Mater y Bala eto. Ni ddylid gadael i’r mater hwn orffwys.
Am swyddogion addysg Gwynedd ac aelodau’r cabinet, ni ddywedwn ddim heddiw. Mae chwaraewyr eraill yn y ddrama hon, neu o leiaf yn berthnasol iddi.
(1) Plaid Cymru (neu ‘Plaid’, neu ‘Plaid Plaid Cymru’ fel y bydd yn ei galw’i hun). A yw ailgyflwyno addysg enwadol yn bolisi ganddi? Ac os felly, ai dim ond yn y Bala? Ynteu drwy Wynedd? Neu dan awdurdodau eraill a reolir ganddi? Neu drwy Gymru gyfan? A oes deng miliwn o bunnau ar gael i unrhyw ysgol sydd am fynd yn enwadol? Ac os felly eto, ai dim ond dan yr Eglwys yng Nghymru? Ynteu dan wahanol enwadau, yma ac acw, tipyn o amrywiaeth? A yw’r peth wedi ei drafod a’i basio, gan Gynhadledd a Phwyllgor Gwaith y Blaid? Neu ei Phwyllgorau Rhanbarth o fewn sir Gwynedd (sef rhanbarthau Arfon a Meirion-Dwyfor)? Beth ddywed yr Aelodau Seneddol a’r Aelodau Cynulliad? A fydd yn y maniffesto fis Mai nesaf?
Ie, pam y Bala? Byddai’n dda clywed ateb y Blaid fel plaid. Ond gwyddom yr ateb wrth gwrs. Bargen wedi ei tharo yn y cudd, fel yr ydym wedi crybwyll o’r blaen, a phob cais am drafodaeth agored wedi ei mygu wedyn. Ymddygiad gwarthus o anfoddhaol mewn bywyd cyhoeddus, a pheth sy’n ein bwrw i bydew o anobaith am ddyfodol gwleidyddol Cymru. O diflasodd yr halen …
Dyn a ŵyr, mae’r angen heddiw’n fwy nag erioed am blaid genedlaethol Gymreig gref, unedig ac egnïol. Mynegiant o’r angen hwnnw yw pleidlais Plaid Cymru yn yr ardaloedd llai Seisnigedig, pleidlais dros yr hyn y dylai’r Blaid fod. Bellach mae gagendor mawr yn agor rhwng gweithredoedd y Blaid lle mae hi mewn swydd a disgwyliadau ei chefnogwyr, a hithau fel petai’n mynd o’i ffordd i siomi’r rhai sydd wedi ymddiried ynddi. Beth sy tu ôl i hyn? P’run fyddai nesaf ati, Damcaniaeth y Cynllwyn ynteu Damcaniaeth y Llanast? Un peth sy’n weddol sicr, ni phery’r gefnogaeth lawer yn hwy os deil y Pleidwyr mewn grym i wneud pethau sydd weithiau’n hollol negyddol ac weithiau’n hollol loerig. Os nad yw’n ddim ond cyfrwng i ethol twpsod na allant adnabod mater o egwyddor pan fydd hwnnw’n cerdded i mewn trwy’r drws â’r geiriau MATER O EGWYDDOR wedi eu sgrifennu ar ei dalcen, pa bwrpas iddi yn wir ?
(2) Y Cyfryngau. Gallaf ddychmygu John Roberts Williams yn gwyntyllu mater mawr y Bala yn o drylwyr ac yn mynd at ei hanfod mewn ychydig frawddegau cyrhaeddgar. Gallaf ddychmygu’r hen Faner yn dyrnu arno o rifyn i rifyn. Efallai fy mod wedi methu rhai pethau, ac os gwir hynny rwy’n ymddiheuro; ond hyd y gwn ni bu unrhyw drafodaeth o sylwedd arno mewn papur na chylchgrawn. Mae adroddiadau yn Y Cymro wedi rhoi rhai o’r ffeithiau ac wedi dyfynnu peth ar y gwrthwynebwyr, ond hyd y gwn nid oes yr un papur, Cymraeg na Saesneg, wedi pwyso ar y cefnogwyr i roi atebion. Yr un modd gyda’r cyfryngau llafar a llun. Flynyddoedd yn ôl byddai ambell gwestiwn go bigog wedi ei ofyn i awduron y cynllun, ac ni fodlonid ar eu sbin ddienaid, ddiystyr. Os na byddai Heddiw wedi eu herio, byddai Y Dydd wedi gwneud. Neu y ffordd arall. Neu, mwy tebyg, byddai’r ddwy wedi gwneud, rhag colli’r stori. Mae monopoli’r BBC ar y newyddion Cymraeg heddiw yn un o’r pethau sy’n llesgáu ein bywyd cyhoeddus ac yn un o ganlyniadau anffodus sefydlu S4C.
(3) Y Llywodraethwyr. Beth a ddywed llywodraethwyr yr holl ysgolion ym Mhenllyn a fyddai’n bwydo’r ysgol uwchradd newydd? A oes llais i’w glywed?
(4) Undebau’r Athrawon. Llai pwysig, oherwydd anaml iawn y dywed y rhain unrhyw beth o bwys. Ond byddai’n briodol clywed rhywbeth gan eu pwyllgorau neu eu cynadleddau rhanbarth yng Ngwynedd. Beth amdani, fy hen undeb, yr hen UCAC, er enghraifft? Et tu, Brute?
O.N. Cofiwch ddarllen yr ymateb i’m blog diwethaf.