr yn llwyddo i ddod ar draws gweddillion gwirioneddol, DNA-ardystiedig, i un o dywysogion Cymru.  Er enghraifft, Owain Glyndŵr.  Nid yw’n debyg o ddigwydd, ond dywedwch.  Mae’n debyg y byddai rhyw drefniant gan rywrai i gladdu’r gweddillion yn weddus mewn man cymeradwy.  Fe gynhelid rhywbeth ar ddiwrnod arbennig. Faint fyddai yno?  Ar y gorau, llond llaw. Cofio’r ymateb tila, tila gan lywodraeth a chyhoedd i chwe chanmlwyddiant Senedd Machynlleth, 2004.

Eiddigedd gan hynny oedd un teimlad wrth wylio heddiw ddefodaeth trosglwyddo gweddillion Brenin Lloegr, Rhisiart III, i Eglwys Gadeiriol Caerlŷr ar gyfer ei angladd yno ddydd Iau.  Am sioe hanesyddol does dim curo ar y Sais ac fe drefnwyd popeth heddiw yn hynod drawiadol ac addas.  Er bod Eglwys Loegr a Phrifysgol Caerlŷr yn gyfrannog, ac Arglwyddi’r Deyrnas, disgynyddion dwyblaid Rhyfeloedd y Rhos, yn chwarae rhan symbolaidd, a haneswyr dysgedig yn trafod wedyn, yr oedd rhywbeth ddim-cweit-yn-swyddogol, ddim yn hollol o’r Sefydliad, yn y gweithgaredd heddiw, ynghyd â rhyw elfen fyrfyfyr, rhyw deimlad fel petai’n codi o’r dyrfa fawr.  Pryd profasom ni rywbeth fel hyn o’r blaen yng Nghymru?  Bydd hi’n ddengmlwydd a thrigain y Gwanwyn yma.  Cynhebrwng Lloyd George.  Yr oedd rhywbeth tu ôl i hwnnw, Ymneilltuaeth, a Chymru werinol, radicalaidd, er bod y ddeubeth yn eu dirywiad erbyn hynny.

Mae’n rhaid cael rhyw sioeau, os mai cadw hunaniaeth a diwylliant yw’n hamcan, ac os daliwn fod rhyw werth mewn ‘cof cenedl’.  Tybed a yw’r gorymdeithiau Gŵyl Ddewi yn gychwyn rhywbeth newydd ac yn rhagarwydd bach o adfywiad yng nghanol yr holl ddadfeilio o’n cwmpas?

Mae holl hanes Maes Bosworth yn cynhyrfu teimlad.  Y gadwyn hir o ddigwyddiadau yn arwain ato, a’r holl ganlyniadau wedyn. Beth petai pethau wedi troi’n wahanol yn y munudau olaf yna, a Rhisiart wedi ennill, fel y gallasai yn hawdd?   Dim llinach Duduraidd, dim ‘Deddfau Uno’ efallai, dim Diwygiad Protestannaidd yn y ffurf a welsom ni arno, dim Beibl Cymraeg. Y prif ganlyniad, rwy’n mentro dyfalu, yw na byddem ni yma’n  Gymry, heddiw nac ers rhai cenedlaethau.  Trafodais hyn o’r blaen (Atgyfodi Brenin? 6 Chwefror 2013).

Diwrnod mawr iawn i blaid y Rhosyn Gwyn, coron ar gredu a dadlau ac ymgyrchu gan ei haelodau ledled y byd.  Diwrnod mawr i Loegr hefyd, rywsut.  Ond mae un peth od.  O ran teledu, gadawyd y cyfan i Sianel 4, ac felly bydd eto ddydd Iau.  Llywiwyd yr adroddiadau a’r trafod yn ddifyr dros ben gan Jon Snow.  Ble roedd y BBC ar yr achlysur brenhinol hwn?  Doedd dim golwg o Huw Edwards, ac rwyf newydd wrando ar benawdau Newyddion Radio Cymru am wyth o’r gloch.  Dim gair am yr achlysur o gwbl.  Beth yw’r esboniad meddech chi?

Pwynt am Panto a Pontio

22 Maw

Mae’r stori hon yn wythnos oed a dylwn fod wedi ei sgrifennu ynghynt. Wythnos yn ôl, ar ddwy noson, bu Cymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor yn cyflwyno Panto, drama olaf Gwenlyn Parry. Drama’n cynnwys drama yw drama enwoca’r byd, Hamlet, ac mae elfennau bychain o ‘ddrama mewn drama’ yn A Midsummer Night’s Dream a Love’s Labour’s Lost gan yr un awdur.  Peth ychydig yn wahanol, ond eto aelod o’r un tylwyth, yw drama am y broses o lunio drama, fel Chwe Chymeriad yn Chwilio am Awdur (Pirandello),  Cyfyng Gyngor (Huw Lloyd Edwards) a Drama Tomos (John Ellis Williams).  Wedyn mae drama am ymarfer drama, megis La Répétition (Anouilh), a gwerth cofio am gomedi fach ddifyr Leyshon Williams, Y Practis.  Mae rhywbeth o’r pethau hyn oll yn Panto, gyda’r ddyfais o gydredeg a chyferbynnu yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan ac oddi arno.  Actor comedi canol-oed yn mynd ar ei sodlau, wedi ei lethu gan ei wendidau ei hun, yw’r prif gymeriad, ac aflerwch ei fywyd yn cyferbynnu â sbort ysgafala pantomeim Dick Whittington y cawn ei weld ar gwr arall y llwyfan.

Ces wybod fod eraill, fel finnau, yn cofio beirniadaeth heb fod yn or-frwd ar y ddrama pan oedd yn newydd, ac nid yw’n anodd nodi ei phrif wendid, sef plastro’r rhegfeydd a’r afledneisrwydd yn rhy gynnar ac yn rhy hael.  Ond fe gydiodd y perfformiad o’r munudau cyntaf ac fe’i cynhaliwyd hi hyd at y diwedd enigmatig gan chwarae realiti a rhith yn grefftus yn erbyn ei gilydd.  Fe gymerodd y cwmni arno’i hun her ac fe ddaeth i’r lan â hi.  Hyd yma ni chlywais neb yn dyfarnu’n wahanol.  Llwyddiant yn wir i’r gymdeithas ddrama atgyfodedig ac i’r cynhyrchydd gwadd, Catrin Jones Hughes.

