Archif | Mawrth, 2014

Tipyn o glec

28 Maw

Mae bron i ddwy flynedd er pan gyhoeddodd Carwyn Jones y byddai “mwy na chroeso” i longau tanfor Trident angori yng Nghymru. Ymosodwyd arno’n bur galed gan Blaid Cymru ar y pryd, un o’r ychydig, ychydig bethau positif y mae’r blaid honno wedi eu gwneud yn ystod y tymor hwn o’r Cynulliad. Wel … heblaw ethol arweinydd efallai.

Gyda’r posibilrwydd i’w weld yn cryfhau y bydd raid i’r llynges angeuol adael yr Alban, dyma godi’r mater eto, gyda Rhodri Glyn Thomas AC yn galw heddiw am gynnal refferendwm cyn estyn y “croeso” y mae Carwyn yn ei baratoi.

Ond ara’ deg. Offeryn yw’r refferendwm i’w ddefnyddio ar gwestiynau cyfansoddiadol, a phryd hynny’n gynnil. Ar y rhan fwyaf o gwestiynau’r dydd, ni waeth pa mor ddadleuol, rhaid ymddiried yn ein system o lywodraeth gynrychioliadol, gyda etholiad cyffredinol bob hyn a hyn yn mynegi llais y wlad. “Y salaf o bob system – ac eithrio pob un arall,” fel y dywedodd Churchill.

Dychmyger refferendwm ar grogi ! Yr un modd, pwy a allai fod ag unrhyw ffydd ym mhenderfyniad refferendwm ar Trident? Oni allai ddod â gwaith i Fôn, a “phetha” i Gemaes? (Gweler blog 5 Chwefror). Ac a fyddai Pleidwyr Môn yn mynd yn groes i bolisi eu plaid unwaith eto, heb eu galw i gyfrif?

Na, nid y refferendwm yw’r offeryn i daclo Carwyn a’i freuddwyd am gynnal rhwysg Lloegr os daw diwedd eleni ar Brydain Fawr. Gorffwys rhan o’r cyfrifoldeb ar Blaid Cymru. Pe bai hi, rywsut yn y byd, mewn safle i fargeinio ar ôl yr etholiad nesaf, ni ddylai ar unrhyw gyfrif ymuno â chlymblaid gyda Carwyn yn ben arni. Tybed nad oes yna ddarpar arweinydd arall rywle yn rhengoedd Llafur Cymru nad yw mor selog dros y llongau tanfor? Syniad da fyddai i ryw bapur neu gylchgrawn gylchlythyru aelodau Llafur y Cynulliad i weld pa rai sydd mewn gwirionedd yn rhannu gweledigaeth eu harweinydd.

Fel yr awgrymwyd ym mlog 23 Mawrth, gall yr Eisteddfod Genedlaethol hithau chwarae rhyw ran. Rhan fechan ond allweddol hwyrach. Pan wnaeth Carwyn ei ddatganiad ffôl ddechrau haf 2012 yr oedd gwahoddiad eisoes yn sefyll iddo gael ei urddo’n aelod o’r Orsedd. Byddai Iolo wedi tynnu’r gwahoddiad yn ôl. Yr hyn a gaed oedd dyfynnu Waldo wrth y Prif Weinidog oddi ar y Maen Llog; yr un mor fuddiol fuasai dyfynnu tudalen o Lyfr Teleffon De-ddwyrain Cymru. Yr un peth arwyddocaol y gellir ei wneud yn awr, ac mae hyn yng ngallu Llys yr Eisteddfod, yw dweud na all dderbyn unrhyw arian gan y llywodraeth hon tuag at goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, na chynnal unrhyw drafodaeth â’r llywodraeth ar y testun.

Mae hyn yn ei dro yn rhan o beth mwy. I ba raddau y mae’r Eisteddfod, fel cymdeithas wirfoddol a Chwmni Cyfyngedig dan Warant, yn atebol o gwbl i lywodraeth Cymru? Ni ofynnodd yr Eisteddfod am ymgynghoriad y Dwsin Doeth, ac mae Leighton Andrews, y gŵr a alwodd y Deuddeg, wedi mynd. Y cwrs priodol i Lys yr Eisteddfod fyddai cwrdd, ystyried, a phenderfynu gadael argymhellion y Dwsin “ar y bwrdd”, fel y dywedir. Byddai hynny’n dipyn o glec i wleidyddion ffôl y Cynulliad, o fwy nag un blaid.

