Archif | Mawrth, 2018

Unwaith eto, Siroedd a Gwledydd

25 Maw

Dyma inni bapur gwyrdd llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.  Ar sail crynodeb GOLWG 360, dim byd mwy manwl na hynny, nodaf ddau beth am y cynigion:

(1)    Drwy leihau rhif y cynghorau sir o ddau ar hugain i ddeg, dyma glosio’n ôl at batrwm Cymru’r 1970-90au, Cymru’r wyth sir.  Ond cofiwn fod yna gynghorau dosbarth hefyd bryd hynny.  Nid wyf yn cofio’r union rif, ond rhaid bod o leiaf dri chyngor dosbarth o fewn pob sir;  rhoddai hynny dros ddeg ar hugain o awdurdodau, cyn dod at y cynghorau cymuned.

(2)    Mae yma elfennau nid annhebyg i awgrymiadau’r hen G.A.  yn ei flogiad ers talwm ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’.  Rhaid bod rhywbeth yn yr hen ysgrif hon; fe’i gwrthodwyd gan ddau o’r cylchgronau Cymraeg.  Cynhwysaf hi yma eto, gan hepgor ambell frawddeg sydd wedi llwyr ddyddio.   Yna cawn grybwyll ambell bwynt am y cynigion newydd.

*     *     *

SIR GWYMON a SIR CONBYCH (Cyhoeddwyd ddiwethaf 15 Mehefin 2015)

Gair heddiw am Lywodraeth Leol. Dyma fater nad oes gennyf  unrhyw brofiad ohono, nac unrhyw gysylltiad ag ef ac eithrio fel trethdalwr a defnyddiwr rhai o’r gwasanaethau.  Anaml iawn y bûm trwy ddrws pencadlys fy awdurdod lleol, a’r tro diwethaf mi wnes y camgymeriad erchyll o fynd i mewn trwy’r drws anghywir.  Aeth rhyw wraig, o’r staff rwy’n cymryd, i sterics oherwydd y fath drosedd yn erbyn Arfer Da, a bu bron iddi gael ffatan yn y fan a’r lle!

Bu diwygio cynghorau Cymru yn destun rhyw fwmian ers tro byd, heb fawr neb i’w weld yn cytuno â Llyfr y Diarhebion mai ‘lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch’.  Y tu hwnt i hynny, ysbeidiol a herciog fu’r drafodaeth, heb fawr o weledigaeth glir yn unman. Cafwyd Adroddiad Syr Paul Williams fis Chwefror 2014, ac awgrymodd ambell un o’r cynghorau yr hyn yr hoffent neu na hoffent ei weld.

Mae rhai awgrymiadau yn peri anesmwythyd. Sonia Adroddiad Williams am uno ‘Gwynedd a Môn’. Nonsens yw hyn:  mae fel sôn am ‘Norfolk ac East Anglia’.   Mae Môn yn rhan o Wynedd.  Rhan o Wynedd yw Môn.  Nid oes Wynedd heb Fôn.  Môn, Arfon, Meirion, dyna Wynedd, neu Wynedd Uwch Conwy a bod yn fanwl.  Wedyn mae Gwynedd Is Conwy, gyda’r enw modern hwylus, Clwyd, ac yn cynnwys siroedd Dinbych a Fflint. A mynd â’r peth i dir ffars, – ac mae’n hawdd iawn llithro i’r tir hwnnw – beth fyddai enw’r ‘sir’ newydd  y mae Williams yn ei hargymell,  wedi uno’r ‘Wynedd’ bresennol â Môn?   Ai ‘Sir Gwymon’ fyddai hon?   Yr un modd, ai ‘Sir Conbych’ (ar lafar, ‘Combach’ neu ‘Combech’) fyddai hi ar ôl cydio Conwy wrth Ddinbych, a throsglwyddo darn o sir hanesyddol Caernarfon mewn gweithred o fandaliaeth anesgusodol?

Na, nid ar chwarae bach y mae mynd i’r afael ag ad-drefniad arall, ac o fethu â’i chael hi’n iawn y tro hwn gellir dychmygu llanast dychrynllyd.  Byddai raid sicrhau dwy amod:   yn gyntaf, bod y trefniant newydd yn un ystyrlon; ac yn ail, ei fod y trefniant gorau posibl o safbwynt y Gymraeg.