Mewn dyddiau rhyfedd, a thra rhyfedd hefyd, ar yr hen Goleg ar y Bryn – sef yr hyn ydyw o hyd i lawer ohonom – un arwydd  bach o fywyd, un awgrym nad yw’r Panto oll ar ben, yw adfywiad y gymdeithas hon drwy ymroddiad criw galluog a brwd.  Mewn un sesiwn a darn fe lwyddwyd i roi inni bedwar cynhyrchiad, o natur amrywiol iawn a chan gynyddu mewn profiad a sicrwydd.

Ond pwy yw’r ‘ni’ ?  Ar y nos Sadwrn yr oedd cynulleidfa o ryw ddeg ar hugain yn Neuadd John Phillips, a’r cwmni’n hapus dros ben eu bod wedi llenwi’r seddau ar y nos Wener â thrigain o edrychwyr.  Dowch yn ôl hanner can mlynedd.  Rhowch ‘0’ ar ôl y 60 yna.  Gall rhai ohonom gofio Neuadd Prichard Jones yn llawn, 500-600 o seddau, mewn dau a thri pherfformiad o Y Tad a’r Mab, Gwalia Bach, Hanes Rhyw Gymro, Cilwg yn Ôl.  Nifer y myfyrwyr bryd hynny? Rhyw 1,500-2000  Yr oedd Cymry ym Mangor Uchaf, a rhagor yn y dref a’r cyffiniau. Doi partïon o’r fan yma a’r fan acw. Byddai cynfyfyrwyr yn taro i mewn.  Ac yr oedd myfyrwyr a staff yn cefnogi ymdrechion cydaelodau o’r coleg.

Bu newidiadau mawr mewn technoleg, mewn arferion ac mewn chwaeth, fel nad priodol efallai sôn gormod am bethau fel ‘ysbryd y coleg’ a ‘theyrngarwch’.  Ac mae’r Cymry’n diflannu. Ni ddylai hyn fod yn unrhyw fath o gysur, ond mae’n ymddangos ei bod hi llawn cyn waethed ar y gweithgareddau Saesneg – neu yn llawer iawn gwaeth pan gymharwn faint y ddwy gynulleidfa ddichonol.   Hogia bach, noson y Mikado y llynedd !  Roedd y gynulleidfa’n ddifrifol, a gwell peidio â dweud dim am y perfformiad.   O ! Nosweithiau ysgubol, penfeddwol yr hen G&S yn y PJ, hanner canrif yn ôl eto.

Oes yna ateb ?  Beth am gyfraniad  pedwar o uwch-swyddogion y coleg a Pontio, yn pererindota ar ein rhan ni oll i Efrog Newydd i wrando Bryn Terfel? Siŵr o fod o help, yn tydi ?

Gwlad Pob Peth o Chwith.

Bond yn y Bae

15 Maw

Coridor yn Senedd Cymru, Caerdydd. Mae’r camera’n dilyn dyn  talgryf a’i wallt yn gwynnu, yntau’n llusgo sach trwm ar ei ôl, ac arno’r geiriau ARIAN TRETHDALWYR CYMRU.  Daw at ddrws ac arno’r arwydd AURIC KARWINN, PRIF WEINIDOG.   Mae’n mynd i mewn heb guro, oherwydd ei swyddfa ef yw hon, gan ddal i lusgo’r sach ar ei ôl. Am ennyd mae’r ystafell yn dywyll, ond wedi i Karwinn roi’r golau caiff ychydig o sioc.

KARWINN:   Jiw jiw !

Yn eistedd a’i gefn atom yng nghadair droi-rownd y Prif Weinidog mae dyn dieithr mewn siwt raenus.  Yn bwyllog mae’r dieithryn yn troi yn y gadair i wynebu’r camera.

DYN:   Bore da Mr. Karwinn.  Bond yw’r enw. James Bond.

KARWINN:  Yffach !   Ym … y … be ga’ i wneud i chi, Mr. Bond ?

BOND:   (Yn tynnu gwn.) Gewch chi roi’r cwdyn ’na i mi, a dim lol.

KARWINN:    Fi’n pallu gwneud ’na, Mr. Bond.  Chi’n gweld, mae’r arian ’ma … hynny yw, beth fi’n meddwl … mae cynnwys y cwdyn ’ma’n perthyn i drethdalwyr Cymru.

BOND:   Am y tro ontefe Mr. Karwinn?  Ond ddim yn hir.   Ydw i’n iawn?

KARWINN:    Odych … hynny yw nac ych … hynny yw, dyma arian Gwobr Gŵyl Ddewi Prif Weinidog Cymru, ac mae’n mynd at achos teilwng iawn …

BOND:    Achos teilwng, ha-ha dyna un dda!  Garech chi enwi’r achos, Karwinn ?

KARWINN:   Fi’n trial cofio …. O, ym …. Cartrefi Dr. Barnardo … Nage, sefwch funed … fi’n credu taw Eisteddfod yr Urdd …

BOND:   Gadewch imi helpu’ch cof chi   …  Beth petawn i’n awgrymu mai enw’r achos teilwng yw …  SMERSH ?    (K. Yn llyncu’n galed, wedi ei ddal.)  Rydw i’n iawn on’d ydw i Mr. Karwinn ?  Allwch chi ddim gwadu.   Sut rych chi’n mynd i esbonio i bobl Cymru pam mae SMERSH yn haeddu’r wobr fawr yma?   Y?

KARWINN:  Whare teg, Mr. Bond, SMERSH dodws Cymru ar y map-w.

BOND:   Ar y map.  Diddorol iawn.  Ydych chi’n meddwl dweud wrtha i, Karwinn, nad oedd Cymru ddim ar y map o’r blaen?

KARWINN:   Nac oedd, Mr. Bond, ac mi alla’n i brofi  hynny.  Pwyswch y botwm yna ar fraich chwith y gadair.  (Heb ollwng ei wyliadwriaeth, mae Bond yn pwyso’r botwm.  Yn ebrwydd mae drws yng nghefn y swyddfa’n agor a daw dyn i mewn.)  Mr. Bond, dyma fy nghyfaill a’m cydweithiwr, Arglwydd Blofeld Elis-Thomas.  Gan mai fe yw’n hawdurdod ni yma ar lenyddiaeth Gymraeg rw i am ofyn cwestiwn iddo fe’n syth.  Blofeld, gwed wrth Mr. Bond, a oedd Cymru ar y map o’r blaen ?

BLOFELD:   Nac oedd, Mr. Karwinn.

KARWINN:   Yn bendant?

BLOFELD:   O, yn bendant.