 

Y cyfan am bres mwnci

23 Maw

Stori ddydd Gwener am griw o ladron (heb eu dal eto) yn cloddio twnel i ddwyn arian o beiriant pres yn Tesco, Salford.  Twnel da iawn, gwaith misoedd, barna’r heddlu.  Ac yn y diwedd lladrata … tua £90,000. Dim ond hynny?  Pres mwnci i ladron yr oes hon.  Oedd hi’n werth y drafferth? 

Crafu ’mhen wedyn. Ym mha gyswllt arall y clywais i, yn weddol ddiweddar, grybwyll yr un swm, naw deg o filoedd?

Wrth gwrs!  Dyna’r swm y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn gweithredu argymhellion y ‘Grŵp Gorchwyl a Gorffen’ neu ‘Y Dwsin Doeth’.  

Mae’r hen G.A. wedi cyfeirio fwy nag unwaith  eisoes at y Dwsin, ac nid oes diben ailadrodd yr hyn sydd mewn blogiau blaenorol.  Dyma nhw, rhag ofn yr hoffai rhai o’r darllenwyr eu hedrych:

29 Hydref 2012             Y Dwsin Doeth  – Tipyn o Jôc.
28 Chwefror 2013         Yr Eisteddfod, y Llywodraeth a’r ‘Dwsin’.
4 Mawrth 2013               Yn ôl at y Grŵp Gorffen.
6 Mai 2013                    Dyma hi’r Frawddeg.
14 Tachwedd 2013        Wrth y Dwsin …
23 Ionawr 2014              Gan bwyll, Eisteddfodwyr

Cyfeiriaf yn unig at yr eitem ‘Dyma hi’r Frawddeg’, a dyma hi eto, o gylchlythyr ddiwedd Ebrill y llynedd at holl aelodau Llys yr Eisteddfod: ‘Mae’n bwysig nodi mai mater i’r Llys fydd penderfynu ar yr ymateb i unrhyw argymhellion a ddaw o du’r Gweinidog.’  (‘Y Gweinidog’ ar y pryd oedd Leighton Andrews, a oedd wedi sefydlu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen; oddi ar hynny fe orffennodd yntau ei orchwyl yn sydyn a dirybudd, a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, sy’n gyfrifol bellach.)  Gobeithio felly fod trefniadau ar y gweill i gynnal cyfarfod o’r Llys yn rhywle  mewn da bryd cyn Eisteddfod Llanelli.  Fe ddylai’r cyfarfod hwnnw ofyn yn ddifrifol pa beth y mae’r Eisteddfod yn addo’i wneud yn gyfnewid am y swm aruthrol o £90,000.

Yn y cyfamser fe gododd mater arall y mae’n bwysig fod y Llys yn ei ystyried ac yn dyfarnu yn ei gylch, sef disgwyliad Carwyn Jones y bydd yr Eisteddfod yn coffáu’r Rhyfel Mawr.  Gweler blog 14 Tachwedd, ‘Cofio 1914’.  Fel yr wyf yn awgrymu yno, mae bron yn sicr y bydd gan yr Eisteddfod ei dull ei hun o gofio’r hyn a fu.  Gan gofio am bolisi Carwyn o wahodd llongau Trident i Gymru, byddai’n gwbl amhriodol i’r Eisteddfod (1) dderbyn gan y llywodraeth unrhyw arian wedi ei glustnodi at y coffâd; (2) dderbyn gan y llywodraeth unrhyw gyfarwyddyd, cyngor nac anogaeth ar natur y coffâd; (3) drafod y mater o gwbl â’r llywodraeth hon.  Gobeithio y cytuna’r Llys ar hyn.

                                                                                              §

O gofio eto stori’r lladron yn twnelu dan Tesco, y ddelwedd a ddaw i’r meddwl yw ‘cloddio dan y seiliau’.  Gwyliwn bob amser.

Terfyn llwyddiannus

21 Maw

Ddydd Mawrth yr wythnos hon bu’r hen G.A. mewn lle go ddiarth iddo, Llys y Goron,  Caernarfon.