Wrth ddweud ‘ystyrlon’, golygwn hynny nid yn unig ar gyfer anghenion heddiw, ond yn hanesyddol hefyd. Un o rinweddau ad-drefniad y 1970au oedd na chroeswyd ffin unrhyw sir ‘go- iawn’,  dim ond creu taleithiau a’u galw’n siroedd.  Ond yn ad-drefniad  1996  fe aed i  ymyrraeth  drwy roi enwau hollol newydd ar siroedd yn y De (h.y.  rhannau o Forgannwg a Mynwy), ac yn y Gogledd darnio ac ailglytio siroedd:  creu ‘Conwy’ a symud ffiniau Dinbych a Fflint. Llanast.

Fe ddylid yn awr: (1) adfer y gwir siroedd, (2) adfer y gwledydd neu’r taleithiau hanesyddol, (3) sefydlu perthynas ystyrlon, bwrpasol rhyngddynt.

1.    Adfer y Siroedd

‘Creadigaethau Normanaidd,’ medd rhywun efallai am y ‘tair sir ar ddeg’, neu rai ohonynt. Gwir, ond rhannau o wead bywyd Cymru ers cenedlaethau lawer, fel mai anodd adrodd na deall hanes Cymru hebddynt. Ai un o Sir Conwy oedd yr Esgob William Morgan?  Ac Iolo – ble?  –  oedd yr Edward Williams hwnnw?  Morynion glân, pa sir hefyd?  Mwynder, – ble?  Rywsut neu’i gilydd, ochr yn ochr ag unrhyw awdurdodau helaethach, mae angen adfer a chadw’r gwir siroedd, ac ymddiried iddynt  swyddogaethau.  Cadw Sir Fôn; adfer Sir Gaernarfon, o Enlli hyd Ben y Gogarth; adfer Sir Feirionnydd gan gofio cynnwys Edeirnion, fel y dylai fod;  adfer Sir Drefaldwyn, Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed. Adfer ffiniau siroedd Dinbych a Fflint, ond efallai  gydag un newid bach sydd wedi ei sefydlu eisoes, sef ‘Wrecsam-Maelor’ yn uned, gan gadw Maelor Gymraeg yn Sir Ddinbych.  Rhoddai hynny inni bedair sir ar ddeg, ac ychwaneger atynt dri bwrdeistref sirol hanesyddol Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

2.     Adfer y Taleithiau

Dylid adfer hefyd batrwm o daleithiau, neu yn wir wledydd  hanesyddol, sef yr hyn a gafwyd yn ad-drefniad 1974, ac a wnaed heb groesi ffiniau yr un o’r hen siroedd.  Rhaid cael y wir Wynedd yn ôl, nid fel sir y tro hwn, ond fel un o wledydd Cymru.

3.     Creu perthynas

Dylai fod yn bosibl creu perthynas ffederal rhwng awdurdodau sir a thalaith, gyda chynrychiolaeth o’r naill ar y llall, fel na byddai gormodedd o gynghorwyr. Dylai’r ‘taleithiau’ neu’r ‘gwledydd’ fod yn gyfrifol am addysg, iaith a macro-gynllunio, a’r ‘siroedd’ fod â rhyw gyfrifoldebau llai, ond cyfrifoldebau pwysig iawn ar lawr gwlad.  Hyn-a-hyn o aelodau Cyngor Sir Fôn (dyweder) yn gwasanaethu hefyd ar Gyngor Talaith Gwynedd; a hyn-a-hyn o aelodau Cyngor Talaith Gwynedd, o Fôn, yn gwasanaethu hefyd ar Gyngor Sir Fôn.   Efallai y bydd gofyn inni ddygymod â llai o gynghorwyr, h.y. wardiau mwy,  ar y lefelau uchaf;   byddai’n dda meddwl y gallai cynghorau cymuned bywiog wrthbwyso hyn.

