Archif | Chwefror, 2020

Gwall cysodi ?

19 Chw

Newydd fod yn edrych ar Hysbysfwrdd Swyddi Cymru, sef casgliad gorau’r byd o swyddi diystyr mewn cwangoau di-fudd. Ond heddiw dyma rywbeth dipyn bach yn wahanol, Plaid Cymru eisiau ‘Swyddog Codi Arian’ (£24,632 – £34,765). Fel y dywed golygydd Private Eye mewn hunan-ddychan, ‘shome mishtake shurely?’ Onid ‘Swyddog COLLI arian’ fyddai’r darlleniad cywir deudwch?

Tybed … ?

18 Chw

Dydw i ddim yn meddwl yr af i’r ddarlith hon.

Screenshot 2020-02-18 at 10.20.13

Ond tybed …?

(1) A fydd y darlithydd yn sôn am ‘Y diwrnod y gollyngais i Pinochet yn rhydd’ ?

(2) A ddywed p’run a hoffai ei weld yn ennill – Bernie ynteu Trump ?

Cymorth mewn cyfyngder

4 Chw

Stori fach yn y Radio Times heddiw am nofel newydd gan yr awdur Gwyddelig John Banville (neu ‘Benjamin Black’), seiliedig ar si – a hynny’n unig – fod y ddwy Dywysoges ifanc, sef y Frenhines a’i chwaer, wedi treulio rhai misoedd o’r Ail Ryfel Byd yn llochesu ar ystad yng nghefn gwlad Iwerddon. Yr oedd hyn – os digwyddodd – i fod yn gyfrinach glos, ond gollyngwyd hi, medd y nofelydd, gan swyddog diogelwch meddw. Hyd yma nid oes neb wedi cadarnhau ai gwir ai anwir y stori.

Os gwir, dyma:

(a) Yr enghraifft gyntaf o gymorth a estynnodd Iwerddon annibynnol i Loegr yn awr ei chyfyngder.

(b) Yr ail enghraifft. Rhoi benthyg ei byddin i actio byddin Lloegr yn ffilm Laurence Olivier, Henry V. Ffrainc oedd gelyn Lloegr yn y ffilm, ond ‘Ffrancwyr Rhydd’ De Gaulle oedd ein cynghreiriaid ar y pryd. Ond na hidiwch. Y peth mawr yw cael gelyn, a bod Lloegr yn ennill.

(c) Ac yn drydydd, aros yn niwtral. Petai’r unben wedi cael esgus i ymosod ar Iwerddon ac wedi cael cymaint ag un lanfa awyr yno, buasai’n galetach ar yr ochr hon a gallasai canlyniad y gyflafan erchyll fod yn wahanol. Yr oedd pris i’w dalu. Bu raid i rywun – ai De Valera ei hun? – fynd a chydymdeimlo â llysgenhadaeth yr Almaen ar golli Herr Hitler. Beth oedd ei deimladau, ni wyddom. Ni wyddom chwaith deimladau Dug Caeredin pan safai ar lan bedd yr Ymerawdwr Hirohito yn cynrychioli ei briod a phawb ohonom. Dyna ddiplomyddiaeth.