Dyma’r trydydd tro i’r blog flogio ar y mater hwn.
A’r tro yma y Radio Times sydd wedi rhoi’r ysgogiad. Ar dudalen 7 o rifyn yr wythnos yma dyma ysgrif dan y pennawd ‘Post Office scandal is not over. But will the BBC keep fighting for justice?’ Yr awdur yw Nick Wallis, ymchwilydd a fu’n gyfrifol am gyfres radio ar yr helynt ac a fydd yn cyhoeddi llyfr arno yn ddiweddarach eleni.
Do fe gliriwyd rhai enwau ymhen hir a hwyr ac fe dalwyd rhyw esgus o iawndal. Ond mewn byd mwy cyfiawn na hwn ni byddai hyn ond megis dechrau.
Ac mewn rhai achosion bu’r cyfan yn rhy hwyr. Cofnoda Nick Wallis enwau tri phostfeistr a fu farw cyn cael y dyfarniad. ‘They spent the last decade of their lives as convicted criminals, whose assets were taken by a justice system that should have been there to protect them.’
Disgrifia wedyn yr anhawster o gael at y gwir. ‘The institutional unwillingness to acknowledge pernicious malpractice or misfeasance is a hallmark of the great many outrages committed by the state against its citizens.’ Neb o’r bobl mewn grym yn fodlon gofyn nac wynebu’r cwestiynau anodd. Lleiaf oll gweinidogion y llywodraeth.
Ac un o’r agweddau duaf. Pobl a fu’n gyfrifol am y camwedd yn derbyn gwobrau pellach mewn anrhydeddau a dyrchafiadau. Enwir Paula Vennells, cyn-brif weithredwraig Swyddfa’r Post, ‘…. allowed to leave office with a six-figure payoff, a CBE, a place on the board of the Cabinet Office and the chairmanship of an NHS Trust.’
A soniodd y blog hwn o’r blaen am griw arall o bobl a ddylai gyfrannu’n helaeth, er na ellir byth gyfrannu’n llawn, at yr iawndal y dylid ei dalu, sef y cwmnïau cyfreithiol a aeth ymlaen ag erlyniadau pryd y dylai fod yn amlwg ar ôl llond llaw o achosion fod rhywbeth mawr o’i le yn ganolog. Ynadon a barnwyr hefyd, gwelwch eich camwedd a dygwch ffrwythau addas i edifeirwch.
‘The Government,’ meddai’r erthygl, ‘has said it does not intend to hold anyone to account.’ Beth am lywodraeth Cymru? Clod i Jack Sargeant am dynnu sylw at benodiad gwaradwyddus gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Go dda’r Radio Times yr wythnos hon felly.
O … a chyn inni orffen, beth am hynny sy gennym o wasg Gymraeg? Efallai imi fethu ambell beth, ond ni welais yr un adran ohoni yn rhoi arweiniad ar y mater. Diflas yw gwasg nad yw’n gwneud dim ond ymgyrchu, ond eithafol ddiflas yw gwasg nad yw’n ymgyrchu o gwbl na byth yn codi llais am ddim byd. Mae gen i ryw hen deimlad o hyd y gallasai pethau fod yn wahanol petai Y Byd wedi cael cychwyn.