Simon Brooks a Richard Glyn Roberts, gol., Pa beth yr aethoch allan i’w achub? Ysgrifau i gynorthwyo’r gwrthsafiad yn erbyn dadfeiliad y Gymru Gymraeg (Gwasg Carreg Gwalch, 2013), £10.00.
Yr hen G.A.’n gofyn mewn siop lyfrau, ‘Ydi Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub? wedi cyrraedd?’ Cynorthwy-ydd (gobeithio, nid perchennog y siop): ‘O, ia. Llyfr ’ta cylchgrawn ydi o?’ Yn awr, ddarllenwyr y blog hwn, petaech chi’n cychwyn cylchgrawn Cymraeg newydd, fyddech chi’n rhoi Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub? yn deitl arno? Awgrymodd y cwsmer, pe bai’r llyfr wedi cyrraedd, y byddai’r siopwraig yn cofio darlun y clawr. O, oedd, erbyn meddwl. Roedd yno gopi. Reit ar waelod rhyw resel, ar lefel traed, bron o’r golwg. Dyma lyfr y byddai’n dda, fel arbrawf mewn gwerthu, gwneud mynydd ohono yn y ffenest, neu yng nghanol y siop, am ryw wythnos, i drio cael i bennau pobl fod yma rywbeth gwahanol, rhywbeth o bwys. ‘Stack ’em high and sell ’em hard’, weithiau? Onid oes yna ryw ddiffyg ‘mynd amdani’? Onid oes yna, a benthyca gair Maggie Thatcher, ryw agwedd ‘wet’? Onid oes, chwedl yr hen ymadrodd, ‘isio sgŵd’?
Beth bynnag, dyma gael y llyfr, a’i ddarllen yn bwyllog, ofalus, gan gael ohono lawer o ddiddordeb, ie llawer o ryw fwynhad – er rhyfedded y gair, a’r testun yn un mor boenus. Mwynhad, o weld bod rhywrai o leiaf yn fodlon mynd i’r afael â rhai pethau eto, wedi’r flwyddyn o ddistawrwydd syfrdan a ddilynodd gyhoeddi ffigurau iaith 2011. Difyr hefyd y cyfeirio mynych at griw o feddylwyr Cyfandirol a thraws-Iwerydd a’u henwau gan mwyaf yn newydd. Ni fu’r fath yfed o ffynhonnau estron er pan oedd R.T. Jenkins ac Ambrose Bebb, W.J. Gruffydd a Saunders Lewis yn cloriannu negeseuon meddylwyr Ffrengig nid llawer llai na chanmlwydd yn ôl. Deallusion Ffrengig yw’r rhan fwyaf o’r proffwydi newydd hyn hwythau, ac arnynt arlliw ôl-Farxaidd. Mae’r hen sgeptig yn cyrraedd am y pot halen yn syth, ond heb eu darllen ni pherthyn imi awgrymu mai siarlataniaid ydynt i gyd. Ar bethau fel ‘cymdeithaseg gorthrwm’ a’r angen am ddatgelu hwnnw ‘yn y mannau lle mae fwyaf cuddiedig’, mae eu sylwadau’n ddiddorol iawn ac yn swnio’n dra pherthnasol i’n cyflwr ni.
Y ddau brif elyn
Fel y pwysleisir ar ddechrau’r llyfr, fe gynrychiolir ynddo farnau gwahanol. Serch hynny mae iddo brif berwyl, a hwnnw’n un clir iawn. Ei ddadl fawr yw fod i’r Cymro heddiw ddau brif elyn newydd, neu o leiaf ddau nad oeddem wedi eu hadnabod a’u henwi o’r blaen. Dwyieithrwydd yw’r naill. Datganoli, ymreolaeth neu genedlaetholdeb sifig yw’r llall. Rhyfedd yntê, a ninnau dros ddegawdau wedi gosod ein ffydd yn y rhain gan feddwl eu bod yn ddau biler yr achos. Os yw hyn oll yn eich taro, ddarllenwyr, yn rhyfedd, yn anghyfarwydd, yn heresïol, – darllenwch y llyfr. O hyn ymlaen ni byddaf yn ei ‘adolygu’, dim ond codi ambell bwynt o ambell bennod.
Beth yw Cymro a beth yw Sais ?
