Cic ynteu rhodd ?

13 Med

Sylw bach cyflym ar gynigion newydd Comisiwn y Ffiniau.

Gwir, mae’n debyg, ein bod ni’r Cymry wedi ein gor-gynrychioli ers tro byd, a rhai o’r rhanbarthau gwledig yn arbennig felly.  Hyn oll o fewn cyd-destun San Steffan, cofiwch; o ran cynrychiolaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol, efallai bod gofyn meddwl am batrwm hollol wahanol.

Dywed y sylwebwyr oll fod y cynllun a gyhoeddwyd heddiw yn ffafrio’r  Ceidwadwyr, ac y gall mai un o’i ganlyniadau fydd dileu sedd Corbyn !

Bid a fo am hynny, beth am yr effeithiau yng Nghymru ? Nid yw o unrhyw wahaniaeth ble tynnir y ffin rhwng dwy etholaeth Lafur solet, ac felly ni bydd fawr o effaith i’r newidiadau ym Morgannwg a Mynwy.  Yr unig eithriad o bwys i hyn yw creu sedd newydd ‘Gŵyr a Gorllewin Abertawe’; dyma rodd fach i’r Ceidwadwyr, ond galluogi gweddill Cwm Tawe i ddychwelyd at Lafur.

Yng ngweddill Cymru fe all y newidiadau, os dônt i rym, fod yn bellgyrhaeddol.  Canolbwyntiwn heddiw ar un agwedd, sef yr ymhlygiadau i Blaid Cymru.

Gall y newid adael y Blaid gyda dim ond un sedd, sef Caerfyrddin.  Ar y llaw arall gall fod yma gyfle iddi estyn ei therfynau a’i dylanwad yn sylweddol, os gwêl hi ei chyfle a pharatoi’n ddeallus ar ei gyfer.  OS go fawr, fel y cawn sôn eto. Bwriwn olwg sydyn:

1.    Môn ac Arfon. Sedd ymylol (cofiwch o hyd mai am San Steffan yr ydym yn sôn), ond o fewn gafael Plaid Cymru ond iddi ymladd yn iawn

2.    ‘Gwynedd’ a Gogledd Clwyd.  Dyma rai o ardaloedd mwy Cymreig (neu lai Seisnigedig) Sir Ddinbych wedi eu gwahanu oddi wrth y ‘Costa Geriatrica’, glan môr y gogledd.  Cyfle o’r diwedd i BC wneud rhywbeth ohoni – lle dylai fod wedi gwneud rhywbeth ohoni ers blynyddoedd – yn Nyffryn Conwy, Hiraethog ac Uwchaled.  Cyfle iddi estyn ei thiriogaeth. Os na all hi ennill mewn rhanbarth fel hyn nid oes fawr ddiben iddi fynd ymlaen.

3.    De Clwyd a Gogledd Maldwyn.  Ymylol eto, ond dyma wahanu ardaloedd Cymraeg Maldwyn – sydd ymhlith yr ardaloedd mwyaf  bywiog yn ddiwylliannol yng Nghymru’r dwthwn hwn – oddi wrth y ‘Severn-Siders’ sarrug, diffaith.  Rhodd i BC eto, os gwêl hi ei chyfle, cyfle i ymestyn at y ffin.

4.    Ceredigion a Gogledd Sir Benfro.  Dyma adfer yr hen etholaeth lle bu Cynog Dafis yn llwyddiannus.  Bychan yw poblogaeth Gogledd Sir Benfro, ond gall fod yn ddigon, gydag ymgyrchu da, i wrthweithio dylanwad llethol Prifysgol Aberystwyth.

5.    Caerfyrddin yn ôl o fewn terfynau hen etholaeth Gwynfor Evans, a chyfle i BC greu sedd saff.

Ond down yn ôl at yr OS.  Mae gan BC dasg enfawr o’i blaen, adennill ffydd ei chefnogwyr naturiol, ar ôl blynyddoedd o’u dirmygu a’u sarhau.  Mae’r cau ysgolion yng Ngwynedd yn dal yn friw llidiog, ac wedi’r penderfyniad ynghylch addysg enwadol ym Mhenllyn, rhaid gofyn a ellir byth eto ymddiried ynddi mewn unrhyw fater.  Rhaid gofyn a yw hi’n unrhyw beth, bellach, ond cyfrwng i ethol ffyliaid i gyngor a chabinet, er mwyn i’r rheini wedyn benodi gweinyddwyr sydd yr un mor dwp â hwy eu hunain.

