Archif | Hydref, 2018

Allan yn awr

19 Hyd

Ddechrau’r flwyddyn 1801 anfonodd y llywodraeth fintai o ddragwniaid i Gaernarfon rhag ofn chwyldro. Anfonwyd y milwyr i ffwrdd gan Edward Griffith, prif ynad heddwch Caernarfon, a bu cryn helynt wedyn.

Pwy oedd Edward Griffith? Beth a wyddom am ei gefndir, ei hanes a’i syniadau?

Dyma hanesyn sy’n dweud wrthym dipyn am amgylchiadau’r oes, a llawer am y natur ddynol.

£8.00

Gan eich llyfrwerthwr neu dalennewydd.cymru

Llun y clawr: swyddog o Bedwaredd Gatrawd y Dragwniaid, 1826, darlun gan Richard Simkin.

Argyfwng ?

18 Hyd

Yr hen G.A. wedi bod yn o ddistaw? Ar ôl y MWD, a oes diben dweud unrhyw beth am unrhyw beth ?

Ond daliwyd fy llygad gan bennawd BBC Cymru Fyw heddiw: ‘Gostyngiad disgyblion Cymraeg Safon Uwch yn “grisis” ?’ Gweler Meddyliau Glyn Adda, t. 45, neu eitem 2 Mawrth 2013 ar y blog hwn. Daliaf yn hollol sicr fy mod yn iawn.

R^wan’ta …

6 Hyd

Stori GOLWG 360 heddiw am adeiladu maes parcio enfawr yng Nghaernarfon ar gyfer gweithwyr adeiladu Wylfa B. Rŵan Adam, cyfarwyddyd clir a diymdroi i gynghorwyr PC Gwynedd: gwrthodwch y cais.