Dridiau’n ôl mi roddais hysbyseb fach i’r Dreflan. Heddiw, rhai meddyliau pellach yn ei chylch.
1. Yn y golygiad newydd hwn gan Robert Rhys ceir rhagymadrodd, nodiadau a geirfa. Ar briodoldeb y ddau olaf bu tipyn o ystyried a thrafod rhwng y golygydd a minnau.
Anaml iawn y ceir geirfa wrth gwt unrhyw destun llenyddol Saesneg ar ôl Shakespeare; ddim hyd yn oed gweithiau llawn tafodiaith (e.e. Thomas Hardy), neu slang (e.e. P.G. Wodehouse). Fe ddisgwylir fod pob Sais yn medru ei iaith, neu fe gymerir fod y fath beth i’w gael â geiriadur. Hyd yma wrth olygu’r gyfres ‘Cyfrolau Cenedl’ fe drechwyd fy ystyfnigrwydd gwleidyddol chwe gwaith gan yr ystyriaeth fod yr eirfa’n ddiddorol. Felly’r tro hwn. Geirfa fer sydd i’r Dreflan, a gobeithio y bydd y darllenwyr yn gwerthfawrogi’r goleuni ar: anwêdd, colma, cyrajio, cywlas, dynsawd, gim-gam-gwa, meddflyd, wynebiaeth, ymgenglu … a nifer o eiriau difyr eraill.
Bu arfer ar un adeg o roi geirfa mewn llyfrau straeon plant. Chwithig bellach (o leiaf mi obeithiaf hynny) yw gweld dibynnu ar y Saesneg i esbonio llond ceg o eirfa Gymraeg yn Nedw : gwaddol y cyfnod pryd y dysgid y Gymraeg trwy’r Saesneg, a gweddol y dybiaeth (rhy fyw o hyd) mai’r trosiad Saesneg ohono yw’r esboniad ar air Cymraeg.
Wedyn y nodiadau. Beth oedd Ysgol Frydeinig, het Jim Crow, German band ? Pwy oedd Mrs Partington ? Pa rai oedd y chwe sir ? Beth oedd arwyddocâd aros yn y seiat ? Beth oedd y gwahaniaeth rhwng pregethwr a gweinidog ? Esbonnir yn fyr eitemau fel hyn o fyd Daniel Owen. Dangosir hefyd mor Feiblaidd yw llawer o’i ymadroddion a’i gyfeiriadau, – rhai o’r rheini yn gellweirus neu barodïol. A oedd angen yr esboniadau hyn? Wedi ystyried, cytunais fod. A gallesid mynd ymhellach, oherwydd nid jargon Ymneilltuaeth yn unig sydd wedi mynd yn ddieithr bellach, ond syniadau sylfaenol Cristnogaeth hefyd.
2. Ysgrifennodd W. J. Gruffydd yn ei Hen Atgofion : ‘[A]r funud lwcus agorais y gyfrol o’r Drysorfa a oedd yn cynnwys pennod gyntaf Y Dreflan gan Daniel Owen. Yn ffodus, yr oedd yr holl rannau’n gyflawn yn y Drysorfa, ac ni roddais y llyfrau o’m llaw nes gorffen y Dreflan. Dyna’r tro cyntaf i mi ei darllen, ond euthum drosti lawer gwaith ar ôl hynny. Gwn mai prentiswaith Daniel Owen ydyw’r nofel hon, ac nad yw’r beirniaid, pwy bynnag yw’r rheini, yn ei rhestru gyda’i weithiau gorau; ond i mi, hyd y dydd heddiw, nid ysgrifennwyd dim yn y Gymraeg na’r Saesneg na’r un iaith arall a wn, yn debyg i’r Dreflan. Erbyn hyn, y mae’r Dreflan wedi myned yn symbol i mi am fy maboed gynt, ac ni all y nofel berffeithiaf a gyfansoddwyd erioed gymryd ei lle.’
Onid yw’n rhyfedd, a bron yn anhygoel, nad argraffwyd mo’r Dreflan o gwbl yn ystod yr ugeinfed ganrif?