Fel cam tuag at ei hadferiad – os yw hynny’n bosibl o gwbl – dylai fod ganddi gyfundrefn o GYNADLEDDAU rheolaidd, SIROL a/neu ETHOLAETHOL.  Byddai hyn yn fodd i’r cynrychiolwyr etholedig, a’r cynghorwyr yn arbennig, gael eu hatgoffa o farn a theimlad y rhai sy’n eu cefnogi.  Nid dadlau yr ydym yma y dylai’r AC neu’r AS neu’r cynghorydd fod yn DDIRPRWYWR, caeth ym mhopeth i benderfyniad ei blaid; CYNRYCHIOLYDD ydyw o hyd, a dyna ddylai fod, ac i’w gydwybod y mae’n atebol yn y pen draw. Ond eto mae eisiau cau’r gagendor anferth sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng barn a dyhead  cefnogwyr naturiol PC ar y naill law, ac ar y llaw arall y polisïau a weithredir gan y rhai y maent wedi eu hethol. Yr union ddyddiau hyn mae materion cynllunio yng Ngwynedd yn achosion prawf.

Cymaint â hynna heddiw am yr agwedd bleidiol-wleidyddol.  Mae rhai eisoes wedi cyfeirio at y camenwi sydd yn y cynllun newydd – ‘Aberafon’ am ‘Aberafan’. A chymysgu ‘Brycheiniog’ ac ‘Aberhonddu’ wrth geisio cyfieithu ‘Brecon’.  Ond y drwg mwyaf – a hwn yn mynd yn ôl i ganol y 1990au, yw dal i arfer yr enw ‘Gwynedd’ ar beth nad yw ond rhan o Wynedd.  Môn, Arfon, Meirion  – dyna yw Gwynedd, ac mae nam sylfaenol ar unrhyw gynllun nad yw’n deall hyn. Mae hyn yn berthnasol hefyd – yn wir yn fwy perthnasol – i lywodraeth leol.  Ni allaf eto ei roi yn well nag yn fy nwy hen ysgrif ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’ a ‘Nid yw hon ar fap’.  Darllenwch nhw eto.

Dwy olwg ar Now Bach Go’

2 Med

Nid oes gan G.A. ran yn y dewis rhwng yr hen Gorbyn a Now Bach Go’, a go brin fod gan neb ohonoch chwithau ddarllenwyr.   Ond diddorol cymharu dwy olwg ar Now Bach:

(1)    Blog Vaughan Roderick, 14 Gorffennaf.

(2)    Munguin’s Republic, 31 Awst.

Y Gorwel

29 Aws

Er mwyn sicrhau dyfodol ymbelydrol i Fôn, mae’n bwysig iawn cwrdd â dymuniadau Horizon ym mhob peth.  Felly mewn gwrogaeth i’r cwmni hwn, a rhag bod yn rhy GYFYNGOL, dyma gyflwyno iddo y cyfieithiad newydd hwn o englyn adnabyddus.

This is a translation of a little-known Welsh peasant poem, the work of an obscure Welsh author from a remote Welsh village:

The Horizon

Here is an illusion like the edge of circle – around us,
The masterpiece of a remarkable wizard,
Old line far that not exist,
Old finish that not finishing.

Byd o’i go’

25 Aws

Tri pheth heddiw :

1.   Y posibilrwydd uchel y bydd yr Americaniaid yn ethol clown gwallgo.

2.    Plismyn Ffrainc yn arestio pobl am wisgo bwrcini, y wisg ymdrochi Foslemaidd.

3.     Neges ar wefan newydd Llyfrgell Prifysgol Bangor pan fethir â dod o hyd i’r llyfr :

Dim yn mendio beth rych eisiau. trio yn o ganlynol:

Gwych yntê !

Dwy hen bregeth

21 Aws

A lled-ddyfynnu’r awdur Americanaidd, “mae adroddiadau o farwolaeth yr hen G.A. wedi eu gorliwio”.  Galwadau eraill …

Tipyn o gorddi ers deuddydd yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Lefel A. Dwy stori ar GOLWG 360:  (a) fod canlyniadau Cymru’n wael, a (b) fod llai yn astudio’r Gymraeg.  Sgrifennais yn 2013 ar yr union bynciau hyn.  Dyma’r ddwy hen bregeth eto.

https://glynadda.wordpress.com/2013/03/02/ddim-yn-bwnc-poblogaidd/

https://glynadda.wordpress.com/2013/12/04/y-cymro-twp/

Daeth dydd Llun

19 Gorf

Fe ddaeth y dydd Llun, ac fe aeth.  Cafwyd y ddadl a’r bleidlais.

Gofynnwyd y cwestiwn i’r Santes Theresa: ‘wnei di bwyso’r botwm i ladd can mil ag un ergyd?’  Ateb:  ‘gwnaf’.  Bonllef o gymeradwyaeth, y Prydeinwyr yn arogli gwaed unwaith eto.

Ac ar y diwedd, mwyafrif mawr i’r Toris Gleision a’r Toris Cochion gyda’i gilydd.  Dylai’r SNP yn awr feddiannu sedd flaen yr wrthblaid yn barhaol, nid o amarch at Corbyn ond fel her i fwyafrif yr Aelodau Llafur, taclau diegwyddor fel y dywedais echnos, pwdrod i’r gwraidd.

