Archif | Awst, 2019

Pedwar can mlwyddiant

28 Awst

Dyma hi eleni’n bedwar can mlwyddiant geni Morgan Llwyd y llenor o Gynfal yn Ardudwy.

clawr-blaen-morgan-llwyd

Fel awdur rhyddiaith grymus ac arloesol  y cofiwn Morgan Llwyd yn bennaf, y cyntaf yn wir i ysgrifennu llyfrau syniadol gwreiddiol Cymraeg.  Ond yr oedd hefyd yn dipyn o brydydd, a’i gerddi’n adlewyrchu cynnwrf mawr ei oes a’i genhadaeth bersonol yntau. Yn HEN LYFR BACH CERDDI MORGAN LLWYD,  dyma inni ddetholiad newydd ohonynt, ac o’u darllen efallai y down i feddwl yn uwch amdanynt.

£3.00, neu yn un o becyn rhif 3 Yr Hen Lyfrau Bach (£10.00). Gan eich llyfrwerthwr neu o dalennewydd.cymru.

Enw Gorsedd

18 Awst

Trech Awen na thywydd, fel a ddigwyddodd droeon yn hanes yr Eisteddfod; trech na llawer peth arall hefyd. Llongyfarchiadau i holl drefnwyr Llanrwst, petai ond am hwylustod y parcio a’r bysus gwennol.

Gorsedd Cymru? Mae ar batrwm Gorsedd Môn, Gorsedd Powys a Gorsedd Cernyw, ac efallai bod rhyw synnwyr yn hynny. (Yn fy hen ardal byddai Gorsedd Mynydd y Cilgwyn yn cael ei galw drwy S.O.S. tuag amser te ddydd Sadwrn yr eisteddfod. ‘Hei, ma’ isio iti ddŵad i’r Orsadd. [Sibrwd] Hwn a hwn sy wedi ennill.’ Tân arni wedyn i wneud pennill cyfarch.)

Eto i gyd, nid yn ddifeddwl y creodd Iolo Orsedd Beirdd Ynys Prydain, i’w lansio ar Fryn y Briallu yn yr hen Gaerludd. Gwnaeth hynny yng ngrym myth a thraddodiad, yn union fel y gwnaeth y Morrisiaid a’u ffrindiau wrth greu’r Cymmrodorion yn yr un ddinas ddengmlwydd ar hugain ynghynt. Y Cymry fel y ‘Cyn-frodorion’ neu’r ‘Priodorion’, gwir berchenogion Ynys Brydain, dyna’r drychfeddwl, a dyna fu ysgogiad cychwynnol yr holl broses o greu’r amrywiaeth sefydliadau cenedlaethol sy’n llenwi’r Maes o flwyddyn i flwyddyn. Byddai rhywbeth yn chwithig mewn bwrw hyn dros gof, oherwydd nid ‘Prydeindod’ J.R. Jones sydd yma ond ‘Brytaniaeth’ yr hen Gymry, myth pwerus a oroesodd genedlaethau lawer gydag amrywiaeth o ganlyniadau, drwg a da.

gildas

Wrth ddweud ‘myth’ yr ydym yn cydnabod rhyw amheuaeth ynghylch sail hanesyddol y cyfan. Nid am yr Ynys Brydain ddaearyddol yr ydym yn sôn, ond am ryw wlad y galon neu’r dychymyg. Yn ôl y myth, y Cymry oedd piau’r ‘Ynys’ gyfan unwaith, ond fe’i collasant, un ai oherwydd eu pechodau neu drwy gamgymeriad gwleidyddol neu drwy gyfuniad o’r ddeubeth. A oes unrhyw wirionedd yn y syniad hwn neu y tu ôl iddo? Dyma inni yn awr gyfle i ailgodi’r holl gwestiwn mawr hwn a meddwl yn galed amdano, gyda chyhoeddi eleni gyfieithiad awdurdodol Iestyn Daniel, Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, sef y llyfr lle mae cychwyniad bach stori’r golled, a ddatblygwyd ac a helaethwyd lawer gan olyniaeth o awduron diweddarach. Dyma lyfr y dylai pob aelod o’r Orsedd, ynghyd â phob Cymro llythrennog, ei ddarllen yn ofalus. Fe welir fod Iestyn Daniel yn ei ragymadrodd yn rhoi sylw helaeth, yn ogystal ag i’r testun ei hun, i’w ddehonglwr A.W. Wade-Evans: mae ei syniadau pendant ac efallai anuniongred yntau yn dal i hawlio sylw ac ystyriaeth. At ddiwedd y flwyddyn gobeithiaf gyhoeddi yn Y Faner Newydd gyfres fer o ysgrifau ar ‘lyfr Gildas’ a dehongliad Wade-Evans ohono. Yn y cyfamser fe ellir ailddarllen fy hen ddarlith ‘Cyfrinach Ynys Brydain’ yn y gyfrol Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001); gw. tudalennau 100-101 yn benodol.

