Un dda iawn ar GOLWG 360 y bore ’ma. ‘Papurau pleidleisio Ewrop yn “drysu” siaradwyr Cymraeg’ – a chware teg i GOLWG o leiaf am roi’r dyfynodau o gwmpas ‘drysu’ !
Mae’r stori’n adrodd mai’r cwestiwn yn wreiddiol ar bapur pleidleisio arfaethedig y refferendwm oedd: ‘A ddylai’r DU bara i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd ?’ Ond penderfynwyd newid y geiriad ‘am fod pryder y gallai pobol ddrysu rhwng y geiriau “para” a “bara”.’
Doedd pobl ddim yn hoffi’r gair ‘parhau’ chwaith pan holwyd barn, felly dyma droi at ‘aros’. Y geiriad yn awr yw ‘A ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd ?’
Mae’r ‘aros’ yn iawn wrth gwrs. Doedd dim anhawster o gwbl, ac eithrio i bobl eithafol dwp, ynglŷn â’r ‘bara’, ond mae anhawster sylfaenol y cwestiwn yn parhau, neu’n para, neu’n aros. Edrychwn ar y geiriau eto:
‘A ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd ?’
Yr ateb i’r cwestiwn hwn, os gosodir ef, fydd UN AI ‘dylai’ NEU ‘na ddylai’. Ateb cywir yn ramadegol, ond disynnwyr. Nid yw’r cysylltair ‘neu’ yn gofyn inni ddewis rhwng y ddau beth a gynigir. Yn ‘gymeri di de neu goffi?’ cynigir y ddau imi, heb bwyso arnaf i ddweud pa un, a’m hateb fydd – neu ddylai fod – ‘cymeraf’ neu ‘na chymeraf’. Os mai ‘cymeraf’ a ddywedais, disgwyliaf y cwestiwn ‘pa un?’ Os mai ‘na chymeraf’ oedd yr ateb, fe allaf ddisgwyl un ai ‘plesia dy hun’ neu ‘gymeri di Goca Cola ?’ Mae’r cysylltair ynteu, a’r ffurf ogleddol ’ta, yn eglurach yn hyn o beth – ‘te ’ta coffi gymeri di?’ Rhaid derbyn mai rhanbarthol yw’r ’ta, ac mai ‘gymerwch chi de neu goffi?’ a ddywed y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg. Ond mae’r ynteu yn union bwrpasol wrth ysgrifennu, ac yn gosod y cwestiwn a’r dewis yn berffaith glir:
‘A ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ynteu gadael yr Undeb Ewropeaidd ?’