Do, mi eisteddais trwy’r dydd fel aelod o’r cyhoedd yn gwrando ar achos arwyddocaol dros ben. Allwn i ddim bod yno fore Mercher i glywed y diweddglo llwyddiannus, hanesyddol, ond cefais y newydd da yn fuan wedyn. Newydd da o lawenydd mawr iawn.

Rhyw fath o achos iaith oedd hwn. Rhyw fath. Ond achos gwahanol i’r cannoedd o achosion a aeth trwy’r llysoedd yn ystod yr hanner canmlwydd diwethaf. Nid oedd a wnelo â thor-cyfraith bwriadol, nac â phrotest o unrhyw fath. Nid oedd a wnelo â dim un o’r mudiadau iaith.  Hyd yma (pnawn Gwener) beth bynnag, nid oes yr un o’r cyfryngau wedi gweld ei arwyddocâd.

                                                              §

Rwy’n siŵr y bydd rhai o’m darllenwyr yn gyfarwydd â golygfeydd bach fel y tair sy’n dilyn, neu wedi bod â rhan mewn ambell un.

CYMERIADAU:    A: cwsmer neu aelod o’r cyhoedd.   B: rhywun mewn siop neu swyddfa.

GOLYGFA 1.

A:   ’Dach chi’n o lew?
B:    I’m sorrey.
A:    Oes gynnoch chi sgidia fatha rhain? (Dangos ei draed.)
B:    I’m English.
A:    (Petruso am funud.  Methu gweld y cysylltiad rhwng yr ateb a’r  cwestiwn. Efallai nad oes cysylltiad.)  Chwilio am bâr o sgidia duon, tebyg i’r rhain.   (Pwyntio at ei draed  eto. Helpu.)
B:     English.
A:     Sgidia.  (Bod yn amyneddgar. Helpu.)
B:     I’m sorrey but I’m English.
A:     Iawn, ia, chwilio am bâr o sgidia …
B:     You have to speak English.
A:     O wel, dyna ni.  (Ei draed, yn yr hen esgidiau,  yn mynd ohonyn eu hunain i  siop arall.)

GOLYGFA 2.

A:      Bore da.
B:      Can I help you?
A:      Galw i weld Mr. Hwn-a-hwn.
B:      English.
A:      Ydi Mr. Hwn-a-hwn i mewn?
B:      Don’t speak Welsh.
A:      (Yn ildio tir, ond trio bod yn glyfar.  Ei Saesneg crandiaf.)  Now is that the indicative or the imperative, would you say?
B:       I’m English.
A:      (Trio gweld rhyw gysylltiad rhwng y cwestiwn a’r ateb. Methu.  Symleiddio wedyn.)   Is that a statement or a command?
B:       You can’t speak Welsh.
A:      (Myfyrio uwchben ystyr y gosodiad.)   How d’you mean, “can’t”?
B:       I’m English.
A:       Hwyl ichi rŵan.  (Mynd allan.)
B:       (Dechrau gwawrio.)   Excuse me … !
A:       (Meddwl.)  Rhy hwyr, ’mechan i.  A stwffio Mr. Hwn-a-hwn hefyd am gyflogi’r fath jolpan.  Digon o dwrneiod / penseiri / cyfrifyddion / contractwyr  (dewiser) eraill yn y dre ’ma …

GOLYGFA 3.

A:       Gymera’ i dri lemon.
B:       (Dallt dim.)   English.
A:       (Araf. Clir.)   Tri. Lemon.
B:       (Yn y niwl.)    Don’t speak Welsh.
A:       (Amyneddgar.  Positif.  Helpu Dysgwyr.  Dangos â thri bys.)  Tri. Tri. (Dangos eto.) Lemon.
B:       No Welsh.
A:       Wyddost ti be ydi lemon?  (Meddwl, ond ddim yn dweud: Peth ’run  fath â chdi.)
B:       Speak English.  (Mynd i sterics.)
(A. yn mynd i siop arall.)

                                                                                   §

Wel, rhyw olygfa debyg i’r rheina oedd cefndir yr achos.  Ffars, ac eto sobor o drist.