Dyweder bod 17 ‘sir’ (yn cynnwys y tri bwrdeistref sirol). Yna  chwe ‘thalaith’ neu ‘wlad’.  Byddai felly 23 awdurdod, ond byddent yn gorgyffwrdd, yn ffederal, gydag un gwastad yn gordoi’r llall.  Rhywbeth fel hyn fyddai’r patrwm:

Taleithiau                  Siroedd

Gwynedd                   Môn, Arfon, Meirion

Clwyd                         Dinbych, Fflint, (?) Wrecsam-Maelor

Powys                        Maldwyn, Maesyfed, Brycheiniog

Dyfed                         Ceredigion, Caerfyrddin, Sir Benfro

Morgannwg             Sir Forgannwg, Caerdydd, Abertawe

Gwent                        Sir Fynwy, Casnewydd

(A pham rhannu Morgannwg?  Roedd yr hen Sir Forgannwg yn gweithio’n iawn.  Os sonnir am boblogaethau anghyfartal, rhaid inni dderbyn fod ardaloedd poblog yn fwy poblog, dyna i gyd!)

Dau gwestiwn

1.   ‘Gormod o gynghorau’ ?  Beth petaem yn enwi peth arall: gormod o swyddi di-fudd, diystyr, dialw-amdanynt, a gormod o swyddogion yn eu llenwi?  I rai, ni wiw sôn am y fath beth.  Gyda Chyngor Gwynedd, dyweder, yn gyflogwr mor fawr, onid yw’r cyfan er lles i economi cylch Caernarfon, ac yn ffactor mewn cynnal y Gymraeg?  A chymryd golwg agos, ydyw y mae. Ond sefyllfa annaturiol yw hon lle mae gweinyddiaeth agos â bod yn brif gyflogwr, a sefyllfa na ellir dibynnu arni yn y tymor hir. Gyda phob un ad-drefniad addewir llai o fiwrocratiaeth, ond creir mwy.  Nid yw Adroddiad Williams fel petai am wynebu hyn. Dywed yn wir (adran 1.31) ei bod hi’n anodd ddifrifol cael darlun llawn o holl swyddi a chyflogau’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Ni allodd yr adroddiad felly awgrymu patrwm staffio’r unedau newydd yr oedd yn eu rhagweld, gan ddangos yn union ble byddai’r arbedion,  – gwendid go fawr ynddo. Dan y math o drefn a awgrymaf uchod, yn cyfuno ‘siroedd’ a ‘thalaith’, byddai cyfle i ofyn pa swyddi a fyddai’n dal yn wir angenrheidiol.  Darllenwn, er enghraifft,  fod gan Gyngor Gwynedd heddiw staff o tua 6,500, a’r rhain bron i gyd yn Gymry.  Mewn trefniant deallus i dorri biwrocratiaeth fe ddylai’r chwe mil a hanner hyn, heb ond ychydig yn ychwanegol atynt, allu gweinyddu’r wir Wynedd adferedig hefyd, fel na byddai diben i neb di-Gymraeg ymgeisio am swyddi  ynddi.

2.    A fyddai cenedlaetholwyr  –  neu yn fwy manwl, Pleidwyr –  am weld adfer Sir Gaernarfon, o Aberdaron i’r Creuddyn, neu yn wir am weld adfer Gwynedd a fyddai’n cynnwys Conwy Seisnigaidd a Môn drafferthus?   Onid yw’r ‘Wynedd’ bresennol, sef Arfon-Meirion fel y dylesid ei galw, yn fwy cysurus i’w gweinyddu?  Rhy gysurus efallai, awgrymaf yn garedig.  Fe aed i gymryd pethau’n ganiataol, ac fe wnaed camgymeriadau mawr.

Credaf fod fy nghof yn gywir yn hyn o beth. Ar wir Wynedd 1974 yr oedd cynghorwyr gwrth-Gymreig o ochrau Llandudno, oedd; ond  roedd y rheini mewn lleiafrif, ac roedd cynghorwyr goleuedig iawn o’r un cwr hefyd.  Ac roedd cynrychiolwyr Môn yn eu bihafio’u hunain cystal â neb. Mae’n dibynnu llawer ar y cwmni, ac ar y cywair sy’n cael ei osod o’r dechrau. Gosodwyd cyfeiriad Gwynedd 1974 gan arweinwyr blaengar, gwlatgar, heb fod oll o’r un blaid; daeth  i fod yr awdurdod mwyaf llwyddiannus  erioed ym mater y Gymraeg. A ellir adfer yr un hinsawdd eto, ni wn. Ond dylid rhoi cynnig arni.  Yn un peth, byddai adfer Sir Gaernarfon yn ei therfynau, o Aberdaron hyd Ben y Gogarth, yn rhoi caead  ar biser y rheini o bobl Bangor sydd am drosglwyddo’u dinas i Sir Conwy am fod honno’n  Seisnigaidd.

