Rywle yn y tŷ yma mae hen ddogfen, yn tynnu am ei hanner cant oed. Ni allaf roi llaw arni y funud hon, ond daeth yn gryf i’m meddwl y dyddiau diwethaf. Deiseb oedd, wedi ei llunio tua 1971-2, at Lys Coleg y Brifysgol, Bangor, ac wedi ei chefnogi gan ryw 25-30 o aelodau’r staff; Cymry gan mwyaf, sef mwyafrif o blith Cymry’r staff yr adeg honno, ynghyd â rhai Saeson. Yr oedd yn gofyn i’r Llys atal cynllun ehangu’r coleg ar y pryd, cynllun a fyddai wedi chwyddo’r niferoedd i tua 5,000. Ni chymerwyd unrhyw sylw o’r ddeiseb gan Senedd na Chyngor na Llys y coleg, nac ychwaith o brotestiadau taer gan Undeb Myfyrwyr Colegau Bangor yn ystod 1978-9.
Heddiw dyma Covid-19 yn bygwth taro niferoedd myfyrwyr Cymru, a llywodraeth San Steffan yn sôn am osod cyfyngiad ar y myfyrwyr o Loegr a gaiff fynd i Gymru a’r Alban! Pryder ofnadwy ymhlith gwleidyddion Cymru, yr academwyr a rhai o’r sylwebyddion! A ddaeth y Covid i’r adwy? Faint o ddeisebwyr dechrau’r 1970au sydd ar ôl i chwerthin gyda minnau ha ha ha?
Gofynnaf: pe bai rhai ohonom heddiw – yn gwbl gwbl ddieffaith mi wn – yn deisebu ar yr un mater, a fyddem yn defnyddio’r un dadleuon? Yr ystyriaeth ganolog hanner can mlynedd yn ôl – i’r Cymry ohonom o leiaf – oedd ofn gweld boddi’r Cymry’n ddyfnach byth o dan y llifeiriant, ac ofn gweld diwedd y ‘bywyd Cymraeg’. Ar wahân i waith canmoladwy y rhai sydd wedi adfywio a chynnal y ddrama Gymraeg y blynyddoedd diwethaf, wn i ddim pa ‘fywyd Cymraeg’ sydd yng Ngholeg Bangor heddiw. Os oes llai ohono nag a oedd, dyweder drigain mlynedd yn ôl, y rheswm am hynny yw mai estyniad ac adlewyrchiad ydoedd bryd hynny o fywyd diwylliannol yr ardaloedd. Bellach, yn syml iawn, mae llai ohonom; hefyd, oherwydd y newid mewn moddion cyfathrebu, mae llai o ddawn trefnu mewn cymdeithas drwyddi draw.
Mae hanes gor-ehangu colegau Cymru, a hanes y gwrthwynebiad iddo, a hanes methiant y gwrthwynebiad hwnnw, oll yn drist a phoenus ddifrifol. Byddaf weithiau’n meddwl y dylwn gofnodi’r hyn a wn, yn enwedig am y newid ochr mewn rhai cylchoedd. Ond mae’n rhy boenus.
* * *
Ond y tu hwnt i ofidiau’r Cymry, mae helynt y Corona wedi codi ystyriaethau mawr eraill ynghylch dyfodol yr holl brifysgolion a natur Addysg Uwch drwodd a thro. Gyda Phrifysgol Caergrawnt yn barod i ohirio dosbarthiadau am flwyddyn, a mwy a mwy o feddwl ac o sôn am ‘ddysgu o bell’, a fydd gweithio tuag at radd yn dal i olygu ymaelodi mewn sefydliad daearyddol a mynychu cynulliadau mawr neu fân mewn adeilad arbennig? A all y cyfan droi yn rhyw Brifysgol yr Awyr anferth? A fyddai’r un ystyr wedyn i ‘swyddi academaidd’? Anodd dychmygu amgylchiadau lle na fyddai’r myfyriwr gwyddonol yn gorfod bod yn ei labordy ac wrth ei fainc. Ond a fyddai’r celfyddydwyr oll yn cadw’r prif arferiad o eistedd mewn ystafell am hanner can munud ar y tro, tra mae rhyw ddarlithydd wrthi â pha radd bynnag o arddeliad a gynysgaeddwyd iddo? Cawn weld; ac os na chawn ni, fe gaiff rhai ar ein holau.
* * *
Heddiw dyma GOLWG 360 yn adrodd am alwad Dyfodol i’r Iaith: ‘Galw am ddiddymu cymorth ariannol i fyfyrwyr Cymru yn Lloegr’. Gallaf feddwl y bydd codi dwylo ac wfftio a gwaredu, oherwydd mae hwn yn fater sensitif tu hwnt. Mae’r euog yn gwybod eu bod yn euog, sef y rheini o’r dosbarth proffesiynol Cymraeg sydd, fel pob dosbarth o Gymry erioed a ymgododd ychydig yn y byd, yn gweld blewyn glasach y tu arall i’r clawdd. Ie, y ‘gwaedu mawr’ bob mis Medi: nid addysgol nac economaidd yw ei achosion ond – maddeuwch y llond ceg eto – seico-gymdeithasegol; mae wedi ei wreiddio yn hen hen ymdeimlad y Cymry o israddoldeb. (Dyna pam y mae’n bwysig ceisio deall ei gychwyniad, ac am hynny yn bwysig darllen ac astudio golygiad newydd Iestyn Daniel, Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, Dalen Newydd, £15.00.)
Rwy’n blino dweud, os na thaclwn y broblem hon bydd yn ddiwedd arnom. Sut? Gan wahaniaethu ychydig mewn pwyslais oddi wrth alwad Dyfodol i’r Iaith, dywedaf eto: drwy wobrwyo’n hael ac yn helaeth y rhai sydd am aros. Mae mwy nag un rheswm, yn cynnwys rhesymau hanesyddol a hirdymor, am y gwahaniaeth rhwng yr Alban heddiw a Chymru druan, dila. Ond un o’r prif resymau yw fod yr Alban wedi llwyddo i gadw’i phlant galluocaf yn ei cholegau ei hun. Pryd yr ydym am ddysgu oddi wrthi?