Bu Richard T. Jones, ffermwr o ardal Pen-y-groes, Arfon, yn fwy cyson a mwy llwyddiannus na’r rhan fwyaf ohonom yn siarad Cymraeg â phawb ac ym mhob math o sefyllfa.  Mae Richard wedi meddwl llawer am y mater, ac wedi astudio’r math o gyflwr meddwl sydd y tu ôl i olygfeydd fel yr uchod.  Efallai bod y darllenwyr yn cofio ambell lythyr ganddo yn y wasg ar agweddau o fywyd Cymru heddiw.

Yn Hydref 2012 aeth Richard ag ychydig nwyddau i siop elusen yn ei ardal, a chyn mynd oddi  yno yr oedd yn barod i brynu dau neu dri o lyfrau hefyd.  Y cyfan i gefnogi’r achos.  Dim math o fwriad i dorri cyfraith na phrotestio mewn unrhyw fodd.  Prin yr oedd wedi gallu cyfarch y rheolwraig na orchmynnodd hi ef i siarad Saesneg. Aeth Richard ymlaen yn Gymraeg, gan ofyn iddi gadw’r llyfrau ar ei gyfer. Yr un oedd yr ymateb drwy’r ymweliad:  rhaid siarad Saesneg yn y siop hon. Wedi ei droi allan, daeth Richard yn ôl a rhoi  sticeri ar ffenest y siop, yn dweud wrth y cyhoedd beth oedd y polisi iaith. Aeth yno’r eilwaith gydag ychydig roddion, yn barod i brynu gan yr elusen, ond â dyfais recordio.  Yr un ymateb eto.  Dweud ei bod hi am ei fwrw allan yn gorfforol.  Am  alw’r heddlu. “Galwa nhw,” meddai Richard. Ymadawodd, ond â’r cyfan erbyn hyn ar dâp.

Yn nes ymlaen ar y dydd galwodd plisman yng nghartref Richard. Ei neges oedd fod y rheolwraig yn dwyn achos yn ei erbyn am aflonyddu hiliol sarhaus ac am ei tharo.  Ond roedd y plisman wedi dod i gynnig bargen hefyd: dim ond i Richard arwyddo datganiad nad âi ef i’r siop byth eto, fe ollyngid yr achos. Gwrthododd Richard ystyried y fargen. Y tâp yn rhedeg eto. Ychwanegwyd cyhuddiad ei fod ef wedi ymosod ar y plisman, a chyn diwedd y dydd arestiwyd ef gan ddau blisman arall.

Gan lusgo ymlaen am yn agos i flwyddyn a hanner, aeth yr achos drwy Lys Ynadon Caernarfon.  Dewis Richard oedd mynd i Lys y Goron, yn gwbl hyderus fod y ddau recordiad yn dangos y gwirionedd.

A thorri’r stori’n fyr, dyna hefyd oedd dyfarniad y rheithgor ar ôl diwrnod o wrandawiad gofalus, yn cynnwys gwrando fwy nag unwaith ar y tapiau.  Yr oedd y rheolwraig yn meddwl, ac yn dal i gredu, ei bod wedi clywed pethau sarhaus a hiliol. Nid oedd dim arlliw o hynny yn y recordiad cyntaf, dim ond Richard yn ateb yn ôl yn ddigon teg, ac yn Gymraeg o hyd. Ac yn yr ail recordiad nid oedd dim i awgrymu ymosodiad ar y plisman. Holwyd y rheolwraig a’r plisman gan yr Erlyniad a’r Amddiffyniad:  methwyd â sefydlu unrhyw brawf fod y cyhuddiadau’n wir. Felly: Cyhuddiad 1: Dieuog.  Cyhuddiad 2: Dieuog.  Cyhuddiad 3: Dieuog.

Gobeithio nad yw hyn allan o le nac yn torri unrhyw gôd ymarfer, ond rhaid rhoi’r clod uchaf, yn ogystal ag i Richard ei hun am ansawdd ei dystiolaeth, i gwmni Parry, Davies, Clwyd-Jones a Lloyd, am y modd y trefnwyd yr amddiffyniad, ac i’r bargyfreithiwr Siôn ap Mihangel (gŵr ifanc a chanddo wreiddiau yn ardal Pen-y-groes) am eglurder a rhesymolder ei gyflwyniad.  Llwyddiant nodedig iawn.

Dyma achos, a dyma ganlyniad, y bydd gofyn ystyriaeth fanwl iddo gan:   (1) Y Comisiynydd Iaith, a (2) Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru.  Trueni hefyd nad oes gennym wasg a chyfryngau i ddangos arwyddocâd achos fel hwn yn glir i gyhoedd eang.

