Stori fach ryfedd gan y cyfryngau ddoe. Ac efallai nad mor rhyfedd chwaith. Mae digon o straeon ar led fod hwn-a-hwn yn fab anghyfreithlon i ryw hen frenin, ac un o’r ffefrynnau yw brenin Lloegr, Edward VII, a oedd ar ei wyliau yn y fan-a’r-fan ar adeg neilltuol. Ond y ddamcaniaeth sy’n cael ei dilyn y dyddiau hyn yw fod Thomas Masaryk, sylfaenydd gweriniaeth Tseco-Slofacia a’i harlywydd cyntaf, yn fab i Ymerawdwr Awstria-Hwngari, Franz Josef I. Dywedir wrthym fod hon yn hen goel, ond y bwriad bellach yw ei phrofi un ffordd neu’r llall drwy brofion DNA.
OS gwir y stori, ei hystyr fydd bod y mwyaf goleuedig o benaethiaid gwladwriaethau Ewrop yr ugeinfed ganrif yn fab i’r gwirionaf. Yr wyf wedi trafod o’r blaen, fan hyn a fan hyn, pwy mewn gwirionedd oedd yn awyddus i weld rhyfel mawr ar draws Ewrop yn 1914. Pwy o’r penaethiaid, dylwn frysio i bwysleisio. Gweler Hen Lyfr Bach Lloyd George, tt. 30-2. Y rhyfelwyr mwyaf eiddgar, does dim dwywaith, oedd gwerinoedd y gwledydd, y dynion ifainc (ac nid mor ifainc) yn ysu am ffeit, a’r merched yn eu hannog. A’r arweinwyr a’r gwladweinwyr hŷn, chwedl Ll.G., yn gwneud “eu gorau di-glem” i atal y trychineb. O blith yr arweinwyr gwledydd, ychydig bach iawn oedd yn wir awyddus amdani. Winston Churchill, o blith gwleidyddion blaenllaw Prydain. Y Brenin Siôr V, medd tystiolaeth ddiweddar, yn groes i’r hyn a gredwyd am ganrif. Ond ar y blaen, heb unrhyw amheuaeth o gwbl, Franz Josef, a oedd erbyn hynny’n colli arni’n ddrwg. (Gwerth ei ddarllen o hyd, The Fossil Monarchies gan Edmond Taylor: darlun bythgofiadwy o dwpdra hen deuluoedd brenhinol Ewrop, a theulu Habsburg yn fwy na neb.)
Ond, a dychwelyd at y cwestiwn, Thomas Masaryk yn fab i’r hen fwnglerwr trahaus a chibddall ? OS gwir (a phwysleisio’r OS eto), byddai’n eithaf nodweddiadol o batrwm sy’n gyffredin mewn bywyd ac mewn llenyddiaeth. Thema gref yn nofelau Daniel Owen yw mor wahanol i’w dad yn gall mab fod. Bachgen cywir a chymeradwy, o’r hyn a welwn ohono, yw Tom Jenkins, mab y dihiryn Jeremiah. Yr oedd Capten Trefor yn ddigywilydd a haerllug, ond yn y diwedd yn fethiant mewn busnes; a’i fab, sef Enoc Huws, yn ofnus a swil, ond yn llwyddiant mawr. A gwyddom sut rai oedd meibion tad Rhys a Bob Lewis. Mewn hen chwedloniaeth yr oedd Galahad, y marchog pur a lwyddodd yn yr ymchwil am y Greal Sanctaidd, yn fab gordderch i’r pechadur mawr Lawnslot. Ac yn chwedloniaeth heddiw, sydd mor debyg o ran ei themâu sylfaenol, meddyliwn am fab Darth Vader.
Boed y stori’n wir ai peidio, byddai’n beth da petai’n ein harwain i ddarllen ysgrif ardderchog Saunders Lewis ar fywyd a gwaith Masaryk yn y gyfrol Canlyn Arthur. ‘Ei fam ac nid ei dad a roes i Thomas Mararyk ei gryfder cymeriad,’ meddir yno. Os gwireddir y stori, bydd yn cadarnhau hyn ! Yng ngyrfa Masaryk gwelodd S.L. ‘enghraifft eithriadol o wleidydd gonest, unplyg, a fu hefyd yn anghyffredin o lwcus,’ a hefyd paragon o’r chwyldroadwr bwrdais y carasai S.L. fod, nad yw eto wedi ymddangos yng Nghymru, ac yn sicr nad oes olwg arno yn unman ar y gorwel heddiw.