1. Diffyg synnwyr
Gydol fy oes i bu gwleidyddiaeth Unol Daleithiau America’n ymdrechu’n galed a chyson i daro’r gwaelod. Fis Tachwedd diwethaf, fe lwyddodd. A fydd haneswyr y dyfodol yn dyfarnu fod gwleidyddiaeth Cymru wedi cyrraedd yr un nod gyda phleidlais Cyngor Gwynedd echdoe ar fater tai a chynllunio?
Mae Aelod Seneddol Arfon ac Aelodau Cynulliad Arfon a Meirion-Dwyfor wedi mynegi siom. (Dim gair hyd yma gan AC Môn.) Meddai’r tri gwleidydd, fel y’u dyfynnir ar GOLWG 360:
“Rydym yn siomedig iawn bod y fframwaith cynllunio presennol ar gyfer Cymru, o dan reolaeth Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at Gynllun Datblygu lleol sydd heb ganiatáu’r hyblygrwydd angenrheidiol i fynd i’r afael ag anghenion penodol cymunedau Môn a Gwynedd.
“Rydym yn mynegi anfodlonrwydd â system sydd wedi ei anelu at ddatblygu cynllun sy’n canolbwyntio yn bennaf ar dai, heb ystyried goblygiadau datblygiad tai ar y seilwaith lleol (ffyrdd, ysgolion, ysbytai, yr economi) a lles cyffredinol cymunedau.”
Dau beth yn dod i’m meddwl wedi gweld y datganiad:
(a) Pam na wnaed y datganiad ynghynt, mewn da bryd cyn y bleidlais, ac wedi ei gyfeirio’n benodol at gynghorwyr Plaid Cymru, mwyafrif y Cyngor? Dylai fod wedi dweud “Cymerwch chi ofal ar boen eich bywyd na wnewch chi beth mor hurt”. A dylai’r un cyfarwyddyd clir fod wedi dod oddi wrth Blaid Cymru’n ganolog.
(b) A’r peth yn awr wedi digwydd, gallasai’r datganiad fod yn fwy cryno: “Diolch, hogia a genod, am golli’r sedd imi’r tro nesa.” Oherwydd mae dau beth cyfochrog yn debyg o arwain at y canlyniad hwnnw. Yn gyntaf, rhagor eto o’r mewnlifiad a fu bron â boddi Hywel fis Mai. Ac yn ail colli pob ffydd gan ei chefnogwyr traddodiadol mewn plaid mor gwbl ddigyfeiriad a di-ddisgyblaeth.
Yn awr, problem tai yng Nghymru. Beth ydyw? Yr ateb: gormod o dai, a’r Cymry un ai ddim yn gallu eu fforddio meu ddim eisiau eu prynu. Rwyf wedi trafod hyn o’r blaen. Yr atebion?
(a) Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn bosibl i Gymry brynu’r tai, un ai drwy (i) drwy gynllun morgeisi arbennig i “Gymry” yn yr ystyr o rai wedi eu geni a’u magu yng Nghymru, neu (ii) drwy ddeddf yn galluogi awdurdodau lleol i ran-berchenogi, neu (iii) drwy gyfuniad o’r ddau beth yna. Fe ddywdedir “Ond does dim darpariaeth ar gyfer unrhyw beth o’r fath”. Ateb: gwaith llywodraeth yw creu’r ddarpariaeth. Rhaid mynd at wraidd y broblem, nid mynd heibio iddi, neu redeg i ffwrdd oddi wrthi fel y gwna’r fframweithiau presennol a phenderfyniadau lloerig awdurdodau lleol o fewn y fframweithiau hynny.
(b) Ateb llai, ond un a all gyfrannu tipyn. Yr Hendref a’r Hafod. Dylai Cymro (yr un diffiniad ag uchod) gael perchenogi dau dŷ, a dylai llywodraeth Cymru ei helpu. Cyfraniad ariannol os yw’n prynu tŷ arall yn ei sir ei hun; cyfraniad mwy os yw yn ei gwmwd ei hun; a mwy eto os yw yn ei blwy genedigol. Yn nannedd yr ansefydlogi sy’n digwydd, ailwreiddio’r Cymry yw’r angen. Nid adferir byth mo’r bywyd a oedd yn ein broydd hyd at, dyweder, drigain mlynedd yn ôl; ond o leiaf fe adferid meddiant a gradd o reolaeth.