‘Pwy yw’r Cymry? Hanes enw’, yw teitl y bennod gyntaf, cywaith gan y ddau olygydd. Cefais ddarllen y bennod hon mewn drafft, a hyd y cofiaf mae fy ymateb heddiw yn ddigon tebyg i’r hyn oedd ar yr olwg gyntaf honno. Atebir y cwestiwn drwy bwyso ar arfer y cenedlaethau, ac ar lafar gwlad heddiw: ystyr ‘Cymro’ yw un sy’n medru Cymraeg. Rhaid cytuno i raddau mawr iawn, gan na ellir gwrthod y dystiolaeth. Fel y nodais o’r blaen (os iawn y cofiaf), pan ddown at gyfieithu y cyfyd rhai cymhlethdodau. Sut mae cyfieithu ‘Cymro’ i’r Saesneg? A ‘Welshman’ i’r Gymraeg? Sut mae cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n fformiwla gryno ac ystyrlon i ni, ‘Cymraeg a Chymreig’? ‘Cymry’, medd casgliad y bennod, gan enwi enghreifftiau, yw pawb, o ba darddiad bynnag, sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn drylwyr ac wedi dod yn ‘gymathedig’. A yw arfer gwlad yn ategu hyn? Onid ‘Sais wedi dysgu Cymraeg’ a ddywed y Cymro, hyd yn oed am y gorau? A dyma reol arall: bydd Cymro sydd wedi dysgu’r Saesneg yn dda yn mynd yn ‘Sais da’, – dyfynnir enghreifftiau yma. Ond nid yw’n digwydd y ffordd arall. Ni bydd Sais sydd wedi meistroli’r Gymraeg, ni waeth pa mor rhagorol, byth yn mynd yn ‘Gymro da’. Term am Gymro diwylliannol-weithgar yw hwnnw, a magodd ystyr eironig, Cymro anwleidyddol.
Am yr hen ddynodiad ‘Cymro di-Gymraeg’, rhaid cytuno â’r awduron fod rhywbeth digon chwithig ynddo. Gwaeth fyth y fersiwn Saesneg (byddai darlithydd ym Mangor flynyddoedd yn ôl yn agor pob sylw â ‘speakin’ as a non-speakin’ Welshman …’). Eto mae’n anodd ei osgoi weithiau. Ni allai’r Sais yn ei fyw dderbyn mai Sais oedd Neil Kinnock, a throdd canlyniad etholiad cyffredinol ar hynny. Meddyliwch am Sais o’r iawn ryw, Sais a chanddo hunan-barch ei genedl. Ni all hwn byth dderbyn honiad Cymro o’r De, ‘English I am, see’, na honiad hogyn o Fangor, ‘English me, ay’.
Sifig, ethnig &c.
‘Dygaf fy nghyffes,’ chwedl yr hen awduron, bûm innau’n tybio, nid mor bell yn ôl, ac fe’i dywedais mewn print unwaith neu ddwy, mai ‘cenedlaetholdeb sifig’ oedd y nod, ond y byddai ‘cenedlaetholdeb ethnig’ yn well na dim yn y cyfamser. Rhowch ‘gwladgarwch’ yn lle ‘cenedlaetholdeb’ am y tro os mynnwch chi. Sail y dybiaeth hon oedd y byddai cyfrifoldeb sifig Cymreig yn golygu cyfrifoldeb am ddiogelu, cynnal a meithrin cyfanswm y pethau a berthyn i Gymru, yn cynnwys y Gymraeg. ‘Tybiaeth eithafol naïf,’ fe ddywed golygyddion y gyfrol efallai. A wyf am newid fy meddwl? Os gwnaf, dau beth a fydd wedi f’arwain at hynny. Yn gyntaf, profiad pedair blynedd ar ddeg o fyw yn y Gymru ddatganoledig; ac yn ail, dadleuon y llyfr hwn. Ni ddylwn roi’r argraff ychwaith fod y llyfr yn ffafrio ‘cenedlaetholdeb ethnig’. Nid yw o blaid unrhyw genedlaetholdeb, hyd y gwelaf. Ond yn y diwedd, nid wy’n credu y newidiaf fy meddwl yn llwyr. Fe erys eto dasgau sifig i’w cyflawni, ac ni welaf y gellir gwneud hynny ond o fewn fframwaith mudiad ymreolaeth. Dyna’r mater, er enghraifft, o greu rhanbarth gweinyddol Cymraeg, rhywbeth tebyg i hen syniad Adfer efallai, a syniad y rhoed iddo gredinedd newydd gan awgrymiadau Adam Price. I’w greu byddai gofyn cynllunio ac adeiladu gofalus dros ben, a phenderfynol yr un pryd. Mae un bennod yma, ‘Cenedlaetholdeb’, t. 160, yn ymwrthod â phob adeiladu, os wyf yn deall ei brawddeg agoriadol yn iawn. ‘Ni fydd gwleidyddiaeth wir ryddfreiniol yn ymdroi â sefydlu neu adsefydlu hunaniaeth ond bydd yn canolbwyntio yn hytrach ar ddileu gormes yn ei amryfal weddau.’ Mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â’r olygwedd Fanicheaidd hon. Rwyf innau wedi teimlo erioed mai dileu, dadwneud, dymchwel, disodli yw tri chwarter tasg gwleidyddiaeth oleuedig. Eto fe erys y chwarter sydd ar ôl, ac fe ddaw’r diwrnod i ddechrau gosod bricsen ar fricsen drachefn.
