Y diwrnod o’r blaen (Sadwrn, 22 Chwefror) bûm mewn lle go newydd, i mi, sef Neuadd Reichel Reichel Hall fel y nodir wrth y drws. Yn fyfyriwr, flynyddoedd lawer yn ôl, mi fûm yn byw am dair blynedd yn Neuadd Reichel, Bangor, ac am ddwy flynedd yn ddiweddarach fel tiwtor. Byddem yn dweud “Reichel” fel rhyw law-fer, ond yn gwybod mai “Neuadd Reichel” oedd yr enw a roddwyd gan Gyngor y Coleg pan agorwyd y neuadd yn y 1940au.
Ar glawr llawlyfr o ddechrau’r 1960au ceir “Neuadd Reichel”, ac wedyn “University College of North Wales”. Ar y dudalen deitl ceir “Reichel Hall” yn fychan ac mewn cromfachau, fel rhyw esboniad, o dan yr enw Cymraeg. “Neuadd” a “Reichel”, un bob ochr, sy’n gerfiedig ar ddau gilbost y giât.
Treuliais fy mlwyddyn gyntaf yn Reichel a rhan o’r ail dan deyrnasiad yr ail Warden, y Parchedig D.W. Gundry, cymeriad hynod a’r Sais mwyaf Seisnigaidd y gallai neb fyth ddod ar ei draws. Byddai Gundry yn ein siarsio, “This is not a hostel, it is a hall of residence”. Eto i gyd, fel “Neuadd Reichel”, ei henw swyddogol, y byddai hyd yn oed ef yn cyfeirio ati.
Ond fel y cofia pawb o’r hen aelodau, profodd un peth yn drech na galluoedd helaeth Gundry, sef adrodd y gras bwyd Cymraeg a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y neuadd gan Syr Ifor Williams. Bu raid ei drosi, gan roi inni ras bwyd Lladin enwog Neuadd Reichel. “Omnipotens Deus, clementissime pater, omnis boni fons …” ac yn y blaen. Dyna un eitem o’r Hen Drefn a oroesodd, hyd yn oed wedi olynu Gundry gan warden tra gwahanol, Aled Eames. Yr unig adeg y diolchid am ein hymborth mewn unrhyw beth ond Lladin oedd Gŵyl Ddewi, ac weithiau ar yr achlysur hwnnw, gan gadeirydd myfyrwyr a ddigwyddai fod yn Gymro, ceid y geiriad cofiadwy: “Diolch am a gawd, er na chawd ond ychydig. Roedd y ’chydig ag a gawd yn dda ddiawchedig.”
Rhyfedd wrth edrych yn ôl, ond gwir: yr oedd cadeirydd y myfyrwyr yn tueddu i fod yn Gymro er mai lleiafrif bach oedd y Cymry yn y neuadd. Sut y digwyddai hynny, bron flwyddyn ar ôl blwyddyn, nid wy’n siŵr. Yr hyn a gofiaf yn arbennig yw ein bod ni’r ychydig Gymry, dan oruchwyliaeth Gundry, yn cael hwyl aruthrol. Rhyw Bobl yr Ymylon oeddem y rhan fwyaf o’r amser, yn gwbl rydd i gyfranogi yn yr ethos Reichelaidd pan gymerai ein ffansi, ond yn ei weld yn ddigri hefyd.
§
Beth bynnag, achlysur yr ymweliad diweddar â Reichel oedd cwrs undydd a drefnwyd gan Ysgol y Gymraeg, Coleg Bangor (gallaf sgrifennu “Ysgol”, ar ôl f’atgoffa fy hun, ond mae’r llaw ohoni ei hun yn sgrifennu “Coleg”) i goffáu cyhoeddi A Welsh Grammar, Syr John Morris-Jones. Roeddem yn cwrdd yn yr hyn a arferai fod yn llyfrgell y neuadd. Beth sydd wedi digwydd i’r llyfrau, wn i ddim. Mi sgrifennais at yr awdurdodau rai blynyddoedd yn ôl i siarsio bod eisiau eu diogelu yn rhywle.
Cawsom bum sgwrs neu ddarlith ar waith Syr John a phethau cysylltiedig, ac mi soniaf yn unig am yr olaf. Cyflwyniad oedd hwn gan Robat Trefor i ymchwil neu arolwg y mae ef yn ei gynnal i arferion darllen Cymraeg, ac agweddau tuag wahanol fathau o Gymraeg. Gwnaed yr arolwg gyda help dau “grŵp ffocws”, fel y dywedir, sef dau griw bach o bobl, un yn Sir Fôn a’r llall yn Sir Gaerfyrddin, a dim un o’r ddau yn cynnwys rhai y byddem yn eu galw yn “Gymry proffesiynol”. Rhoddodd Robat Trefor inni ddau gasgliad clir iawn. (1) Beth y mae aelodau’r ddau grŵp yn ei ddarllen yn rheolaidd yn Gymraeg? Un peth ac un peth yn unig: eu papur bro. (2) Pa fath, pa lefel o Gymraeg y mae orau ganddynt ei ddarllen? Ateb, heb fawr amheuaeth: Cymraeg safonol neu lenyddol, sef dewis naturiol y papurau bro drwy hyd a lled Cymru.
Dyma gadarnhad o ddau wirionedd go fawr, choelia’ i byth: cyfraniad aruthrol y papur bro mewn cadw’r Cymry’n llythrennog, dros gyfnod o ddeugain mlynedd bellach; a phwysigrwydd y cyfrwng llenyddol fel rhan o’r llwyddiant hwnnw.
Nid yw hynny’n golygu nad yw cofnodi tafodiaith, neu sgrifennu iaith lafar, yn rhan o lenyddiaeth ac yn rhan bwysig. Mae honno’n grefft, ac ychydig yw’r meistri arni. Dyma gyfle i roi clod i un meistr cyfoes, Alun Cob yn ei dair nofel am fywyd Bangor heddiw (Pwll Ynfyd, Tarw Pres a Gwyllgi). Mae’n defnyddio tri dull; gadael rhai pethau fel y maent yn Saesneg; cofnodi rhai pethau Saesneg yn ffonetig Gymraeg; ac atgynhyrchu peth siarad Cymraeg ansafonol yn gywir iawn. Mae gofyn i’r llygad arfer tipyn â darllen, fel gydag unrhyw dafodiaith ysgrifenedig – iaith Cocni Charles Dickens, er enghraifft; a phrin y mae’r iaith yn ddymunol wedyn, – nid oes bwriad iddi fod. Ond rhaid edmygu’r cywirdeb, sydd yn agos at fod yn ddi-feth.