§

Gwelais adroddiad fod y newid ‘wedi ei basio drwy fwyafrif’ gan Lys yr Eisteddfod. Nid dyna’n union a ddigwyddodd yn y cyfarfod ddydd Gwener. Fe adroddwyd fod yr Orsedd wedi cymeradwyo’r newid; caed sŵn cadarnhaol o’r llawr, a chlap (os cofiaf yn iawn). Ni wnaed unrhyw gynnig, ni bu pleidlais, ac ni buasai hynny’n angenrheidiol na phriodol, oherwydd mater i’r Orsedd yn llwyr ydoedd, ac ydyw.

Cymdeithas wirfoddol ac annibynnol yw’r Orsedd ac mae ganddi’r hawl i’w galw ei hun beth bynnag a fyn. Ai Gorsedd Cymru a sefydlwyd yn 1792? Ai yn 1792 y sefydlwyd Gorsedd Cymru? Sut bynnag y gosodir y cwestiwn, rhyw ‘ie a nage’ yw’r ateb iddo, ac ni ellir bod yn fwy pendant ar dir cyfansoddiadol. Gyda chorff statudol neu siartredig mae’n dra gwahanol, ac nid oes eglurach achosion o hynny na phrifysgolion Cymru’r awron. Er enghraifft, os mai gorau dawn deall, fe ddylai arfbais Prifysgol Bangor ddwyn y dyddiad 2007 canys dyna’r flwyddyn y daeth i fodolaeth dan ei henw a than ei siarter bresennol.

§

Gyda llaw, a sôn am newid enw. Aethom i mewn eleni i gyfarfod y Llys drwy babell Llywodraeth Cymru, a’n cael ein hunain yn ‘Cymdeithasau 2 / Societies 2’. Ai am fod y Llywodraeth yn noddi’r ddwy babell? A derbyn am y tro mai mater i’r Llywodraeth oedd ei henw ei hun, pwy a benderfynodd ar enwau’r ddwy babell? A phryd y dechreuodd yr arferiad hwn? Pwnc i’r Llys ei ystyried efallai.

§

Yn ôl at ein prif destun. Oes, mae gan gymdeithas wirfoddol bob hawl i ddewis ei henw ei hun. Ond cymered ofal mawr rhag anghofio neu ddibrisio’i hysgogiad gwreiddiol a’r cefndir y crewyd hi ynddo.

Ac o’m rhan i, croeso i’r bechgyn gael dawnsio. Ond wrth foderneiddio – os dyna’n wir ydyw – gofalwn ar boen ein bywyd beidio â dweud ein bod yn moderneiddo. Wrth gynnal defod, rhaid inni i gyd gredu am y tro ei bod hi’n hen a thraddodiadol. Os na allwn fod yn wir hynafol, byddwn yn ffug-hynafol. Dyna a welodd Iolo. Hir y parhaed Gorsedd Beirdd Ynys Prydain i gwrdd ar Alban Hefin yn wyneb haul a llygad goleuni.

I’n darllenwyr iau

13 Awst

Tynnu’ch sylw heddiw at ddau lyfr newydd a fydd o ddiddordeb i’n darllenwyr iau  – ac i rai o’u rhieni a’u teidiau a’u neiniau a’u hen-deidiau a’u hen-neiniau hefyd gobeithio.  Cyhoeddir y ddau gan Atebol Cyf.

Screenshot 2019-08-13 at 12.36.14

Stori ffantasi gan Elidir Jones yw YR HORWTH, gyda darluniau gan Huw Aaron. Dyma, fe obeithir, y gyntaf o ‘Chwedlau’r Copa Coch’, cyfres newydd am wlad nad ydyw wedi bodoli o’r blaen.  Ymhlith ‘gwerthwyr gorau’ Eisteddfod Llanrwst.  Pris £7.99 o wefan Atebol.

Screenshot 2019-08-13 at 12.37.03

Mae PEFF yn gyfieithiad gan Elidir Jones o stori boblogaidd David Walliams, FING.  Pris £7.99 o wefan Atebol.