Ar safle Munguin’s Republic gellir gwrando araith Mhairi Black.

Mewn un peth yn unig y byddwn yn anghytuno â sylwadau Mhairi.  Drwy’r blynyddoedd mae cefnogwyr diarfogi niwclear yn rhy aml wedi rhoi bow i gyfeiriad y ‘gwyddonwyr a’r peirianwyr galluog’ sy’n gweithio mewn llefydd fel Faslane, gan awgrymu y dylid troi eu medrau at bwrpasau amgen.  Mae’r gwyddonwyr a’r peirianwyr yn rhydd i droi eu medrau unrhyw ddiwrnod o’r wythnos. Nhw sy wedi dewis gwasanaethu’r Cythraul.

Wfft hefyd i’r undebau llafur sy’n dathlu ‘diogelu swyddi’ heddiw: adweithiol ac anadeiladol, fel y bu’r undebau drwy’r rhan fwyaf o’u hanes.

*      *     *

Cyn ei hawr fawr yn San Steffan, bu’r Santes ar ymweliad â Chaerdydd, a Carwyn yn ei chroesawu ar risiau ein hannwyl Gynulliad.  ‘Trafodaeth adeiladol’ medd yr adroddiadau.  Beth yn union oedd i’w drafod, wn i ddim … os nad ble i leoli llongau Trident pan anfonir hwy o’r Alban. Ble oedd gan Carwyn mewn golwg pan ddywedodd ‘mwy na chroeso’?  Aberdaugleddau sy’n dod i’r meddwl gyntaf efallai; hwylus, agos at y tanciau olew.  Ond beth am Borth Amlwch, i fod yn agos at Wylfa B a dod â gwaith i Fôn?  Neu Gaergybi, cynefin Albert Owen? Neu aber afon Ogwr, i Carwyn gael taro i mewn am sgwrs?

Gwyliwch ddydd Llun

16 Gorf

Ie, dyddiau diddorol.  Dyma’r blaid Dorïaidd unwaith eto wedi ei hel ei hun at ei gilydd yn ei ffordd ryfeddol, arferol. Ymlaen â’r pantomeim, a Boris wedi cael torri ei wallt.

Llafur, stori go wahanol. Fel rwyf wedi awgrymu o’r blaen, dyma gyfyng-gyngor clasurol, sef anallu traddodiadol Llafur i ddygymod ag egwyddor.  Yn aml mewn gwleidyddiaeth, personoliaeth sy’n dod gyntaf, polisi wedyn. Taclau diegwyddor fu mwyafrif gwleidyddion Llafur bron oddi ar ei sefydlu fel plaid, ond yn ogystal â’r rhain bu bob amser leiafrif o rai fel arall. Bellach, dan drefn newydd o ethol, dyma un o blith y lleiafrif yn arweinydd seneddol.

Yn wyneb pob dichell daliodd Corbyn ei dir hyd yma, gan roi inni gondemniad ar ryfel Irác o enau arweinydd yr wrthblaid.  Sicr y cawn glywed rhagor ganddo ar y testun hwn. Os deil tan drennydd, dydd Llun, daw ei gyfle i ddweud ei feddwl am Trident.

Dyfodol arfau niwclear – eu cadw neu ynteu gael eu gwared – yw mater gwleidyddol canolog ein hoes ni.  A dyma bob amser y prawf ar ddidwylledd sosialwyr.

Gwyliwch ddydd Llun, pa ffordd y pleidleisia’r Aelodau Llafur a’r ychydig Ryddfrydwyr.  A’r Aelodau Cymreig yn arbennig.

Y disgwyl yw y bydd llywodraeth Theresa â mwyafrif diogel, oherwydd cariad mawr y Llafurwyr at yr arf dinistr.  Ond na hidiwn hynny am y tro. Y gwahaniaeth mawr bellach yw presenoldeb Plaid Genedlaethol yr Alban. Fel y dywed Wee Ginger Dug heddiw, bydd y pleidleisiau Albanaidd o blaid Trident fel nifer y bysedd ar law haearn Capten Hook.

Er mwyn y nefoedd, Gymry, darllenwch rai o’r blogiau Albanaidd, ichi gael gweld sut mae ei dweud-hi. Wee Ginger Dug heddiw ar Trident, a Craig Murray (echdoe, 14 eg) ar y gwleidydd mawr Owen Smith. Fel un o’r blogwyr bach Cymraeg byddaf yn cywilyddio’n aml uwchben ein hymdrechion diniwed ni.

Yr Alban sy’n mynd i’w gwneud-hi, lle methodd y Chwith Brydeinig dila, ragrithiol.

*    *    *

Ond priodol iawn fu coffáu heddiw isetholiad syfrdanol Caerfyrddin hanner canrif yn ôl.  Yma y mae gwraidd llwyddiant presennol cenedlaetholwyr yr Alban.