Dyma, os iawn fy nghyfrif, nawfed ysgrif yr hen G.A. ar fater y Dwsin Doeth. Pam y fath obsesiwn? Am ei fod yn fater pwysig.
Addewid swyddogion y Brifwyl, Mai 2013, oedd mai Llys yr Eisteddfod fyddai â’r gair terfynol ar beth i’w wneud ag argymhellion y Dwsin. Ond dyma ddarllen ar wefan Newyddion BBC Cymru heddiw fod “Cyngor yr Eisteddfod wedi clywed fod gan y Brifwyl 14 o brosiectau newydd ar y gweill yn sgil argymhellion gweithgor Llywodraeth Cymru.” Ac “wedi clywed”, sylwer, nid “wedi penderfynu” – oni phenderfynwyd trwy gymeradwyo’r hyn a glywyd. “Bydd rhai o’r cynlluniau i’w gweld ar waith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn Llanelli eleni.” Dyna ni felly, a stwffio’r Llys.
Dibynnaf, wrth nodi ambell beth, ar adroddiad y BBC heddiw ac adroddiad Golwg 360 (gyda “bydd” ddoe wedi ei ddiweddaru’n “roedd” heddiw). Fe wêl ffyddloniaid y blog fod yma beth ailadrodd; gobeithio na byddaf yn eu llwyr ddiflasu.
Argymhellion y Gweithgor
1. LLEOLIADAU. “Bod yr Eisteddfod yn parhau i deithio i wahanol ardaloedd o Gymru bob blwyddyn.” Stori gamarweiniol iawn a roed ar led y llynedd, gyda chyhoeddi adroddiad y gweithgor, yw fod yr Eisteddfod i ddal i deithio OHERWYDD argymhelliad y gweithgor. Gŵyl deithiol yw’r Eisteddfod, does dim eisiau dweud dim mwy. “Ei bod yn adlewyrchu’n well yr ardal leol mae’n ymweld â hi.” Mi ddywedwn i bod yr Eisteddfod wedi gwneud hyn yn bur dda drwodd a thro drwy’r blynyddoedd. “Yn well”? A awgrymodd y gweithgor sut?
2. GWELLA PROFIAD. “Bod yr Eisteddfod yn penodi Cyfarwyddwr Artistig newydd i fod yn gyfrifol am greu gŵyl ddeinamig fydd yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd.” Mae gan yr Eisteddfod eisoes ei Chyfarwyddwr, ei threfnyddion ac ychydig swyddogion eraill. Ac o ran y “cyfarwyddo artistig” mae’r egwyddor, y polisi a’r gweithrediad yn gwbl glir: syniadau’r pwyllgor lleol a’i is-bwyllgorau, gyda chymeradwyaeth y Cyngor a’i bwyllgorau yntau. Mae’r system hon wedi gweithio’n dda dros flynyddoedd a blynyddoedd cyn i Roy Noble na fawr neb o’r Dwsin Doeth erioed glywed am eisteddfod. Beth fyddai’r ennill o benodi Cyfarwyddwr Artistig? Sut y byddid yn “gwella profiad”? A ddangoswyd hyn i’r Cyngor ddoe? A argyhoeddwyd y Cyngor? “Gŵyl ddeinamig?” Fe ŵyr pob eisteddfodwr (yn cynnwys eisteddfodwyr radio-a-theledu-yn-unig) fod yr Eisteddfod weithiau’n ddeinamig ac weithiau’n ddigalon. Cafwyd eisteddfodau a gododd yr ysbryd, ac eisteddfodau a’n bwriodd i bwll o anobaith. Fel’na mae erioed a thebyg mai felly bydd eto, yn dibynnu ar ffactorau damweiniol ac anniffiniol yn aml, ffactorau na all Cyfarwyddwr Artistig na neb arall wneud dim yn eu cylch, – y tywydd yn un ohonynt, er y caed weithiau eisteddfod ardderchog yng nghanol tywydd echrydus.
Am y “denu ymwelwyr o bedwar ban byd,” mae hynny’n digwydd eisoes ac wedi digwydd trwy’r blynyddoedd. Cymry fu’r rhan fwyaf o’r rhain, ond mae’r Eisteddfod – yn ddigon doeth – yn gwneud llai bellach o “groesawu’r Cymry ar wasgar” oherwydd y sentiment diwerth a fu’n rhan o hynny. Daeth eraill o dro i dro, fel Matthew Arnold yn 1864 a Kingsley Amis yn 1956, rhai i edmygu, rhai i droi trwyn a rhai i ymgynddeiriogi: sut yr ymateba’r unigolyn nid yw’n fater i’r Eisteddfod, a deil y maes yn agored i bawb am yr un bris. Ond os mai troi’r Eisteddfod yn rhyw fath o atyniad twristaidd yw amcan y Dwsin, ac os yw’r Cyngor wedi derbyn yr “argymhelliad” hwn, mae aelodau’r Cyngor yn wirionach nag y tybiais eu bod.