KARWINN:   A shwt ni’n gweud ’ny?

BLOFELD:   Achos bod y bardd yn dweud. ‘Nid yw hon ar fap.’

KARWINN:   ’Na fe !  Atebwch hynna, Mr. Clyfar Bond !  Ha-ha-ha!  (Chwerthiniad gwallgo.)

BOND:    A !  Ond atebwch chi hwn, Karwinn.   Be wnaeth SMERSH wedyn i ddodi Cymru ar y map?

KARWINN:   Wyddech chi ddim? O, rwy’n synnu at eich anwybodaeth chi, Mr. Bond.  Wyddech chi ddim mai SMERSH drefnodd Dwrnameint Golff y Celtic Manor …?

BOND:  Ho, felly wir ?  Fe fyddwch yn dweud wrtha i nesa mai SMERSH drefnodd Gynhadledd NATO … !

KARWINN:    Rydych chi’n dechrau’i gweld-hi, Mr. Bond.  Ond smo SMERSH wedi cwpla’i waith yng  Nghymru eto, o na ! Gwed ’tho fe, Blofeld.

BLOFELD : Wel, chi’n gweld Mr. Bond, mae America a’r Undeb Sofietaidd a Japan wedi cael bobi ddamwain niwclear ddifrifol, ond dydi Gorllewin Ewrop ddim wedi cael un eto. Felly, gyda help SMERSH (a Hitachi a Chyngor Sir Môn wrth gwrs), rydan ni’n mynd i gael Wylfa Newydd … Cymru ar y blaen.  Cymru’n arwain Ewrop mewn diwydiannu peryglus. Welwch chi-hi ?

BOND :   Clyfar iawn yn wir !  Rhoswch chi nes daw M i wybod hyn …

KARWINN:  Fydd eich annwyl M na neb arall yn gwybod, Mr. Bond.  Oherwydd ewch chi ddim allan o’r adeilad ’ma’n fyw.  (Mae’n pwyso’r botwm eto. Daw dyn byr cydnerth yn gwisgo het galed i mewn.)   Mr. Bond, dyma fy ngwas, Leighton Oddjob.  Oddjob, beth am inni ddangos i Mr. Bond be sy’n digwydd i elynion  SMERSH … ?

ODDJOB: (Gyda moesymgrymiad Dwyreiniol isel.) Yn sicr, Syr !  Dowch ar f’ôl i, gyfeillion …

(Ac Oddjob yn eu harwain, mae’r camera’n dilyn Karwinn, Bond a Blofeld i’r ystafell nesaf.  Yno’n gorwedd ar fainc, wedi ei pheintio’n aur drosti, mae BETHAN ROMANOVA.)

KARWINN:  Ie, pwy fydd nesa i droi’n aur, ys gwn i?  Beth am Mr. Bond ’ma, hy?   Be ddwedwch chi, Blofeld?

(Yn sydyn mae Blofeld yn torchi llawes dde ei gôt gan ddangos tatŵ  yn darllen FI FOTO SOSIALYDD GWYRDD EWROPEAIDD.  Cipir sylw Karwinn am eiliad, ac yn yr eiliad honno mae Bethan yn neidio oddi ar y fainc â chic nerthol i Karwinn o dan ei ên nes mae’n hedfan ar draws yr ystafell.  Mae Oddjob yn taflu ei het i gyfeiriad Bethan, ond yn methu, ac mae’r het yn taro tân trydan.   Golygfa o’r tu allan: Bond a Bethan yn rhedeg i lawr grisiau’r Senedd dan gario’r sach rhyngddynt.)

BETHAN : (Bron mas o bwff.)   O, James, dyma’r unig beth ecseiting sy wedi digwydd yn y Senedd ariôd !  O ! Fi mor ecseited-w !

BOND :   Gad yr ecseitment am funed-w !

(Y Senedd yn chwythu i fyny.  Mae Bond a Bethan, heb anghofio’r sach, yn neidio i mewn i gwch cyflym sydd wedi ei angori’n gyfleus yn y Bae.  Maent yn gyrru i ffwrdd ar wib, i seiniau ‘From Dockland with Love’.)

DIWEDD

Cofio Fukushima

11 Maw

Awdur gwadd heddiw : GWAWR JONES

Bedair blynedd i heddiw oedd hi, Mawrth 11eg, 2011, ychydig ar ôl chwarter i dri y prynhawn, pan ddechreuodd siandelïr siglo’n wyllt yn swyddfa Prif Weinidog Siapan.  Dyna’r arwydd cyntaf i Naoto Kan, y Prif Weinidog, fod daeargryn wedi digwydd, daeargryn a gynhyrchodd tswnami a deithiodd dros y Môr Tawel nes cyrraedd y lan ar arfordir gogledd-ddwyrain Siapan, ger safle Atomfa Daiichi, Fukushima.  Yr oedd uchder y tonnau’n amrywio rhwng 12.2 a 21.1 medr. Ysgubwyd popeth o’u blaenau, yn bobol, ceir, tai, waliau, lonydd, pontydd ac adeiladau cryf yr atomfa ei hun.

Mae hanes y difrod dychrynllyd i’w weld mewn mannau eraill ar y we, ond yr oedd clywed gan Mr Kan ei hun, mewn cyfarfod yng Ngwesty Carreg Brân, Llanfairpwllgwyngyll, ddydd Iau, Chwefror 26 eleni, yn cyfleu arswyd y peth.  Yr oedd Mr Kan, ffisegydd o ran hyfforddiant ei hun, yn gwbl argyhoeddedig cyn hynny fod atomfeydd ei wlad yn hen ddigon cryf i wrthsefyll unrhyw dir-gryniad.  Dadrithiad llwyr gafodd ef ynglŷn ag ynni niwclear, wedi bod yn gadarn o’i blaid.  Ymddiswyddodd yn fuan wedyn.  Yn awr, treulia ei amser yn teithio’r gwledydd gyda’i neges fod rhaid rhoi’r gorau i gynhyrchu ynni niwclear dros y byd i gyd.