Dim ond gobeithio yr â’r neges ar led rywsut neu’i gilydd, ac y cawn yn y dyfodol lai o olygfeydd tebyg i:

A:    Tri lemon.
B:     English.

Rhybudd dau gynghorydd

16 Maw

“Pryderon fod Plaid am golli Arfon,” meddai pennawd GOLWG 360.  Maddeuwch i’r hen G.A., ond mi ddywedwn i y bydd o leiaf dair plaid yn colli os bydd un yn ennill. Be sy’n bod ar GOLWG a’r cyfryngau eraill yn dal i ailadrodd yr enw disynnwyr a roddodd Plaid Cymru arni ei hun mewn moment o wendid rai blynyddoedd yn ôl?   Mae sawl rheswm pam y gallwn i beidio â phleidleisio y troeon nesaf i’r blaid dan sylw, ac mi soniaf am rai ohonynt yn y munud.   Ond dyma un i ddechrau.  Anghofiwch y pen. Anghofiwch y galon.  Mae dyn yn pleidleisio â’i law.  Ac mae llaw unrhyw bleidleisiwr call yn nogio rhoi pleidlais i blaid nad oes iddi enw ond “Plaid”.  Plaid be?

Ond peth arall oedd gan ddau o aelodau Plaid Cymru ar gyngor Gwynedd, wrth anfon rhybudd difrifol at eu cyd-aelodau o’r cyngor, a’i gyhoeddi wedyn. Gellir darllen sylwadau Liz Saville Roberts ac Elwyn Edwards ar GOLWG, a sylwn ar ambell air ac ymadrodd  fel “cenedlaetholwyr”, “sefyll yn gadarn”, “cadwn y mur”, “trefedigaethu”, “cynllwyn difaol”, – sef  math o ieithwedd a fu braidd yn ddieithr i’r  “Blaid Cymru swyddogol”, fel petai, ers rhai blynyddoedd.  Eir ymhellach.  Wrth alw ar y Blaid i “warchod cymunedau” mae mwy nag awgrym na bu hi’n gwneud llawer o hyn yn ddiweddar.  Dywedir yn blaen fod perygl iddi gael ei gweld “yn blaid sydd yn ymddwyn gyda thrahauster unben drwy eu hanwybyddu”.   Wel, onid oes yma wir alwad i edifeirwch?

Daw rhai cwestiynau i’r meddwl, a’r cyntaf yw hwn. Ble roedd aelodau grŵp y Blaid ar y cyngor, sef y grŵp llywodraethol, pan luniwyd y polisïau – neu o leiaf yr agweddau – sydd bellach yn awgrymu “trahauster unben”?  Y polisi tai sydd flaenaf ym meddwl y ddau gynghorydd, ond mi ddaliwn i fod y polisi ysgolion yn parhau hefyd yn dramgwydd go fawr.  A fabwysiadwyd y polisïau hyn drwy fwyafrif gan y grŵp?  A drafodwyd hwy o gwbl?  Ynteu a ydyw’r system gabinet wedi rhoi diwedd ar bob trafodaeth o’r fath?  Ac a yw’r Blaid yn ganolog wedi cymeradwyo’r polisïau?

Yn awr os yw’r polisïau hyn yn mynd i gostio seddau Cynulliad a/neu San Steffan i’r Blaid, sef yr hyn a ofna’r ddau gynghorydd, sut yn union?

Mater y “tai diangen” sydd wedi dod â’r peth i’r pen.  Mewnlifwyr yn meddiannu’r tai, neu (yr un mor debygol, neu fwy felly), yn meddiannu’r hen dai y bydd y Cymry wedi eu gadael er mwyn symud i’r tai newydd. Y Cymry’n prinhau, mynd yn lleiafrif hyd yn oed.  Llai o bleidleiswyr i’r Blaid. Hithau’n colli. Ai dyna sydd tu ôl i’r rhybudd?  Hollol bosibl.  Fe bleidleisia’r mewnfudwyr i’r blaid Brydeinig agosaf, heb boeni llawer – os o gwbl – am ei pholisi, fel y pleidleisiodd myfyrwyr a staff colegau Aberystwyth a Llanbed wrth eu miloedd eisoes: pwynt nad yw Plaid Cymru fel petai’n barod i’w wynebu o gwbl.   Gall hyn yn union ddigwydd yn Arfon, ac ym Meirion-Dwyfor hefyd, o fewn rhyw ddau etholiad eto.