3. Y CYSTADLU A’R ŴYL. “Bod y Cyfarwyddwr Artistig, gydag eraill, … yn cynnig cynllun i ddatblygu’r Eisteddfod er mwyn sicrhau rhestr o gystadlaethau fydd yn apelgar, cyfoes a blaengar, ond gan drysori’r traddodiadol ar yr un pryd.” Ys gwn-i a gafodd y Cyngor ddoe ryw enghreifftiau o gystadlaethau “apelgar, cyfoes a blaengar”? Neu enghreifftiau o sut mae’r Eisteddfod yn fyr o’r pethau hyn? Mae cryn waith diffinio, ddywedwn i, ar y tri ansoddair, ac mae angen pinsiaid da o halen bob amser gyda’r “cyfoes”. Popeth a arferir heddiw, mae’n gyfoes, a dyna ben. A oedd gan y Dwsin Doeth ryw syniadau disglair beth i’w roi yn lle’r englyn digri, y ddawns coes brwsh a’r canu emyn dros hanner cant? A rhoi’r peth yn garedig, llwyth o rwtsh yw’r “argymhelliad” hwn.
4. CYNYDDU NIFEROEDD. “Bod yr Eisteddfod yn paratoi Strategaeth Farchnata …” (am weddill y cymal gweler Golwg 360). Ni bu Eisteddfod erioed heb “strategaeth farchnata”, oherwydd nid yw hwnnw ond gair arall am drio gwerthu tocynnau. Os oes llai o werthu, y rheswm am hynny yw fod llai o Gymry; a heb fod mwy o Gymry ni bydd mwy o werthu. Fel mae’r blog hwn wedi dweud fwy nag unwaith o’r blaen, peth i eisteddfodwyr yw eisteddfod; MATH o Gymro yw eisteddfodwr, a does dim raid i bob Cymro fod yn un.
5. GWIRFODDOLWYR. “Bod yr Eisteddfod yn creu cynllun i ddenu mwy o wirfoddolwyr ifanc.” Byddai’n dda iawn, ac yn braf iawn, i’r Eisteddfod ac i sefydliadau eraill, pe gellid gwneud hyn. Ond problem cenhedlaeth sydd yma, problem seico-gymdeithasegol y to sydd wedi tyfu oddi ar tua 1980: sef methu â gweld nad yw pethau’n mynd i ddigwydd heb beri iddyn nhw ddigwydd. Rhyw genhedlaeth ag angen ei WEINDIO o hyd yw hon, a hyd yn oed wedi ei weindio fe red y peiriant i lawr yn gyflym iawn. Beth yw’r ateb, wn i ddim, ac yn sicr nid ymddengys y gŵyr y Dwsin Doeth. Rhan o’r drwg, yn yr Eisteddfod fel mewn mannau eraill, fu dechrau’r arferiad o wahanu’r “ifanc”, fel y dywedir (sef rhai o ryw 16-21 oed) oddi wrth bobl ychydig yn hŷn, gan anghofio mai dau gategori sylfaenol sydd o ran ein hoedrannau – oedolion a phlant. Dyna fu’r ochr negyddol i greu Maes B.
6. YR OES DDIGIDOL. “Bod yr Eisteddfod yn sefydlu grŵp o arbenigwyr i greu Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol a fydd yn sicrhau bod yr Ŵyl yn parhau i ddatblygu’n dechnolegol.” Iawn mewn egwyddor mae’n siŵr, ond a awgrymwyd wrth y Cyngor SUT? Gall unrhyw ffŵl ddweud “strategaeth ddigidol”. Mae mor hawdd â dweud “yr unfed ganrif ar hugain”.
7. CYDWEITHIO. “Bod Llywodraeth Cymru’n trefnu cyfarfodydd cydweithio o leiaf ddwywaith y flwyddyn rhwng yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn annog y ddau sefydliad i wneud ceisiadau cyfalaf ar y cyd.” MATH o Gymro, fel yr awgrymwyd uchod, yw Eisteddfodwr; a MATH o Gymro yw Urddwr hefyd. Efallai eu bod yn weddol debyg o gytuno ar y rhan fwyaf o bethau, ond nid cwbl gysurus yw’r syniad ei bod yn OFYNNOL iddynt gwrdd ddwywaith y flwyddyn o dan lygad Llywodraeth Cymru i drefnu cydweithio. Mudiad gwirfoddol yw’r Urdd, a chymdeithas wirfoddol yw’r Eisteddfod, yn atebol i’w HAELODAU, bob un dan ei gyfansoddiad. Ni ddylai’r naill na’r llall ddechrau ymddwyn fel corff statudol wedi ei greu gan lywodraeth, nac ildio i unrhyw bwysau i ymddwyn felly.
