Y stori bore ’ma. Dyfynnaf o BBC Cymru Fyw: “Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu parhau i fynychu un o ffeiriau arfau mwyaf y byd, gyda ‘nifer fach’ o swyddogion yn mynychu’r digwyddiad. Mae Aerospace Wales hefyd yn derbyn cefnogaeth ariannol gan y llywodraeth i fynychu’r digwyddiad amddiffyn ‘Defence and Security Equipment International’ (DSEI) yn Llundain …” Ac yn y blaen.
“Y digwyddiad dirmygus hwn” meddai Plaid Cymru, ond gwych o beth yn ôl y Ceidwadwyr. “Cefnogi busnesau Cymru … sector hanfodol bwysig … gwerth mwy na £19bn i economi’r DU …” Gweler BBC Cymru Fyw am y manylion troi-stumog.
A dyna’i phrofi hi unwaith yn rhagor. Cofiwch sylw cryno a chywir David Davies A.S. (Mynwy) flynyddoedd yn ôl, mai’r cyfuniad naturiol yng ngwleidyddiaeth Cymru fyddai Tori-Llafur. Dyma’r ddwy sy’n sylfaenol gytûn ar y pethau hanfodol. Mae’n wir nad oes gan lywodraeth ranbarthol neu ddatganoledig ddim polisi tramor, ond o’i chychwyniad mewn adwaith i’r Rhyfel Byd Cyntaf, ei pholisi tramor rhithiol neu ddamcaniaethol, sef mynd yn groes i imperialaeth Prydain, fu nod amgen Plaid Cymru a’r rheswm dros ei bodolaeth. A dyna ichi heddiw, llywodraeth Boris ynghyd ag America, newydd gael andros o drwyn coch yn Affganistán, yn cynllunio sioe fawr yn y Pasiffig i ddychryn China ! A gawn ni glywed Syr Anysbrydoledig Starmer yn codi llais yn erbyn hyn? Faint o fet ?
Ac eto … er hyn i gyd … pa ddwy blaid yr union ddyddiau hyn sy’n mwmian ynghylch “cydweithio”? Gawn ni gymryd mai amod gyntaf Adam i Drakeford fydd “dim un o dy draed di i’r ffair arfau ’na, a dim dimai goch i’r un cwmni o Gymru fynd yno”? Yntê Adam?
Darllenwn mai diben y cydweithio fyddai “cyflawni dros Gymru” ac “adeiladu dyfodol cryfach tu hwnt i’r pandemig coronafeirws”. Os mai dyna’r nod, a dim mwy, oni fyddai’r Ceidwadwyr, ynghyd â rhyw un Democrat Rhyddfrydol dyweder, yn gwneud llawn cystal partneriaid i Lafur?
Cydweithio â Llafur, hyd yn oed heb i hynny olygu clymbleidio, dyma ddylai fod y chwe amod sylfaenol gan genedlaetholwyr.
1. Y MWD. A’r polisi? DIM MWD.
2. Y POSTFEISTRI. Nid oes dim iawndal byth yn mynd i ad-dalu am y cam a’r dioddefaint a achoswyd. Ond dylai’r symiau fod yn llawer iawn mwy na dim sydd wedi ei roi hyd yma. Ac ymhellach, dylid galw i gyfrif yr holl bobl, yn gyhuddwyr celwyddog, yn dwrneiod, ynadon a barnwyr, a fu’n gyfrifol am yr erledigaeth warthus hon. Rhaid wrth ddeddf i wneud hyn yn bosibl, Gweler blogiau 3 Hydref 2020 a 19 Ebrill a 31 Mai eleni.
3. TRIDENT. Datganiad clir a therfynol nad yw polisi Carwyn wirion, ”mwy na chroeso” yn bolisi Llafur Cymru bellach, ac na fydd byth eto.
4. NIWCLEAR. Dim un niwc, mini, maxi nac unrhyw fath arall, ym Môn, Meirion nac unrhyw fan yng Nghymru. Peidiwch â dweud nad oes cysylltiad â’r llongau tanfor yna sy’n mynd i gael eu rhoi i Awstralia i ddychryn China. Gweler blog 26 Awst.
5. TAI. Fel mae’r blog hwn wedi dweud fwy nag unwaith o’r blaen, y broblem sylfaenol yng Nghymru yw gormod o dai, a’r Cymry ddim yn gallu eu meddiannu. Pwyll cyn adeiladu dim mwy o dai ar hyn o bryd, ond yn hytrach deddfwriaeth ac adnoddau yn galluogi awdurdodau lleol i fynd hanner-yn-hanner ag unrhyw Gymro neu Gymraes sydd am brynu cartref. Gweler blogiau 3 Mai a 10 Gorffennaf.
6. HILIAETH. Dan rith gwrth-hiliaeth, bu ymosodiad hiliol arall ar y Cymry yn argymhellion “Undeb Gwrth-hiliaeth Cymru” i Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Amgueddfa Genedlaethol. Dowch inni glywed llywodraeth Cymru yn ei datgysylltu ei hun yn llwyr oddi wrth gastiau fel hyn. Gweler blog 22 Awst.
Mae pethau eraill pwysig iawn, ond dyna ddigon am y tro. Hwyl ar lunio’r cytundeb, bois!