Braidd yn chwerthinllyd y dyddiau hyn, braidd yn bathetig hefyd, yw gweld a chlywed y dyn bach o wlad Gandhi wrthi-hi ar lawr y Tŷ fel rhyw ‘Siarsyl’ chwedl hen bobl ers talwm. Eithr mae amryw o wleidyddion amlwg San Steffan heddiw yn amlygu gallu rhai pobl ddŵad i fabwysiadu ac i feddiannu agweddau’r Sefydliad Prydeinig y maent wedi ennill neu brynu eu lle ynddo. Mae hyn yn cynnwys y gallu i anghofio, sef un o briodoleddau pwysicaf, a mwyaf anffodus, y Sefydliad hwn dros y cenedlaethau.
A dyma ichi un o’r enghreifftiau mwyaf gwaradwyddus.
Mae mudiad Hwthi yn ymosod ar longau yn y Môr Coch.
Tu ôl i’r Hwthi, meddir i ni, y mae llywodraeth Iran.
Pam mae llywodraeth Iran fel y mae?
ATEB: o ganlyniad i ymyrraeth Lloegr ac America – Lloegr yn bennaf – ym mywyd Iran 70 mlynedd yn ôl.
Mae’r hanes yn ddigon hysbys. Yr oedd prif weinidog etholedig Iran, y Dr. Mossadegh, wedi gwladoli diwydiant olew anferthol gyfoethog y wlad, fel bod pobl Iran yn cael mwy o fudd ohono. Golygai hyn fod gwledydd y gorllewin yn talu tipyn yn fwy am yr olew, peth nad oedd wrth fodd perchenogion Anglo-Iranian Oil, fel y gellid disgwyl. Yr ateb felly, llunio brad-gynllwyn, coup, gan wasanaethau cudd Lloegr ac America. Gyda help carfan o’r Iraniaid llwyddwyd i ddisodli Mossadegh a’i gyfyngu i’w gartref weddill ei oes, adfer y Shah, oedd wedi ei alltudio gan y chwyldro democrataidd, a gosod yn brif weinidog dano yntau ddyn a chanddo gysylltiadau Nazïaidd hollol hysbys. ‘He may be a bad guy, but he’s our bad guy,’ chwedl yr Arlywydd Theodore Roosevelt, gan grynhoi egwyddor Americanaidd sydd wedi ei hailadrodd gynifer o weithiau ledled y byd. Trachwant y cwmnïau olew a aeth â hi, gan daflu ymaith bosibilrwydd gwladwriaeth Foslemaidd ddemocrataidd a allasai fod yn ddylanwad da.
Crynhoir yr hanes yn llyfr Christopher de Bellaigue, Patriot of Persia: Mohammad Mossadegh and a Very British Coup (2012).
Fe ddywedir mai prif gudd-weithredwr America yn yr anfadwaith hwn oedd gŵr o’r enw Kermit ‘Kim’ Roosevelt, na, nid cymeriad o’r Muppets ond pennaeth adran y Dwyrain Canol o’r C.I.A., ac ŵyr i’r Arlywydd yr ydym wedi ei ddyfynnu. Fe ddywedir hefyd bod rôl allweddol ar ran Prydain wedi ei chwarae gan Monty Woodhouse, a gefais i yn Aelod Seneddol drosof yn ystod ysbaid fer o’m hoes.
Wedyn, pethau’n cymryd eu cwrs … Erbyn diwedd y 1970 yr oedd mwyafrif yn Iran wedi cael llond bol ar y Shah a’i gwsmeriaid gorllewinol, ac mewn chwyldro arall fe osodwyd y llywodraeth ffwndamentalaidd wallgo sy’n rheoli o hyd. Am dipyn fe geisiodd Lloegr ac America gefnogi Saddam Hussein o’r wlad drws nesaf yn erbyn yr Iran newydd. Ond fel y gwyddom, aeth Saddam yn rhy fawr i’w esgidiau …
A thrwy’r blynyddoedd fe ddaliodd y Sefydliad Prydeinig i siarad – a meddwl – fel petai’n hollol ddieuog yn yr hanes. Y ddawn i anghofio. ‘The English never remember, the Irish nver forget,’ meddai Bernard Shaw unwaith. Rwy’n amau’r ail gymal – beth am eu hiaith? Ond fe saif y cymal cyntaf.
§
Yn awr, onid ‘a very British coup’ oedd yr hyn a fu yn yr Alban ddechrau’r haf, ‘Diwrnod Fred West’, a’r holl ymgyrch yn erbyn arweinwyr y mudiad cenedlaethol? Unrhyw un ohonoch, ddarllenwyr, nad ydych yn credu fod yma law gwasanaethau cudd Lloegr, a thu ôl i hynny, law’r C.I.A., anfonwch air at yr hen flog i ddweud.