Yn y bocs bach ymateb rwyf wedi diolch i Palmer am sylwadau yr wyf yn eu croesawu a’u gwerthfawrogi’n fawr. A dyma gyfle i feddwl ychydig ymhellach.
● Sylw Bertrand Russell. Gwir mae’n siŵr.
● Bin Salman. Brenin etifeddol, gwir, ond ers rhyw dair cenhedlaeth yn unig (oddi ar Alec Guinness yn y ffilm). A chofiwn bob amser pa Dywysog fu’n pedlera arfau iddo, ac ym mhle yr hyfforddir ei awyrenwyr … !
● Tipyn o lanast tua Sweden, a rhyw don o adwaith adain-dde yn cerdded y gwledydd. Ac mae rhywun yn rhyw ddechrau meddwl dipyn bach sut byddai – neu bydd – Lloegr yn bihafio heb Sgotland.
● Tynged John Jones Maesygarnedd. Enbyd iawn, ond nid am ei fod yn Gymro. The King’s Revenge gan Don Jordan a Michael Walsh yn rhoi’r hanes yn llawn a sobreiddiol am yr holl erlid. Lwcus fu Morgan Llwyd iddo farw yn union cyn yr Adferiad; gallai yn hawdd fod wedi treulio gweddill ei oes mewn carchar a marw yno fel y gwnaeth Vavasor Powell. A chofiwn i’r dial ar Ymneilltuwyr bara wedyn mewn rhai agweddau am ddwy ganrif.
● Sweden adeg yr Ail Ryfel, a’r Ffindir i fwy graddau, yn dal i godi cwestiynau ynghylch moesoldeb niwtraliaeth yn y sefyllfa honno. Gofynion diplomyddol – neu ei dealltwriaeth hi ohonyn nhw – a barodd i lywodraeth Iwerddon gydymdeimlo’n ffurfiol â’r Almaen ar farwolaeth Herr Hitler, a chafodd hynny ei edliw iddi drwy’r blynyddoedd. Ond cofiwn bob amser pwy aeth i gynhebrwng yr Ymerawdwr Hirohito. Ie, Dic Cae Rhedyn, i gynrychioli ei wraig a phawb ohonom.
● Am benderfyniad Sweden a’r Ffindir y dyddiau hyn i’w gosod eu hunain dan fawd America, mi ddywedais fy marn dro yn ôl (21 Mai).
● Edward VII ac adar brenhinol brith eraill. Rhaid inni gofio bob amser fod y Frenhiniaeth Seisnig nid yn unig (a) yn ben y wladwriaeth, ond hefyd (b) yn ben y bendefigaeth, sef haen o bobl ofer, afrad, anghyfrifol ac anfoesol drwy draddodiad, a’u statws yn tarddu o fod wedi dwyn tir ryw dro. Llwyddodd Victoria ac Albert Dda yn eu hoes i greu a chyflwyno delwedd wahanol, teulu bach teidi fel ni, parchus, cydwybodol. Neidiwn dros Edward VII, ac am dair cenhedlaeth wedyn fe lwyddwyd i gynnal y ddelwedd newydd yn weddol dda. Ond gwaed a ddengys, a bydd yr hen anian yn sicr o dorri trwodd bob hyn a hyn. Ac yn y diwedd, does a wnelo cymeriad y sawl sy’n gwisgo’r goron ddim â’r peth; y ddau ofyniad sylfaenol yn Lloegr yw iddo ef neu hi fod yn nesaf yn yr olyniaeth, a pheidio â bod yn Babydd.
● Pwy oedd Jac? Hogyn o Sir Fôn medd rhai, Tîm o Fesns medd eraill …! A daliwn heb wybod: pwy lofruddiodd Kennedy? Sut a pham y bu Diana farw? Olof Palme yn sicr. Marwolaeth Robin Cooke? Pwy oedd Meibion Glyndŵr? Pwy luniodd y cynllwyn diweddar yn erbyn Alex Salmond, a pham?
Ddarllenwyr eraill, ystyriwch bwyntiau Palmer yn ofalus. A chyn gorffen heddiw, dau sylw arall am yr amseroedd.
(1) Cafwyd bonws, sioe ychwanegol, drwy i’r Frenhines farw yn Balmoral, a bu’r trefniadau mor berffaith â phe bai’r Sefydliad wedi rhagweld y cyfan. Yn y pen draw, dydw i ddim yn meddwl y bu hyn er colled i fudiad annibyniaeth yr Alban. Peth da oedd fod coron yr Alban wedi cael lle mor allweddol, modd i atgoffa pawb nad yr un peth oedd undeb y seneddau, 1707 ac undeb y coronau, 1603. Gyda brenin Lloegr yn dal yn frenin Sgotland yr un pryd, yr hyn y mae’n ei olygu yw NID bod rhaid i’r ddwy wlad ymladd ar yr un ochr OND na byddant yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Mae Charles yn awr yn frenin ar Seland Newydd, ond go brin y caiff llongau niwclear Lloegr-America fynd yno.
(2) Ffordd sicr o gael arwisgiad arall? Cael Senedd Caerdydd i benderfynu, fel yr awgrymodd Adam Price. Dychmygwch y bleidlais er mwyn dyn! Diolch byth, nid penderfyniad i bobl Cymru yw hwn.