IMAG0084
Mr Naoto Kan

Gyda Mr Kan yr oedd Mr Tetsunari Iida o Sefydliad Polisïau Ynni Cynaliadwy Siapan.  Arbenigwr ydi Mr Iida ar arbed ynni, a sefydlu unedau bychain, lleol yn cynhyrchu trydan mewn dulliau diogel, sy’n medru darparu gwaith i’r un nifer o bobol â’r diwydiant niwclear.  Adroddodd sut y mae defnydd Tokyo o drydan erbyn hyn wedi gostwng o 60 gigawatt i lawr i 50 gigawatt, yn syml trwy fod yn fwy darbodus gydag egni.  Unwaith eto, fel Mr Kan, newidiwyd meddwl Mr Iida  yn gyfangwbl yn erbyn ynni niwclear, ac yntau wedi gweithio yn y diwydiant am ddeng mlynedd.  Yr oedd damwain Fukushima yn drobwynt yn hanes Siapan, meddai, gan bwysleisio fod ynni niwclear bellach yn ynfydrwydd economaidd.

IMAG0079
Mr Tetsunari Iida
Y trydydd i annerch y neuadd lawn yn Llanfairpwllgwyngyll oedd Mrs Yoshiko Aoki, yn cynrychioli Canolfan Cefnogi Cymunedau Ffoaduriaid, a’i thystiolaeth ddirdynnol hi aeth yn syth at galonnau ei chynulleidfa.  Dangosodd sut yr oedd ardal ei thref enedigol, Tomioka, ger Fukushima, wedi mynd yn ddiffeithwch ers y ddamwain niwclear, gyda heidiau o anifeiliaid yn crwydro’r strydoedd, y tai wedi eu meddiannu gan lygod mawr, chwyn yn tyfu yn y caeau reis, a’r ysgolion yn wag.  Yn awr, nid oes neb i weld y coed ceirios hardd yn eu blodau, un o atyniadau’r ardal yn y gwanwyn.   Dangosodd luniau o res hir o geir yn ffoi o’r ardal drannoeth y ddaeargryn, yn cludo’r trigolion i  alltudiaeth ddiddiwedd sydd erbyn hyn wedi para bedair blynedd, heb obaith y bydd y rhan fwyaf yn gweld eu hen gartrefi byth eto.  Alltudiwyd 120,000 o bobol o Tomioka yn unig, sef tua dwywaith poblogaeth Môn.  Mae 13.5% ohonynt yn dal i fyw mewn unedau dros-dro, cyfyng, 54.5% wedi cael lloches mewn tai rhent, a 32% wedi gadael yr ardal.

Ni allai hyn ddigwydd yn yr Wylfa Newydd, meddai’r rhai sydd o’i phlaid.  Na?  I unrhyw un sydd wedi gwneud ychydig o waith gwyddonol ymarferol, mae honni hynny’n rhyfyg gan fod damweiniau, am mai damweiniau ydynt trwy ddiffiniad, yn digwydd er gwaethaf pob cam i’w hosgoi .  Mae pob damwain niwclear wedi digwydd oherwydd achosion gwahanol.  Ac ar ynys lle mae maes awyr milwrol a allai fod yn darged i awyrennau o wlad elyniaethus, ac yn hyfforddi peilotiaid o wledydd ffiwdal, ansefydlog y Dwyrain Canol, nid yw’n anodd dychmygu rhyw ddigwyddiad ‘nad oedd neb wedi ei ragweld’.

Ond mae’n waeth na hynny.  Cafodd pobol Tomioka ddianc yn eu ceir i ardaloedd mwy diogel, gan gludo ychydig o’u trysorau gyda nhw.  Petae damwain felly yn yr Wylfa, fe fyddai’r awdurdodau’n cau’r pontydd i’r tir mawr.  Fe fyddai rhaid i’r trigolion aros a wynebu dyfodol ansicr, tlodaidd a thywyll iawn.  Gwell o lawer i’r Monwysion fyddai sefyll yn awr fel un gŵr yn erbyn cynlluniau’r Wylfa Newydd.  Does neb ohonom am ddweud yn y dyfodol, ‘Mi ddeudais i, yn do?’

Llond twb o swigod

10 Maw

I law wele Dyfodol Llwyddiannus, sef Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru, wedi ei baratoi gan yr Athro Graham Donaldson a thîm o ymchwilwyr ar gais y llywodraeth.

Ydyn, maen’ nhw i gyd yma:   seilweithiau, gwerthusiadau, pwysoliadau,  cynaliadwyedd, capasiti, sybsidiaredd,  strwythur, mesuriadau perfformiad, mewnbwn,  cymwyseddau, addysgeg, empathi, sgiliau allweddol, sgiliau bywyd, continwwm dysgu, creadigrwydd (entrepreneuriaeth),  mecanweithiau atebolrwydd, addysg berthnasol, adborth rheolaidd a chraff, dysgu symbylol a deniadol, arferion gorau, asesu ffurfiannol, cyfeiriadedd byd-eang, ymdrech ddisgresiynol ychwanegol, e-bortffolios ac e-fathodynnau personol, metawybyddiaeth neu ‘dysgu i ddysgu’, lefelau uwch o gymhwysedd digidol, ffocws cyffredinol ar gyfer atebolrwydd a gwella, briff clir ar gyfer llunio’r Deilliannau Cyflawniad,  – oll yn cydweithio i  roi inni ‘ddyfodol cyffrous’ mewn ‘Cenedl Ddigidol-Agile’.  (Ie, fel’na).  Mae yma nid yn unig asesu, arsylwi, gwerthuso a monitro;  mae yma hefyd reoli risg, wynebu heriau, hybu cydlyniant, ffurfio perthnasoedd cadarnhaol, datblygu fframwaith cydlynol, prawfesur y cwricwlwm, dehongli data, cymhwyso cysyniadau, gwerthuso canfyddiadau, chwarae rolau,  datblygu lefelau cymhwysedd uchel, meithrin cyfalaf proffesiynol, mireinio sgiliau metawybyddol, syntheseiddio a gwerthuso syniadau a chynhyrchion, alinio’r asesu â’r dibenion dysgu i asesu beth sy’n bwysig, creu cyd-destunau strwythuredig ar gyfer cyflwyno adborth adeiladol, datblygu’r capasiti ar gyfer sytem hunanwella, ac (olaf ond nid lleiaf) gwella’r synergedd rhwng trefniadau ar gyfer y cwricwlwm, asesu ac atebolrwydd.  Hyn i gyd.  Ond dim fictimeiddio. Diolch am hynny.