Yn eironig efallai, rhan o’r broblem bellach yw fod llywodraeth leol wedi mynd yn fwy pleidiol.  Nid bod hynny o angenrheidrwydd yn beth drwg, ond bod angen rheolaeth bleidiol gryfach, o ganlyniad, i weithredu unrhyw bolisi. Trwy ei pholisi o gau ysgolion, llwyddodd Plaid Cymru ar gyngor presennol Gwynedd i daflu ymaith ar un trawiad tua hanner ei chefnogaeth yn y sir.  Camp arbennig iawn mewn trwstaneiddiwch gwleidyddol;  ac fel y gall ddigwydd mewn chwalfa o’r fath, nid y cynghorwyr ffolaf, awduron y trychineb, a gollodd eu seddau, ond rhai o’r cynghorwyr gorau.  ‘O diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef?’  Neu, a newid y cwestiwn, ‘pa beth yr aethoch allan i’w achub?’

Rywsut neu’i gilydd rhaid atgyweirio’r difrod a wnaed, ac yn y pen draw fe ofyn hynny am fwy na threfniadaeth.  Fe ofyn am agwedd meddwl, ‘diwylliant’ yn yr ystyr eang.

Rhaid imi addef un peth. Y tu ôl i’r meddyliau hyn efallai’n wir fod elfen o ramantu ynghylch hen Gyngor Gwynedd (neu ‘Gyngor Gwynedd Go-iawn’).  A, do, hyd yn weddol ddiweddar mi fûm yn rhyw ragdybio fod peth o ddoethineb yr hen gyngor hwnnw wedi goroesi yn y ‘Wynedd’ rannol bresennol.  Rhwng anystwythder y drefn gabinet, y polisi cau ysgolion a rhai polisïau eraill, mae’r ffydd honno wedi ei siglo’n ddirfawr.  A dyfynnu bardd mawr o Arfon, ‘Tragywydd ai tros amser, Duw a ŵyr’.

A oes synnwyr yn y patrwm ffederal a awgrymais yma?  Mi garwn pe bai rhywrai mwy gwybodus a phrofiadol na mi yn ystyried y manylion.  Er enghraifft, rhywun sydd bob amser yn mynd i mewn i swyddfa’r Cyngor drwy’r drws iawn.

*    *    *
I grynhoi a chloi felly:

1.     Oddi ar imi sgrifennu’r hen ysgrif hon, mae Môn wedi ennill pwynt a Gwynedd wedi colli pwyntiau.  Gweler Môn i fyny, Gwynedd i lawr, 12 Rhagfyr 2017.

2.     Erys y nonsens ‘uno Gwynedd a Môn’.  Rhaid ailadrodd mae’n debyg: Môn, Arfon, Meirion – dyna yw Gwynedd, talaith, gwlad.  Nid oes Wynedd heb Fôn.  Nid Gwynedd yw’r sir a gamenwir ‘Gwynedd’ heddiw.

3.    Erys ‘Sir Conbych’.  Annerbyniol.  Afon Conwy yw’r ffin ac ni ddylid byth ei chroesi.

4.    Yr un modd, ni ddylid cyfuno Caerffili a Chasnewydd. Perthyn un i Forgannwg, y llall i Went. Beth bynnag arall sy’n galw, ni ddylid croesi ffin talaith hanesyddol.

5.    Sonnir am uno Wrecsam â Sir y Fflint.  Mae fy awgrym i’n well, uno Wrecsam â Maelor Saesneg, cadw rhan helaethaf Sir y Fflint.

6.    Pethau afrosgo o ad-drefniad 1996 yw ‘Castell Nedd-Port Talbot’, ‘Rhondda-Cynon-Taf’ &c.  Yr oedd ‘De Morgannwg’, ‘Gorllewin Morgannwg’, ‘Morgannwg Ganol’ &c yn fwy synhwyrol.  Rhaid cadw ‘Morgannwg’ fel enw gwlad; gellir wedyn gael tri neu bedwar o raniadau o’i mewn.