3. Mewn eitem o’r blaen ar y blog hwn (23 Awst 2013) mi soniais am y math hwnnw o stori neu ddrama sy’n ein tywys o gwmpas y dref neu’r pentref gan daro i mewn i’r lle yma a’r lle arall a gofyn ‘beth mae hwn-a-hwn yn ei wneud y foment hon?’ Yr union ddyddiau hyn clywn goffáu ac ailchwarae ar yr enwocaf erioed, ond odid, o weithiau ‘rownd y dref’, sef Under Milk Wood. A bûm yn ailddarllen yn ddiweddar, gan chwerthin fel erioed, stori a drama Wil Sam am ‘Y Dyn Swllt’ ar ei rownd drwy’r pentref yn ceisio cael taliadau’r clwb dillad o groen hwn a’r llall. Mae pennod agoriadol Y Dreflan, arolwg cyflym o’r gwahanol gyrff crefyddol yn eu tro, yn enghraifft glasurol o’r dosbarth difyr hwn o lenyddiaeth.
4. Yn ddyn ifanc fe gyfieithodd Daniel Owen nofel ddirwestol Americanaidd a’i chyhoeddi’n benodau yn un o’r cylchgronau crefyddol dan yr enw Deng Noswaith yn y Black Lion. Mae goryfed yn destun yn Y Dreflan, Rhys Lewis a Gwen Tomos. Ond yr hyn sy’n drawiadol am y tri gwaith gwreiddiol hyn yw i’r awdur osgoi’r demtasiwn i sgrifennu nofel ddirwest. Gwêl broblem, gwendid a salwch; mae ei agwedd yn wyddonol. Nid oes faddeuant i dad Rhys Lewis am y cyfan a wnaeth; ond golwg dosturiol a gymerir ar Bob Pugh yn Y Dreflan ac ar Harri a’i dad yn Gwen Tomos. Am John Aelod Jones, nid yw ei lymeitian ond cam pellach mewn gwiriondeb a oedd yno o’r dechrau.
5. ‘Beth bynnag yw’r Dreflan, nid stori mohoni,’ dyfarnodd Saunders Lewis. Wel, wn i ddim. Mae ynddi gymaint o stori ag mewn llawer o nofelau Victoraidd. Argraffiadau brodor dienw o ‘bobl a phethau’ o gwmpas y dref sy’n rhoi’r prif fframwaith, ac ym mhen y rheini argraffiadau’r dyn dŵad Noah Rees. Yna daw llinyn arall, diflaniad a dychweliad un o feibion afradlon y Dreflan. Ac wrth sefyll ychydig yn ôl, efallai nad rhy ffansïol gweld, yn codi o blith yr amrywiaeth cymeriadau, rhyw batrwm fel hyn o gyferbynnu tri dyn â thri arall. Tri chymeriad cadarnahol – er na or-ddelfrydir yr un ohonynt; a thri chymeriad negyddol. Ar y naill law Noah Rees, Benjamin Prys a Pitar Pugh. Ar y llaw arall, y tri ‘dyn drwg drama’. Mr. Smart, snob drama. Sharp Rogers, cybydd drama. Jeremiah Jenkins, drwgweithredwr drama (ond â’i fab, Tom, yn unol â thema gyson gan Ddaniel Owen, yn fachgen hollol gymeradwy.)
O’r tri dyn drwg, pa un sy’n cynrychioli’r broblem fwyaf, i’r Dreflan ac i Gymru? ‘Moment ddiffiniol’, fel y dywedir, yw honno pan yw Mr. Smart yn eistedd yng nghadair Benjamin Prys yn y capel. Ac anfarwol yr olygfa lle mae Freddie, mab Mr. Smart, yn dweud ei adnod: ‘Iesu d’wedodd, Cadewch i plant bwchin tyfod ataf i, a na wenyrwch irynt.’ Mae ein gwlad bellach yn llawn Ffredïod (er heb lawer o adnodau). Mr. Smart sydd wedi ennill.