Fel pob Adroddiad Addysg ers deugain mlynedd, mae hwn eto’n darllen fel sgit ar Adroddiad Addysg.  Gall atgoffa rhai ohonoch, fel mae’n f’atgoffa innau, o barodi a ymddangosodd unwaith  yng ngholofn ‘Sêt y Gornel’ yn Y Cymro, cyn atal y golofn honno (fel y daeth i’r golau wedyn) gan flacmel o Goleg Aberystwyth.  Nid yw pobl sydd, heb wên ar eu hwynebau, yn gallu sgrifennu peth fel hyn yn deall beth yw parodi na dychan nac eironi.  Ni allant eu hadnabod eu hunain mewn cartŵn. Robotiaid ydynt, bodau heb fod o gig a gwaed, wedi eu cloi yn eu byd eu hunain o hocws-pocws.  Am yr eirfa y dyfynnais ddigon ohoni uchod, dywedaf hyn.  Y tro nesaf y bydd unrhyw rai ohonoch yn sgrifennu dogfen ar addysg, triwch beidio’i defnyddio.  Mwy na hynny, peidiwch â defnyddio yr un gair ohoni o gwbl, byth, mewn unrhyw beth ysgrifenedig nac ar lafar.   ‘Pam?’ meddech chwithau.  Am ei bod yn arwydd o wendid moesol a seicolegol.  Jargon ydyw a ddyfeisiwyd oddeutu’r 1960au gan siarlataniaid byd Addysg, ac a ailadroddir gan grafwyr a llyfwyr y byd hwnnw am fod y rhai uwch eu pennau yn ei hailadrodd ar ôl rhywrai eraill.   Digon!   Dim mwy!

Ymaith hefyd â’r defnydd anghywir, anfad o ‘addysgu’ (addysgu llythrennedd a rhifedd &c), un arall o ffolinebau’r 1960au.  Nid oedd amwysedd traddodiadol y gair ‘dysgu’ yn dramgwydd i unrhyw Gymro, ac ni bu creu amwysedd newydd yn help yn y byd i neb.

Wedi dweud cymaint â hyn am yr ieithwedd, a oes ddiben dweud unrhyw beth am y cynnwys?  Mi ddywedaf beth neu ddau, rhag ofn imi wneud cam.  Bydd gennyf bedwar pennawd:  (1) Cytuno.  (2) Amau. (3) Dychryn. (4) Anghytuno.

§

(1)   CYTUNO

Mae’r gefnogaeth i ddysgu’r Gymraeg a gwreiddio’r disgyblion yn niwylliant Cymru yn ddigon cyson a chadarnhaol drwy’r adroddiad.  Cwestiwn na ddeuir ato yw pam nad ydym yn llwyddo’n well yn hyn.  Pam, er enghraifft, y mae’r Gymraeg yn ‘bwnc amhoblogaidd’ erbyn cyrraedd dosbarthiadau uchaf yr ysgol? A oes a wnelo hyn mewn unrhyw ffordd â’r cwricwlwm?  Fel yr awgrymais beth amser yn ôl (gweler blog 2 Mawrth 2013),   gall fod a wnelo i ryw fesur â pheth arall, cysylltiedig ond ychydig yn wahanol, sef y sylabws neu’r maes llafur. Cyfeirio’r oeddwn at benderfyniad rhywrai i osod testunau Cymraeg ‘modern’ neu ‘gyfoes’ disylwedd ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus, a’r rheini’n troi ymaith rai o’r disgyblion galluocaf lle gallai rhai o’r hen glasuron ennyn eu sylw a’u serch yn well.  Ond esboniad rhannol iawn yw hyn.

(2)     AMAU

Fel pob Adroddiad Addysg mae hwn hefyd yn amcanu bod yn flaengar.  Mae ynddo, medd ef ei hun, ‘gynigion radical a phellgyrhaeddol’.  Er chwilio, ni allaf yn fy myw weld pa rai yw’r rheini.  ‘Os ceir amharodrwydd i ildio agweddau ar y cwricwlwm sydd heb fawr o berthnasedd wrth ychwanegu disgwyliadau newydd yr un pryd, gall hynny roi pwysau cynyddol ar ysgolion ac athrawon.’  Ond a ddywedir beth yw’r hen sbwriel amherthnasol sydd i fynd allan drwy’r ffenest?  Na ddywedir yn unman, hyd y gwelaf i.  Mae yma beth cyferbynnu rhwng (a) ‘pynciau’ yn ôl y dull traddodiadol o’u dosrannu, a (b) ‘meysydd dysgu a phrofiad’.  Ond pan eir i edrych mae’r gwahaniaeth rhwng y rhestrau o’r naill ac o’r llall mor fychan fel nad oedd yn werth treulio amser uwchben y peth o gwbl. Does dim byd terfynol na chysegredig ynghylch arlwy draddodiadol y pynciau, a da o beth yn sicr yw ceisio gweld pethau’n gyfannol, neu’n ‘draws-gwricwlaidd’ chwedl yr adroddiad; ond i athro a chanddo dipyn o sylwedd a diwylliant fe ddaw hynny’n naturiol.  Hen gân o’r 1960au eto yw cyferbynnu’r ‘pwnc-ganolog’ â’r ‘disgybl-ganolog’ gan ffafrio’r ail.  Ond dywedaf hyn, o beth profiad. Yr athrawon gorau yn fy nghof i, yn cynnwys y rhai y cefais i gymorth ac ysbrydoliaeth fawr o’u harweiniad, oedd y rheini a chanddynt wybodaeth ddofn o’u pynciau. O ddyfnder yr wybodaeth y dôi’r awydd i rannu a throsglwyddo’r wybodaeth honno, ac o hynny wedyn yr awydd i weld ein llwyddiant ni ddisgyblion.  Dylwn ddweud mai am athrawon ysgol yr wyf yn sôn, a phetawn yn eu rhestru gallwn gynnwys y rhan fwyaf o ddigon o’r athrawon uwchradd a ges i, chwarae teg iddyn nhw.  Am ryw reswm ni bu ac nid yw hi yr un fath yn y prifysgolion. Yno, nid yw dyfnder dysg yn arwain bob amser na’r rhan amlaf at sêl dros fyfyrwyr, nac at unrhyw ddiddordeb ynddynt.  Beth sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth, wn i ddim. Prin mai’r flwyddyn o hyfforddiant athro.

