Archif | Mehefin, 2023

Iawn ?

11 Meh

Na, ddaeth hi ddim mewn pryd i’r Coroni, ond fe ddaeth y pnawn ’ma. Newydd fod yn gwylio sianel newyddion y BBC am ryw awr a chwarter, a hogia bach, sôn am fodd i fyw a mêl ar fysedd !! Dangos y gwarchae ar dŷ Sturgeon drosodd a throsodd a throsodd, a darogan drosodd a throsodd a throsodd fod Llafur yn mynd i ennill lot o seddau !!

Hwyrach yr hoffech chi ddarllen eto flog 3 Mehefin. Oes unrhyw beth y pnawn ’ma wedi peri ichi feddwl fy mod yn anghywir?

Chwalu’r argae

7 Meh

Pwy biau’r ‘Glorious Dambusters’ y tro hwn? ‘Nhw, nid ni,’ meddai Rwsia ac Wcrain fel ei gilydd. ‘Hoff ffilm ryfel’ pa genedl fydd hi, pan wneir y ffilm?

Hwyrach yr hoffech ddarllen fy hen stori ‘Dyddiau Olaf Derlwyn’ yn fy hen lyfr Camu’n Ôl a Storïau Eraill.

Helbul dwy blaid

3 Meh

Wn i ddim a ydych yn cofio, ond ar y chweched o Fai eleni fe goronwyd Siarl III. Posib fod mwy o bobl yn cofio’r achlysur o’r blaen, ddeng mlynedd a thrigain i ddoe, pan goronwyd ei fam. Ar fore’r dydd hanesyddol hwnnw fe gafwyd bonws, rhywbeth ychwanegol i godi calonnau’r holl ddeiliaid triw – ‘EVEREST CLIMBED’. A chan dîm Prydeinig wrth gwrs.

Beth petawn i’n awgrymu rhywbeth fel hyn? Mai’r gobaith mawr mewn rhyw gylchoedd oedd cael newydd yr un mor wefreiddiol ar gyfer bore’r ddefod eleni, hwnnw hefyd yn ganlyniad ymgyrch gan dîm Prydeinig am rai wythnosau ymlaen llaw. A’r pennawd? ‘NICOLA NICKED’. Ers dyddiau buasai’r papurau tabloid yn ymarfer rhyw eiriau fel ‘NIC NICKED NEXT?’

Caniataer fod rhyw swm wedi mynd i’r golofn anghywir yng nghyfrifon yr SNP. Neu rywbeth felly. Nid oedd a wnelo ddim ag arian cyhoeddus, ac ni phrofwyd fod dimai wedi mynd i boced bersonol. Ond dyma gyfle iddyn ‘Nhw’, y Sefydliad. Sioe deledu ohoni, heidiau o blismyn yn ymosod ar swyddfeydd y blaid a gwarchae ar dŷ’r arweinydd fel petai o leiaf yn dŷ Fred West. Arestio pobl, rhyddhau heb gyhuddiadau. Ond fe lwyddodd y coup, fe ansefydlogwyd llywodraeth Albanaidd lwyddiannus ac fe ddisodlwyd arweinydd poblogaidd iawn. Wrth ddweud hyn, addefaf nad oeddwn yn hollol gywir ym mlog 27 Mawrth. Ymgyrch fawr wedyn, corws cytûn o bapurau’r Alban i gyd ond un, a’r BBC hefyd, i ddweud bod yr arweinydd newydd yn OFNADWY o amhoblogaidd. Am y tro gall ymddangos fod y peth mawr wedi ei sicrhau, sef dyfodol Trident, ac felly safle Lloegr yn y byd. Cawn weld beth ddaw, a chofiwch beth ddywedais i o’r blaen, ‘os cyfyd angen de Gaulle …’.

Yn ystod yr un wythnosau clywsom am helbul plaid genedlaethol arall. Helbul o natur hollol wahanol. Nid ymosodiad mawr o’r tu allan, ond rhyw bethau o’r tu mewn … medden nhw. Am y ‘diwylliant o fwlio’, ‘misogynistiaeth’ – y pechodau mewnol honedig – ni ŵyr y blogiwr hwn ddim o gwbl. Yn hytrach yr hyn sy’n ei anesmwytho ers misoedd a blynyddoedd yw’r pechodau cyhoeddus, ‘diwylliant’ o anwadalwch, o ddiffyg cyfeiriad, o fynd yn groes i’w pholisi ei hun, sef yn benodol ar fater mawr y niwclear; a’r un pryd hefyd ‘diwylliant’ o fod yn biwsig-biwsig, o wrthod ystyried dadl, o wrthod ateb llythyr na hyd yn oed ei gydnabod.

Dyddiau diflas. A welwn ni’r Albanwyr yn nogio wrth y glwyd unwaith eto? Ac ai dal i ogor-droi yn eu hunfan a wna’r Cymry, yn gwbl ddi-glem a heb arweiniad o unrhyw fath?