7.    Beth yw’r sôn hwn am uno ‘Morgannwg’ â ‘Chaerdydd’?  Ym Morgannwg y mae Caerdydd.  Yn wir, y peth gorau i’w wneud â Chaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yw eu hadfer yn ‘fwrdeistrefi sirol’ fel y buont am genedlaethau.

8.    Gyda deg awdurdod mawr, mae perygl gwirioneddol y gwelwn fwy o bellhau oddi wrth anghenion llawr gwlad. Pwy sy’n mynd i dorri ffosydd gydag ochrau’r ffyrdd, fel y gwnâi’r cynghorau dosbarth mor effeithiol gynt?  Adferer y ‘gwir siroedd’, gyda phwerau fel rhai cynghorau dosbarth.

9.     Gwelodd rhai yn y cynigion presennol gyfle i greu tiriogaeth newydd eithaf helaeth â’r Gymraeg yn iaith weinyddol iddi, ‘Arfor’ fel yr enwyd hi.  Ie yn sicr, eler ymlaen.  Eto mae’n chwith os yw’n  rhaid i’r diriogaeth honno fod ‘ar fôr’ yn unig.  Beth am y Berfeddwlad, gogledd Maldwyn, Cwm Tawe?  Trueni na ellid rywfodd rannu Sir Ddinbych yn dde a gogledd; siawns na allai Dyffryn Clwyd, Hiraethog, Uwchaled, Glyndyfrdwy, Dyffryn Ceiriog a Maelor Gymraeg wneud rhywbeth ohoni o’u rhyddhau oddi wrth law farw’r ‘Costa Geriatrica’.  Yn wir dof yn gynyddol i feddwl mai ar sail cynghorau bro neu gymuned (yr hen ‘gynghorau plwy’) y mae creu ‘bro Gymraeg’, h.y. Cymraeg o ran gweinyddiaeth, â’i ffiniau’n wahanol i ffiniau sir a thalaith, ond mewn dealltwriaeth â sir a thalaith.

10.     Cymerwn y bydd y cynghorau bro yn dal gyda ni.  Dylai eu swyddogaeth fod yn llawer mwy gweithredol. Fel y ceisiais awgrym yn ôl yn 2003-4, hwy a ddylai ethol ail dŷ senedd y Cymry, wedi ei leoli ym Machynlleth.

11.     Darllenwn nad yw’r rhan fwyaf o’r awdurdodau presennol yn hoffi cynigion y papur gwyrdd.  Dim ond cofio nad llywodraeth leol sy’n pennu ffurf llywodraeth leol;  yn gam neu’;n gymwys, gwaith llywodraeth gwlad yw hynny, ac yn yr achos hwn llywodraeth Cymru.

12.     Dyma ni’n gweld ble saif y llywodraeth Lafur ar y mater hollbwysig hwn. Go dawedog, neu niwlog ar y gorau, yw Plaid Cymru. A oes ganddi syniadau?  Neu a’i roi fel arall, oes ganddi syniad am unrhyw beth o bwys?

 

 

 

Unwaith eto, y Cymro a’i hafod

20 Maw

Echdoe daeth Newyddion Gwynedd drwy’r drws yma, ac eitem ar ei dudalen flaen yn hysbysu perchenogion ail gartrefi yn y sir y byddant eleni yn talu 50% yn rhagor o dreth ar yr eiddo.  Polisi yw hwn sydd dan ystyriaeth ers tro, a deallwn y bydd nifer o awdurdodau eraill yn gweithredu yr un modd.

Tybed a oedd rhai o’r cynllunwyr polisi wedi darllen fy hen ysgrif ‘Hafod y Cymro’ (Meddyliau Glyn Adda, t. 140, neu ar y blog hwn 23 Chwefror 2016)?  Go brin efallai.

Nid ailadroddaf y ddadl yma, dim ond dweud:  iawn, codwch y dreth ar ail gartref, ond gwnewch eithriad os mai Cymro a’i piau.

Nid oes byth ddiffiniad terfynol o beth yw ‘Cymro’, ‘Sais’ na neb arall, ond at bwrpas gweinyddiaeth fe ellir gweud diffiniad syml.  Rhywbeth fel hyn:

UN AI
(a)  Rhywun wedi ei eni a’i fagu yng Nghymru, ac yn gallu dangos prawf o hynny.  (Wedi ei fagu at ba oed? Penderfyner, rhodder ffigiwr.)