Un ffordd o fod yn flaengar yw dweud  ‘digidol’ yn ddigon aml.  Ond mae’r bregeth hon hefyd yn ddeg ar hugain oed,  ac arwydd o naifder yw rhygnu arni.  (Yr un modd, a’r unfed ganrif ar hugain bellach yn bymtheg oed, onid yw’n bryd rhoi’r gorau i sôn am lusgo’r peth yma a’r peth arall i mewn iddi?)  Yn amlwg bu plant clyfar-clyfar yn cwyno am eu hathrawon wrth aelodau’r pwyllgor.  ‘Un testun pryder a godwyd droeon gan y plant a phobl ifanc a siaradodd â Thîm yr Adolygiad oedd eu canfyddiad bod y cwricwlwm ysgol presennol wedi dyddio mewn perthynas â thechnoleg ddigidol.  Cyfeiriwyd at ffyrdd llafurus o’u haddysgu i drin meddalwedd a oedd yn hawdd ei defnyddio’n reddfol neu a oedd wedi dyddio’n barod yn eu barn nhw.’  Hynny yw, mae’r plant yn medru gwneud rhyw fabolgampau cyfrifiadurol sydd y tu hwnt i allu eu hathrawon crydcymalog.  Os felly, gadawer iddynt. Pa angen eu dysgu?

Mae’r gŵyn, fe ymddengys, yn ehangach eto.  Roedd rhai o’r plant am gael gwersi sy’n fwy perthnasol a diddorol, mwy o wersi ymarferol, mwy o hwyl.  Go dda yntê?  Llai o waith hefyd efallai.  Efallai na wyddai awduron yr adroddiad mai dyma’r math o beth a ddywedir gan blant digywilydd heb fawr yn eu pennau, plant y dylid eu cynghori i gau eu cegau os nad oes ganddynt rywbeth o werth i’w ddweud.  Hanfod dysgu, meddai fy nhad-yng-nghyfraith – a wyddai beth neu ddau am y maes – yw dweud wrth y to sy’n codi am eistedd i lawr.  Dywedaf eto, oherwydd dyfnder dealltwriaeth ein hathrawon o’u pynciau, fe gawsom ni, blant ffodus y 1950au, ddogn go lew o’r pethau ychwanegol hynny ym mhen gwybodaeth – diddordeb, diddanwch, ysbrydoliaeth, ie hwyl hefyd.  Fe gawsom ar ambell awr – er fy mod yn petruso defnyddio’r gair – brofiad bach o gyffro’r deall.  (Petruso, am mai gwedd ar wiriondeb ein hoes, a digon ohoni yn yr adroddiad hwn, yw’r disgwyl i bob peth fod yn ‘gyffrous’!   Gadawer i rai pethau beidio â bod yn gyffrous.)

Weithiau daw’r hen sgeptig i sibrwd yn y glust, a rhaid maddau iddo. Mae’n demtasiwn aralleirio ambell frawddeg a gweld beth a ddywedid mewn iaith fwy plaen. ‘Mae beiau’n codi’n aml wrth asesu mewn cysylltiad â manylebu, dilysrwydd, dibynadwyedd a chymhwysedd athrawon.’  Edrycher ar y geiriau un ac un. Onid yr hyn a feddylir yw fod athrawon – rhai, beth bynnag; gormod, a barnu wrth y gair ‘aml’  – yn ffwrdd-â-hi, yn gelwyddog, yn annibynadwy ac yn dwp?

Teimlad yr hen sgeptig eto am y pedwar nod sy’n fyrdwn yr adroddiad.  Dyma’u dyfynnu, rhag ofn fy mod yn gwneud unrhyw gam â hwy yn yr hyn a ddywedaf:

‘Dibenion y cwricwlwm yng Nghymru yw ceisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu:
>  yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
>  yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
>  yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.
>  yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.’

Iawn, mae’n debyg. Digon diniwed. Digon clodwiw  rywsut. Ond beth am y trydydd nod? Os na ddigwydd rhyw chwyldro diwylliannol mawr yn rhywle, y tebygrwydd uchel yw mai tyfu’n ddarllenwyr y Sun fel eu rhieni a wna’r rhan helaethaf o blant y  genhedlaeth hon eto.  Gall yr ysgol, gyda lwc, wneud tipyn bach i rwystro’r dynged honno, ond dim llawer mae’n beryg. Fe’n dysgwyd ni blant Ysgol Dyffryn Nantlle, tua’r 13-14 oed, i ddarllen papur newydd yn feirniadol gan gadw’r pot halen o fewn cyrraedd a gofyn bob amser gwestiynau fel pwy piau’r papur a pha fuddiannau y mae am eu hyrwyddo.  Mi gredaf yn wir fod yr effaith wedi para ar rai ohonom.  Ond hyn-a-hyn y gall yr ysgol ei wneud, er pob ymdrech.  Fy nheimlad am yr adroddiad drwodd a thro yw ei fod yn gofyn i’r ysgol wneud gormod.  Yn hen ffasiwn eto, daliaf mai trosglwyddo gwybodaeth yw gwaith ysgol a bod rhai pethau, pethau go bwysig hefyd, y mae’n rhaid eu gadael i ‘Brifysgol Fawr Bywyd’ chwedl yr hen ystrydeb.  Enghraifft fechan ddigon dibwys o hyn.  Mae’r adroddiad o blaid ‘dysgu a meithrin sgiliau ymarferol ar gyfer bwyta’n iach’.  Iawn, ond os yw’r hogyn yn cael blas ar Ddafydd ap Gwilym a Monster Munch fel ei gilydd, gadawer iddo er mwyn y nefoedd!  Mae rhai ohonom yn hoffi bwyta sgrwtsh, eraill yn hoffi ei sgwennu.

(3)  DYCHRYN

Dyfynnir adroddiadau cynharach, ac yn wir mae un o’r rheini yn waith ‘Arad Research’!  Mi neidiais lathen o’m cadair! Beryg fod hwn yr un ag ‘Arad Consulting’ gynt, y cnafon bach dan-din a dauwynebog a argymhellodd yn erbyn Coleg Cymraeg Ffederal ar ôl bod mor wên-deg wrthym ni, dirprwyaeth a oedd yn ymgyrchu trosto?  Mi glywais fod yr Arad wedi newid ei henw, a dyma’r englyn a luniais ar y pryd:

Dan ei glew enw newydd  – hen natur
Hon eto yw’r aflwydd.
Holl hanes ei lles a’i llwydd
Yw ’redig mewn gwARADwydd.