2. Diffyg gwasg.
Mae’n rhaid wrth wasg i adrodd a thrafod pethau fel hyn, ac i roi arweiniad. Ond dyma inni eisteddfod heb Y Cymro. A oes olwg o’r Cymro newydd? Gwyddom oll am broblemau’r wasg brintiedig, o bapurau mawr Llundain hyd Ddydd Dolgellau. Ond peidio â choelio’r rheini sy’n dweud nad oes swyddogaeth iddi bellach, a bod y “cyfryngau cymdeithasol” wedi cymryd ei lle yn llwyr. I weld gwegi’r honiad hwnnw, nid oes raid ond ystyried etholiad cyffredinol Mai eleni yn yr Alban. Mae’r gwefannu gwleidyddol Albanaidd yn fywiog a phoblogaidd dros ben (20,000 o ddarllenwyr mewn awr i Craig Murray, fel rwyf wedi cyfeirio o’r blaen). Ond yn yr etholiad rhoes yr Herald, y Daily Record a’r papurau Ceidwadol eraill bob gewyn ar waith a gwneud cryn niwed i’r SNP a’r mudiad annibyniaeth. Gweler fy hen gofnodion fan hyn a fan hyn.
Gwraidd y mater eto? Rhaid adfer yr arfer o ddarllen Cymraeg yn rheolaidd drwy’r trwch. Tybiodd ein cwmni ni, Dalen Newydd Cyf., mai’r ateb oedd cadwyn o bapurau Cymraeg wythnosol am ddim, yn cael eu cynnal gan hysbysebion, gan anelu at gylchrediad o 100,000; ac yn 2006-7 ceisiodd roi cychwyn i’r peth. Beth fyddai cyfraniad llywodraeth Cymru? Nid grant, ond cefnogaeth drwy hysbysiadau cyhoeddus. Efallai yr adroddaf yn llawnach eto ryw ddiwrnod y modd y bu i un AC ac un AS Ewropeaidd golli fôt drwy beidio ag ateb ein llythyrau ar y mater hwn.
3. Diffyg myfyrwyr.
Tipyn o sôn eto y dyddiau hyn fod efrydwyr Lefel-A yn y Gymraeg yn prinhau, a rhai o adrannau Cymraeg y colegau yn teimlo’r wasgfa. Dyma adroddiad BBC Cymru, a dyma fy sylw i beth amser yn ôl. A oes syndod? (a) Llai ohonom, llai o Gymry, a dyna ni. (b) Nid bod a wnelo hyn yn uniongyrchol â’r Gymraeg fel pwnc, ond ei fod yn rhan o’r cyd-destun. O blith carfannau o’r boblogaeth brinhaol hon bu tuedd gref dros y blynyddoedd, tuedd sy’n parhau ac yn cael ei chefnogi’n eiddgar gan ein llywodraeth, i anfon y plant galluocaf o Gymru, gyda rhaweidiau o arian i’w canlyn.
Yr wyf wedi trafod llawer iawn ar y pwnc hwn dros y blynyddoedd. Mae’n bwnc sensitif dros ben, yn cyffwrdd rhyw nerf. Am hynny rwyf innau wrth ei drafod wedi gofalu peidio â dweud dim am gymhellion unigolion. Rhaid ceisio edrych arno’n wrthrychol, ei weld fel amlygiad o duedd seico-gymdeithasegol, tuedd y dosbarth proffesiynol Cymraeg i ollwng gafael, am nad oes ganddo ffydd yn ei allu ei hun i reoli gwladwriaeth fodern. Am hyn dylai’r ateb hefyd fod yn ateb gwrthrychol, amhersonol, cyffredinol, sef gwobrwyo’n ariannol y myfyrwyr sy’n aros yng Nghymru, ac ar raddfa na all y disgybl ei hun na’i rieni fforddio troi trwyn arni.
Yma fel yn y ddau achos o’r blaen, mae eisiau mynd at wraidd y broblem.
Mae yna enw ar yr agwedd meddwl, y polisi, y wleidyddiaeth sydd (a) am fynd at wraidd y broblem; (b) am daclo’r broblem yn awr, nid gadael iddi fynd yn waeth
Lladin; radix. Rhuddugl: radish. Radicaliaeth yw’r gair. Bu adeg pan glywem lawer amdano yng Nghymru.
Ble mae heddiw?