8. FFYNONELLAU CYLLID. “Bod Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cynyddu grant refeniw a chyfalaf yr Eisteddfod i • benodi Cyfarwyddwr Artistig • datblygu gallu’r Eisteddfod i ddenu nawdd • Prynu arbenigedd yn y mater o becynnu tocynnau … • Buddsoddi mewn systemau casglu data • Cynyddu ei chyllideb farchnata.” Digon diniwed efallai … ond eto … . A oedd yr Eisteddfod wedi barnu cyn hyn, er enghraifft, fod angen Cyfarwyddwr Artistig? A yw unrhyw un o’r pethau hyn, neu’r cyfan gyda’i gilydd, yn mynd i wneud gwir wahaniaeth ac i ddiogelu’r Eisteddfod yn y tymor hir? Hyd yma bu’r berthynas rhwng yr Eisteddfod a llywodraeth (llywodraeth leol ers hanner can mlynedd, llywodraeth Cymru yn fwy diweddar) yn ddigon clir. O safbwynt yr Eisteddfod: “dyma beth yw’r Eisteddfod; os gwelwch eich ffordd yn glir i’w chefnogi, da iawn; os na welwch eich ffordd yn glir, dyna ni.”
9. “Bod Llywodraeth Cymru’n dylanwadu ar y cyrff cyhoeddus sydd â phresenoldeb yn yr Eisteddfod drwy ofyn iddynt … greu partneriaeth gref gyda’r Eisteddfod ac i fuddsoddi yn eu presenoldeb ar y Maes.” Methaf â gweld dim byd pendant yma, ond efallai mai fi sy’n ddall i ystyr y cymal.
Wedi’r Cyfarfod
Mae adroddiad y BBC’n adrodd fod “y Brifwyl wedi derbyn grantiau o £85,000 gan Lywodraeth Cymru, gan eu galluogi i ddechrau’r cynlluniau newydd.” Efallai bod tipyn bach o ryw eironi neu dafod mewn boch yn rhai o’r sylwadau uchod heddiw, ond yn awr dyma roi popeth felly heibio. Dyma swm pitw, pitw, tila, tila i’w gymharu â’r symiau y mae Llafur yn eu lluchio’n hapus ddiofal, ddiamod at ei hoff bethau ei hun. Ac wedi talu cyflog blwyddyn i’r Cyfarwyddwr Artistig ni bydd llawer iawn ar ôl.
Dyfynnir Eifion Lloyd Jones, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod. “Beth sy’n braf yw bod y gweithgor wedi cefnogi syniadau’r Eisteddfod, ac ar ben hynny bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y gweithgor …”. Efallai fy mod yn siarad mewn anwybodaeth, ond ai syniadau’r Eisteddfod oedd y rhain i gyd, – yn cynnwys y Cyfarwyddwr Artistig? OS mai syniadau’r Eisteddfod, yna doedd dim angen am y gweithgor o gwbl. Ond gan mai’r Llywodraeth a sefydlodd y gweithgor, wrth gwrs mae hi’n mynd i dderbyn ei argymhellion.
Dyma eto restr o’m blogiau blaenorol ar destun aruthrol y Dwsin Doeth:
29 Hydref 2012: Y Dwsin Doeth – Tipyn o Jôc.
28 Chwefror 2013: Yr Eisteddfod, y Llywodraeth a’r ‘Dwsin’.
4 Mawrth 2013: Yn ôl at y Grŵp Gorffen.
6 Mai 2013: Dyma hi’r Frawddeg.
14 Tachwedd 2013: Wrth y Dwsin …
23 Ionawr 2014: Gan bwyll, Eisteddfodwyr
23 Mawrth 2014 Y cyfan am bres mwnci
28 Mawrth 2014 Tipyn o Glec
6 Ebrill 2014 Hwyl Dwy Ŵyl
Tynnaf sylw yn arbennig at eitem 4.3.14, sy’n pwysleisio’r angen am sylfaen o incwm rheolaidd da i’r Eisteddfod, a hwnnw’n annibynnol ar unrhyw nawdd gan lywodraeth. Mi awgrymais gynyddu’n sylweddol dâl aelodaeth flynyddol y Llys, ac yn wir gwelaf imi fras-awgrymu ffigiwr: rhywbeth nid annhebyg i aelodaeth clwb golff.