Y tro nesaf un yma, fe ddywed rhywbeth wrthyf i fod y polisi ysgolion yn debyg o gostio mwy.  Mae wedi rhoi dau ddrwgenw i’r Blaid, y ddau’n cynnwys y gair “cau” mewn dwy ystyr wahanol: “Plaid cau ysgolion” a “Plaid cau (= nacáu) gwrando”.   Ai rŵan y dysgir y wers? Onid oedd colli rhes o seddau Gwynedd y tro diwethaf, a cholli mwyafrif a ddylasai fod yn un diogel, a gorfod dod i gytundeb â Llafur, o bawb, yn ddigon o wers? Yn wahanol i Thomas Gray yn ei Ode on a Distant Prospect of Eton College, ni byddaf byth yn sentimental ynghylch fy hen ysgolion.  Ond ceisier argyhoeddi unrhyw un yn fy mhentref genedigol, Carmel (lle mae gennyf dŷ o hyd), fod y penderfyniad i gau’r ysgol yn unrhyw beth ond ildio i bwysau Llywodraeth y Cynulliad, ac fe geir trafferth.

Os colli a wna Plaid Cymru, pwy fydd yn ennill?  Mae rhyw ragdybio yn llythyr y ddau gynghorydd mai Llafur – sef cyd-awdur yr un polisïau.  Dywedir fod Llafur yn awr yn sôn am “achub cymunedau” ac yn rhyw ymrwbio yng Nghymdeithas yr Iaith.  Os Llafur a wobrwyir â llwyddiant, anodd gen i gredu y digwydd hynny drwy iddi argyhoeddi cenedlaetholwyr mai hi yw’r dewis amgen. Fe ddigwydd yn hytrach drwy i’r cenedlaetholwyr dadrithiedig atal eu cefnogaeth ymarferol a hyd yn oed eu pleidlais.

Yn y llythyr ceir y geiriau “cymryd yn ganiataol”, a dyna’i tharo hi.  Hyd yn hyn o leiaf, mae cnewyllyn cryf o bleidlais Plaid Cymru yn bleidlais dros yr hyn y mae hi i fod i’w gynrychioli, y pethau y mae disgwyl iddi eu hamddiffyn a’u hyrwyddo.  Fe ŵyr ei chefnogwyr yn iawn pa bethau yw’r rheini.  Yn hanes pob plaid mae yna “gymryd yn ganiataol” hyd at ryw bwynt.  Ond beryg bod Plaid Cymru heddiw wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, neu wedi ei basio? Dylai plaid, os yw’n ddoeth, warchod rhag y diwrnod y bydd y ffydd, a thrwy hynny yr hwyl, yn pallu.  Nid yw’n hwyl ymddiheuro dros eich plaid, neu hel esgusion drosti, neu ofyn am bardwn iddi, ac am un cyfle eto.

Mae dyn yn ceisio tremio i’r dyfodol, a bron â chael ei lethu gan aruthredd y dasg. Mis Medi, yr Alban. Os mai NA fydd hi, byddwn mewn andros o dwll. Os mai IE, byddwn ni Gymry mewn twll eto; bydd yr amgylchiadau’n galw am fudiad gwleidyddol aruthrol o gryf, unol, hwyliog a hyderus.  Sut y daw?

Yn ôl at bennawd GOLWG 360. Annisgwyl yw darllen fod “Plaid AM golli”. Onid yw pob plaid AM ennill, os gall hi rywsut yn y byd? Fe ŵyr y darllenydd, wrth gwrs, mai ystyr y pennawd yw “Pryderon fod Plaid CYMRU YN MYND I golli Arfon”. Ond pam nad dweud hynny? Pam gadael i’r darllenydd y dasg o wneud synnwyr? Pam sgwennu rhyw sgrwtsh fel hyn?

(Ar bolisïau tai yn gyffredinol, a pherwyl llywodraethau Llundain a Chaerdydd, mae nifer o ysgrifau sylweddol a llawn gwybodaeth ar flog Jac o’ the North.)