Y gelynion llai
Nid wyf am grynhoi dim o’r hyn a ddywed y llyfr am y ‘ddau elyn mawr’, Dwyieithrwydd a Datganoli. Yn sgil y ddau hyn fe ffynna rhai gelynion llai. Cyfieithu ar y pryd yw un, peth y mae gan Richard Glyn, drwy brofiad helaeth, farn am ei wir effeithiau. Bathu termau yw un arall. Dyma eiriau R.G.: ‘Mae puryddwyr ieithyddol … , yn neilltuol drwy gyfrwng geiriaduraeth derminolegol, yn atgynhyrchu gormes drwy sefydlu norm safonol newydd in vitro sy’n dyrchafu’r iaith uwchlaw (hynny yw, ar draul) ei siaradwyr. … Mewn geiriaduraeth derminolegol, glos ar y Saesneg yw’r Gymraeg yn ddieithriad ac amcan gweithgarwch terminolegol yw cyfleu union ystyr y gair Saesneg yn Gymraeg, gan ymdrechu i sicrhau cyfatebiaeth semantig lwyr rhwng y gair Cymraeg a’r gair Saesneg gwreiddiol. Yn y modd hwn cyplysir cylch semantaidd geiriau Cymraeg wrth ystyr y geiriau Saesneg cyfatebol, gan rwystro neu annilysu datblygiad semantaidd amgen a chadarnhau perthynas o ddibyniaeth.’ Ai’r ystyr yw na ddylem fathu termau o gwbl, nac arfer unrhyw newyddeiriau bathedig? Wedi treulio deunaw mlynedd uwchben y gwaith o lunio geiriadur, a yw’r hen G.A. yn ddyn euog, yn un o anghymwynaswyr y Cymry? Wel, mi ddywedaf hyn. Wrth inni ddechrau ar Eiriadur yr Academi, yr oedd Bruce Griffiths a minnau’n bur gytûn ar ddwy egwyddor, a gobeithio na bu gwrthdaro rhwng y ddwy yn rhy fynych. Yr egwyddor gyntaf, wedi ei chorffori mewn cyfarwyddiadau i’n cynorthwywyr, oedd: unrhyw beth a ddywedir yn Saesneg, fe ellir ei ddweud yn Gymraeg; peidiwch byth ag ildio; peidiwch â gadael bwlch; cynigiwch rywbeth. A’r ail egwyddor: peidiwch â bathu os medrwch chi beidio; yn lle bathu, meddyliwch, a gofynnwch i chi’ch hun beth y byddai’r Cymro yn ei ddweud. Er inni gynnwys cannoedd lawer o newyddeiriau, am eu bod yn bod, am fod eraill yn eu harfer, gobeithio fod y ddwy egwyddor fawr hyn yn tywynnu drwodd ar ddiwedd y gwaith. A bellach gweler yr hyn y ceisiais ei gyfleu ar dudalen 8 o’r gyfrol Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill gan W.J. Gruffydd
Y cwestiwn
Cwestiwn i’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru oedd ‘pa beth yr aethoch allan i’w achub?’ pan ofynnwyd ef gan J.R. Jones bum mlynedd a deugain yn ôl. Dyna ydyw eto. Yn y cyd-destun politicaidd cyfyng, mae’n gwestiwn priodol iawn i blaid nad oes iddi enw ond ‘Plaid’, na dim i ddweud plaid pa beth ydyw. Mae’n gwestiwn ehangach hefyd, a daw adeg yn hanes y rhan fwyaf o fudiadau gwleidyddol a lled-wleidyddol pryd y mae’n briodol ei ofyn. At ei gilydd y mae’n fwy perthnasol i bleidiau’r ‘chwith’, fel y dywedir, y rheini a grewyd i geisio newid y byd ac sy’n dal i’w hystyried eu hunain yn ‘ddiwygiadol’ neu ‘flaengar’. Fe ddaw’r pwynt hwnnw ar y daith lle bydd y rhain nid yn unig yn anghofio’r hyn yr aethant i’w achub, ond hefyd yn troi yn eu carn