Cysondeb

8 Awst

Ffordd o fynd yn wallgo yw disgwyl cysondeb llwyr mewn bywyd. Ond mae gennym hawl i ddisgwyl RHESYMOL gysondeb ar law llywodraeth a sefydliadau. Dwy enghraifft:

(1) Yr wythnos hon yn yr Eisteddfod, Gweinidog y Gymraeg a Chomisiynydd newydd yr Iaith, a’r miliwn yna mewn golwg, yn mynegi llawer o bryder ynghylch y cyflenwad o athrawon Cymraeg ac athrawon i ddysgu pynciau trwy’r Gymraeg. Os yw’r llywodraeth yn gwir geisio ateb i’r broblem, pob lwc iddi, a phob nerth o’i chefn. Ond does dim llawer ers pan oedd llywodraeth Cymru’n clochdar am ei chynllun uchelgeisiol i ‘roi cyfle i rai o fyfyrwyr … mwyaf disglair Cymru gael cymorth i fynychu prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig’ – sef, a’i aralleirio’n gynnil, eu pacio i ffwrdd i rywle heblaw Cymru. A yw hyn yn fwriad o hyd, ai ynteu un o weledigaethau disglair Huw Lewis ydoedd? Os yw’n dal yn bolisi, mae’n rhaid ei wyrdroi yn llwyr, a’r unig ffordd o wneud hynny yw ymorol y bydd hi’n talu ar ei chanfed i’n plant galluog barhau â’u haddysg yng Nghymru. Heb hynny, chwiban yn y gwyll yw’r hyn a glywsom gan y Gweinidog a’r Comisiynydd yr wythnos hon. Rhag gorfod ailadrodd, gweler fy llyfr Meddyliau Glyn Adda, tt. 26, 102, 107.

(2) Ardderchog yw clywed am lwyddiant Llyfr Glas Nebo, a chlywed bod drama ohono i’w chyflwyno yn Eisteddfod Tregaron. Erbyn hynny byddai’n dda cael cadarnhad fod y cysylltiad rhwng yr Eisteddfod a’r ‘Hen Linell Bell’, sef cwmni niwclear Horizon, wedi ei dorri’n derfynol.

Cysondeb. Llaw chwith, llaw dde.

Y Glymblaid-na-bu

2 Awst

Sylw enwog Emrys ap Iwan ar ôl etholiad ym Mwrdeistrefi Dinbych, 1895: ‘yr oedd yn dda gennyf fod Morgan wedi colli ac yn ddrwg gennyf fod Hywel wedi ennill.’

A dyna’r gynghrair-nad-oedd-yn-gynghrair-o-gwbl wedi ennill ym Mrycheiniog a Maesyfed.

Buddugoliaeth i’r galluoedd BLAENGAR? Ystyriwch:

(1) Ar ei wibdaith i’r Alban, galwodd Boris mewn dau le. (a) Bute House, lle cafodd groeso llai na gwresog, (b) angorfa Trident yn Faslane, lle cafodd fynd dan ddec ‘stemarîn’ (gair un o’m ffrindiau ers talwm, finnau’n ei siarsio mai ‘sydmarîn’ oedd y gair).

Sylwch ar (b). Sylwch ble mae calon y Sefydliad Prydeinig o hyd.

Ac yn awr, pa arweinydd plaid arall a fyddai, meddai hi heb betruso, yn barod i bwyso’r botwm niwclear? ATEB: Jo Swinson (yn union fel ei chydymgeisydd Ed Davey).

Felly dyna ichi gynghrair o alluoedd BLAENGAR. A chyda llaw, a oedd y Gwyrddion hefyd wedi meddwl am bethau fel hyn cyn camu’n ôl o’r frwydr?

Canlyniadau posibl? Ychydig o hwb (‘bowns’ fel byddan nhw’n dweud) i’r Dem. Rhydd dan eu harweinydd newydd niwclear-garol, fel eu bod yn dipyn bach mwy o ryw niwsans, efallai, yn yr Alban. A Chymru? Yn ôl rhifyddeg yr Athro Roger Awan-Scully, bydd iddynt well siawns y tro nesaf o ennill dwy sedd: Canol Caerdydd a … Cheredigion wrth gwrs!

Felly os mêts, mêts yntê.

Ond fel yr wyf wedi dweud lawer gwaith, yr hyn a fydd yn penderfynu lliw Ceredigion yw a fydd Prifysgol Aberystwyth ar agor ai peidio.

Os yw’r D.Rh. yn wir am roi rhyw rodd fach i B.C., jest i ddiolch, beth all honno fod? Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, ymladd ym mhob man, er mwyn hollti ychydig ar y bleidlais unoliaethol.

Am y darlun ehangach? Os mai llanast fydd llywodraeth Boris, beth all ddeillio ohono? Gobeithio, gobeithio mai annibyniaeth yr Alban, ac yn sgil hynny ymadawiad y ‘stemarîn’ o lannau Clud.

Ond a fydd hi wedyn yn angori yng Nghymru? ‘Mwy na chroeso’ oedd geiriau Carwyn, fe gofiwn. A yw Adam eto wedi gofyn Y CWESTIWN i Drakeford, ai dyma bolisi Llafur Cymru o hyd? Ond gall rhai ohonoch ofyn: pa ystyr fydd i’r cwestiwn hwnnw gan blaid sydd newydd ‘gynghreirio’ â Jo Botwm Niwclear Swinson?