NEU
(b)  Rhywun o unrhyw fan yn y byd os yw’n medru Cymraeg.  (Pa mor dda?  Digon, dyweder, i gynnal deng munud o sgwrs.)

Dywedaf eto; nid mai dyma a DDYLID ei wneud, ond mai dyma y BYDDID yn ei wneud gan blaid genedlaethol a honno o ddifri.

Bwriwch yn awr fy mod i’n methu fforddio’r dreth ychwanegol, ac yn gorfod gwerthu’r tŷ bychan sy gen i yn fy hen ardal.   A fyddai’r Cyngor yn ei brynu i’w ychwanegu at ei stoc tai cymdeithasol?  Hyd y gwn, nid oes gan y Cyngor y cynllun  na’r adnoddau i wneud dim o’r fath.

Pwy a brynai’r tŷ?

Isio rhoi bet arni?

Pwy sy wrthi ?

17 Maw

Ai’r Pwtyn sy wrth ?

Synnwn i damaid. I chwyddo’i gefnogaeth at yr etholiad ? Digon posib.

Ond wn i ddim. Wyddoch chwithau ddim chwaith.  Ychydig iawn iawn sy’n debyg o wybod.

Darllenwch yn ofalus flogiau Craig Murray dros y pum niwrnod diwethaf (13-17 Mawrth), a hefyd rai o’r cannoedd ymatebion ystyriol a gwybodus y mae’n eu cael. (Mae Craig yn bur blês ar ei gynulleidfa, a chyda phob cyfiawnhad.  MILIYNAU o ddarllenwyr dros y cyfnod uchod.  Cymharer BGA … hanner cant, efallai, ar ddiwrnod da; ymatebion: DIM.)

Os mai’r Pwt sy wrthi, fe lwyddodd hefyd i roi hwb fach i’r Santes yn y polau, fel ei bod hithau’n cael ei Mini-Moment-Malvinas.

Yn hollol nodweddiadol, fe drodd ei blaid ei hun yn erbyn  Corbyn, wedi iddo wneud gwaith gwrthblaid, sef gwrthwynebu (tipyn, nid llawer).  Rwyf wedi dweud droeon o’r blaen ac fe’i dywedaf eto, nid Blairiaeth yw hyn, ond hen draddodiad adweithiol y ‘Torïaid Cochion’, sy’n mynd yn ôl i’r diwrnod y gwrthodwyd arweiniad Keir Hardie gan bobl Merthyr ac Aberdâr.  (Am beth o’r hanes, gweler bellach gofiant Hefin Wyn i Niclas y Glais.)

A sôn am wleidyddiaeth etholaethau’r De – ac i ddwyn nodyn bach o hiwmor i’r sefyllfa hyll hon  – tebyg fod rhai ohonoch wedi clywed Kinnock Bach ar y radio bore ’ma, yn gofidio am gicio’r Cyngor Prydeinig allan o Rwsia.  ‘Pwynt Browni’ i’r Pwtyn yn y fan yna, i’w osod yn erbyn ei holl bechodau.

Beth sydd ar waith yng Ngwynedd ?

13 Maw

Nid yw’r hen G.A. yn ffermwr nac yn ifanc. Er hynny bydd yn mwynhau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc, un o’r ychydig nosweithiau cyfain o deledu ar ei galendr.

Go chwith felly oedd darllen ar GOLWG 360 heddiw am Gyngor Gwynedd yn terfynu ei nawdd i Ffederasiynau Ffermwyr Ifainc Meirion (£20,000) ac Eryri (£16,000).

Rhan yw hyn, yn ôl yr adroddiad, o ymgais i arbed y swm o £270,000.

Ond dwedwch i mi, pa gyngor yn ddiweddar a benderfynodd gyfrannu £500,000 tuag at ganolfan profi drôns ?

Beth sydd ar waith yng Ngwynedd ? P’run sy’n iawn, Damcaniaeth y Llanast ynteu Damcaniaeth y Cynllwyn ? Rwyf wedi ei ofyn droeon, ac rwy’n ei ofyn eto.

Mae Blog Glyn Adda bob amser yn llwyfan agored. Pwy o aelodau’r cabinet neu’r cyngor sydd am gynnig sylw ?