(4)  ANGHYTUNO

Un enghraifft fydd ddigon.  Yn dilyn ‘arsylwi ar eu proses dysgu eu hunain’ a ‘meithrin sgiliau hunanasesu’ eir ymlaen at ‘gymedroli gan gyfoedion.’  ‘Mae asesu gan gyfoedion yn ddull lle y mae plant a phobl ifanc yn asesu gwaith ei gilydd mewn parau neu grwpiau.’  Gofal, er mwyn popeth!  Dyma wahoddiad agored i ddisgybl digywilydd, maleisddrwg danseilio hyder disgybl llai ymwthgar, yn enwedig os yw hwnnw’n alluocach nag ef.  Onid yw’r awduron yn cofio sut rai oeddem yn blant?  Gydag eithriadau (a byddaf yn cofio’n ddiolchgar bob amser am yr eithriadau hynny) nid yw plant yn dod yn gyfeillion parhaol, sefydlog nes maent yn rhyw 16-17 oed.  Cyfeillion a gelynion bob yn ail ydynt hyd at hynny, weithiau cyfeillion a gelynion yr un pryd, a gallant newid ochr sawl gwaith yr un diwrnod.   Ond nodwedd adroddiadau ar addysg yw eu bod yn symud a bod mewn byd o theori heb lygad na chlust i’r ‘hen natur ddynol’ honno y soniai Daniel Owen amdani ac y gwelai ef angen weithiau ddweud y gwir amdani ‘yn ei hwyneb’.

§

Fel droeon o’r blaen wyneb yn wyneb ag adroddiadau addysgol, y gymhariaeth gyntaf a ddaeth i’m meddwl yw tywallt powdwr golchi i lond twb o ddŵr a’i droi rownd a rownd a rownd efo llwy bren fawr i gynhyrchu mwy a mwy a mwy o swigod.  Ond mae’n waeth na hynny hefyd.  Mae sylweddau gwenwynig yn y dŵr, ac o’i gorddi fe dry yn drwyth gwiddanod o nonsens niweidiol.  Mae rhywbeth mawr iawn o’i le ar gymdeithas sy’n cymryd stwff fel hyn o ddifri.

‘Could do better,’ meddai’r hen adroddiadau ysgol ers talwm, ac ymddengys mai dyna ddyfarniad cyffredinol yr adroddiad ar ein holl ymdrech addysgol yng Nghymru.   Mae yma boeni am arolygon PISA ac adroddiadau Estyn, ‘sydd yn dangos nad yw’r lefelau cyrhaeddiad mor uchel ag y gallent ac y dylent fod.’  Nac ydynt wrth gwrs, meddai unrhyw un â’i lygaid yn ei ben, wedi hanner canrif o anfon allan o Gymru ei phlant galluocaf, arfer yr ymddengys bod y  llywodraeth hon yn awyddus i’w pharhau. Gweler blogiau 4 Rhagfyr 2013 a 15 Ionawr eleni.  Yn wir, gan mai’r polisi yw gwacáu Cymru o’i doniau, pa ddiben cynnal ymchwiliad ar addysg o gwbl?  Fel Albanwr, tybed na allai’r Athro Donaldson sibrwd gair bach yng Nghymru am lwyddiant yr Alban yn cadw’i myfyrwyr galluog gartref drwy’r ddyfais seml, effeithiol o’u gwobrwyo’n ariannol?

Un dyfyniad eto cyn cloi:

‘Dylai’r rhaglenni dysgu proffesiynol cychwynnol ac ar hyd gyrfa gynnwys elfennau sy’n meithrin capasiti athrawon i asesu’r holl ddibenion cwricwlwm a deilliannau cyflawniad.’

Ie, bregliach brain byd Addysg.  Dysga di’r ieithwedd yma ’ngwas i, ac mi ei di yn dy flaen.

Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi croesawu’r adroddiad ac am inni gynnal ‘sgwrs fawr genedlaethol’ ar ei sail.  Yr unig dro imi gwrdd â Mr. Lewis fe dorrodd y sgwrs yn fyr iawn a cheisio atal fy nhystiolaeth i un o bwyllgorau’r Cynulliad, – gweithred heb gynsail yn holl hanes democratiaeth seneddol, clywais ddweud wedyn.  Ryw ddiwrnod, os byw ac iach, peidier â synnu os â’r hen G.A.  yn ei ôl i’r Bae i orffen y frawddeg na chafodd ei gorffen y diwrnod hwnnw yn 2001.

Gweithgaredd cwbl ddi-fudd yw paldaruo am Addysg.  A dyma finnau wedi bod wrthi eto.

Undod y Deyrnas (1)

8 Maw

Rhyw loffion bach gwleidyddol heddiw.

I ddechrau, dyma ddyfynnu GOLWG 360, a pheidiwch â chwyno wrthyf i, ddarllenwyr, am na synnwyr na gramadeg:   ‘Fe fydd yr Undeb Brydeinig ar chwâl o fewn y deng mlynedd nesaf os nad yw’r gwahanol genedlaethau yn cael pwerau cyfartal, yn ôl Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards.’

Yn ogystal â gofyn beth yw ystyr ‘cenedlaethau’, mae rhai ymatebwyr ar y wefan eisoes wedi gofyn   y cwestiwn ‘Onid dyna’r holl bwynt?’

Hwyrach yr hoffech chwithau bendroni uwchben yr adroddiad, gan geisio meddwl beth yr oedd Mr. Edwards yn ei feddwl, neu beth yr oedd GOLWG yn ei feddwl ei fod yn ei feddwl.  Un dyfyniad eto, lythyren am lythyren:

‘Mae’n rhaid rhoi’r un pwyslais ar bob gwlad o fewn yr undeb a dod lan a setliad cenedlaethol, a dyma beth nad yw’r Blaid Lafur a phleidiau eraill yn ei ddeall.’

Pa rai yw’r ‘pleidiau eraill’?  A beth yw ystyr ‘cenedlaethol’ yn y fan hon?

Am ryw feddyliau digon ansicr gan yr hen G.A. ar ba rai yw ‘cenhedloedd’ Prydain a beth yw ei gwir unedau, gweler blog echdoe (6 Mawrth).

Undod y Deyrnas (2)

8 Maw

Un arall sy’n poeni am undod y Deyrnas yw’r cyn-Weinidog Addysg, y cyn-Ysgrifennydd Cartref a chyn-Gadeirydd y Blaid Geidwadol, yr Arglwydd Kenneth Baker.   Ddeuddydd yn ôl cynigiodd ei ateb, sef clymblaid yn San Steffan rhwng Llafur a Thori.  Byddai hynny, meddai’r adroddiadau, ‘yn osgoi’r hunllef o Lywodraeth Lafur leiafrifol a fyddai’n dibynnu ar gefnogaeth yr SNP i lywodraethu.’