a dechrau gweithio yn erbyn y peth hwnnw. Darllener Dyrchafiad Arall i Gymro yn y gyfrol Dramâu W.J. Gruffydd, ac efallai y gwelir nad yw hi mor ddiniwed. Mae’r ‘system’ yn llyncu pawb ond y cryfaf, ac mae’r ‘ormes gudd’ a ddadansoddir gan Pierre Bourdieu, un o broffwydi’r gyfrol hon, ar waith yn barhaus. Ond fe all hyn ddigwydd i bleidiau a mudiadau’r Dde hefyd, er yn llai aml. Yn ei araith am ‘Wind of Change’ ym 1968 fe dderbyniodd ac fe gyhoeddodd Harold Macmillan ddiwedd yr Ymerodraeth Brydeinig, ynghynt nag y byddai unrhyw arweinydd Llafur wedi gwneud, rwy’n amau. Ysgubwyd y Cadfridog de Gaulle i rym ar don o Algérie Française, ond o fewn pedair blynedd yr oedd wedi cydsynio ag annibyniaeth Algeria gan saethu rhai o’i hen gefnogwyr. Etholwyd Richard Nixon i barhau ac i ennill rhyfel Viet-nam, ond fe’i tynnodd hi i ben. Mae yna ryw reidrwydd i achub y blaen ar yr ochr arall o hyd, mae hwnnw’n tynnu pleidiau o’r ddwy ochr tua’r canol, ac yn y brys i feddiannu’r canol mae yna fethu stopio, gydag effeithiau sydd weithiau’n dda ac weithiau’n ddrwg. Digwydd yr un math o broses y tu allan i’r ymrysonau pleidiol. Cawn swyddog hyrwyddo’r Gymraeg o fewn rhyw sefydliad yn deffro ryw fore a’i gael ei hun yn swyddog cadw’r Gymraeg yn ei lle. Cawn gymdeithas dai a ddechreuodd arni yn prynu tai a’u gosod i Gymry, yn sydyn yn dechrau codi fflatiau newydd sbon a’u gosod i fewnfudwyr. Cawn Fwrdd Dysgu trwy’r Gymraeg Prifysgol Cymru yn gweithredu am dair blynedd ar ddeg fel Bwrdd Rhwystro Coleg Cymraeg Ffederal. Mewn cyfarfod o’r corff ‘Hunaniaith’ yng ngwanwyn 2010 cefais fy hun yn gofyn ‘ai fi sy’n drysu ’ta ydi pawb yma wedi newid ochr?’.
Tynnu’n groes
Fel gwaith J.R. Jones, cynnig beirniadaeth y mae’r gyfrol hon, nid cynnig rhaglen. Wrth feirniadu a rhybuddio, yr oedd J.R.J. yn ysbrydoli hefyd. A oes ysbrydoliaeth bellach, ynteu a yw creu’r Cynulliad, a thair Deddf Iaith, wedi dihysbyddu’r posibiliadau ac wedi amlygu’r cyfyngiadau sydd arnom? Braidd-gyffwrdd y mae’r ysgrifau hyn ag unrhyw atebion. ‘Priod iaith’? Bro Gymraeg newydd? Senedd i’r Cymry (o’i chyferbynnu â ‘Senedd i Gymru’)? ‘Cymuned Iaith’ (o’i chyferbynnu â chenedl)? Esiampl Catalonia? Esiampl Gwlad y Basg? Disgwyl diwedd ‘gwleidyddiaeth neoryddfrydol ein gwladwriaethau seneddol-gyfalafol’? Dro ar ôl tro, caf y teimlad mai cythru i welltyn sydd yma, ac efallai bod hynny’n adlewyrchiad cywir o’n cyflwr ni bellach.
Tynnu’n groes yw pwrpas y gyfrol. Tynnu’r gorchudd. Dadrithio. Mae hynny’n beth llesol ac angenrheidiol bob amser. Dof yn ôl at y ddrama Dyrchafiad Arall i Gymro. Neges y parsel i’r gwleidydd Ifan Morris oedd ‘pa beth yr est ti allan i’w achub?’ Fe weithiodd, o leiaf yn yr ystyr o chwalu’r ‘ormes gudd’ ym meddwl Ifan. Byddai’n dda pe câi’r ysgrifau hyn yr un effaith ar ‘rai pobl yng Nghymru’ chwedl W.J. Gruffydd ei hun.