Pwt bach heddiw yn lle mynd i rali Tryweryn, ac rwyf wedi dweud y cwbl o’r blaen.
Yn 2004 mi sgrifennais fel hyn, a’i ailadrodd oddi ar hynny:
‘Hwyrach fod rhan o’r ateb gan yr hen Gymry. Daliaf fod hawl o hyd gan bob Cymro i hendref a hafod, os yw ei amgylchiadau mewn rhyw fodd yn caniatáu. Gadewch inni beidio â gwamalu: mae tŷ haf neu ail gartref yn iawn os mai Cymro a’i piau. Beth amdani, blant alltud ein hardal a aeth yn “drigolion gwaelod gwlad a gwŷr y celfau cain”? Nid yw’n ateb cyflawn i’r broblem o bell ffordd. Ond mae’n un ffordd fach o “ddal dy dir”.’
(Gweler ‘Hafod y Cymro’, t. 140 yn y gyfrol Meddyliau Glyn Adda, neu yn wir ar y blog hwn, 23 Chwefror 2016.)
Gan geisio byw’r broffes hon dyma fi’n dal fy ngafael ar dŷ yn fy ardal enedigol, sy’n ail dŷ i mi. Fy niolch? Y bygythiad o gael dyblu fy nhreth i gyngor gwlatgar Gwynedd. A ddylwn i wneud yr aberth yn llawen, mewn ffydd y bydd yn troi i ffwrdd y prynwr cyfoethog o Loegr? Os dyblir y dreth, neu ei threblu, neu fwy, mentraf broffwydo na fydd yn mennu y mymryn lleiaf ar y prynwr hwnnw.
A thro yn ôl mi es mor bell ag awgrymu rhywbeth bach arall, sef y dylai awdurdod lleol yng Nghymru, os yw yn wir o ddifri ynghylch cadw meddiant Cymry ar eiddo, roi tipyn o help ariannol i Gymro sydd am brynu ail gartref yn ei hen ardal. Edrychwch eto ar flog 9 Rhagfyr 2019 (dan y pennawd ‘Tai’), a dywedwch beth sydd o’i le ar yr awgrym.
O ran hynny mi ddywedaf i, heb oedi ddim mwy, beth sydd o’i le arno. Ateb bach ydyw, i broblem fawr fawr, a hwyrach mai gwell fyddai cadw’r adnoddau ar gyfer yr ateb mwy.
Yr ateb mwy. Wel, rwyf wedi ei gynnig ym mlog 3 Mai eleni, a does dim arwydd eto fod neb wedi cymryd y mymryn lleiaf o sylw. A chrynhoi: mae’r dydd wedi dod pan yw’n rhaid i awdurdodau lleol Cymru fynd hanner-yn-hanner gydag unrhyw Gymro sydd am brynu tŷ yng Nghymru. Bydd yn costio, ond rhaid i lywodraeth Cymru ddod o hyd i’r arian a’i ddynodi at y pwrpas. Mae’n gofyn deddf, a honno’n mynd at wreiddiau pethau.
Ond beth mae llywodraeth Cymru’n ei gynnig heddiw? ‘Rydym yn gweithio ar gyflymder i weithredu atebion cynaliadwy i’r hyn sy’n faterion cymhleth. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd, carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol yn ystod y tymor Senedd hwn.’
‘Cynaliadwy’? Peidiwch â malu! ‘Carbon isel’? Anghofiwch o! Codi mwy o dai? Dwysáu’r broblem. Wynebwch y gwirionedd: gormod o dai sydd yng Nghymru, a’r Cymry heb allu eu fforddio.
Atebion radical yw’r angen heddiw i lawer o bethau, ond diolch yn bennaf i geidwadaeth ddofn etholwyr y De-ddwyrain, dyma ni eto dan law farw plaid sydd yn an-radical yn nwfn ei henaid, ym mêr ei hesgyrn, yn nhoriad ei bogail ac ym môn ei gwallt.
Pwy a’n gwared?