Nid yw’r syniad yn newydd, na’r peth yn amhosibl o gwbl. Yn wir cofiaf David Davies, AS Mynwy bellach, yn awgrymu cyn etholiad diwethaf y Cynulliad  mai Llafur-Tori fyddai’r cyfuniad naturiol yng Nghaerdydd.  Ac ers blwyddyn neu well bu mwmian achysurol i’r un perwyl yn y Daily Telegraph.  Dywed Arglwydd Baker yn hollol gywir (adroddiad GOLWG 360 eto) :   ‘Byddai’n bosibl i lywodraeth ar y cyd rhwng y pleidiau Llafur a Cheidwadol gael hyd i bethau y maen nhw’n cytuno arnyn nhw – amddiffyn, gwrth-derfysgaeth, buddsoddi mewn ysgolion, ffyrdd, rheilffyrdd a diwygio hyfforddiant sgiliau ac ynni.’  Byddai wrth gwrs. Gallai’r ddwyblaid fawr gytuno’n rhwydd ar y pethau hyn oll, fel y maent wedi gwneud erioed. Neu a’i roi fel arall, byddai Llafur yn barod i weithredu fel erioed o fewn terfynau a osodid gan y Torïaid.

Bu Lloegr bob amser yn barod am ‘lywodraeth unol genedlaethol’ (government of national unity) yn wyneb perygl neu her  – Napoleon, yr Almaen ddwywaith, y Dirwasgiad.  Yn awr  – eleni, os cywir o gwbl ddarogan y polau – mae hi’n wynebu’r her fwyaf erioed i awdurdod y dosbarth sydd wedi ei  llywodraethu hi ers bron i fil o flynyddoedd.  Daw’r her, yr ‘hunllef’, honno’n wir os rhaid iddi ildio Trident, symbol mawr ei balchder.   Sy’n dod â ni at ein pwnc nesaf …

Trydar ynghylch Trident

8 Maw

Yn ystod adroddiad y BBC ar gynhadledd Plaid Cymru ddoe pwysodd Bethan Rhys Roberts yn bur daer ar Leanne Wood â’r cwestiwn, a fydd peidio ag adnewyddu Trident yn amod ddiwyro cyn cefnogi unrhyw blaid arall yn San Steffan.  Petrusodd Leanne ddwy waith, ac yna ateb dipyn bach yn amwys.  Cefais foment o hunllef, – a chofio’r diwrnod ers talwm pan oedd Pleidwyr y Cynulliad yn barod i groesawu Academi Filwrol Sain Tathan.  Absit omen, chwedl y Rhufeiniwr!

Ar yr un rhaglen hefyd, awgrymodd Vaughan Roderick fod Nicola Sturgeon yn ‘meddalu’ ar yr un mater.  Mae’n ymddangos y bu tipyn o sibrwd i’r un perwyl ymhlith y cyfryngau ddoe, ond fore heddiw trydarodd Nicola, a chadarnhaodd Alex, na bydd dim newid na chyfaddawdu ar y polisi.  Diolch byth am hynny, mae cenedlaetholwyr yr Alban i’w gweld yn ‘deall y sgôr’, fel y dywedir.  Diarfogi’r Sefydliad llywodraethol Prydeinig, ei amddifadu o symbol mawr ei rwysg, dyma fydd dial Braveheart.  A phetai’r Cymry ond yn gweld hynny, dyma hefyd fyddai dial y Llyw Olaf a’i frawd.   Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen ar y blog, dau wir bwrpas sydd i genedlaetholdeb Cymreig.  (1) Diogelu’r Gymraeg, a (2) Dymchwel y Sefydliad Prydeinig.  O ran (1), ansicr yw’r rhagolygon.  O ran (2), gall ein bod yn agos at y cyfle mawr, y cyfle gorau er pan laniodd y Norman ger Hastings.

Ond mae un cwestiwn yn cosi weithiau yng nghefn fy mhen.  ‘Dim cydsyniad â’r Torïaid, byth, ar unrhyw delerau,’ meddai’r SNP, ac ymddengys y bydd hon yn neges glir yn yr etholiad sydd ar ddod.  Ond beth … ?   Beth petai … ?  Ie, beth petai’r Torïaid yn dweud ryw ddiwrnod, ‘o’r gorau, wnawn ni ddim adnewyddu Trident’?  Amhosib, meddech chwithau!  Ond darllenwch chi rhwng y llinellau, ac yn y llinellau hefyd weithiau, yn rhai o bapurau’r Adain Dde.  Amhosibl i Lafur, byddai, oherwydd yr hyn sy’n rheoli ymddygiad Llafur bob amser  yw ofn y Torïaid.  Ni byddai raid i’r Torïaid ofni’r un peth, oherwydd hwy yw’r Torïaid.  Yn un peth, mae’r Torïaid dipyn bach gwell am wneud syms; peidier â synnu gormod pe gwawriai arnyn nhw cyn y gwawriai ar Lafur bod posib gwneud gwell  defnydd o £100,000,000,000 (can biliwn o bunnau).  O’r ddwyblaid fawr, Llafur dros y blynyddoedd yw’r un fwyaf rhyfelgar, yr un fwyaf ‘gwaedlyd’ fel y dywedai fy nhad bob amser.  Pwy sy wedi galw am gael Trident i Gymru? Nid unrhyw Dori.

Dyma’r ateb !

8 Maw

Sut i droi meddyliau deng mil a mwy o Saeson Prifysgol Bangor cyn y mis Mai yma?   Dyma fi wedi’i gweld hi, bobol   – gyda help telediad gwleidyddol diweddar, cydnabyddaf yn syth!   Y cynllwyn cyfrwys a dieflig yw i bob un o Gymry’r  Coleg (maddeuwch yr hen arferiad o alw’r hen Goleg yn Goleg) gael tatŵ ar ei fraich, ‘I’m voting Plaid’.  Yna’i arddangos, gydag ychydig eiriau pwrpasol am greu swyddi a gwrthwynebu toriadau.  Siŵr o weithio yn tydi?  Fe enillid y Saeson yn y fan.  Ta-ta Alun Pugh.

Neu dowch gam ymhellach, a dychmygwch yr olygfa. Llys neu Gyngor y Brifysgol yn cwrdd i drafod y pethau aruthrol bwysig arferol. Ar foment ddramatig, mae Canghellor y Brifysgol yn torchi ei lawes dde  gerbron y lliaws gan gyhoeddi’r neges: ‘I’m voting European Green Socialist’.  Cryned colofnau Philistia!